Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

AR FARWOLAETH

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AR FARWOLAETH Mrfl. Jones, priod Rees Jones. Ysw., Cymau. ger Wrexham, D. C., a mam Ymyl AlvnShenan- doah. Pa. Yr oedd Vrs. Jones yn ddiarebol am ei duwioldeb, yr hyn a'i gwnai yn hynod am ei hel- usenau i'r ilodion. Y corwynt aruthrol ddiwreiddiodd y dderwan, Yr awel wenwynig ddifwynodd y rhos: Yr ardd sydd a'r goedwig yn teimlo'r gyflafan, Mae un wedi syrthio-un anwyl a thlos; Fel derwan yn nghanol pianigfa yr eglwys; Fel rhosyn blodeuai yn hardd yn ei thy; Ei nherth mewn esiamj.l er hyn a fyth erys, Fel rliosyn arogla y llanerch y bu. Mae colli un anwyl—y fam rinweddolaf, Yn ddyrnod nas gellir yn hawdd ei gyd-ddwyn; Ei phriod hawddgarol. a'i phlant gor-anwylaf, Syèd heddyw'n och'neidio gan adrodd eu cwyn; Cym'dogion a wylant am law mor liaelionus, A Seion ruddfana am golli y fam- Hen" Gymau" anwylaf sydd heddyw'n gwynfanus- Pa fodd y rhoed iti trwy hyn y fath gam? Paham y caethgludwyd y seren ddisgleiriaf ? Paham yr ymgiliodd y leuad wen hardd? Paham? meddai priod a phlant gorhoffnsaf, Paham? meddai Seion—Paham? medd y bardd: Ai am fod awyrgylch yn ngliyntoedd y. nefoedd, Gyfetyb yn bnrach i'th natur bur di ? Ai ynte am alwad gan Arglwydd y Lluoedd," I lenwi rhyw goron sydd uchel ei bri? Ai eisiau rhyw berlyn, a hwnw'n un disglaer, Nol cynllun yr Arfaeth i harddu y nef, Ar ben y Gwaredwr, mewn coron dra-lachar, Fu'r achos it' fyned i'w goron hardd ef? (Ha! ddiogel Arfaethau yr-Hanfod Fendigol) Mae heddyw'n ddiogel yn ngliyutedd y gwawl, jtlewn nndeb a'i Phrynwr, a hyny'n drsgwyddoi, Rhoed nerth i'w rhai anwyl i uno ei fawl. Utica, N. r. DWYFOR.

[No title]

[No title]

MR. MOODY FEL PBEGETHWK.

[No title]