Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

T)EHEUDIR CYMRU.

MARWOLAETH PREGETHWYR.

MARWOLAETHAU CYMRU.

r DBHEUDIR.

LORD SWELLHEAD.

IFAN ptrw.

JOB TOJtOS.

BNGLYNION

AR BRIODAS

[No title]

FFRWYDRIADA U OFNADWY.

CINCINNATI, OHIO.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CINCINNATI, OHIO. ANRHEG o LESTRI ARIAN.-Talodd ael- odau yr Eglwys Gynulleidfaol Gymreig yn y dref, yn nghyd a lluaws o'n gyfeillion hefyd, ymweliad a phreswyl ein gweinidog. y Parch. G: Griffiths, nos Fercher, y 15fed cyflsol, ac anrhegasant ef a'i deulu ag ar- wydd wir werthfawr o'u serch tuag ato ef a'i deulu. Wedi mwynhau swper rhagorol a barotoisid gan foneddigesau yr Eglwys, a thipyn o ymgom siriol, a chanu gyda'r berdoneg amryw o'r hen Alawon Cymreig, galwyd ar Mr. a Mrs. Griffiths a'r plant at y bwrdd, yn y Dining Room, ar yr hwn yr oedd wedi eu gosod, yn ddiarwybod hollol iddynt, set o lestri arian arddercliog, yn cynwys un-ar-ddeg o walianol gwpanau. Heblaw wyth o lwyau arian pur, daeth James T. Griffiths, Ysw., un o ddiaconiaid yr eglwys, yn mlaen, ac ar ran y cyfeillion a'r cyfeillesau, mewn ychydig sylwadau bywiog, ffraeth a phwrpasol, cyflwynodd yr anrheg werthfawr i'r teulu. Yr oedd euw Mrs. Griffiths yn gerfledig arnynt, yn nghyd ag enwau y plant, Freemont a Min- nie, ar ddau napkin a ring arian, y rhai a gyflwynwyd iddynt hwy gan Miss Kate Parry. Mi welsom Mr. Griffiths erioed yn edrych mor frwdfrydig ag wrth y bwrdd y foment hono, ac ni welsom ef erioed o'r blaen yn tori i lawr yn hollol. Wrtli geisio traethu. ei deimladau, gofynodd i'r Parch. M. A. Ellis, yr hwn oedd hefyd yn bres- enol, i'w gynorthwyo. Atebodd yntau nas gallai yn wir, fod ei enau yntau wedi eu cloi yn yr un fath fodd gan ei gyfeillion ac aelodau ei eglwys, ond sicrhaodd ef, er -ha fedrai siarad drosto, ei fod yn llawen rgydymdeimlo ag ef. Yr oedd y cyfaill cy- wir J. F. Jones (Prince of Wales) yn ddi- gon parod i helpu ei weinidog, ond yr oedd yntau wedi ei analluogi, drwy iddo gael tori un o'i asenau yn ddiweddar. Edliwiai y cyfaill Cyfeiliog Evans i Mr. Griffiths, ar. y diwedd, waeledd ei speedi, gan ddy- wedyd ei fod wedi arfer meddwl mai efe oedd y llai na'r lleiaf fel areithiwr, ond yn bendifaddeu fod Mr. Griffiths wedi cario y palmwydd oddiarno y tro hwn beth bynag. Gwnaeth Mr. Griffiths amryw gynygiadau beth bynag, yn Gymraeg a Saesonaeg, i gyflwyno i'r dorf y diolchgarwch a deimlai; ond ddoi hi ddim yr oedd y galon yn rhy lawn i'r tafod lefaru. Erfyniodd gael ei esgusodi hyd ryw gyfleusdra arall, yr hyn a ganiatawyd. Nid wyf yn gwybod am un eglwys—yn weinidog, aelodau a gwran- dawyr, yn iwy cariadus gyda'u gilydd nag eglwys Mr. Griffiths, a chredwn nas gall y cydgyfarfyddiad yma lai na gwneyd yr undeb anwyl gvdrhwng y gweinidog a'i bobl yn anwylach fyth. Dywedaf flnau Amen. MONWYSON.

[No title]

[No title]

LLOFFION 0 BELL AC AG OS.