Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
►4 WEEJtLT JVEWSTjl&Eft. ESTABLISHED 1851. Issued Every Thursday Morning. T. J. GRIFFITHS, Proprietor, UTICA. N. Y.
Eira a Rhew, Oer Yw'r HiE.
Eira a Rhew, Oer Yw'r HiE. O! maeln oerl dacwdomen eira,-arhew Mawr iawn; ac os dalia Am hir enyd, mi ryna' Yn ben ddyn rhwng danedd ia. Cewri anian sy'n crino,-hen Ferwyn Sy'u farw mewn amdo; J. A nifer hyd fy hen fro Sy' dra agos i drigo. O! am laith unwaith wnal enill- ddoe'n ol, Neu ddwyn haf i'mhenill,- Byw ar lwybrau hael Ebrill, Yn mysg main, miwsis; a mill. Y lawn, awenol, Ion anedd,-hen gwm Y gemau diddiwedd- Ar y Ile hwnwlr Ilynedd, Ac is li sel o, oes i wledd. G,vihial adar hyd frig y bedw,-alr y*nn; Ac yr oedd y gwcw Yn gwau dau nod gyda nhw, Yn mynwes y cwm hwnw. Och fi I rhag eira gorwyn,—ie'n wir, Ni waeth genyf ddisgyn I 'winedd llew, mo'r blewyn, Neu bafl arth, na byw fel hyn. L?ety'r Awen. DEWI HAVHESP. "8 t
ANNIBYNIAETH NEWYDD-IADUROL.
ANNIBYNIAETH NEWYDD- IADUROL. GAN D. C. DAVIES, M. D., COLUMBUS, WIS. MRI. GOL. Dywedir mai UN newydd- iadur annibynol sydd gan y Cymry yn America, ac mai y DRYCR ydyw hwnw! Ai gwir a ddywedir?. Gallem gasglu oddiwrth yr ymosodiadau mynych, amrai a ffyrnig, a wneir arno gan ei elynion, mai anwir yw yr hyn oil a ddywedir am dano-mai newyddiadur ymhoniadol, dienaid, digref- ydd, diegwyddor a dibobpeth da ydyw— ond mae y ffaith fod y DRYCR wedi sefyll yn ddiysgog yn ngwyneb pob gwrthwyneb- iad, am chwarter canrif o amser, gan gynyddu mewn cylclirediad, gallu, a dylan- wad, yn ystod yr amser hirfaith hwnw, yn brawf diymwad mai gwir, a gwir diamWys a ddywedir am dano! A chofied y darllen- ydd mai nid "sebon meddal" yw hyn, ond mai damlygiad o deimlad p irchus, neu os myner, o gyfiawnder haeJd;anol, tuag at hen gyfaill, yr hwn a adwaenasom am dros ugain mlynedd ydyw—tuag at un sydd wedi profl ei hun yn dwr cadarn i'r hwn sydd yn enill ei fara drwy chwys ei wyneb, yn gystal ag yn elyn eiddigeddus i orthrwm a thrais—ie, tuag at un sydd wedi profi ei hun yr un, ddoe a heddyw, yn newyddiad- ur annibynol, yn ngwir ystyr a helaeth- rwydd y gair! Pa fodd mae y DRYCH wedi cyraedd y safle oruchel hon? YN UNIG TRWY GADW AT Bi AiR; Egwyddor sylfaenol y DRYCR, yn yr amser a aeth heibio, yn gystal a'r presenol, ydyw annibyniaeth mewn barn -"RhYdd i bob meddwl ei farn. ac i bob barn ei llafar"—ac yn hyn mae gwir ddir- gelwch ei lwyddiant yn gynwysedig. Nid oes eisiau prawfion o hyn, o herwydd mae ei luosog ddarllenwyr yn dystion byw o'r egwyddor hon, ac o'r dadblygiad parhaus a wna o honi, yn gystal ag o'i lwyddiant di- gyffelyb mewn canlyniad. Wrth ddweyd i n' ydym yn golygu fod yr hen gad- g oddiwr yn anffaeledig—ei fod bob amser t we I dangos rhyw allu anfeidrolgoruwch ei n^tfyf0e^i0n~"yn mllob Peth a syrthiodd ddiaunerfodeifddyledSWydd; na' mae yn syrthio i'r u' J *ag unwaith' wedi newyddiaduron y^Tddag J h°U syrthio iddo, sef m°r dueddo1 0 y lluaws! Pryd arall ?°JOTm°d 1 f°ddi° rliy hunan-foddog dros p" ^.on yn (iawn neu gam), pan nad f'™ sicr, na all yr un dyn eerHH a J yn heb lithro! Tu oto.8,^ b*d ambell dro wedi bod yQ euao- °n' f°d ddrws golygyddol dipyn bach °yn °rhv lydan i ambell i ohebydd diegwyddor a dihidio am ddim ond am gecru a drygu cymdeithas! Ond, pa un bynag a ydyw wedi bod yn euog o'r pethau hyn ai peidio mae un peth yn sicr, a hyny yw hyn-tra ceidw y DRYCR at ei addewid o fod yn an- I nibynol mewn barn, ofer ydyw pob ym- drech at ei enllibo a'i bardduo, o herwydd mae ei lwyddiant mor sicr yn y dyfodol ag y bu yn y gorphenol. Mae yn rhaid i ni gofio "fod y bydyn cylchdroi" mewn mwy nag un ystyr, ac mown canlyniad, fod y trigolion yn dyfod (o dywyllwch y nos i oleuni y dydd) yn fwy goleu o ddydd i ddydd; ac fel mae y goleuni yn cynyddu, mae gorthrwm a thrais yn sicr o ddiflan u Beth a olygir wrth annibyniaeth newydd- iadurol? Y gwrthwyneb hollo] i'r hyn a ddamlygir gan waseiddiweh caethiwol newyddiaduron enwadol a phleidiol, pan yn trin pynciau crefyddol neu wleidyddol; neu, mewn geiriau eraill, y golygydd, trwy ei newyddiadur, yn cyhoeddi i'r byd ei olygiadau, gyda chydwybod ddirwystr, am berson neu bersonau, am blaid neu bleid- iau, am enwad neu enwadau, ac ar bwne neu bynciau, a chredo neu gredoau, a fyddo yn hawlio ei sylw fel golygydd. Yn ol y dosbeniad yna, mae yn amlwg mai y gwahaniaeth a fodola rhwng newyddiadur annibynol ac un pleidiol neu enwadol, yd- yw y gwahaniaeth o ryddid a chaethiwed, canys nid yw wahaniaeth gan ba beth mae y golygydd yn cael ei gaethiwo-gan ba beth y mae yn cael ei orfodi i weithredu- os nad yw yn feddianol ar y gallu o ddefnyddio ei ewyllys rydd ei hun, mae y golygydd hwnw, o angenrheidrwydd, yn gaeth; ac ni all, mewn dim, fod yn an- nibynol ei farn! Gwyr y darllenydd cystal a minau, mai anaml y ceir golygydd newyddiadur en- wadol neu bleidiol, yn ddigon dewr i gy- hoeddi ei feddwl yn rhydd a gonest ar bynciau y dydd; ae, yn wir, pan y ceir un yn meddu ar y dewrder angenrheidiol, ceir cant yn myned i'r llewygon, gan groch- waeddi, "ymaith il'r adyn!" Ar bwy mae y bai? Nidar y golygydd yn hollol-yno mewn rhan, fe ddichon—ond ar y darllen- wyr eu hunain y rhan amlaf y mae y prif fai, o herwydd cofier mai amcan y itolygydd ydyw boddio y darllenwyr, a hyny fel rheol mae yn wneyd. Mae ef, o angenrheidrwydd, fel y marsiandiwr, yn cynyg ei nwyddau yn y farchnad, ac yno eu gwerthu yn ol yr ymofyn fydd am danynt. Os bydd ei nwyddau yn anerbyn- iol gan y lluaws, mae yn myned ac yn maniffactro rhai mwy gwerthadwy, o her- wydd mae yn rhaid i'r darllenwyr gael eu plesio, a hyny ar draul lliwio neu gelu y gwir! Os un wleidyddol fydd yr erthygl, mae yn rhaid iddi fod yn Werinol; ac os un grefyddol, mae yn rhaid iddi fod yrr un- iongred; a "dim lol," (chwedl Llew Llwyfo.) Bydded i ni am foment, gymer- yd yr ymdrechfa arlywyddol fel engraifft o arferiad y newyddiaduron nad ydynt an- nibynol: Os bydd i newyddiadur sydd yn proffesu ymlyniad wrth y blaid Werinol fod yn feddianol ar ddigon o wroldeb i ddweyd nad yw yr ymgeisydd a'r ymgeis- ydd y dyn goreu a ellid ei gael-ei fod yn ddiffygiol yn mhrif anhebgorion Arlywydd teilwng a Ilwyddianus-beth yw y canlyn- iad? Y canlyniad yn ddieithriad yw gwob- rwyo gonestrwydd golygydd y newyddiad- ur hwnw, S'r termau budraf, megis "brad- wr," "cudd-lofrudd," &c., heb gymaint a thalu y sylw lleiaf i'r rhesymau sydd ganddo dros ei ymddygiad! Heblaw hyn, os bydd i newyddiadur y blaid fod yn meddu ar ddigon o orhyfder i godi ei lais yn erbyn amryfusedd, megis gwladlywiaeth y blaid, ymddygiadau y blaenoriaid, &c., mae y newyddiadur hwnw yn sier o gael ei alw i gyfrif, a'i gyhoeddi ar hyd a lied y wlad fel yn anffyddlon, bradwrus, ac yn deilwng wrthrych alltudiaeth! Mae y dull hwn o weithredu yn mhlith newyddiadur- on pleidiol, mor hysbys, fel mai gwastraff ar amynedd ac amser ydyw ei ail adrodd. Wel, os yw felly yn y byd gwleidyddol, pa fodd y mae hi yn y byd crefyddol, o her- wydd cofier fod gan grefydd ei newydd- iaduron yn gystal a gwleidiadaeth ? Gwaeth fyth, fel mae gwaethaf! Ie, os bydd i ni edrych i'r maes toreithiog hwn, ni a gawn fod yr olygfa yn dorcalonus dros ben; ac nid heb reswm, o herwydd dyma'r fangre y cafodd y gormesdeyrn hwn ei fodolaeth! Onid yw hanes yr eglwys-ei chredo a'i mympwy—wedi ei fritho gan brofion an- wadadwy o eiddigedd y teyrn hwn at an- Dibyniaeth barn? Ac onid yw ei ysbryd yn parhau yn ein plith hyd heddyw? "A wado hyn, aed a hi." [I'W ORPHEN YN EIN NESAF.]
0 GYMRTT I AWSTRALIA, AC YN…
0 GYMRTT I AWSTRALIA, AC YN OL, via ST. HELENA. GAN TOM AP DAVIES, CHURCH HILL, OHIO. YSGRIF lL Tra. yn pasio Meridian Penrliyn Gobaitli Da, sef y pwynt mwyaf deheuol o gyfan- dir Affrica, gwelem filoedd o golomenod y Penrhyn-os oedd y rhai hyn yn perthyn i bobl y Penrhyn, yr oeddynt o leiaf 300 milltir oddicartref. Wedi pasio neu fyned o amgylch y Penrhyn, eymerwyd cwrs tua'r dwyrain, ar draws y Cefnfor Indiaidd, heb i ddim neillduol ddigwydd oddieithr i ni ddyfod o fewn yehydig latheni i long Ysbaenaidd un boreu. Clywais hwynt yn siarad, ond nid oeddwn yn deall neb o honynt ond y ci Newfoundland oedd gan y Cadben; yr oedd hwnw yn cyfarth yn Gymraeg, fel cwn Cymru. Cyraeddasom Adelaide, South Australia, yn ddiogel, wedi morio dyfal am 88 o ddyddiau. Gan fod peth o hanes fy helynt yn y wlad bell hono wedi ymddangos eisoes yn y DRYCH, nid ymhelaethaf. Pan yn dychwelyd oddi- yno, dringais i fwrdd llong hwyliau new- ydd ac ysblenydd o'r enw Glen Ormond, yr hon oedd yn llwythog o wlan, ac yn rhwym i Lundain, dan lywyddiaeth Cad. H. R. Angel. Credais y buaswn yn cael mordaith hwylus, ond yr oedd tua 70 o deithwyr yn y Caban, ac nid oeddynt yn foddlon i forio heibio Cape Horn, am yr ofnent i ni ddyfod i gyfarfyddiad a ifi- fryniau, ac am y gwyddent y cawsem dywydd oer, er y cawsem wynt ffafriol a mordaith fer; ond bu raid hwylio trwy hinsoddau cynes. heibio i'r Penrhyn Go- baith Da, a galw am nwyddau fresh yn St. Helena. Croeswyd y Cefnfor Indiaidd yn araf iawn, am y byddenl weithiau yn aros ddau ddydd neu dri o eisiau gwynt; o'r diwedd daethom i olwg Natal, esgob- aeth Colenso yn Affrica; yna cafwyd gwynt gwrthwynebol am naw diwrnod, a bu agos a myaed yn llong-ddrylliad arnom un nos- on, trwy i'r Is-lywydd gredu mai goleu llong oedd y goleudy ar y traeth; dwfr has a chynhyrfus iawn oedd y ffordd hon. Wedi bod am naw diwrnod yn yr un man, daeth awel ffafriol-aed heibio y Penrhyn. a gwelem Cape Town a Table-mountain yn y pellder—golygfa ardderchog. Yna caws- om y masnach-wynt de-ddwyrain, yr hwn a'n eludodd yn ddioedi hyd yn St. Helena. Angorwyd y tu allan i Jamestown, yn y nos. Pan godais yn y bore, cyn ei bod yn ddydd sylwais fod y llong yn sefyll— se'hum i'r dec, ond nis gallwn weled dim ond mur du, tywyll, ac anferthol o ucliel, ar y llaw aswy, a bloeddiais allan, Great wall of Cltina on our port bow. Dyma ni yn St. Helena. Wedi cael goleu haul, angor- wyd o fewn llai na milltir i'r tir-yr oedd yn fore hyfryd, a'r mor yn hollol dawel; ond sylwais fod y mor yn tonio gydag ymyl y lan, a ffurfiai yn donau mawrion a ffyrnig, a tharawent y glanau gyda nerth dirfawr, am y rheswm fod y mor yn ddwfn iawn hyd at y lan, neu yn hytrach y gfaig, (am y byddai galw y lie yn graig yr un mor briodol a'i alw yn ynys,) yr hon a godai o'r m6r fel mur mawr, felly achosid y cyth- rwfl gan ataliad sydyn ysgogiad cymaint o ddwfr. Yr oedd y coast mor serth o bob tu i borthladd cul Jamestown, (mor bell ag y gallwn ganfod,) fel, pe buasai cwch yn glanio yn rhywle ond ar y grisiau ceryg, buasai yn anmhosibl i neb ddringo'r creig- iau i fyny, a gwaith lied anhawdd oedd glanio ar risiau y porthladd. Yr oedd yr olwg ar yr ynys oddiar y môr yn rhyfedd tu hwnt i ddesgrifiad. Gwelem fagnelau mawrion yn cyfeirio atom o ben pob twmpath, oddiar ael pob bryn, ac o gwr pob cilfach, nes yr oeddym wedi haner gredu mai magnelau oedd yn tyfu yno yn lie coed. Gan tod y lan mor serth, ond yn unig yn y cwm lie y saif Jamestown, yr oedd yn ffurfio amddiffynfeydd naturiol; a thebyg nad oes gan y Saeson le wedi ei amddiffyn cystal a hwn, oddieithr Gibral- tar. Gwelem dair rhes o fagnelau o bob tu i'r dref-yr isaf ychydig uwchlaw level y mOr, yr ail tua haner y ffordd i fyny, a'r rhes uchaf ar y top. Yr oedd heolydd cul- ion, igam-ogam, wedi eu gwneyd trwy nerth pylor gan y milwyr oedd yn cartrefu yno, tuag at fyned i bob magnelfa, a mur- iau cryfion wedi eu gwneyd i fod yn gys- god i'r magnelwyr, rhag ymosodiad oddiar y m8r. Nid yw Jamestown ond tref fech- an, mewn cwm cul tuag ergyd careg o led, a tua thri chwarter milltir o hyd, o lan y m6r i'w phen pellaf. Ceidw Lloegr feddiant o'r ynys, nid o herwydd ei ffrwythlonedd, ond o herwydd ei sefyllfa ddaearyddol yn y masnach-wynt De-ddwyrain, ac yn union ar ffordd yr holl drafnid-longau a fasnachant rhwng Pryd- ain ag India, China, New Zealand ac Aws- tralia, ac yn lie manteisiol iawn i long i droi i fewn am ymborth neu ddwfr—math o half-way house, lie y ceidw John Bull daiarndy a store. Tafarndy a adeiladwyd yno gyntaf. Dyna fel y gwna y Saeson, ond y mae cenedloedd eraill yn wahanol pan yn sefydlu mewn gwlad newydd—ad- eilada y Ffrancod cliwareudy, a'r Ysbaen- iaid eglwys Babaidd. Gan fod ein llong i aros dau ddiwrnod yn y porthladd, a bod rhyddid i minau i fyned i dir, daliais ar y cyfleusdra, a glaniais ar y grisiau ceryg.
0 WLAD Y GLO I WLAD Y LLECHI.
0 WLAD Y GLO I WLAD Y LLECHI. GAN Y PARCH. T. C. EDWARDS (CYNONFARDD). WILKES-BARRE, Pa., Ionawr 5.-Angen- rhaid a osodwyd arnaf i gychwyn o Wilkes- Barre, ac i letya noson yn Providence, gyda'r brawd Saron Jones er gallu dal y tren gyda thoriad y dydd, a chyraedd Troy, N. Y.,erbyn pedwar o'r gloch yprydnawn. Cyn cychwyn oddicartref, ofnwn y tywydd oer a fygythiai fy nghyfeillion arnaf tua Vermont a Gogledd Efrog Newydd; ond symudemyn mlaen mor araf nes daethom yn naturiol gyfarwydd a'r cyfnewidiad.— Cyrhaeddais Middle Granville ganol dydd Gwener, a bum mor ffodus a chael llety yn nhy Mr. Pearce Davies. Nis gallaf ya awr ddywedyd digon am garedigrwydd Mr. a Mrs. Davies. Gwyr pawb fu yno nad ellir cael eu gwell. Ychydig iawn ymwelodd a mi yn ystod fy arosiad yno cyn adeg yr Eisteddfod-buont yn foneddigaidd iawn. Yr oedd ychydig o anhwylusdod yno, o herwydd mai yn Fairhaven y bwriedid cynal yr wyl. Amgylcliiadau na wyddid am danynt yn flaenorol a ymyrodd a'r trefn- iant. Mae lie cyfleus iawn i gynal gwyl lenyddol neu gyngherdd yn y CORINTHIAN HALL, sef neuadduwchben ysgoldy ydref. Yr oedd y pwyllgor yn ffydcllon ac yn heddychol, a phawb yh garedigion i mi.- Gwelais rai pethau yn yr Eisteddfod hon ag y byddai yn dda eu hefelychu. 1. Yr oedd yno drefnusrwydd na welir yn mhob cynulliad o'i faint. Pleserwaith oedd llywyddu. Nid oedd eisiau gwaeddi "gosteg" na "distawrwydd." 2. Yr oedd yno deimlad da tuag at eu gilydd, ac yn gallufforddio digrifwch am eu gilydd. Cawsom engreifftiau o hyn-un pan ddaeth y gystadleuaeth am ganu darn ar y pryd. Ni fedrai y eystadleuwyr ganu yn yr hen Nodiant, ac ni allai un o'r beirniaid feirniadu yn y Sol Ffa. Cododd y beirn- iad, a gofynodd, os oedd yno ryw un yn y dorf a ddeuai i gystadlu yn yr hen Nod- iant; ac ebaief, "'D'w'i ddim yn dallt y Sol Ffa 'ma 'rwan; ond am yr hen Nodiant, dowch ati hi." Chwarddodd pawb yn iachus, ac aed at y peth nesaf. 3. Mewn cyfundebau llenyddol fel hyn, peth da yw gwobr flaenaf ac ail. O'r braidd y byddai urddas digonol ynddo i Eistedd- fod Gadeiriol, &c. Mae yn bosibl y goddefa y brodyr i mi sylwi ar un peth y byddai yn well bod heb- ddo, sef swyddogion y pwyllgor yn cys- tadlu. Anhawdd cadw yr holl bwyllgor allan o gystadleuaeth gyfyngedig fel hon, ond barnwyf y byddai yn well i swyddogion y pwyllgor atal eu cystadleuaeth am y tym- or y byddant yn swyddogion. Gwn yn dda na fu di"m un math o dwyll na hoced yn y gystadleuaeth y tro hwn, ond teimlwn yn siomedig wrth ganfod swyddogion y pwyllgor yn codi i dderbyn y wobr. Dy- lent aberthu hyny am y tro y byddont yn swyddogion. Tybiwch eich bod dan wa- hoddiad i giniaw i dy cymydog, ac ar ol i'r bwrdd gael ei arlwyo, a'r gwahoddedigion ymgynull, fod y cooks yn dynesu at y bwrdd, ac yn dechreu bwyta y danteithion. A ydych yn canfod y meddwl? Parotoi ar gyfer eraill ddylasai swyddogion y pwyll- gor.. Yr wyf yn nodi hyn er addysg, ac nid cerydd. Nid oedd dawn caniadol yr Eisteddfod gyfuwch ag y disgwyliwn; ond cofiaf yn hir am y Proff. Hughes, a'r nod diweddaf hwnw-y geg ofnadwy hono- 0, dyna geg!" Jolly fellow yw J. R Yroeddyn dda genyf gyfarfod a Mr. Quincy Williams yno. Dyn ieuanc diymhongar, ïe, rhy ddiymhongar. Mae ef yn rhy wylaidd.- Dylai ysgwyd ymaith ei gryndod, a chredvt ychydig mwy am dano ei hun. Mae ef mewn parch mawr yn Mount Carmel a Sanbury, &c., fel athraw cerddorol. Diau y caiff y byd glywed a theimlo oddiwrtho eto yn y cyfeiriad cerddorol. Cawsom fwynhaucymdeithas a chaniadau melusber Mr. Hugh C. Roberts, o West Bangor. Pe- na byddai Mr. Roberts mor dew, byddai yn gantwr da iawn. Mae yn un go dda rwan,, fel y mae. Rhaid i mi eto gael dweyd un gair am y cyfansoddiadau. Mewn rhai pethau rhag- orent ar eiddo Eisteddfodau Ohio a Penn- sylvania. Ni welais erioed gymaint o ra- madegwyr da; ac y mae yn rhaid i'r De- heuwyr, can belled ag y gwn i, roi i fyny i'r Gogleddwyr am ramadeg, hyny yw, fel corff o bobl. Ni fu dan fy sylw i erioed: o'r blaen y fath lu o ramadegwyr galluog. Yr oedd yno un ffug-chwedl hefyd yn gor- on i'w hawdwr, ac yn addurji i'r Eistedd- fod. Ac yn mhlith y lluaws, yr oedd yno. gyneithiadau na ellid gwneyd eu gwell; ac aeth yn gampus yno, sef boneddiges ieu- anc yn oreu ar gyfleithu. Well done, Miss Owen—Excelsior! Y dydd ar ol yr wyl, cydunodd yr en- wadau Cymreig i addoli yn yr un adeilad, ac felly cafwyd cynulleidfa luosog ddwy- waith yn Middle Granville; ac ar oloedfa. y prydnawn, cludwyd y pregethwr i Fair- haven, gan M-. Evan D. Jones. Efe sydd. wedi arfer cadw cerbyd y proffwyd yn Fairhaven. Cawsom lety rhagorol yno am dclwy noson. Yr oedd yr enwadau Cym- reig wedi uno yma eto, a threuliwyd oedfa gysurus yno. Rhaid i mi gael dweyd fod canu cynulleidfaol Fairhaven mor rhagor- ol ag unrliyw ganu a glywais i yn America. Ni chlywais hyd yn nod yn Luzerne ei rag- orach Bum o amgylch gyda Mr. Mathews yn edrych adeiladau y dref cyn ymadael. Tri pheth hynod sydd yno, sef y Marble Mills, yr Eglwys Babaidd, a'r Hen Shon. Gwelais y blaenaf a'r olaf. Ac yn foreii: iawn ddydd Mawrth cychwynais tuag Uti- ca. Gorfodwyd ni i aros 5 awr yn Schen- ectady; a chan fod Mr. Williams, y cerdd- or, gyda mi, gwnaetliom gan ar yr am- gylchiad; fel hyn mae y penill cyntaf: Schenectady-slow in thy time, And false in train connection- Dear in thy fare, cold in thy clime, 0 town of imperfection. Nid oes hysbysiad eto yn nghylch ey- hoeddi y geiriau na'r gerddoriaeth. Glan- iwyd ni yn Utica mewn adeg i gael swper, yn nhy Dr. Gwesyn Jones, a chael oedfa yn Bethesda, a thalu ymweliad ag ystäfelL- eang a chyfleus y DRYCH. Mae yr enwog- ion a gyfarfyddasom yma yn rhy luosog- i'w nodi mewn un erthygl. Cyfarfyddais a rhai hynod iawn, iawn ar y daith hon. Wele yehydig o honynt—Tom Thumh, (daeth i'r tren yn Ninefeh), yr Hen Shon a., John W. Iddynt hwy, ac i bawb o Wilkes- Barre i Fairhaven, ac o Middle Granville. L Utica, ac o gylch y byd, dymunaf Flwyddyn newydd fendithfawr. T. c- E: øae.
[No title]
RHODDIR ar ddeall yn y newyddion o> Ewrop, fod y mynydd tanllyd Vesuvius, mewn cyflwr o aflonyddwch mawr, a dys- gwylir yn ddyddiol y bydd iddo fwrw all- an o'i grombil afonydd dinystriol o hylif tanllyd. Bu y mynydd yn dygyfor yn 1872, a byrlymiodd afonydd allan o hono; eithr nid mor ysblenydd a dinystriol ag yn- 1850. Darfu i'r hylif yr amser hwnw gau y bwlch drwy yr hwn y arferai y ffrydiau tSn redeg allan dros ochr y twll; a'r can- lyniad fu, i ddau dwll newydd gael eu hag- or ar ochr y mynydd, o'r rhai y rhedodd yr hylif allan gyda nerth annirnadwy. Ym nghylchoedd y tyllau hyn y bodola yr af- lonyddweh yn awr, ac mae colofnau o fwg torchog yn esgyn o honynt i'r ffurfafen." Mae Vesuvius yn bywiocau fel y m-ae, yn heneiddio. Ni chofnodir o'r flwyddyn i* i'r flwyddyn 1700 ond 19 o ffrwydriadau a rhediad hylif allan o hono; ond yn ystod- y 18fed ganrif eymerodd hyny le 23 o weithiau, gan daranu a melltenu nes creit dychryn drwy y gwledydd.
[No title]
—Y pris aal anfon bryshysbysion dros yr Anglo-American Cable yw swllt y gair (sef 27 cents arianpapyr.)