Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
a MIL
a MIL Haner gair i gaH."—" Gwialen i gefn yr ynfyd." c'
BEEUDD WYD — GAIS AT MR. PWNS.
BEEUDD WYD — GAIS AT MR. PWNS. Mr. Pwns s'yn haner prophwyd, A fedrwch chwi ddehongli breuddwyd? Beth yw gweled mewn Eisteddfod, Urddo beirdd wrth fraint a defod? Mae y twrw eisteddfodol yma, yn nghyd a'r cyfnewidiad tywydd mynych, yn peri llawer o anhuaedd a breuddwydion dieithr i ddyn; felly y gwelwn i fy hun un noson yn myned i Eisteddfod, a thrwy lawero boen gan y mwg oedd yn toi y ddinas, y cefais hyd i'r ystafell lie yr oedd y gys- tadleuaeth yn cymeryd lie am y brif wobr, sef llar'n o gig moch. Yr ymgeiswyr oedd- ynt Ellmyii a Gwyddel, y rhai a gymeras- ant afael, un yn mhob pen i'r wobr, pryd y gocynodd Pat. trwy ei ddanedd, "And are you, ready?" ac yr atebodd Dutch, Taw" yn llydan yn ei wddf; yna cipiodd Padi y cig, a chyho^ddwyd ef yn fuddugol. Yn nesaf, gwelwn fy hun ar ryw gae, lie yr oedd swp o blant yn chwareu efo cerig, fel y tybiwn, ond erbyn dyfod atynt, dyn- ion oeddynt wedi gwneyd cyjcir o gerig man, ac un gareg fawr yn y canol. Yr oedd pedwar dyn a phastynau hirion ganddynt yn gwylio y cylch, neu ein hurddas genedlaethol, a cliapiau rhyfedd am eu penau, a gwaelod llydain arnynt, ac ar y talcen y llythyrenau, B. B. D. Gel- wid y dynion hyn yn PastjTnfeirdd, ac yn S ,neg Policemen. Yn nesaf, gwelwn cl /n yn droednoeth, ac yn llewys ei grys, a chledd pren anferth yn ei law, yn neidio i ben y gareg fawr, ac yn rhoi bloedd, "Dannawdd Duw a'i dangneff ac yr oedd ger Haw yn sefyll yn syn, dorf o bregeth- wyr, wrth y rhai y dywedai y gorseddwr o ben y gareg: Y rownd hwn, Reverendiaid-bia fi, Ac os byw fy enaid, Hyrddiaf, lluchiaf chwi a llaid, Diau i anwn drueiniaid. Nid oedd yr un yn cynyrfu diai wrth y bygythiad, ond rhai braidd yn gwenu. Ar hyn neidiodd y gorseddwr i lawr a heliodd lonaid un gesail o gerig, a rhoes ail floedd, 9 11 "0 Iesu na ad g(zmwctith;" yna cliwyrnell- odd y cerig at y parchedigion; ond ganfod y gwynt yn gryf yn ei erbyn, yr oedd y cerig yn disgyn wrth ei draed, ac yn peryglu ei fodiau; gan hyny aetli yn y blaen efo gwaith yr orsedd, gan wa'dd pawb oedd eisiau urdd, fel hyn: A chleddyf ac uchel waeddi-heddyw, Mae gwahoddiad i chwi; Feirdd cydnesewch a chewch chwi Urddas mor hardd a chorddi. Y cyntaf ddaeth yn mlaen am urdd oedd Padi y cig moch; a phan ofynwyd am ei hawl i'r orsedd, atebodd fel y canlyn: By St. Patrick, I'll lick ev'ry lad-hail I'll beat Homer's Iliad; [bards Take care ye, not make me mad, Bully I am for Ballad. Ar hyn urddwyd ef yn fardd wrth Fraint a Defod Beirdd Ynys Prydain, a gollyngwyd ef dan fendith yr orsedd fel hyn: Wel, dos yn dy glos pen glin—wedi'n awr Dy wneyd yn fardd cyfrin, Anfarwol son of Erin, Na foed ond Barddas o'th fin. Wedi gweled Pat. yn pasio yr holiad mor rhwydd, meddyliais inau am wneyd cynyg, canys yr oedd awydd arnaf am gael y B. B. D. ar ol fy enw gymaint a neb; ond fel yr oeddwn yn nesu at y cylch, dyna y pastynau i fyny yn union, ac yn gorchym- yn i mi beidio halogi ein hurddas genedl- aethol; felly aeth yn fethiant efo mi; ond gan i mi glywed mai o chwith y daw breuddwyd, yr hyn a fynwn gael gan Mr. Pwns yw, beth yw ei farn ef am fy llwydd- iant yn y dyfodol ar y cwestiwn hwn? TWM BEN TARI.
"DAL Y DD YSa L YN WAST AD."
"DAL Y DD YSa L YN WAST AD." MR. PWNS! Yr oedd Abram y Ceunant yn cadw dyledswydd un boreu, a phob peth, fel y gellid meddwl, yn myned o chwith-y defaid yn ddrwg, y gwartheg yn ddrwg, y moch yn ddrwg, y meirch yn ddrwg, y gwyddau yn ddrwg, yr ieir yn ddrwg, y gweision yn ddrwg, y morwyn- ion yn ddrwg, y plant yn ddrwg, y gwrag- edd yn ddrwg, ac yntau a phawb arall yn ddrwg; ond wir, Arglwydd mawr,'> meddai, "mae yn bur anodd dal y ddysgl yn wastad i tithau." Edrych ar y Bod mawr trwy'r ddeddf yr oedd yr hen batri- arch, ac nid trwy'r efengyl. Mae yn anodd ofnadwy i chwithau ddal y ddysgl yn wastad i'ch gwahanol oheb- wyr; ac nis gwn pa fodd yr ydych yn gallu gwneyd cystal, os nad ydych yn edrych ar eu gwahanol farnau. Mae un blaid yn galw Mr. Beecher yn efengylwr, a'r llall yn ei alw yn odinebwr—un yn canmol y G-werinwyr, a'r llall yn tori arnynt-un yn galw y Beibl yn wir i gyd, a'r llall yn galw hanes yr luddewon a Moses yn hanes y Gwyddelod a chwedlau Arthur-un fel hyn a'r llall fel arall, ac felly yn y blaen, na byddai modd i chwi allu dal y ddysgl yn wastad iddynt, heb gofio mai "Kiiydd i bawb ei farn, ac i bob barn ei llafar." o berthynas i Mr. Beecher, mae digon, a gormod wedi ei ddweyd, a dylid cotio mai "Rhyw fai ar bawb rifir byth." Nis gwn beth i'w ddweyd am wahanol bleidiau ein gwlad; ond hwyrach y byddai cystal newid dwylaw pe byddai y nesaf yn fwy Cesareaidd na'r presenol. Mae ym- enyn y gweithiwr yn bur deneu, fel y mae hi, beth bynag; ac hwyrach fod peth gwir yn yr hyn a ddywedodd Solomon: "Bren- in trwy farn a gadarnha wlad; ondy neb a garo anrhegion a'i dinystria hi." Mae yn wir y dylid cefnogi y cwmniau sydd yn rhoddi eu harian allan, ond y mae mor wir a hyny. na ddylid rhoi llaw o gymorth iddynt i gribddeilio a gorthrymu llafur. 0 berthynas i'r BeiM—os nad edrychir arno fel moddion cymwys i roddi llygaid i'r dall, nid wyf yn gweled ygellir gwneyd cyfiawnder ag ef, ac ygellir cael taw ar y rhai sydd yn dadleu yn ei erbyn, heb i hyny gymeryd lie. Un o'r pethau amlycaf i ddangos fod gan ddyn enaid rhesymol ydyw ei allu a'i gymwysder i boeni. Gall- wn i feddwl fod llofrudd John Trefor yn cysgu fel ocsyn y noson cyn ei grogi; ond nid felly y bu hi yn yr ardd YSBRYD BANQUO.
AMRYW NODION. j
AMRYW NODION. CIWES IAWN i'r gorchymyn—"Cesglwch y briwfwyd gweddUl," oedd ymddygiad y dynion a'r merched ieuainc anystyriol hyny mewn capel heb fod gan milltir o Ashton, Pa., yn lluchio eu gilydd a'r bara oedd yn ngweddill ar ol tea party, fel pe buasent yn curo eu gilydd ag eira. Yr oedd y yn edrych mor wrthun a gwerthu mwnci mewn pwlpud. MEWN pentref neillduol yn Pa., ar y 23ain 0'1' mis diweddaf, yr oedd canoedd o bob! yn bresenol mewn tea, party, a dim ond 9 yn y cyfarfod gweddi nos Thanks- giving! NIS GALLWN yn fy myw ganu yn well na hyn i ryw arweinydd canu, yn nghymyd- ogaeth B yr hwn oedd wedi ei lanw hyd yr ymylon gan Hunanoldeb: Pwffyddiaeth yn ei rym, By' i'w weFd yn fawr yn Jim, O'i draed i'w ben; Wrth ddysgu "eor y plant," Fe chwydda dros bob pant, Y c'weirnod deSr o'i ddant, Nes seinio'r nen.—Grwydryn. LLENYDDIAETH GOGLEDD-DDWYRAIN 0. —Cynaliwyd cyfarfod mawreddog un nos Sadwrn yn ddiweddar yn long room y Yankee House, gwestdy mwyaf un o brif ddinasoedd Ohio. Daeth tyrfa fawr yn nghyd, yn gynwysedig o lenorion, crach- lenorion, rhigymwyr marwnadol hir-wynt- og-holl ft'ug-farddaswyr—holl dalcen- slipiaid aphastyn-feirdd y pentrefi cylchyh- ol—dynion a fedrent rewi a dadgloi tawdd-gyrchau cadwynog a handlo j ped- war mesur ar hugain fel chwareu efo marbles; ie, dynion ag sydd yn gwybod y gwahaniaeth sydd rhwng dreifio engine a chwynu pytatws. Dywedodd Owen Fardd, y cadeirydd, mai unig amcan y cyfarfod oedd cynllunio tuag at gael urdd y Ford Gron i Ohio, ond fod pawb ateu rhyddid i siarad ar unrhyw bwnc a fuasent yn ddewis! Yna cafwyd can gan Llwytli Wythnos o Pentref Glo. Yna araeth gan Bryn Eirian ar y gelfyddyd o ladd moch; a dywedai fod y gwelliantau diweddaraf yn proii fod gwell ffyrdd i ladd moch na'u tagu ag ymenyn ac arllwys dwfr poeth arnynt. Yna araeth danllyd gan Cawr Gwerddon (Giant of Ireland.) Ei destyn oedd "Mis Ceiliogwydd;" hefyd gwnaeth sylw o'r ddinas gyflym-gynyddol yr oedd ynddi ar y pryd. Credai fod y Varieties a sefydliadau cyffelyb yn ddaioni i'r ddinas, yn fendith i gymdeithas, ac yn sylfaen llwyddiant y cyhoedd. Siaradodd y dorf gymaint ar bwnc urdd y "ford round" nes yr oedd pawb yn gweled pob peth yn troi yn round; a phan yn ymadael, tystiai pawb eu bod yn llawn yspryd, ac wedi eu llwyr foddloni.—John Arthur Jones. "Y LEXIWN YNY GORLLEWIN."—BUYMA amser brwd yn y far West y Lexiwn di- weddaf. Gwlad amaethyddol ragorol sydd genym ni yma; gallwn godibron bob math o yd yma, ond ar y cyfan, braidd yn oer ydyw yr hinsawdd i godi corn, ac felly ychydig o'r blaid hono a elwir Democrat- iaid sydd yma. Mae rhyw gysylltiad an- wahanadwy rhwng pob gwir Ddemocrat a chorn, a hyny, meddir, am fod rhyw drwyth yn dyfod o hono sydd yn asgwrn cefn y blaid. Felly y blaid bono a elwir y Republicanod, sydd yn dal awen y Ilywod- raeth yn eu dwylaw'yma; ond nid ydynt hwythau, Mr. Pwns, yn ddibechod bob amser. Pan gyfodant hwy ddyn ar eu toeyn i unrhyw swydd, hyd yn nod y swydd a lleiaf o arian ynddi, a'r dyn hwnw yn hollol analluog i gyflawni dyledswydd- au y swydd, mae gan y werinos hawl yn ei dwylaw i redeg unrhyw ddyn cymwys ar docyn independent, ac felly y bu yma yn union, a mawr fuyr eleetioneero ar bob ochr. A fuoch chwi erioed wrth y gwaith pleser- ushwnw, Mr. Pwns? Cyn y gall dyn fod yn ben campv r arno, rhaid iddo osod gwydrau o gwarter modfedd o drwch ar ei lygaid, gwisg o dair modfedd, neu ragor o bres ar ei wyneb, tafod hynod o hir—box- iad o cigars, a swm go lew o'r cefnau gwyrddion yn ngwaelod ei boced; yna efe fydd y dyn, ac aifl: y werinos ar ei ol yn lluoedd. Ie, Mr. Pwns, hyd yn nod pe byddai ond penbwl, os bydd wedi ei wisgo a'r wisg uchod, caiff y swydd dan ganu. Y mae tipyn o ddaioni yn dyfod wrth y gwaith hwn. Ca ami un o'r "brodyr" gynorthwydrwy y difrod a wnaed arnynt gan y "C'liogod" am ei vote, &c. Money makes the mare go, sydd eithaf gwir yn mhob modd. Ceir ychwaneg ar hyn ryw dro eto. Dy gyfaill-Llygadog. YMGOM Y DDAU GANTWR—Dau fachgen go lew y w Johnjy Basswr a Tomos y Tenor. Heblaw eu bod yn gantwrs di-ail; maent yn rhai garw lawn am ddadleu, ond pynciau cerddorol Jydd braidd bob amser yn eu hymgomiau. Cydgyfarfyddasant un noson yr wythnos ddiweddaf, a chlywsom ninau y ddadl ganlynol: TmfOs. A wyddost ti fod yr hynaf- iaethydd, yr hanesydd, yr athronydd, y na- turiaethwr, y pregethwr, yr ieithyddwr, a'r bardd. GWERFYL, yn gantwr or radd flaenaf? JOHN Y BASSWR. Na wydclwn i yn wir, yn wir! Tortros, We], y mae, yn siwr i ti. Mae ei y pgr if yu y DRYCH diweddaf yu profi ei fod yn fwy cerddor na Beethoven, Mozart, na riaiKlel; ac uid yw yn aili neb ond i "li-wil- ym y Dyflryn!" A be lol mae y Cymreig- yddion yna yn dudi rhyw Simons, a rhyw Aubry, ac Ap Modoc, i farnu yn y 'Stedd- fod nesaf, pan mae y fatli music box yn sy- mud yn ein canol ? JOHN Y BASSWR. Oh, Oh! Ni wyddwn i ei fod wedi enill y fath enw mawr fel can- twr; ond y mae rhywbeth i'w ddysgu yn y byd yma bob dycid. Daeth y ddau frawd i'r penderfyniad o gynyg y genius yn farnwr y canu yn yr Eis- teddfod nesaf. "Yankee Doodle" fel Dou- ble Chorus i fod yn brif destyn, a gwobr o 150 o sentiau. Ar hyn aeth y ddau ym- gomydd i ffwrdd. Y r eiddoch—Llygadog.
LLINELLAU
LLINELLAU Ar farwolaeth Anna fach, unig blentyn T. Solomon G iffiths, Ysw., a'i briod, Utica, N. Y. Pan wenodd lili fechan Yn yrnyllili lwys, rhosya gwridog arall Yn gwenu ar ei pllwys; Fe hawliai'r rhos a'r lili Y lili fechan hon— Cydwenent mewn edmygedd 0 gylch y fechan Ion. Ond daeth rhyw angel heibio Rhyw foreu trwy yr ardd, A rhoddodd ar ei fynwes Y lili fechan hardd; 'Roedd swynion byw y fechan Y fath nis gallai ef Ei sadaelar y ddaear- Cymerodd hi i'r nef I Cyflwyno wnaeth y fechan I Frenin "nef y nef"- Mae heddyw ar ei fynwes, Yn anwyl ganddo ef; Ond eto'r rhos a'r lili riy'n bruddaidd yn yr ardd, Ar ol y fechan anwyl, Eu gwenau byth ni thardd Daw eto'r angel hwnw Rhyw adeg yn y dydd, Efallai mai'n brydnhawnol, N en mai yr hwyr y bydd, Gan ddwyn y ddau sy'n aros, Yn welw iawn en gwedd, Ac O! mor brydferth byddant Yn ngardd "tragwyddol hedd." Utioa, N. Y. DWYFOR.
Advertising
A LLAN O'R WASG J-A- YR ARWEINYDD CYFLYM! I ddysgu darllen Cymraeg- ar gynllun newydd, byr a chyflym, at wasanaeth yr Ysgol Sabbothol-70 cents y dwsin. Hefyd, CAIZDIA-RJ YN CYNWYS Y PEDAIR GWERS GYNTAF, i'w rhoddi yn nwylaw plant bychain-45 cents y dwsin. Sample Copy o'r llyfr, 10 cents yr un. Anfoiier at SAMUEL WILLIAMS, Market St., Wilkes-Barre, Luzerne Co., Pa. 47'75-3m HAVE YOU A DOLLAR? FOR ONE DOLLAR We will send, postage paid, THE WEEKLY WORLD ONE YEAR- 1. It contains ALL THE NEWS of the past seven days, collected by the agents and corresponden ts of the New Yi.rk Daily World, and in fulness, accuracy and enterprise in this respect is unequalled. 2. Its AGRICULTURAL DEPARTMENT contains the latest news of farm experiments at home and abroad contributions by home and foreign writer, full re- ports of the Farmers' Club of the American Insti- tute, and quotations of valuable and interesting ar- ticles appearing in the agricultural weeklies°and magazines. 3. Its GRANGE NEWS, to which attention is special- ly called, is a feature which can be found in no other paper. All the resources at the command of a great metropolitan daily newspaper are employed in its collection, and the result is a page each week where the members may find a complete record of the work of the order in every State in the Union for the past seven days. In addition to this weekly record, The World gives the cream of all the local grange papers in every State. This Department is and will con- tinue to be under the charge of one of the active members of the order. 4. For the FIRESIDE DEPARTMENT, in addition to its other. attractions, such as poetry, miscellany, hu- morous extracts, &c., during the coming year, there will be not less than one hundred short tales by the best writers of fiction in England and America. 5. The MARKET REPORTS, brought down to the hour of publication, are the best that can be made. Each market is reported by one whose special knowl- edge and training make him the best authority upon that subject in the United States. For accuracy and completeness the market reports of The World are unrivalled. The World is not only the best, but the cheapest newspaper ever offered the farmer." SEMI-WEEKLY (104 Nos.), $2 a year. DAILY (303 Nos.), $10 per year. Specimen copies sent upon application. Address "THE WORLD," 51-6t 35 Park Row, New York. 11\, "UU TW GO&iEUKT Y BYD." Bydded hysbys i bawb fod Gorsedd Gyrch Canol- barth Efrog Newydd, a Gorsedd Gyrch Dyflryn y Penobscot, i gael eu cynal ar amser yr Alban Arthan, diwedd y flwyddyn 1876-y flaenaf ar Ddydd yr Wyl, a'r olaf ar Ddydd y WIedd, ac y bydd yn bresenol yn mhob un o'r ddwy—Menw-mab-y-Teirgwaedd, PJen- nydd, Alawn, a Gwron a'r Wen-Fari Fendigaid, gyda'n cynrychiolyddion, James Davies, D. B. D., Michael McMullen. D. B. D., Benjamin F. Thomas, D. B. D., Archibald F. Lennox, D. B. D., a Joanna E.- Davies, O. B. D. Cyhoeddir y WAIDD am y gorseddau uchod ar amser priodol yr Alban Arthan eleni. a bydd y gwaith a gyflawnir ynddynt yn hollo] yn ol Braint a Defod "Beirdd Ynys Prydain. Gorsedd Canol- barth Efrog Newydd a gynelir yn nillas Utica, N. Y., ac eiddo Dyffryn y Penobscot yn ninas Bangor Maine. ° 'L- f • ?/ eo Anfonwn Engraifft o Lawysgrifen Brydferth I bwy bynag a rydd i ni enwau a chyfeiriad Dynion Ieuainc cymwys o ran oedran i fyned i Business (Jollejsre. Ysgrifenwch am Raglen (Circular) newydd hardd sydd newydd gael ei gyhoeddi. Yr ydym wedi symud i adeilad cyfleus, yr hwn sydd wedi ei ddod- refnu yn ddestlus. Athrawon galluog, hynaws a charedig: bwrdd rhad. Dylai pob dyn ieuanc gael cwrs o efrydiaeth mewn coleg masnachol. Cvfeirier McCHEARV & SHIELDS Athrawon, Bryant & Stratton Business College, Utica, N. Y D O D R EE R N YN MAHANOY CITY, PA. Y mae JOHN BRADLEY yn gwneyd pob math o Ddodrefn yn y modd goreu, ac yn eu gwerthu am y prisiau iselaf. Telir sylw neillduol i ANGLADDAU, a gwneir COFFINIAU yn y modd goreu. Cofiwch ei store 50 CENTRE ST., MAHANOY CITY, PA. ^lincinnati Weekly Star, An Independent J Family Newspaper. 8 Pages,djl Per Year, 48 Columns of Reading. I Postage free and the finely illustrated Star Almanac furnished every yearly subscriber FREE. The FARMER, MER- CHANT and MECHANIC in any part of the country will find this the best of the weeklies, to say nothing of the low price. Agents are offered inducements su- perior to anything heretofore attempted. Specimen copies free. Address. "THE STAR," Cincinnati, Ohio. L. B. WILLIAMS, G WA WL-ARL UNYDD, UWCHBEN 77 & 79 GENESEE ST., UTICA, N. Y. Cymerir pob math o arluniau, yn y dull goreu sydd yn bosibl. 8.75tf p}ISLEY, STODDARD & MATTESON, ATTORNEYS AND COUNSELLORS AT LAW Mather Block, Cor. Bleecker & Genesee, Utica. E. H. RISLEY, D. C. STODDARD, M. A. MATTESON. "LLINELL Y WHITE STAR. Agerlongau yn cario Llythyrgodau y T. U. 0 NEW YORK BOB DYDD SAD WEN. 0 LIVERPOOL BOB DYDD IAU. Pris yn y Caban 0 $70 i $100, mewn aur. SteeraGe $30, mewn arian papyr. AGENTS YN UTICA-GAIN L. FAY, 1 Bagg's Hotel. a P. J. MCQUADE. Stearn Woolen Mills. 18'ly Llyrfrau Llyfrau NWYDDAIT YSGRIFENU, &G. GILBERT & SALISBURY, 117 GENESEE STREET, UTICA, New YOTK. yCy°niyfsayaf ° LyfraU 711 nghanolbarth Feiblau o bob maint a phris. Llyfrau Ysgolion o bob math. Llyfrau Hancsyddiaeth pob gwlad. Llyfrau Duwinyddol, &c. • Amrywiaeth mawr ° Lyfrau at wasanaeth Ysgol- ion Sui, a Llyfrgelloedd Ysgolion Dyddiol. trweithiau yr holl Feirdd Seisnig o enwogrwydd, hen a diweddar. & Y mae senym hefyd nifer mawr o bethau tlysion 1 w rhoddi yn anrhegion Nadolig ac at "Christmas Trees." Yr ydym yn gwerthu yn rhad, ac y mae ein nwyddau o'r fath oreu. BENJ. D. GILBERT, WM. K. SALISBURY. 178 Genesee Street, Utica, N. Y. tW- ANFONIR LLYFRAU I UNRHYW GYFEIRIAD GYDA'R MAIL AR DDERBYNIAD EU PRIS. DYMA Y FFORDD FWYAF HWYLUS I'R CYMRY I GAEL LLYFR- AU SEISNIG AR WAHANOL GANGENAU. 46
Family Notices
GANWYD- WILLIAMs-Hydref 22, merch i "William J. a Jane Williams, Yonngstown, 0., gynt o Bed- ford; gelwir hi Mary Elinor. I Mary Elinor boed hedd A hawddfyd i dreulio ei hoes, Na fydded un gwg ar ei gwedd o lierwydd trailodion a chroes; I'w thad mae'n brif wrthrych ei serch, I'w mam yn llawn tegwch a bri, Mae'n meddwl y byd am ei merch, Ei chyntaf-anedig yw hi. CYFAILL. DA VIES- Y n ardal Pike Grove, ger Ra- cine, Wis., mab i. Mr. Joseph L. Davies a Jane ei briod; gelwir ef Robert Wynn. RICllAImS- Rhagfyr 5, yn Chicago, Ill., il merch i Mr. John Richards a'i briod; gelwir hi Lilly Elmira. BROWN—Rhagfyr 15, yu Chicago, IlL, efeilliaid i Mr. John Brown a'i briod; gelwir eu hcn- wau Mary a Martha. rillOD WYD— DAVIES—EVANS—Rhagfyr 11, yn Erie, gan y Parch. R. J. Van Valkenberg, Mr. James E. Davies a Miss Phcebe E. Evans, oil o Denver, Colo- rado. HOOPER—JONES—Rhagfyr 18, yn Free- dom, N. Y., gan y Parch. James Griffiths, yn ei dy ei hnn, Mr. James Hooper, trydydd mab D. P. Hoop- er, Ysw., Farmersville, a Miss Mary E. Jones, merch hynaf Mr. Morris M. Jones, Freedom. THOMAS- ROBERTS — Rhagfyr 22, yn Remsen, N. Y., yn nhy Mr. John O. Roberts, tad y briodasferch, gan y Parcn. David M. Jones, Mr. Evan T. Thomas, o Prospect, a Miss Ann Roberts, chwaer yr Anrh. James Roberts, Utica, N. Y. W ILLIAMS- THOMAS— Rhagfyr 23, yn nhy tad y briodasferch, 6 Union St., Utica, N. Y., gan y Parch. James Jarrett, Mr. John Trevorian Williams a Miss Ellen Thomas, y ddau o'r ddinas hon. Wedi hwyr ddistaw aros-yn y maes Yn mygg y blodionos, Cafodd loan lan linos I'w nghanol nos. A delw Sion a'i dlysineb—yw hon, I gynal sirioldeb: Elen gain, a,, ei gwyneb, A fola'n awr o ilaen neb. Mwyniant ymweliadau mynycli-gaffoch, Heb gyffrodd ag oernych; A wedi y priodych- Dyro dramp-dywed i'r DBYCH. IONOBON GLAN DWYRYD. Treforian fu'n trafaelu-am Ellen, Ei eilun anwylgu; Trwy ryw fodd i'w ryfeddu, Fe galtli ygam eneth gu. SETH LLWYD. Byd dyddan hoywlan a weloch,-dyddiau Dedwyddion a gaffoch; Engyl o blant fo rhyngoch, A byw'n gariadus y boch. PARRY—THOMAS—Rhagfyri, yn nhy H. M. Thomas, Ysw., Hunter's Point, Long Island, N. Y., gau y Parch. W. A. Granger, Mr. Robert L. Parry, gynt o Felinfechell, Llanfeehell, Mon, a Miss Winifred Thomas, gynt o Blaenau Ffestiniog. Meir- ionydd. Wrth gofio melin Mechell A'i phedair asgell wen, Yn chware' a'r awelon Yn nghrog rhwng dae'r a nen; Daw hefyd i'm cof Kobert, Mab Robert yr hen ddyn, Pryd hwnw'n grwtyn ffraethbert Yn awr yn berchen mun! Iechyd, llawnder a llawenydd, Hogiau hefyd llawn ymenydd, Gydag etifeddiaeth crefydd, Fyddo n rhan i Bob a Wini Tra rhed dwr i'w gartre' heli! W. P. E. W ARREN-HUMPHREYS- Tachwedd 24, yn nhy Mr. Evan L. Evans, Fish Creek, Wis., gan y Parch. H. M. Pugh, Bangor, Mr. Silas Warren a Miss E. Jane Humphreys. B U FAR W— EVANs-Rhagfyr 15, Robert Evans, mab Mathew ac Elizabeth Evans, Coalburgh, Ohio Y dydd canlynol ymgasglodd Iluaws o gyfeillion a pherthynasau i dalu y gymwynas olaf iddo, pryd y gwasanaethodf; yr ysgrifenydd yn nghanol dagrau a theimladau trallodus ei fam. JONEs-Rhagfyr 10, yn Russel Gulch, ger Central City, Colorado, Edward, baban Mr. Edward Jones a'i briod, yn 5 mis oed. Ei glefyd oedd pneu- monia. Er byred oedd ei oes, gellir dweyd mai oes o nychdod oedd. Ond er mor afaelgar oedd ei dad a'i fam ynddo, gwywo a wnaeth y blodeuyn-gal- wodd Duw ei eiddo ato ei hun Dranoeth ymgasgl- odd torf o'r cymydogion i weinyddu y gymwyDas olaf i'w ran farwol. Yn y ty gweddiodd y diacon McKee yn Saesneg, yna traddododd y Parch. O. M. Williams, Central, bregeth oddittr 2 Bren. vi. 5, ac ar lan y bedd yn Saesneg gan Mr. McKee. CYFEILLES. JONEs-Rhagfyr 14, 1875, bu farw yr hen bererin addfwyn, Mr, Morris Jones, Bethania, Marcy, ger Utica, N. Y., o fewn tua 12 diwrnod i fod yn 90 mlwydd oed. Tarawyd ef ychydig ddyddiau yn flaenorol gan y parlys mud, a bu farw mewn tawelwch. Ganwyd ef ar ochr Carn Fadryn, plwvf Llaniestyn, Lleyn, swydd Garnarfon.'yn y flwyddyn 1785. Symudodd i Eiflonydd, a phriododa Elizabeth Jones, merch Tynllan, Llanarmon, a chwaeri Wil- liam Jones, Ffordd yr Afon, ger Utica. Buont yn byw yn Tynygroes, Llanarmon, o fewn pedair milltir i Bwllheli, ac oddiyno ymfudasant i America, 44 o flynyddoedd yn ol. Sefydlodd Mr. Jones yn Marcy, lie y daeth yn feddianol ar ffarm; ac yno y bu mewn diwydrwydd hyd ddydd ei farwolaeth. tiadawodd weddw a plmmp o blaut mewn oed. Y dydd Gwen- er canlynol yiiigynullodd yr ardalwyr i'r augladd, ac er fod y diwrnod yn un hynod o dymestlog, daeth tyrfa fawr yn nghyd. Pregethwyd yn y capel yn Saesonaeg gan y Parch, R. G. Jones, D. D.; ac yn Gymraeg gan y Parch. William D. Williams, Deer- field. Claddwyd yr ymadawedig yn mynwerit capel Bethania, ac yn ymyl ei hen gartref. Yr oedd Mor- ris Jones yn ddyn hynaws a chyfeillgar, ac yn gref- yddwr dichlynaidd, a gair da iddo gan bawb. OWEN—Yn Aberdyfi, swydd Feirionydd, G. C., bu farw Evan E. Owen, yn 21 ml. a 3 mis oed, yn nhy ei dad, Humphrey Owen. Daeth i'r wlad hon ychydjg dros adwy flynedd yn ol, ac fe aeth i ddysgu argraffu; ond buan y deallodd nad oedd hyny yn cytuno a'i gyfansoddiad; ac yn Gorphenaf di- weddaf, symudodd i Utica i swyddfa y DRYCR, gan ddisgwyl i hyny ei gryfhau, ond i'r gwrthwyneb y bll; a thrwy garedigrwydd y cyfeillionyn Utica, yn neiilduol J. C, Roberts, dychwelodd i Norfolk, Va., at ei fodryb, ac oddiyma i'r Hen Wlad, yn niwedd Medi, ac ar yr 22ain o Tachwedd hunodd yn yr Iesu. Claddwyd ef yn Towyn gan dyrfa luosog.
Y DIWEDDAR BABCH. B. DAVIES.
Y DIWEDDAR BABCH. B. DAVIES. Yn y DRYCH, Rhagfyr 16eg, gwnaed crybwylliad am farwolaeth tra sydyn y Parch. Rees Davies, boreu y 14eg o'r un mis, yn 61 mlwydd oed. Claddwyd ef y dydd Gwener canlynol, pryd yr ymgynull- odd un o'r torfaoedd mwyaf a welwyd er's llawer o amser i'r angladd. Cyn cychwyn y corff o'r ty, darlienodd a gweddiodd y Parch. David T. Davies, yna aed i addoldy y Trefnyddion Esgobawl ar heol South, a chyllawnwyd y gwasanaeth angladdol, drwy ddarllen, gweddio, a llefaru gan y Parchn. William O. Williams (Gwilym o Fon), Humphrey Humphreys, a dau o weinidogion Seisonig. Wedi hyny cych- wynodd yr arwyl am gladdfa Forrest Hill, lie rhocldwyd gweddillion yr ymadawedig i dawel orphwys, ar ol bywyd llafurus a diwjd. Ganwyd y Parch. Mr. Davies mewn He o'r enw Pontyfylindra, ar yr hen ffordd o'r Towyn i Aber- gynolwyn, Meirionydd, G. C., ac o fewn haner mill- tir i Bryn Crug, plwyf Towyn, yn y flwyddyn 1814. Ei dad oedd Joseph Davies, mab ieuangaf Dafydd LlyweJyn, Cyrgenaa, lie heb fod yn mhell o Ddol- geilau. Pan oedd tua 18 mlwydd oed cymerwyd ef yn egwyddor-was i ddysgu y gelfyddyd o saer coed gyda.Mr. Humphrey Jones, yr hwn hefyd oedd yn bregethwr cynorthwyol gyda'r Wesleyaid, a thad y Parch. John Jones, Racine, Wisconsin. Symudodd Mr. Davies oddicartref pan oedd tuag ugain oed, ac aetn i Dredegar, Deheudir Cymru, lie bu dros enyd o amser. Ar ol dychwelyd. ymsefydlodd yn Llan- i'aircaereinion, ac yno y priododd. Symudodd yn ol drachefn i Dredegar, ac yn fuan dechreuodd breg- ethu. Bu yno dros ysbaid o amser y tro hwn, ond symudodd eilwaith i Lanfaircaereimon, He yr arhos- odd hyd nes yr ymfudodd i America yn 1844. Ym- sefydlodd yn Utica, a bu ef ac eraill yn foddion i sefydlu actios Wesleyaidd Cymreig yn y ddinas. Wedi trigiann tua blwyddyn yn y ddinas, symudodd i Trenton, swydd Oneida, lie yr oedd achos gan yr enwad y perthynai iddo. Cafodd ei ordeinio i gyf- lawn waiih y wcinidogaeth yn fnan, a llafuriodd gyda sel a diwydrwydd mawr" yn Sixty, Steuben, a lleoedd eraill. Yn y cyfamser, symndodd i Utica, lie y llafuriodd hyd ddydd ei farwolaeth. Ni welodd ond caledwaith ar hyd ei oes, a hyny o wirfodd ei galon; a thrwy ei ddiwydrwydd anarferol, casglodd swm mawr o eiddo i adael i'w weddw a'i amddifaid. iii>
MARWOLAETH Y PARCH. THOMAS…
MARWOLAETH Y PARCH. THOMAS JONES. Fel y crybwyllwyd yn fyr yn y rhifyn diweddaf, bu y Parch. Thomas Jones farw Rhagfyr 19, yn ei anedd-dy ar fryn Deer- field, ger Utica, N. Y., yn 81 mlwydd oed. Symudodd i'r wlad hon 19 o flynyddoedd yn ol, o Benygongl, Pantglas, Arfon, ac vmsefydlodd yn Remsen. Yn y cyfamser, symudodd i Floyd—oddiyno i Trenton, ac wedi hyny i Deerfield. Yr oedd yn rhy wael i allu pregethu er's cryn amser; ond bu yn weithgar a diwyd tra y parhaodd ei nerth. Ymgynuilodd tyrfa barchus i dalu y gymwynas olaf i'w weddillion ar y 23ain, a gweinyddwyd yn yr angladd gan y Parch. Win. D. Williams. Claddwyd y gweddill- ion yn mynwent Capel y Gulf.' Mae dau ion yn mynwent Capel y Gulf.' Mae dau fab gartref gyda'r weddw, a dwy ferch yn Nghymru-un yn Nantlle, a'r llall yn yr hen gartref, ger Pantglas.
[No title]
REMSEN, N. Y.—Y mae yma lawenydd anarferol, am fod y gohe bydd celwyddog, bradwrus, dichellddrwg a Judasaidd, a an- fonodd nodyn oddiyma i'r DRYCH dro yn ol o dan y ffugenw Edno," wedi ei ddal. Yr ydwyfyn gwybod am amryw lythyrau a anfonodd'oddiyma i'r DRYCH, ac yr oedd y rhai hyny a mantell cyfeillgarwch dros- tynt fel yr oedd yn anmhosibl adnabod mai ffugiol a bradwrus oeddynt, ond gan rai o'r gymydogaeth hon. Ond bydded hys. bys i bawb o Gymry Remsen a'r amgylch- oedd, ei fod wedi ei ddal o'r diwedd. Ar nos Sul yn ddiweddar yr oedd yn gochben uchel yn gwrando ar y cor yn canu, a bu- asech yn meddwl arno na fuasai yr ymen- yn yn toddi yn ei geg; ond wele ef cyn pen tridiau yn fradwrus yn ceisio diraddio y cor trwy anfon llythyr i swyddfa y DRYCH, yn cymeryd arno fod wedi ei law- nodi dros y cor, a chan un o honynt. 0 fradwriaeth, onide? Ond i dewi, diolched pawb ei fod wedi ei ddal yn ei rwyd ei hun. Gwelwyd ef yn llechwraidd, fel ci yn lladd defaid, yn myned a chynyrch ei ymenydd gwag i'r llythyrdy pan oedd ef yn meddwl ei fod yn ddigon diogel, y llyth- yrdy wedi ei gau a phawb mewn hun a heddwch. Ond yn ol yr hen ddiareb, nid hiry ceidwd-lei was. Hyn, gan ddy- muno eich gweled chwi a phob Cymro yn yr Eisteddfod.—Sion Wvtffra.
YMOFYNIAD AM
YMOFYNIAD AM WILLIAM DUNCAN a MARY JANE, ei wraig, y rhai a aethant o ardal Ebensburg, Pa., i Colorado, tua dwy flynedd yn ol. A chan nad yw ei-thad a'i mam, syddyn byw yn Nicktown, heb fod yn mhell o Ebens- burg, wedi clywed dim oddiwrthynt er's pedwar mis, maent yn bur anesmwyth am danynt. 'Os digwydd y llinellau hyn ddy- fod i'w llaw, neu i law rhyw rai sydd yn gwybod rhywbeth am danynt, bydd eu rhieni yn ddiolchgar iawn am air oddi- wrthynt. Yn Colorado yr oeddynt pan y clywsant ddiweddaf oddiwrthynt. Cyfeir- ier—John Davies, Nicktown, Cambria Co,, Penna. 51 —