Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
15 erthygl ar y dudalen hon
T)EHEUDIR CYMRU.
T)EHEUDIR CYMRU. —Cafwyd dyn o'r enw Evan Owen, Casile street, Dowlais, wedi ymgrogi yn nhy ei fab, Owen Owen. —Gwnaeth Syr Pryse Pryse, Gogerddan, yn ol ei arfer bob blwyddyn, anrheg o ys- gyfarnog i b b un o beirianwyr a guards ilordd haiarn y Cambrian. —Dydd Mawrth, Tachwedd 30ain, y cymerodd etholiad Bwrdd Ysgol Unedig dosbarth Abertawe le. Yr oedd wyth o ymgeiswyr, ac fel y canlyn y safent yn yr etholiad: Davies, 3;532; R A. Jones, 3,052; Riley, i ,9?9; •Llewellyn, 1,420; T. Jones, 1,369; Williams, 1,139; Raynor, 274; Roberts, 83. Y pedwar blaenaf a ethol- wyd, —Canfyddwn fod y Parch. Thomas Gar- non o Goleg wedi rhoddi ateb eadmnhad i alwad egl wys y Bedyddwyr Seisnig, yn nghapel Seion, Glyn Ebbw. Mae y Parch. Isaac Hughes Jones, B. A., is-gorgeiniad Eglwys Gadeiriol Ty Ddewvigael ei ddyichafu gan Syr Thom- as Davies Lloyd, Barwnig, i fod yn rector Din as, yn Sir Ben fro. —Yn Heddlys Bwrdeisiol Caerdydd, Tachwedd SOain, pryd yr oedd y maer ar y fainc, dirwywyd deg o fenywod am fod yn feddwon y nos o'r blaen, a thraddodwyd ehwecho hooynt i garchar, am eu bod yn ffaelu talu y ddirwy. —Traddodwyd Thomas Thomas, o Aber- aman, i sefyll ei brawf yn y brawdlys am ladrata 11 ceiniog o westdy y Partridge. — Cafodd hitchwr o'r enw George Brock- ington, ei ladd yn IVfhwll y Darren, Merth- yr. Taraw vd ef adarn o lo, a syrthiodd o dram oedd yn esgyn y pwll. —Cyfarfyddodd un George Benjamin, 24 oed, a'iddiweddyn Aberdar, drwy fyned rhwng cerbydau y Great Western. DYFFRYN RHONDDA.—Wrth ddilyn yn mlaen gyda'u gwaith, daeth y glowyr yn ngwaith glo Penrhiwfur, yn Nyffryn Rhondda, i ddwfr, yr hwn a ddeuai yn 11 if mawr o hen waith ger Haw, a gorlifodd yr holl waith yn mhen yehydig amser. Di- angodd rhwng 50 a 60 o weithwyr rhag eu dinystrio; ond methodd dau, a boddasant yn y dwfr. LLANDEILO.—Pren Afalau.—Cafodd Mr. J. W. Jones, ironmonger, Llandeilo, yr haf diweddaf, ddau gnwd o afalau tra thor- eithiog ar yr un pren. Yr oedd yr afalau yn yr ail gnwd yn mesur pum' modfedd a haner o amgylcliedd. A phan oedd Mr. Jones yn tynu y ffrwyth, yr oedd y pren drachefn yn blodeno am drydydd cnwd; ond ataliwyd hyny gan y tywydd oer. CAERDYDD.—Ymosododd rhyw ddyhirj'n ar un Mrs. Griffin wrth ddrws ei thy; rhodd- odd chloroform iddi ac yna tynodd ei mod- rwyau oddiam ei bysedd gyda'i ddanedd, a lladrataodd ei phwrs. ABERGAFENNi.—Cynawnodd John Mor- gan, cigydd, Flannel St., hunanladdiad drwy dori ei wddf a chyllell fawr. Yr oedd wedi bod yn yfed yn drwm.
MARWOLAETH PREGETHWYR.
MARWOLAETH PREGETHWYR. Y PARCH. EBEN. DAVIES, LLANERCHYM- EDD.—BU y gwr da hwn farw Rhagfyr 7fed. Cafodd anwydtrwmar y 29ain o Tachwedd: ond aeth i'w iiaith y Sabboth i Lanfaethlu, Llanfwrog a Lianfach- reth, lie y traddudodd ei bregeth olaf. Bu farw y Sabboth canlynol yn 71 oed. Y PARCH. W. WILLIAMS (CromiceU).— Hunodd y gweinidog llafurus a'r lienor galluog hwn yn yr angau y Sabboth cyntaf o Ragfyr, yn 3 Con- stantine Terrace, Caernarfon, yn 60 mlwydd oed Ganwyd ef yn Beaumaris, mewn ty a ddaiiwvd gan ei liynafiaid er cyn cof. Dechreuodd ei vrfa' mewn ysgol gyffredin, yna aeth yn ddilledydd," a thra yn gweithio yn Llvnlleifiad, dechreuodd bregethu. Yn fuan wedi hyn aeth i athrofa yr Annibynwyr i'r Bala. Yr eghvys gyntaf fu dan ei ofal ydoedd Harwood, ger Gwreesam-eglwys Saesneg; yna Malpas, sir Gaer. 0 Malpas aeth i Beaumaris, a llafuriodd yn egniol heb fod mewn cysylltiad neillduol a'r un eg- lwys. Bu yn ifyddlawn fel gweinidog i Grist. Fel Rhyddfrydwr gwnaeth lawer, yn neillduol trwy ys- gnfenu. Claddwyd ef dydd Mercher, Rhagfyr 8, yn Beaumaris. Y PARCH. O. ROBERTS, LLANFACHRETH. -Rhaid dodi enw Mr. Roberts yn chestr y meirw. Cymerwyd ef yn glaf pan yn pregethn yn Harlech, a bn yn dioddef yn dost gan enyniad yr ysgyfaint. Dygwyd ef i Ddolgellau, lie ei cymerwyd idy ei chwaer, gan ei fod yn rhy wael i'w anfon gartref i Lanfachreth-pellder o oddeutu pedair milldir Er fod ei gyfeillion yn earn gobeithio yn gryf am ei ad- feriad, yr oedd yn amlwg fod yr ymosodiad y diodd- efai dano yn un trwm a pheryglus. Parhaodd am rai dyddiau mewn c.yflwr ansefydlog, ond vn v di- wedd angau a orchfygodd. Y PARCH. H. JAMES, LLANSANTFFKAID. —Bu farw y gwr defosiynol" hwn Rhagfyr 5ed, yn 56 mlwydd oed. Genedigol oedd o Ddinas Mawddwy, ac yr oedd yn frawd i loan Meirion. Wedi bod am dymor o dan addysg y Parch. M. Jones, Llanuwch- llyn, aeth i Marton i'r ysgol. Wedi hyny bu yn eadw ysgol yn Llanbrynmair, byd nej y derbyniodd alwad o'r Brithdir a Rhydymain yn 1839. Symud- odd i Lansantffraid yn 1942, ac yma y bu yn llafurio am 34 mlynedd. Teimlir colled fawr ar ei ol.
MARWOLAETHAU CYMRU.
MARWOLAETHAU CYMRU. Y GOGLEDD. Tachwedd 24, yn 18 oed, John, mab Mrs. Martha Parry, Drefnewydd. Tachwedd 25, yn Glasfryn Factory, Ceryg-y-druid- lon, Edward Watkin, anwyl blentyn John Jones, Factory, Gwytherin. Tachwedd 27, yn 26 oed, Jane, priod David Evans, Penygraig, Llanidloes. Tachwedd 28, Mrs. Jones, priod Richard Jones, Caellwyngrydd, Llanllechid, yn 53 oed. Tachwedd 28, Elizabeth Pugh, Pentrepiod, yn 90 Rhagfyr 1, yn 48 oed, Mrs. Eliza Wheldon, Tan-y- ffordd, Dinorwic, a merch i'r diweddar John Whel- don, Penbont, Llanberis. Rhagfyr 5, yn 66 oed, Anne, priod William Rob- erts, Stryt Henllan, Dinbych. < Rhagfyr 6, Anne, priod Owen Jones, Foel, ger Din- bych. ° i Rhagfyr 5, yn 78 oed, Jane, gwraig W. Roberts, llythvrghidydd, Porthmadog.
r DBHEUDIR.
r DBHEUDIR. Tachwedd 21, yn 97 oed, Mrs. Elizabeth Jenkins, Heol yr Eglwjs, Llandudoch. Tachwedd 27, Edward Abadam, Middleton Hail, ger LlauarUiuey, sir Gaerfyrddin, yn 66 oed. Rhagfyr 4, William Price Davies, plentyn byehan C. Davies, svvyddfa y Darian. Yn ddiweddar, yn 50 oed, Mr. Park, watchmaker, Bute st., Treorci. .t.
LORD SWELLHEAD.
LORD SWELLHEAD. Neu Ymweliad Job Tomos a'i gyfaill Ifan Puw. GAN W. EVANS, LOCKPORT, ILL. JOB TOMOS. Pwy y w'r llanc yna Ifan Puw, I it, Ai mab i ryw bendefig? Mae'r olwg arno'n ddigon siwr Fel pe bai'n wr boneddig: Mae'n ddison tebyg fod y gwr Yn fab i'r bancwr hwnw, Sy'n t.rigo yn y palas gwyn Ar ben y bryn fan acw. Mae yn ymddangos yn mhob man Yn hynod annibynol, A'i wisg sy'n edrvcb bron i gyd 0 ddefnvdd drud ryfeddol; Mae ganddo wasgod sidan wen, A ffon a'i pben yn arian, A tbusw a flew o dan ei drwyn Fel twmpath brwyn dan dorian. 'Roedd ddoe yn gyru ceffyl brych w Mewn eerbyd gwyeh clustogog, Yn nghwmni boneddiges ddel, t Ali ystum fel cadfridog; Ac yn ei geg mewn math o garn Feddaliai ddarn o gortyn, 0\r byn y pwffiai dan a mwg 1'r golwg bob yn dipyn.
IFAN ptrw.
IFAN ptrw. llanc yn siwr yn teimlo El fod yn rhyw un mawr, A Lord Swellhead y gelwir ef Gan bobl y dref yn awr: Mae'n frawd o waed coch cyfa' I" Siani Seimon Puw," A'r bwthyn Hew 'nghwr yeae Yw'r fan Ile mae Yn byw: Y cerbyd gwych a'r ceffyl A welsoch ganddo fo, Ell benthyg hwynt a gafodd ef I fyn'd trwy'r dref am dro; Nid yw ei holl feddianau Yn werth pum grot o bres- A dweyd y gwir, nid yw y gwalch Ond JIeban batch di les. Cadd llawer o ddyeithriaid, Ea siomi vnddo fo, Fu ar ymweliad fel cbwychwi A'n pentref ni am dro, Wrth wel'd ei wisg drwsiadus, A'r ystum arno sydd, A'i weled gyda'r bobol fawr" Bron ar bob awr o'r dydd: „ Mae'r llanc yn arfer gwisgo Ei ddillad goreu fedd, A'n gwisgo'n gyson wna bob dydd Hyd nes y trydd eu gwedd; A phan heneiddiant dipyn Fe'n croga ar yr hoel, A phryn rai n'w'ddion danlli grai Os gall gael rhai ar goel. Bu'n gweithio peth am ddeufis Dro'n ol pan fu i ffwrdd, Ond d'engodd adref at ei fam Heb dalu am ei fwrdd; Pob cemiog goch a gaffo A ddyru am ei gefn, Ni hidia ffeuen mewn un dyn Os ca ei bun mewn trefn: Mae wedi syrtbio allan A'i waith a'i wadu'n llwyr, Ni wna ond swagro byd y stryd O'r boreu hyd yr hwyr: Bnasai'n fil mwy parchns Gan bawb trwy dref a gwlad, Pe buasai yn y gweithdy clyd Yn gweithio gyda'i dad. Fe fydd mor awdurdodol Pan ddelo at ei brvd, A phe cadw'n rhad Holl deulu 'i dad yn nghyd; Bydd ganddo res o feiau Ar bobpeth ro'ir o'i flaen- Ni fydd ei napcyn ddigon gwyn, A'r llestri yn rhy blaen; Y cig heb ferwi digon, A'r coffl yn a'rnhur, Ni fydd y tatws chwaith yn dda, A'r bara fydd yn sur; Y siwgwr yn rhy felus, A'r 'menyn yn rhy hallt, A'r pwdin heb ei wneyd yn iawn, A'r pie yn llawn o wallt.
JOB TOJtOS.
JOB TOJtOS. Tewch, tewch, Ifan Puw! Er pan wyf yn fyw, Ni chlywais eiroed am fath un; Pe buaswn í 'n dad I'r 'sgogyn an fad, Fe wnaethai ei bwdin ei hun. eyn Ir aethwn i 'n was I benci diras A'm dianrhydedda fel hyn, Fe gawsai y gwalch Difeddwl a balch Fyn'd ymaith dan bwysau fy ffyn. Ni phery ei fyd Mor esmwyth o hyd, Daw at ben ei raff yn y man; Tylodi a gwarth, A gwg o bob parth, A llafur cyn hir fydd ei ran.
BNGLYNION
BNGLYNION Ar briodas i1{r. William J. Lloyd a Miss Elisabeth C, Roberts, Randolph, Wis. Frawd a chwaer, byfryd i chwi-y dydd hwn Mewn dyddanus gwmni, Yw pur adeg priodi; Adeg eich braint deg a'ch bri. Rhoed unwaith yr ordeiniad,-yn ddifeth, Trwy Ddwyfol osodiad; A sai rhwym priodas rad, Ceidw rym mewn cydrwymiad. Dwy galon dog gloa'n dyn,-dau enaid, Unir yn y rhwymyn I fyd gwell, i fywyd gwyn, Sy'n hudolus yn dilyn. 0 dan yr iau dyner ei doniau-unol o anian f'o chwithau, 0 fewn oes, yn cyd-fwynhaa, Dylanwad hudol wenau. A iau crefydd, rydd fawrhad-diogel, Dygwch hono'n wastad; Ni chyll ei swyn ilch Ileshad, t Hon yw coron wen cariad. Hendref, Cambria. JOHN R. JONES.
AR BRIODAS
AR BRIODAS y Parch. W. M. Evans, Sandusky, N. Y., a Miss Alice M. Thomas, Thornastjwn, 0. Mae enwog lyfr y llyfrau, Hyfforddiant Duw i ddyn, Yn dweyd yn eglur wrthym Nid da bod dyn ei hun;" A chan fod William Evans Yn ffydrilon was i'r Nef, Yn deall yr athrawiaeth Gwrandawodd ar y lief.; Ac yn ymgeledd gymwys Cymerodd fenyw hardd, ™ ?- £ ydd yn ei deulu Fel lili yn yr ardd; xn llawn o ardderchawgrwydd, Jn llawn o bob rhyw rin, A 1 thyner fwyn gymdeithas Yn felus fel ygwin, Na ddeued 'stormydd bywvd I wneyd eu hoes yn drist Eu bwthyn fyddo'n orlawn Ogrefydd lesu Grist; A'r cwlwm priodasol Mewn cariad, serch a hedd, Yn para'n anatodol Hyd drothwy oer y bedd. Wrth werd gweinidog duwiol 0 dan ddylanwad serch, Yn ymbriodi'n weddaidd Aphur ddihalog ferch; Mae'r nefoedd fel yn barod I chwareu Ewynol dant, Ac yn ei hiaith i dd'wedyd— "Hawddamor i'ch, fy mhlant." Youngslown, 0, DAFYDD Y GAREG WEN.
[No title]
0 Baner ac Amserau. Cymru, Yr Herald Cymraeg, Y Goleuad, Y Dywysogaeth, Y Tyst a'r Dj'dd, Seren Cj'niru, Y Gwladgarwr, Y Fellten, Y Dydd, Caer- narvon & Denbigh Herald a'r North Wales Chron- icle, y rhai dderbynir yn wythnosol; ac eraill a dderbynir yn achlysurol, [I FYNY I RHAGFYR 10, 1875.]
FFRWYDRIADA U OFNADWY.
FFRWYDRIADA U OFNADWY. COLLI 23 o FYWYDAU YN NEW TREDEGAR — DEUDDKG WEDI EU LLADD A DEG WEDI EU HANAFU YN PENTYRCII. NEW TREDEGAR—Ar y 4ydd cyfisol, fel y crybwyllwyd ar y pryd yn ein newydd- ion pellebrol o Brydain, eymerodd tanchwa dychrynllyd le yn nglofa Powell, DulYryn, trwy yr hon y collodd 23 eu bywydau, ac y niweidiwyd amryw. Y mae y lofa hon yn abl i roddi allan 3,500 o dunelli o lo, ac yn gweithio er ys dros SO mlynedd. Y prif oruchwyliwr ydyw Mr. Robert Lonic; a phan yn llawn, y mae yn y pwll rhwng 500 a 600 o ddynion. Ystyrir y lofa yn un hynod danawl, ac o ganlyniad yr oedd gof- at mawr yn cael ei gymeryd yn ei gweith- iad. Y mae dwy shaft yn perthyn iddi, y rhai ydynt 342 o latheni o ddyfnder. Rhen- ir y gwaith i ddwy ran, y rhai a elwir yr hen ochr ac ochr yr afon. Ar y diwrnod y cymerodd y ddamwain le yr oedd rhyw 400 yn y pwll, 150 yn ochr yr afon a 250 yn yr hen ochr; a dywedir mai achos union- gyrchol y ddamwain oedd taraw ar blow- er," yn y rhan o'r gwaith a elwir Slant Owen Davies, lie yr oedd rhyw 40 yn gweithio ar y pryd. Yr oedd y dychryn I a'r dyryswch agymerodd Ie, pan yr oedd pawb yn ceisio dianc am eu bywydau yn an nysgrifiadwy. A ganlyn yw rhestr y rhai a laddwyd ar y pryd, ac a fuont feirw ar 01 hyny: Thomas Evans, New Tredegar, gwraig a phump o blant; William Evans, overman, New Tredegar, gwraig a deuddeg o blant—dygwyd Evans (tllan yn fyw, ond a fu farw boreu dydd LInn; Stephen Sel- leck, New Tredegar, gwraig ac amryw o blant; Mo- ses Prangley, Pontiotyn, gwraig a thri o biant; James James, Pontlotyn, gwraig a phump o blant; Roger Williams, Pontlotyn, gwraig ac un plentyn; Thomas Price, Pontlotyn, gwraig a dan o blant; Samuel Jen- kins, Pontlotyn. gwraig a phedwar o blant; John Jones, Craig, Rhymni. gwraig ac amryw blant; John Thomas, Craig, Rhymni. gwraig a dau o blant; George Williams, Troedrhiwfuwch, gwraig a phump o blant: Edward Bindey, bachgenyn, New Tredegar; John Williams, sengl, Pontlotyn; William Williams, sesgl, Pontlotyn: Arthur Thomas, sengl, Pontlotyn; John Thomas, sengl, Pontlotyn; John Jones, sengl, Pontlotyn; John Davies, bachgenyn, Pontlotyn; Arthur Edwards, bachgenyn, Pontlotyn; Llewelyn Jones, sengI, Tir Phil; Jonathan Richards, bachgen- yn, Troedrhiwfuwch; Thomas J, Williams, bachgen- yn, Troedrhiwfuwch; George Williams, bachgenyn, Troedrhiwfuwch. PENTYRCH.—Prin yr oedd y ddamwain erchyll uchod wedi cyllroi y wlad, nag V lledaenwyd y newydd am danchwa arall yn Nglofa Taff's Well IJIan, yn mhlwyf Pentyrch, trwy yr hon y collodd 12 eu bywydau ac y niweidiwyd 10 i raddau fmwy neu lai. LIaddwyd Abraham Phil- lips, yr overman, trwy gael ei daflu gan nertli yr awyr yn erbyn ochr tram. Llosg- wyd un glowr, o'r enw T. Llewellyn, i'r fath raddau fel yr oedd bron yn golsyn, tra yr oedd yr olygfa ar gyrff eraill yn wir ddychrynllyd. Am y rhai a niweidiwyd, barn y meddygon ydyw y gallant oil wella. Rhoddwn yma restr o'r meirw a'r anafus: Y Meirw-Abraham Phillips, overman, Pentyrch, priod ac amryw blant ar ei ol; Thomas Llewellyn, Soar, Pentyrch, priod a theulu trwm; Thomas Lle- wellyn, mab y blaenorol. yr hwn oedd yn ddryswr; Henry Sant, Mynydd y Garth, priod a theulu; Wil- liam Llewellyn, Pengarn. priod a theulu; Daniel Evans, Tongwynlas, priodathenlu; Moses Llewel- lyn, Gelynos, dryswr: William Peters, Ffynon Taf, priod ac amryw blant; Robert Taylor, Ffynon Taf, sengl; David Rees, Llwynyreos. bacbgen ieuanc; John Pritchard, Penygarn, sdngl; John Thomas, Briste Fach, sengl. Wedi eu Nivieidio—^hadrach Davies, Gwaelod y Garth, priod ac amryw blant; John FJynn, Gwaelod y Garth, sengl; Evan Howell, Clofa y Llan, senvl; William Harding, Penygarn. sengl; Charles Mills, Pfiivgarn. priod, ond dim teuln; William Llewellyn, Rfulyr, priod a theulu; William Morgan, Penygarn, priod. ond hf b deulu; Evan Davies, Penygarn, senal; Abraham Williams, Tongwynlas, priod ond heb deulu; Samuel Evans, Tongwynlas, dibriod. .t.
CINCINNATI, OHIO.
CINCINNATI, OHIO. ANRHEG o LESTRI ARIAN.-Talodd ael- odau yr Eglwys Gynulleidfaol Gymreig yn y dref, yn nghyd a lluaws o'n gyfeillion hefyd, ymweliad a phreswyl ein gweinidog. y Parch. G: Griffiths, nos Fercher, y 15fed cyflsol, ac anrhegasant ef a'i deulu ag ar- wydd wir werthfawr o'u serch tuag ato ef a'i deulu. Wedi mwynhau swper rhagorol a barotoisid gan foneddigesau yr Eglwys, a thipyn o ymgom siriol, a chanu gyda'r berdoneg amryw o'r hen Alawon Cymreig, galwyd ar Mr. a Mrs. Griffiths a'r plant at y bwrdd, yn y Dining Room, ar yr hwn yr oedd wedi eu gosod, yn ddiarwybod hollol iddynt, set o lestri arian arddercliog, yn cynwys un-ar-ddeg o walianol gwpanau. Heblaw wyth o lwyau arian pur, daeth James T. Griffiths, Ysw., un o ddiaconiaid yr eglwys, yn mlaen, ac ar ran y cyfeillion a'r cyfeillesau, mewn ychydig sylwadau bywiog, ffraeth a phwrpasol, cyflwynodd yr anrheg werthfawr i'r teulu. Yr oedd euw Mrs. Griffiths yn gerfledig arnynt, yn nghyd ag enwau y plant, Freemont a Min- nie, ar ddau napkin a ring arian, y rhai a gyflwynwyd iddynt hwy gan Miss Kate Parry. Mi welsom Mr. Griffiths erioed yn edrych mor frwdfrydig ag wrth y bwrdd y foment hono, ac ni welsom ef erioed o'r blaen yn tori i lawr yn hollol. Wrtli geisio traethu. ei deimladau, gofynodd i'r Parch. M. A. Ellis, yr hwn oedd hefyd yn bres- enol, i'w gynorthwyo. Atebodd yntau nas gallai yn wir, fod ei enau yntau wedi eu cloi yn yr un fath fodd gan ei gyfeillion ac aelodau ei eglwys, ond sicrhaodd ef, er -ha fedrai siarad drosto, ei fod yn llawen rgydymdeimlo ag ef. Yr oedd y cyfaill cy- wir J. F. Jones (Prince of Wales) yn ddi- gon parod i helpu ei weinidog, ond yr oedd yntau wedi ei analluogi, drwy iddo gael tori un o'i asenau yn ddiweddar. Edliwiai y cyfaill Cyfeiliog Evans i Mr. Griffiths, ar. y diwedd, waeledd ei speedi, gan ddy- wedyd ei fod wedi arfer meddwl mai efe oedd y llai na'r lleiaf fel areithiwr, ond yn bendifaddeu fod Mr. Griffiths wedi cario y palmwydd oddiarno y tro hwn beth bynag. Gwnaeth Mr. Griffiths amryw gynygiadau beth bynag, yn Gymraeg a Saesonaeg, i gyflwyno i'r dorf y diolchgarwch a deimlai; ond ddoi hi ddim yr oedd y galon yn rhy lawn i'r tafod lefaru. Erfyniodd gael ei esgusodi hyd ryw gyfleusdra arall, yr hyn a ganiatawyd. Nid wyf yn gwybod am un eglwys—yn weinidog, aelodau a gwran- dawyr, yn iwy cariadus gyda'u gilydd nag eglwys Mr. Griffiths, a chredwn nas gall y cydgyfarfyddiad yma lai na gwneyd yr undeb anwyl gvdrhwng y gweinidog a'i bobl yn anwylach fyth. Dywedaf flnau Amen. MONWYSON.
[No title]
OSHKALOOSA, IOWA.—Damwain Angeuol. —Cymerodd damwain angeuol le ger y He hwn, Tacli. 29ain. Tra yr oedd dyn ieu- anc, 23 oed, o'r enw William Lewis, yn ddiwyd wrth ei waith yn tori glo, yn ngwaith William Phillips, syrthiodd careg a bwysai o 15 i 18 cant yn hollol ddirybydd ar ei ben, nes ei hollti yn ei ganol, fel y bu farw ar amrantiad. Yr oedd yrysgrifen- ydd yn ei ymyl pan syrthiodd yr byn a cilw glowyr yn badell-peth hynod o bpryglus mewn gwaith glo, gan mor ddi- symwth y syrth o'r nen. Rhag. laf, ym- gpglodd amryw o weithwyr daear ac el-ail J i'r ty lie yr oedd y corff marw, a chawsom bregcth felus a phwrpasol, yn taro i'r dim ar y fath amgylchiad, gan y Parch. D. R. Lewis, Given, yn Gymraeg a Saesonaeg. Ei destyn oedd Mathew* 24. 44: "Am hyny byddweh chwithau barod, canys yn yr awr ni thybiocli y daw Mab y Dyn." Aed a'r corff i Nebraska, wyth milldir i'r de o Brownsville, i dy ei dad.— Nid oedd ond ychydig amser er pan aeth William ymaith yn iach a bywiog iawn oddicartref, gan feddwl gweithio yn y gwaith glo am y gauaf, ac yna dychwelyd adref yn y gwanwyn nesaf. Ond, nid fel v meddwl dyn y meddwl Daw. Wele ef yn cael ei gludo adref yn hollol groes i ddisgwyliad pawb o'r teulu pan gychwyn- odd ef oddicartref. Claddwyd ef ar y Sydd o Ragfyr mewn beddrod yn ymyl ei gartref, pryd yr ymgynullodd tyrfa luosog er talu v gymwynas olaf iddo, a dangos eu teimhidau gwresocaf at y teulu gaiarus ar 01 colli eu hanwyl William, yr hwn oedd yn ddyn ieuanc sobr, moesol a gweitbgar. Duw a ofalo ag a'u nerth*> i ddwyn y baich trwmlwythog hwn. Mae ydocdd yrjymadawedig yn fab i Mr. John Lewis,gynt o Pomeroy, O. Daethant i'r wlad hon o Ferthyr, D. C., pan oedd yr ymadawedig yn 2 flwydd oed. Y mae y teulu yn Nebraska er's wyth mlynedd. .Bydded i'r amgylchiad hwn fod yn rhybudd i bawb i fod yn barod.—Smon Harris. '_I
[No title]
MORRIS RUN, PA.—Yr ydym wedi gwel- ed amser tlawd iawn yn y lie hwn; ond y mae y si ar led fod adfywiad i gymeryd lie ar ol dechreu y flwyddyn newydd. Gob- eithio mai telly y bydd, ac y ceir gweled olwynion masnach yn llawn bywiogrwydd fel cynt. Yna gallem ddisgwyl gweled y boblyndylifo atom gyda'u hariani anfon am y DRYCH o'r newydd, a'r cyfeillion er- aill i dalu eu hen gownt. Ond nid gwiw digaloni. Tua dechreu y flwyddyn yr ydym yn disgwyl dyfodiad Jacko mab Meg- ws, Dai Pall, Wil y Rugen, Shoni dros y rails, a Dai Lapyn o Dowlais, a lluaws er- aill o enwogion Aberdar aMerthyr; ac Oh! amser dedwydd pan y deuant. Nid wyf yn bwriadu rhoddi llawer o hanes y lie y tro hwn; ond yn y nesaf dichon y cewch adroddiad o'r materion pwysig fyddant yn cael eu trafod yn swydd- fau y llythyrau a'r newyddiaduron ac yn stor y cwmni, a desgrifiad o'r hen batriarch penwyn gyda'i wydrau am ei drwyn a'i cigar yn ei geg yn troi yr boll ysmocwyr allan o'r stor. Mae darlun o'i ben wedi ei dynu eisoes, a bydd ei holl ermigau wedi eu harchwilio erbyn hyny. Mae y Gym- deithas Ddirwestol a'r Gymdeithas Lenydd- yddol yn y lie hwn wedi ymbriodi yn ddi- weddar.— Hen Smociwr.
LLOFFION 0 BELL AC AG OS.
LLOFFION 0 BELL AC AG OS. Tyliodd William Hoge, Nettle Creek, Swydd Grundy, Illinois, ffynon ar ei ffarm i'r dyfnder o 1,800 o droedfeddi, yr hon a gostiodd 17,000; ac mae ffrwd o ddwfr grisialaidd yn rliedeg o honi yn barhaus. .Mae y pumpkin cAmericanaidc1 yn hynod doreithiog yn Ffrainc; ac mae 5 ar arddangosfa yn Paris yn pwyso 250, 350, 371, 393 a 400 pwys! Daeth i mewn i Chicago yn nghorff y chwe' mis cyntaf o'r flwyddyn hon 466,- 833 o ychain, hyny yw, yn yr Union Cattle Yard; ac anfonwyd oddiyno yn yr un am- ser 378.563 o anifeiliaid corniog. Derbyn- iwyd 2,002,484 o foch; 226,785 o ddefaid, a 9,098 o geffylau. Anfonir 150,000 o duiielli o wenith yn union i Loegr, eleni, o Oregon, a chred- ir y bydd yr allforiad yn llawer mwy ar ol y cynauaf nesaf. Dywedir fod o 30 i 40 o ddefnynau o belladonna mewn llaeth yn feddyginiaeth anffaeledig rhag y colera ar foch. .Lladdwyd a halltwyd 135,443 o foch yn St. Louis o Tachwedd laf hyd Rhagfyr lOfed, ar gyfer 299,602 yr un amser y llyn- edd. Mae ffarmwr yn Los Angeles, Calif- ornia, yn sicrhau fod amryw o'r maip ar ei faes eleni yn pwyso o 20 i 22 pwys yr un! Cymerwyd gwraig i fyny yn Chester, Pennsylvania, am ladrata 18 o dywysenau o Indian corn; ac wedi ei chael yn euog, dedfrydwRyd hi i garchar am 48 o oria.u.— Costiodd y gyfraith i'r County$227.32, sef $15.0434 am bob tywysen o'r corn! .Codwyd cnwd mawr o bytatws mel- usion yn Kansas yr haf diweddaf, ac yr oeddynt yn gwerthu yn rhwydd am 35c. y bwsiel yn nghylchoedd Coffeyville. Dylid bod yn ofalus i beidio planu corn mewn tir lie codwyd buckwheat, a choner mai ceirch ddylid hau y tro nesaf. BALA, KANSAS, Rhagfyr 14.—Gwelais- ddarn o ysgrif yn y DRYCH gan un o'm cy- mydogion, sef D. T. Jones, a darn bychan ydyw, ïe, rhy fychan i ddweyd y gwir i gyd am yr hyn a noda, Ni efEeithiodd ddim arnaf, ac ni fuaswn yn gwneyd sylw o'i gynwys, oni bae fy mod yn deall ei fod wedi effeithio 1,500 o fllltlroedd oddi yma. Cefais un llythyr yn holi os oedd yr haner yn wir; ac un arall yn dweyd ei bod yn lied ddigalon i feddwl dyfod yma yn y gwanwyn. Felly ceisiaf ychydig ofod i ymhelaethu ar eiddo fy nghymydog, rhag fod eraill yn petruso, ac yn meddwl ei bod yn waeth nag ydyw yma. Yr oedd y grass- hoppers wedi dianc cyn i mi ddod yma, a gobeithiwyf na chaf eu gweled yma. Yr oedd y enwd gwenith yn ysgafn o gwmpas y Bala. Nis gwn beth oedd yr achos, ond mae'n rhaid fod achos. Gwir na chafodd rhai ond 10 bwsiel yr erw, ac eraill 1ai 11 a hyny; ond mae mor wir hefyd fod rhai wedi cael ychwaneg na hyny. Cafodd cy- mydog i D. T. Jones dros 20 yr erw, ac un arall nid yn mhell iawn o'r Bala 50 yr erw. Dywed fod "y corn a'r tatws yehydig yn well;" ond ni ddywedodd ei fod ef ei hun wedi cael dros 100 bwsiel odatws oddiwrth 4 bwsiel o had. Gwir na chawsom fawr o wlaw er dechreu mis Medi. Ond nid yw o gymaint pwys, gan ei fod yn rhoddi cyfleus- tra i gasglu ffrwyth y ddaear i ddiddos- rwydd. Ni welais gymaint o gyflawndero wahanol ffrwythau ag sydd wedi bod yma eleni; yr oeddwn i oedd heb blanu dim yn cael digonedd gan fy nghymydogion yn rhoddion gwirfoddol, a chymellion taer i fyned i ymofyn ychwaneg; a derbynied fy nghymydogion fy niolehgarweh am eu car- edigrwydd. Mae yma gyflawnder o gorn eleni; nis gwn beth mae yn roi yr erw ar gyfartaledd, ond dywedodd cymydog i mi ei.fod wedi cael 50 yr erw ar ei dir gwael- af, a 60 ar y goraf oedd wedi ei blanu, a hyny heb unrhyw fath 0 wrtaith. Pump o ffytionau oedd wedi eu cloddio ar randir y dref-un wedi sychu, un wedi cwympo i fewn, un ag ychydig o ddwfr ynddi; ond y mae ynddi ddigon yn awr, gan ei bod wedi ei glanhau a'i chloddio ddwy droedfedd yn ddyfnach; un A digonedd ynddi, ond nid ydynt wedi ei ddefnyddio er's blwyddyn neu ychwaneg, am fod cwningen wedi syrthio iddi, a methwyd atal y dwfr cedd yn dyfod iddi er ei glanhau. Y nesaf yw y ffynon y sonia D. T. Jones am dani. Mae yn 27 troedfedd o ddyfnder, ac mae ynddi gyflawnder o ddwfr; gwelaishi ddau ddydd Sadwrn wedi ei threchu, sef mwy o gario o honi nag oedd y taiddiant yn roddi; ac nid RHJRFEDD hyny, gan fod cymaint o wag- eni yn dyfod a'u barilau i ymofyn dwfr, a minau yn defnyddio llawer at gymysgu mortar. Mae genym ffynon arall wedi ei chloddio yn awr yn y gweithdy caws; caf- wyd dwfr 24 troedfedd 0 ddyfnder Cred- wyf y galiem gael dwsin o fewn cylch tref y Bala, pe bac eu heisiau. Dywed D. T. Jones, Y mae llawer o'r Cymry yn symud oddiyma, ac eraill am fyned yn y spring." Mae deuddeg wedi niynecl ymaith y flwyddyn hon, sef chwech 0 ddynion, tair gwraig a thri phlentyn; pedwar o'r rhai yna wedi bod yma tua thri mis a'r Ileill wedi bod yma flynyddau. Y mae teuluoedd dau o'r dynion a nodwyd yma eto. Daeth pymtheg yma y flwyddyn hon, a deallwyf fod pedwar teulu yn bwr- iadu dod yma y gwanwyn nesaf. Carem we!ed Cymry da a gweithgar, a phrofiadol mewn amaetbyddiaeth, neu yn benderfyn- ol o fod yn amaethwyr da, os nad oes gan- ddynt fodd i fyw heb amaethu. Ni charem er dim weled grwgnachwyr yn dod yma, canys yr wyf fy a'r gweddill sydd yma yn ddigon at y gwaith hwnw. Ond gallaf eich sicrhau fy mod yn teimlo yn fwy car- trefol yma nag y teimlais er pan ar aelwyd fy nhad a'm mam, a chredwyf y gall ysawl a ddewiso wneyd cartref cysurus yma mewn ychydig flynyddau. GWll am un a ddaeth yma ychydig flynyddau yn ol heb ddim, ac yr oedd yn dymuno bod yn fedd- ianol ar ryw nifer o anifeiliaid, ond erbyn hyn mae yn feddianol ar ei ddymnniad a digonedd o ymborth wrth law,ac yn mawr- hau ei fraint. Credwyf fod llawer yr un fath yma hefyd, pe baent yn cyfaddef. Yr ydym wedi cael adfywiad crefyddol yn y He hwn yr wythnosau diweddaf—llawer o'r Cymry a'r Saeson wedi cwympo wrth draed yr Iesu. Jagnes Sharpies.