Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
CANIADAETH EIN HEGLWYSI.
CANIADAETH EIN HEGLWYSI. Wedi treulio llawer o flynyddoedd yn Nghymru lan gwlad y ga,n," a chyneflno a "sain can a moliant" cynulleidfaoedd bywiog ac ymroddgar, y mae yn naturiol i'm hadgof (pa le bynag y byddwyf) i ehed- eg yn ol i'r gorphenol, gan gymharu y canu a glywn yr amser hwnw &'r hyn a glywyf y dyddiau presenol. Nid wyf eto ond ieuanc yn y wlad fawr- eddog hon, ac o ganlyniad nis gallaf roddi hanes cerddoriaeth yn gyifredinol yn mhlith y Cymry; eithr fel y byddwyf yn ymdeithio drwy sefydliadau Cymreig y Gorllewin, dysgwyliaf y byddaf yn alluog i anrhegu miloedd darllenwyr y DRYCH ag ysgrifau ar gerddoriaeth Gymreig y cyf- ryw leoedd. I ddechreu at fy ngorchwyl, dymunwn wneyd ychydig nodiadau ar
Adolygiad y Wasg.
Adolygiad y Wasg. LLYFRAU AO A WDURON. .Yn yr Evangelical Magazine, cyhoedd- iad Seisnig, am y mis diweddaf, yr oedd darlun hardd o'r Parch. John Thomas, Liverpool. "Y chwiorydd, eu lie a'u gwaith gyda Themlyddiaeth Dda," yw teitl llyfr newydd gan Cranogwen; cyhoeddedig yn swyddfa D. H. Jones, Dolgellau. .Mae y Parch. J. Eiddon Jones, Llan- rug, wedi cyhoeddi Dyddiadur Sabboth- ol, at wasanaeth Gweinidogion a Diacon- iaid am 1876, 1877 a 1878." Teitl llyfr newydd Mr. Gladstone yw, Ihe Tune and Place of Homer in His- tory, .Nid oes ond rn fil, meddir, rhwng nifer derbynwyr Try-orfa y Plant a bod yn ddeugain mil! Yn ddiddadl, y mae y cy- hoeddiad bychan tra gwerthfawr hwn yn gwir de*v "^h gylchrediad aruthrol. Iwr anturiaethus, 'hoeddi argraffiad y Parch. W. P. Gwirionedd. 1.1. -1. yn un o'r cyfrolau yr argraff- waith a'r rlny j.> « uaygwyd allan o'r wasg Gymreig erioed. Pan ddywedom ei bod yn cynwys dros dri chant o dudalenau, ni ddywed neb ei bod yn uchel-bris am haner coron. Gwelwn fod Rhan IV o Bregethau y diweddar Barch. Edward Morgan, Dynfryn, o dan olygiaeth y Parch. Owen Thomas, allan o'r wasg—pris Is. 1%. Ei chynwys- iad yw, "Gogoniant Duw yn Seion"— Nerth Duw yn Heddwch,"—" Byw dan nerthoedd y byd a ddaw"—"Moddion cy- mwys yn aneffeithiol "-Brenin Seion yn derbyn gorfoledd"—" Tlodi yr Arglwydd Iesu. "-D. F. Jones, Dolgellau, yw y cy- hoeddwr.
CERDDORIAETH NEWYDD.
CERDDORIAETH NEWYDD. Oylweddedig gan S. T. Gordon a'i Fab, 13 E. iMh Street, New York. THE KISS DUETT POLKA svld ddarn hawdd ac ysgafn i'r Piano, wedi ei drefnu allan o'r Opera "Madame L'Archidue," gan Offenbach. Mae y gerddoriaeth yn fywiog a chwareugar, fel y rhan fwyaf o weithiau yr awdwr. I chwareuwyr ieu- ainc y mae y trefniad hapus hwn. TE DEUM LATJDAMUS, yn G. Major, gan J. V. Allstrom, ac a genir gan gor Eglwys Sant Mark, New York, sydd gyfansoddiad syml, dirodres a defosiynol. Gall c6r cy- medrol o dda ganu » fath ddarn a hwn, gan gael llawer o fudd cerddorol oddi- wrtho. JUST IN TIME—Galop i'r Piano, gan James Conover. Gyfansoddiad swynol, heb fod yn anhawdd. Pris 35 cents. OVER THE BEAUTIFUL STARS—Can a Chydgan-y geiriau gan Arthur W.French, a'r gerddoriaeth gan Geo. W. Persley, awd- wr "Bright eyed Nora," &c.—Pris 30 cents. Dyma y penill cyntaf: 11 Over the beautiful stars is our home, 'Tis a bright mansion of splendor and gold; Pearly while walls, many sun tinted dome, Glittering, shining, with silver and gold; Fairer than any our feet have yet pressed, Nothing its wonderful radiance mars; Home of the weary, Elysian of rest, Over, yes, over the beautiful stars. Cha.-Over the beautiful stars is our home, Glittering, shining, for ever afar; When shall we ever in happiness roam, Over, yes, over the beautiful stars. RIENZI MARCH, gan R. Wagner, wedi ei threfnu i'r Piano gan Henry Maylath. Pris 30 cents. JOY AND TEARS MAZURKA, gan B. G. Fontana. Cyfansoddiad tlws. Pris 35c. DARLING GRACIE BELL—Can a Chydgan— y geiriau gan T. P. Westendorf, a'r gerdd- criaeth gan Geo. W. Persley. Canwyd y gan hon gan J. J. Kelley (un o'r Bryant's Minstrel8) gyda chymeradwyaeth mawr; ac y mae yn dyfod yn hynod o boblogaidd. Pris 30 cents. We parted just a year ago Beneath this dear old tree, Where oft in happy days of yore Our hearts were glad and free; Oh, bitter were the tears we shed, How sad the last farewell, And now they tell me she is dead, My darling Gracie Bell. Cho.—Oh. she will ne'er come back again, My sorrow to dispel. My spirit yearns but all in vain, For darling Gracie Bell. —■
CHICAGO, ILL.
CHICAGO, ILL. MASNACH Y DDINAS—TROSEDDAU; ERLYN- IAD Y "WHISKY RING"—YIVTADAWIAD DR. SWING-EJ: E-WRIAD YN Y DYFODoL-YR ACHOS CYMREIG—CYFARFOD DOSBAIITH. CHICAGO, Rhag. 14-Bu masnach y ddi- nas hon yn bur fywiog drwy yr hydref, ond yr oedd y mis hwn yn fwy marwaidd; yr wythnos hon yn adfywio mewn rhai canghenau. Y mae yma adeiladu anarfer- ol wedi bod, a miloedd o dai ardderchog wedi eu gosod i fyny. Y rheswm dros hyn fe ddichon ydyw, heblaw fod y ddinas yn cynyddu mor "gyliym mewn trigolion, fod defnyddiau marclinad, megis coed, meini, haiarn, &c., wedi gostwng llawer yn eu pris; hefyd mae y cyflogau yn llai na'r blynyddoedd diweddaf; ond i'r gweithiwr nid ydyw gymai' t o wahaniaeth, gan fod y rhenti, ac ymbprth a dillad lawer yn rhat ach. Y mae yn bresenol tua 300 o weith- wyr yn gweithio ar y Custom House, yr hwn sydd yn adeilad ardderchog a hardd. Y maent hefyd yn dechreu gweithio ar syl- faen adeilad mawr ac ardderchog arall, i fod o feini prydferth, sef y Court House, yn sefyll ar square gyi'an yn nghanoly dref. Mae yma hefyd son am Union Depot mawr. Deallwyf fod y tir wedi ei bwrcasu am $800,000. Bydd yno waith i lawer iawn. Y mae J. H. Jones, Ysw., yn gorphen ad- eiladu molin haiarn fawr yn South Chicago. Y prif berchenog ydyw Mr. Brown, o Ycungstown, Ohio. rrROSEDDAu-Mae yn adeg gyfyng iawn ar blant y Gors a'r Ellmyniaid—y whisky ring—oblegid hwy sydd yn y fasnach hon fwyaf; y mae dydd y prawf arnynt yma yr wythnos hon. Llywyddy llys ydyw y Cad. Sheridan, yn cael ei gynorthwyo gan ei gyd-swyddogior, Hancock a Terry. Y tro- seddwr sydd yn cael. ei brawf yn bresenol yw Col. Babcock. Gobeithio y tynir y Hen oddiar ei weithredoedd, ac na cha, yr euog ddianc, pa mor uchel bynag ydyw yn swyddol yn y llywodraeth, canys gwarthus o beth yw fod neb yn ysbeilio y llywodr- aeth sydd yn ei gynal. CREFYDD—Y peth sydd yn tynu mwyaf o sylw yma yn bresenol ydyw ymadawiad Proff. Swing à'r eglwys Bresbyteraidd, y Sabboth olaf o'r mis diweddaf, a'i anei-chiad rhyfedd y Sabboth cyntaf o'r mis hwn, yn McVicker's Theatre, yn yr hwn y datganai ei fwriadau am y dyfodol. Mae yn awr yn sefydlu eglwys yn y lie rhyfedd yna, gan ei galw yn Central Church Mae pwyll- gor o naw o bersonau wedi ei rhentu am ddwy fiynedd, sef bob boreu Sabboth, am ddwy fil o ddoleri y flwyddyn. Mae 50 o ddynion wedi tanysgrifio $50,000 fel cron- fa at gynal yr achos. Maent yn rhoddi $7,000 y flwyddyn o gyflog iddo, yr hyn sydd dipyn yn fwy nag y mae gweinidog llafurus Cymreig yn gael yma, er fod ei laf- ur ef yn fwy na'r eiddo Swing. Ddoe, y 13eg, oedd y diwrnod, i rentu eisteddleoedd yno am y flwyddyn ddyfodol. Eu pris yw $20 yr un yn y lle blaenaf a'r dress circle, ac o hyny i lawr i $5. Y telerau yw talu yn mlaen llaw, ac fe dderbyniwyd ddoe tua $10,000, a gwerthasant y gweddill am tua thair mil. Go dda, onidê? Beth feddyliai y Cymry am dalu yn mlaen Haw, heb son am fawredd y swm? Gwelaf fod un wedi rhentu ;naw eisteddle am $20, un arall 6. Gwelwch ei bod yn costio peth i gael gwran- do Swing, gyda'r Saeson. Bydd casgliadau eraill heblaw hyny; ond mae'r fever yu uchel heddyw. Dechreua ar ei lafur rhe- olaidd y Sabboth olaf o'r mis hwn. Dyma Liberal a Broad Church, fel ei gelwir, yn nghanol y ddinas. Y mae Dr. Swazey yn llanw pwlpud yr eglwys a adawodd Swing, am y presenol- Beth a fydd diwedd hyn? Disgwyliad mawr sydd yn y ddinas hon am y Sabboth cyntaf o'r flwyddyn 1876, pryd yr agorir capel mawr a hardd yr en- wog Moody, ar y North-side, a disgwylir ef a Sankey, a Bliss a Whittle yma ar yr ag- oriad. Mae yr adeilad yn 150 troedfedd o hyd, a 100 tr. o led. Mae ar y llawr isaf chwech o ystafelloedd mawrion; cynwys- ant amryw filoedd o blant yr Ysgol Sab- bothol, ac yn gyfleus iawn. Cynwysa y llawr uchaf gynulleidfa o 3,000 o bobl.— Dyma y mwyaf yn y ddinas. Mae ei gyn- llun yn rhagorol, ac mae yn adeilad cryf a phrydferth, mewn lie cyfleus, ac yn debyg o gael ei agor yn ddiddyled. 0, deued yr Arglwydd a meddianed ef fel lie ag y bydd miioedd i gael eu hachub ynddo i fywyd tragywyddol, a pharhaed i lewyrchu ei wyn- eb ar ei was mewn modd arbenig—tywallt- ed ei Ysbryd yn helaetli ar ei weision. YR ACHOS CYMREIG.—Mae'n dda genyf fel hanesydd, allu eich hysbysu fod gwedd newydd a siriol ar yr eglwys Gymreig yma o dan ofal ei bugail newydd. Y mae yn olygfa brydferth ar nos Sabboth—llon'd y capel-cor ardderchog yn canu yn rhagor- ol-ond fod y lie wedi myned yn rhy fach iddynt. Y mae yr eisteddleoedd hefyd wedi eu cymeryd i fyny gan gynulleidfa rheolaidd, agos bob un. Maent yn cael organ newydd, i fod yn llawer mwy a gwell na'r un bresenol. Golwg brydferth yw gweled a chlywed eu coryn canu o dan arweiniad ProIT. J. P. Jones a Wm. S. Jones, Ysw., a'r holl gynulleidfa yn cyd- uno. Yr wyf yn hofli eu clywed yn canu chant y ganfed Salm ar adeg ag y mae y casglyddion yn myned o amgylch, fel y maent yn cyfranu dan ganu. Clywais eu bod yn myned i helaethu lie y cor. Mae'r afradloniaid yn dyfod adref yn awr; ond y mae ambell un yn llithro eto gyda'r Saeson, ond yn slipio i gael tamaid i'w heneidiau yn awr ac eilwaith. Golwg ddifrifol ydyw gweled Cymro anllythyr- enog yn eistedd i lawr fel delw yn mysg y Saeson i wrando pregeth mewn iaith nad ydyw yn gallu ei deall; ond yn gorfod cyfranu yn helaeth at yr achos yno. Yr wyf yn credu yr enillir y rhai'n yn ol eto cyn y newynant. Cynaliwyd Cyfarfod Dosbarthiadol yma, yn dechreu nos Wener, y lOfed, a pharha- odd hyd nos Lun. Pregethwyd nos Wener gan y Parch. William Hughes, Racine. Deallais drwy un oedd yn eu plith, mai y peth cyntaf a wnaed yno oedd dewis y Parch. David Harries, gweinidog yr eg- lwys hon, yn llywydd, ac iddo gael der- byniad cynes gan yr holl frawdoliaeth, gyda dymuniad calon am ei lwyddiant yn ei faes pwysig. Ysgrifenydd y cyfarfod oedd y Parch. John Williams, Waukesha.—Bu sylw ar godi casgliad at dalu ein dyled i'r bwrdd addysg. Cafwyd fod Chicago wedi gwneyd yn ol penderfyniad a chais y gymanfa.—1 Rhoddwyd anogaeth i'r eglwysi sydd heb wneyd, i wneuthur yn fuan. Toimlad da. Cafwyd sylw ar y brodyr oedd wedi marw yn ddiweddar yn y dosbarth, ac arwydd fod teimJad dWYI< yn y dosbarth ar eu iioL Y Cyfarfod Dosbarth. nesaf i fod yn Racine, Wis yn (mis) Mawrth 25-26, i ddechreu am 10%" boreu y 25ain. Penod- wyd y Parch. H. P. Howells i bregethu yn ystod y cyfarfod nesaf ar y mater canlyn- ol: "Yn mha beth y mae nerth yr Eglwys Gristionogol yn gynwysedig?" Penderfynwyd fod ymweliad i gael ei wneuthur a holl eglwysi y dosbarth ddech- reu y flwyddyn nesaf; adewiswyd John James, Ysw., Milwaukee, a'r Parch. David Harries, Chicago, yn yr amser mwyaf cyf- leus iddynt hwyac i'r dosbarth—os gallant, ddechreu mis Chwefror; a bod y Parch. Wm. Hughes a T. LI. Williams i wneyd yr ymweliad ag eglwys Chicago, a Williams hefyd i fod yn Milwaukee, a James yn Racine. Trefn y moddion cyhoeddus, fel ei hysbyswyd: Dechreu nos Sadwrn, y Parch. Joseph Roberts, ac i bregethu, y Parchn. Daniel Jenkins a John Williams, Waukesha. Cyfarfod gweddi am 9 boreu Sabboth. Am 10, i ddechreu yr oedfa, y Parch. Thomas Jones, Watertown, Wis., ac i bregethu. y Parch. H. P. Howells, Milwaukee, a Wm. Hughes, Racine. Am 2, yr holl bregethwyr i draethu ar yr un testyn, sef ein rhwymedigaeth a'n braint o gadw yn santaidd y dydd Sabboth, seHiedig ar Esaiah 58. lo. Cyfarfod rhag- orol z, Am 7, i ddechreu, y Parch. John Wil- liams, ac i bregethu, y Parchn. Thomas Jones a Joseph Roberts; ond cymerwyd y Pfirch. J. Roberts yn glaf iawn, yr hyn oedd yn peri prudd-der mewn llawer calon; a phregethodd y Parch. H. P. Howells yn ei le. Da genyf allu hysbysu fod Roberts yn well, ac wedi gallu myned gartref. Nos Lun eto, pregethodd y Parchn. Thomas Jones a Wm. Hughes. Cawsom gyfarfod- ydd rhagorol, a chynulliad lluosog iawn. Bendith fyddo ar yr oil, i'n gwneyd yn well dynion, yn well Cristiono<non, mcdd yr eiddoch, HANESYDD.
[No title]
—Yr oedd derbyniadau Cymdeithas y Chwareuwyr Pel y flwyddyn hon yn Bos- ton yn $37,767.06, a'r costau yn $34,834.49. Dengys hyn enill clir o$2,932.57.
YR HEN ABBOT 0 CANTERBURY.…
YR HEN ABBOT 0 CANTERBURY. ) Aeth boneddwr at frenin unwaith, gan" ymgrymu o'i flaen, a chyfarchodd ef fel y canlyn: BONEDDWR. 0, Frenin, a wyddost ti pa T faint o wasanaethyddion sydd gan yr hen j Abbot o Canterbury? BRENIN. Na wn i. BON. Cant. 4 |4 BREN. Y mae hyny yn fwy nag sydd gen- rV yf fi yn cael eu cadw yn fy mhalas. BON. A wyddost ti pa sawl cadwyn aur sydd yn cael eu gwisgo gan yr hen Abbot? BEEN. Na wn i. BON. Haner cant. BREN. Y mae hyny gryn lawer yn fwy nag a geir yn mhlithjewels y Goron. Ym- welaf a'r hen Abbot o Canterbury, am hyn; y mae wedi byw cyhyd yn ei foethineb, a meddyliwyf ei fod wedi byw yn ddigon hir bellach. Parotoer i mi fy ngherbyd, a mi a fynaf ei weled ef ar unwaith. > Pan gyrhaeddodd y Brenin yr hen Abbot o Canterbury, dywedodd: BREN. Pa fodd, y Tad Abbot, yr wyf wedi clywed dy fod ti yn cadw cystal a gwell ty na mi. Y mae hyn yn drosedd, le, yn drosedd uchel yn erbyn y Goron. ABBOT. Fy Arglwydd, ni weriais i ddim erieed ondyr hyn a ystyriais oedd yn eiddo i mi fy hunan. Ymddiriedaf na wna dy Fawrhydi ddim niwed i mi am ddefnyddio er cysur a dyddanwch eraill yr hyn ag wyf wedi ei enill yn onest. BREN. Ie, y Tad Abbot, y mae dy ymes- gusodiad yn fawr; ond y mae diogelwch y deyrnas yn gofyn am i ti golli dy fywyd, ac y mae yn rhaid i ti farw. Ond gan dy fod yn ddyn ag y prisir dy arabedd, a'th fod o ddysg mawr, rhoddaf i ti un cynyg er achub dy fywyd. ABBOT. Enwa hwnw i mi, fy arglwydd. BREN. Byddyn rhaid i ti, pan ddeuaf i'r He hwn eto, a sefyll yn mhlith fy urddasol- ion, ateb i mi dri o gwestiynau. ABBOT. Enwa hwynt, fy arglwydd. BREN. Gofynir i ti yn gym at, pa faint wyf o werth, a hyny i'r geiniog; yn ail, pa faint o amser a gymer i mi deithio o am- gylch y ddaear; ac yn drydydd, pa beth fydd fy meddwl pan fyddaf yn siarad athi. >1 ABBOT. O! y mae y gofyniadau yna yn gelyd i fy arabedd gwan i; ond os rhoddi di dair wythnos i mi i'w hystyried, ceisiaf j dy foddio. BREN. Rhoddaf i ti dair wythnos o am- M ser, a hyny o amser a fydd gymaint ag a gei § di fy w; ac os y pryd hyny na elli ateb fy A. nghwestiynau, eiddo'r Goron fydd y cyfan o'th lywodraeth. Wrth feddwl fod yrhen Abbot yn rhodio Ii mor wyneb-drist a digalon, daeth un o'i fugeiliaid ato. BUGAIL. Pa beth yn awr, arglwydd? ABBOT. Trist iawn-trist iawn yw'r new- ydd, fy mugail, nid oes genyf ond tair wythnos i fyw eto, os na fyddaf yn alluog i ateb i'r brenin dri o gwestiynau. BUG. Beth yw'r cwestiynau hyny, fy ar- glwydd Abbot ? ABBOT. Yn gyntaf, i ddweyd wrtho pan y bydd yn sefyll ymhlith ei urddasolion,pa faint ydyw o werth, yn ail, dweyd wrtho pa faint o amser i deithio o amgylch y byd; ac yn drydydd, pa beth fydd ei feddwl ar y pryd y bydd yn siarad & mi. BUG. Cod dy galon,ymwrola, fy arglwydd Abbot; oni wyddost ti erioed y gall dyn call ddysgu arabedd oddiwrth Swi? Y mae dynion yn dweyd fy mod i yn debyg iawn i ti yn fy ymddangosiad. Dyro fenthyg i mi dy wisg ac un o'th weision, a mi a safaf yn dy le o flaen y Brenin, ac a atebaf ei j gwestiynau. I ABBOT. Gwas ti a gei, a dillad tarawiad- ol a roddaf i ti, cymv/ys i sefyll o flaen y # Brenin yn fy nghymeriad i, arglwydd Ab- bot. Dos, a thi a gei dy wobr, os gelli achub fy mywyd. Pan daaeth y tair wyth- nos i ben, dyma'r Bugail o iiaen y Brenin yn nghymeriad 'Abbot, ac yn ateb cwest- iynau y Brenin. BREN. Croesaw i ti, Syr Abbot, yr wyt wedi cadw y dydd apwyntiedig yn ffydd- lawn. Yn awr, ateb fy nghwestiynau yn gywir, ac arbedir i ti dy fywyd, a dychwel- ir yn ol i ti dy fywoliaeth. BUG. (yn nghymeriad Abbot) Wel, fy ar- glwydd, i ateb yn gywir, rhaid dweyd y gwir. BIlEN. Bydd yn rhaid i ti ddweyd y gwir. Yn awr, dywed i mi pa faint wyf o v/erth, a hyny i'r geiniog. BUG. Naw darn ar hugain o arian.— Bradychodd Judas ei Arglwydd am ddeg ar hugain o arian, ac oddiar y pI,) dyr wyt ti wedi bod yn foddion i fradychu yr eg- lwys, yr wyf yn meddwl dy fod ti yn un darn llai o werth nag ef. z, BKISN. (yn chwerthin). Wei, w.el, y Tad Abbot, nid oeddwn yn meddwl fy mod yn werth can lleied. Ond yn awr, yr hen hen walch, dywed i mi pa faint o amser a gymer i mi deithio o amgylch y byd. BUG. Bydd yn rhaid i ti godi gyda'r haul, a cherdded gyda'r unrhyw nes iddo godi boreu dranoeth, a thi a fyddi wedi teithio o amgylch y byd mown pedair awr ar hug- ain.. BREN. (yn chwerthin). Ni ddaeth i'm meddwl erioed y gallaswn deithio mewn can lieied o amser. ,J Ond yn awr y mae'r cwestiwn caletaf o'r cyfan yn dod—bydd hwn yn sicr o roddi eithaf prawf ar dy ar- abedd, Pa beth yw fy meddwl yn awr? BUG. Y mae yn dy ben di mai yr hen Ab- bot o Canterbury sydd o dy flaen, ond yr wyt yn camsynied-yr hen fugail ydyw; ac fel na bydd i ti gael dy dwyllo, edrych ar- naf (gan daflu ei wisg oddi am dano),ac yr wyf yn dyfod i ofyn am bardwn i'r hen Ab- bot ei hunan. BREN. (yn chwerthin yn galonog). Ti a gei bardwn. Dos a dywed wrth yr hen Abbot dy fod wedi dwyn pardwn llawn a rbydd iddo oddiwrth y Brenin. Ac am danat tJ, mi a roddaf i ti anrhydedd yn fy nheyrnas am y digrifwch a greaist ger fy rnron Cyf. gan J. W. EDWARDS. Ciii-bondale, Pa. +<!JIo-