Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

DINAS NEW YORK.

NODION PERSONOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODION PERSONOL. Cyfeiriad y Parch. M. A. ELLIS, A. M., o hyn allan fydd 239 Laurel Street, Cincin- nati, O. f Deallwn fod y Parch. JOHN JONES, di- weddar o Racine, yn myned i gymeryd L, gofal bugeiliol eglwys yr A. yn Newburgh, Ohio. Mae y Parch. T. M MATHEWS wedi sym- ud o North Lawrence, Ohio, i Hubbard, Trumbull Co., Ohio. Deallwn fod y Parch. G. H. HUMPH- REYS, Pittsburgh, wedi ateb yn gadarnhaol yr alwad a dderbyniodd o eglwys y T. C. yn New York. t, Y mae Dyddiadur yr Annibynwyr am 1876, dan olygiaethy Parchn. B. WILLIBMS, Canaan; W. WILLIAMS, Hirwaen, ac R. W. GRIFFITH, Bethel, allan o wasg W. Hughes, Dolgellau. Pris 6c. mewn Ilian; neu Is. 6c. mewn llogellau lledr cryfion. Yn mysg ystadegau gwertlifawr eraill, ceir ynddo restr o'r gweinidogion a'r eglwysi Americ anaidd, wedi eu trefnu gan TROGWY. Ymddengys fod ysgolfeistriaid yn brin- ion yn Nghymru. Mae pwyllgorau ysgol- ion dyddiol Porthmadog a Ffestiniog wedi bod am fisoedd yn olynol yn talu am hys- bysiadau am athrawon, ond yn aflwydd- ianus, er y cynygiant goflogau da. Wrth bregethu y dydd o'r blaen yn Llan- rhaiadr yn Mochnant, dywedodd esgob HUGHES, Llanelwy, ei fod yn deall mai efe oedd yr esgob a fu yn pregethu gyntaf yn y lie hwnw er dyddiau Dr. MORGAN. Tri chan' mlynedd i'r flwyddyn hon y dyrchafwyd y Parch. W. Morgan i ficer- iaeth y Trallwm, o'r hwn Ie y symudwyd ef i Llanrhaiadr, lie y cwblhaodd ei gyf- ieithiad rhagorol o'r Ysgrythyrau. Daeth wedi hyny 11 i fod yn ficer Llanfyllin, yn esgob Llandaf, ac yn ddiweddaf yn esgob Llanelwy, lley bu farw yn y fl. 1604. Ysgrifena gohebydd oFfestiniog: Llaw- en oedd genym weled yr hen brif fardd HIRAETHOG mor fywiog a nerthol agos a chynt, pan dreuliai wythnos yn ein mysg i bregethu drwy yr holl addoldai Annibynol, ac i gasglu at addoldy Connah's Quay. "O! frenin, bydd fywbyth." Cafwyd cyfarfod dyddorol yn eglwys Gynulleidfaol y Borough, Llundain, ar yr achlysur o sefydliad y Parch. R. L. THOM- AS, diweddar o Lanon, yn weinidogyno. Bu y Parch. R. VAUGHAN GRIFFITHS, Shenandoah, Pa., ar ymweliad byr a rhai sefydliadau Cymreig yn Wisconsin. Dyma y tro cyntaf i Mr. Griffiths ymweled a'n Talaeth, er ei fod yn y wlad hon er's saith mlynedd; ond disgwyliwn mai nid hwn yw y tro diweddaf. Bydd coffa hir am ei breg- eth nerthol yn Nghymanfa y T. C. yn Dodgeville.—Amos. AT CEFNI!-A ydych chwi yn gwadu i chwi ysgrifenu llythyr ataf o Gymru yn cyflwyno eich hun i'm sylw, cyn eich dy- fodiad i America, a bod y llythyr hwnw yn cynwys y frawddeg: "Yr wyf yn y rhestr flaenaf fel pregethwr, Ilenor a bardd?—Ateb syml, heb ddim nonsense.- Ap P. A. Mon. GOLYGIAETH Y "o.YFAILL. Yn adrodd- iad gohebydd y DRYCH o weithrediadau Cymanfa Gyffredinol y T. C., yr hon a gynaliwyd yn Hyde Park, dywedid "fod rhai ynddi yn barnu fod eisiau cyfnewid- iad yn nygiad yn mlaen y Gyfaill-yn lie ei fod mor un-ffurf o flwyddyn i flwyddyn; ac mai dymunol fyddai penodi rhyw ddyn ieuanc talentog ac anturiaethus yn gyd- olygydd fi'r Dr. Roberts." Yn awr, teg yw 1 mi gywiro yr ymadroddion dyfynedig uchod-teg a chwi, eich darllenwyr, gol- ygydd y Vyfaill, ac a'r Gymanfa Gyffredin- ol. Cymeradwyodd y gymanfa y cynyg- iad i'r Dr. Roberts barhau yn olygydd i'r Cyfaill, heb gymaint ag un gair yn wrth- wynebol, nac un gair ychwaith yn cyfeirio at y priodoldeb i "benodi rhyw ddyn ieu- anc," &c., yn gydolygydd ag ef. Byddaf ddiolchgar i chwi am gyhoeddi y cywiriad. Yr eiddoch yn wir, M. A. ELLIS, Ysg. y Gym. Gyff. Cincinnati, 0. MINERSVILLE, PA., Tach. 3—Y mae y Parch. R. R. WILLIAMS wedi rhoddi yr eg- lwys Annibynol i fyny. Y mae yn ymad. ael a'r dref. Teimlir colled ar ei ol mewn llawer cylch. Effaith y panic diweddar ydyw hyn, mae'n debyg. Y mae yr Ifor- iaid yma yn dra gobeithiol am lwyddiant Eisteddfod y Calan; y mae amryw gorau. yn parotoi, a disgwylir amser difyrus. Y mae y si ar led hefyd fod llawer o feirdd a thraethodwyr yn colli eu cysgu i geisio en- ill gwobrau. Ati, boys, cewch gyfiawnder. Estron. COAL VALLEY, III.—Dydd Sul, Hydref 31ain, darfu i Mrs. DAVIES (Bahel o Fon), o Wisconsin, dalu ymweliad a'r lie hwn, wrth fyned ar ei thaith bregethwrol i'r gor- llewin, a chawsom ganddi ddwy o'r preg- ethau goraf a glywsom er's llawer blwydd- yn. Ac wyddoch chwi beth, oni fydd i bregethwyr Cymreig America ddiwygio, bydd y rhyw deg yn sicr o'u curo yn rags; rhwydd hynt iddynt, ddywedaf finau o'm calon; pe cymerai hyny Ie, efallai y byddai llai o genfigen, malais ac enllib, yn mhlith crefyddwyr Cymreig America:- Wilhelm. UPPER LEHIGH, PA., Tach. 3—Mae yma gymdeithas newydd ei sefydlu, o'r enw Red Men, ac yrwyfyn deall fodgolwg hyn- od o lewyrchus arni, a'i rhif yn lluosogi bob wythnos. Tebygol yw mai hon fydd y gymdeithas fwyaf llewyrchus a sefydl- wyd erioed yn yr ardaloedd hyn. Hefyd, mae yma achos crefyddol wedi ei sefydlu gan yr Annibynwyr, mewn rhan o'r lie a elwir No. 3, Pregethwyd yma boreu Sab- both diweddaf gan Mr. Evans, Drifton; ac am 2 y prydnawn sefydlwyd Ysgol Sab- bothol yn yr un lie, pryd y dewiswyd yn unfrydol y personau canlynol yu swyddog. ion—Arolygwr, Richard R. Griffiths; Ys- grifenydd, John James; Trysorydd, Owen J. Rowlands. Rhif yr ysgol y tro cyntaf oedd 59, a disgwylir iddi fod yn lluosocacli eto. Gobeithio y bydd i bawb fod yn sel- og, er mwyn y to ieuanc sydd yn tyfu yn y He.—Colier. SAN FRANCISCO- Y Cambrian Society- Nos Lun, Hydref 18fed, cyfarfu nifer o ael- odau y Gymdeithas hon i ymdrin a mater- ion y Gymdeithas. Galwodd y llywydd ar Miss Jehu i ddarllen enwauyr aelodau; yna pasiwyd i gael cwrddl wythnosol. Y rhai canlynol a benodwyd yn swyddogion- Llywydd, Proff. Price; Is-lywydd, Mr. Hugh Owens; Ysgrifenydd, >1r. N. L. Je- hu; Trysorydd, Miss Jehu; Finance, Mri. R. T. Roberts, S. G. Foulkes, John Ed- wards; Trefnwyr y Progammes, Mrs. Jones, Mr. R. Moore, Mr. Parry; I ofalu am y canu-Proff. E. Meredith, H. P. Humph- reys a Mr. Griffiths. Yr ydym yn cael cyf- arfodydd dyddorol-H P. A

G JVEITHF AOL-MASN A CIIOL.

LLA WEB MEWN YCHYDIG.

YMERODRAETII GERMAN.I.

R WSIA.

Y GWRTHRYFEL YN SPAEN.

[No title]

[No title]

[No title]

GWLEIDYDDOL.,

TRYCHINEB ERCHYLL!!!

PR YDAIN FA WR.

FFRAING.

DIWYGIAD MOOBY A SANKEY.