Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

[I FYNY I TACHWEDD 13, 1875.1

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

[I FYNY I TACHWEDD 13, 1875.1 GOGLEDD OYMRU, —Bwriedir cynal Eisteddfod yn Rhyl ar y laf a'r 2il o fis Mawrth nesaf, yn cael ei chanlyn gan gyngherddau mawreddog. —Dirwywyd dau o amaethwyr yn ynad- lys Llangollen, am droseddu Deddf yr An- hwylder ar yr Anifeiliaid. Yr oedd y ddirwy ar un yn 12p. —Y mae gorchymyn wedi ei anfon am i fyrddau ysgol gael eu ffurfio yn Llanmor, Llanfihangel, Bachellaeth, yn sir Gaernar- fon, a Llanwyddelan yn sir Drefaldwyn. —A ganlyn yw ystad y pol yn Ngwrec- sam, ddydd Llun, Tachwedd laf:—Mr. J. M. Jones, 425; Dr. Eyton Jones, 375, Mr. Sherratt, 866; Mr. Smith, 135. —Mae Cwmni wedi ei sefydlu yn Rhyl, gyda chyfalaf o £60,000, mewn cyfranau o zC5 yr un, i'r dyben o adeiladu yn y dref bysgodlyn (aquarium), gerddi gauafol, neu- add gyngherddol, ac ystafelloedd cyhoedd- us. -Nos Iau, Tachwedd y 4ydd, collodd person o'r enw W. Royan, ei fywyd yn Nghaernarfon, drwy syrthio dan olwynion y gerbydres wrth ddisgyn o honi. Dyg- wyd rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol. —Dygwyd yr etholiad i'r cynghor trefol yn y Trallwm yn mlaen yn fywiog, ond eithaf gweddus. Poliodd uwchlaw 1,000, ac fel y canlyn y safai yr etholwyr dethol- edig:—G. D. Harrison, 653; Edmund Jehu, 603; Robert Jones, 467; Thomas Morris, 454. —Y mae pris y glo yn ngwaith y Pare Du, Waen, wedi codi i Is. 8e. y dunell, mewn canlyniad i'r sefyll allan. Hwn yw yr unig waith yn nosbartliiadau y Waen, Rhiwabon, a Chroesoswallt, sydd yn cael ei weithio yn awr. —Ymddengys fod enillion y Rhyddfryd- wyr, yn yr adolygiad diweddar ar restrau yr etholwyr yn Sir Fon, yn 105; ond mae yr arweinyddion Toryaidd yn cyhoeddi fod yr enillion o'u tu hwy. —Ymgyfarfyddodd y moldwyr yn ngwaith priddfeini Buckley, sir Fflint, a'u meistriaid, ddydd Iau, Hydref 28ain, mewn trefn i gytuno am y 5 y cant o ostyngiad. Gwrthododd y meistri a chytuno, o eisieu gostyngiad o 10 y cant. -Safai y pleidleisiau yn etholiad cyngor trefol Llanidloes fel y canlyn:—Edward Davies, Shortbridge, 239; William Thomas, Foundry, 215; R. G. Greenhow, Trewyth- en Arms, 214; Evan Williams, Lion Inn, 183. -Bu yr aelodau canlynol yn bresenol yn y Senedd fel y canlyn yn ystod yr eistedd- iad diweddaf:—Mr. Ormsby Gore, 175 o weithiau; Arglwydd Newport, 84; Mr Tracy, 73; Mr. Charles W. Wynn, 97; Mr. Osborne Morgan, 102; Mr. Watkin Will- iams 72; Mr. Holland, 36; Mr. Robertson, 43; Mr. Cotes, 112. DINBYCII.- Y reredos.- Ymddengys fod y cldadl yr nghylch y reredos a osodwyd i fyny yn eglwys newydd y dref hon i gael ei therfynu yn fuan. Y mae y cylfafaredd- wyr-Dr. Stephens, dros yr esgob, a Dr. Dene dros y pwyllgor—wedi dyfod i ben- derfyniad arno, ac yn barod i gyhoeddi eu dedfryd yn ddioed ar ol dyfod i gyd-ddeall- twriaeth yn nghylch rhyw fan bynciau cyf- reithiol dibwys. Tybir yn y dref y bydd y ddedfryd yn ffafriol i'r reredos. Disgwyl- ir am y canlyniad gyda phryder neillduol. LLANRTJG.—Dydd Iau, Hydref 28ain, cyf- arfyddodd un o'r enw William Ellis o'r Brynllan, a'i farwolaeth yn sydyn yn chwarel Llanberis. Y dydd canlynol cyn- aliwyd trengoliad, a dygwyd y rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol, am y tybid fod careg wedi disgyn arno nes achosi ei far- wolaeth. RHYL.—Tachwedd 2il, ordeiniwyd Mr. William Roderick, myfyriwr o Goleg Llan- gollen, yn weinidog ar eglwys y Bedydd- wyr, yn nhref Rhyl. Gwasanaethai y Parchn. Abel J. Parry, Cloughfold; Charles Davies, Bangor; a Dr. Hugh Jones, Llan- gollen, ar yr achlysur. CROESOSWALLT.-Ar restr y rhai llwydd- ianus yn y Preliminary Medical Examina- tion yn mhrif Athrofa Glasgow, gwelwn enw Mr. Edwin White Jones, Trefpnen Hall, Croesoswallt. Y mae bellach 42 o ysgolorion Mr. Evans, Salop School, Croes-, oswallt, wedi bod yn gyffelyb Iwyddianus. Yn y Competitive Examination of the Indian CivlServ ce, pryd, allan o 132 o ymgeiswyr na fu ond 32 yn llwyddianusjdaethysgolor Mr. Evans allan yr lleg ar y rhestr. LLANGERNYW.— Ymdrechl at Iwyddiant.— Da genym hysbysu fod Mr. Henry Jones, mab Mr. Elias Jones, crydd, o'r lie hwn wedi enill ysgoloriaeth Dr. Williams mewn cysylltiad a Phrifysgol Glasgow, mewn ar- holiad caled yn Llundain, ychydig ddydd- iau yn ol. Gwerth yr ysgoloriaeth yw 40p. am dair blynedd; ac os a. i mewn i'r Coleg Duwinyddol (yr hyn yn ddiameu a wna Harry o'r Cwm,), bydd yn 45p. yn chwaneg- ol. Bu Mr. Jones yn cadw ysgol yn Bryn- aman, Deheudir Cymru, am y ddwy flyn- edd ddiweddaf. Am ei ymdrech yno caf- odd dysteb hardd ar ei ymadawiad. COLWYN.-DamMa>'n angeuol.-Digwydd- odd damwain ddifrifol yn nghorsaf Col- wyn, i ddyn ieuanc o'r enw Thomas Wynne, mab Azariah Wynne, Mochdre, yr hwn oedd yn gweithio yn y pwll grafel. Fel yr oedd nifer o ddynion yn ceisio sym- ud gwagen oedd wedi ei thatlu dros ben y siding gan y peiriant, neidiodd un o'r gwa- geni yn ol gan wasgu y dyn anffodus rhwng y buffers. Gweinyddwyd arno gan Dr. Davies, ond bu farw y boreu canlynol. RHIWABON.—Y Glofeydd.-Y mae perch- enogton gwaith glo Bryn-yr-Owen, Rhiwa- bon, un o'r gweithfeydd mwyaf yn Ngym- ru, wedi penderfynu cau y gwaith i fyny, yn nghyd a thynu i lawr a symud ymaith yr holl beirianau yn y lie yn ddioed mewn canlyniad i waith y dynion yn sefyll allan a bod y gwaith mewn canlyniad yn llenwi a dwfr. BANGOR. — Yr Amgueddfa.-Trwy ym ■ drechfa egniol y Pwyllgor Lleol, Uywydd yr hwn oedd T. T. Parry, Ysw., a'r Mri. T. LI. Edwards, aT. Jones yn ysgrifenydd- ion, y mae y darlun pres mawr a wnaeth Mr. Dorkins, Bangor, o Bont Menai, wedi ei bwrcasu yn eiddo i'r dref, ac wedi ei ddod' i fyny yn yr Amgueddfa. Y mae yn pwyso chwarter tunell, ac yn cynwys yn- ddo 50,00' o ddarnau pres. Gwobrwywyd Mr. Dorkins yn Eisteddfod Pwllheli a bath- odyn aur. Yr oedd enw Arglwydd Pen- rhyn yn gyntaf ar y rhestr an 21p., ac yn dilyn yr oedd enwan yr Anrhyd. G. S. Douglas Penant, A. S.; Syr Watkin W. Wynn, Barwing, A. S.; Arglwydd Esgob Bangor; MJ. Bulkeley Hughes, A. S.; Mr. Richard Davies, A. S.; Mr. W. S. Caine, Liverpool, &c.

DEHEUDIR CYMRU,

Advertising

Y MARCHNADOEDD.

Adroddiad D. W. Lewis, Tachwedd…

MARWOLAETHAU CTMRU.

[No title]