Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Y MARCHNADOEDD.

[No title]

Advertising

[No title]

GOGLEDD GTMRU.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

GOGLEDD GTMRU. —Deallwn fod Maer Beaumaris (Henadur Wynne Jones), wedi cyflwyno i'r gorphor- iaeth hono ddwy gadwen arnian er budd yr Henaduriaid. —Y mae cwpan arian a llian bwrdd Cymun wedi eu darganfod yn hen Eglwys Hilary, Dinbych. Bernir eu bod mor liyn- ed a'r bymthegfed ganrif. —Mae Twr Bronwen yn hen Gastell Har- lech wedi cael ei adgyweirio. -Fel yr oedd John Jones, Mount Pleas- ant, Conwy, yn canlyn cert yn llwytliog o goed, syrthiodd i lawr ar y ffordd yn farw, yn agos i Colwyn Bay. Y mae ar ei ol wraig a lluaws mawr o blant. c -Yr ydym yn cael fod bywyd-fad new- ydd ardderchog wedi ei gytlwyno yn an- rheg i Gymdeithas y Bywyd-fad yn Hhyl, gan y Gymdeithas Frenhinol. —Dywedir fod nifer luosog o lowyr o gymydogaethau Gwrecsam wedi myned i weithio i wahanol bartliau o Loegr yn ys- tod yr anghydwelediad diweddaf. —Rhagfyr 81, syrthiodd bachgen i Mr. Dewsen, ceidwad helwriaeth Mr. Dew, Brynsiencyn, Mon, i bydew, a boddodd. Bu agos i'w fam foddi wrtli geisio ei acdub. -Dean wn fod Y sgoloriaeth Cynddelw yn myned yn mlaen yn fywiog a llwydd- ianus, ac fod gan yr arweddwyr y ffydd gryfaf yn llwyddiant y mudiad. Y mae'r gwaitli mewn dwylaw nas dysgasant laesu erioed. —Y Parch. T. Williams, B. A,, o Goleg Dewi Sant, sydd wedi ei benodi gan Esgob Llanelwy, i guradiaeth Llangynhafal, ger Rliuthyn. —Cychwynwyd Cymdeithas yn y Wydd- grug ddeclireu Rhagfyr diweddaf, yr hon, fel yr ymddengys, oedd yn tueddu yn lied gryf at ddefodaetli. Mor gynted ag y gwybu yr Esgob am y peth, anfonodd or- chymyn am i'r gymdeithas gael ei rhoddi i lawr, ac ar fod idclynt ymwrthod a phob peth o'r cyfryw. —Y mae John Evans, neu "Jacky cwcli gwenyn," wedi cael ei draddo ii i sefyll ei brawf, am ymosod gyoa ffyrnigrwydd ar Elijah Bush, cigydd, Brynmawr, gyda'r bwriarl o'i ysbeilio. Cyhuddir ef o ysbeil- iai penfforctd. —Y mae Llanidloes wedi colli un o'i masnachwyr hynaf a pharchusaf yn mar- wolaeth Mr. D. Morris, Trade Hall. —Mewn cyfarfod arbenig o ynadlys y Drefnewydd, gwysiwyd cynifer ag lleg o bersonau am esgeuluso anfon eu plant i ys- gol y bwrdd. "Dodwyd hwy dan eu rhy- budd i'w hanfon rhag llaw. TALYSARN-Damwain-Dydd Iau, Rhag- fyr 23ain, cyfarfu Mr. John Roberts, Saer maen, Coedmor Terrace, yn 80 ml. oed, â. damwain angeuol yn Cloddfa Nghoed, pan yn dilyn ei alwedigaeth o dan bont bren-dyfnder o wyth llath, trwy i wagen- aid o rwbel, yn anfwriadol, gael ei dad-' lwytho am ei ben. PORTHMADoc.-Pan oedd gweithiwr ar dyddyn y Ty-isaf yn dychwelyd oddiwrth ei waith, torodd gwythien yn ei fron a gwaedodd i farwolueth ar y ffordd. Yr un noswaith, bu farw geneth fach J. Roberts a'i wraig, melinydd, Cocyn, trwy fygu yn y gwely lie cysgai gyda'i rieni. LLAKGURIG—Rhag. 21ain, cyfarfu lodes ieuanc brydweddol, o'r enw Edwards, tua 23ain oed, a marwolaeth alaethus iawn, wrth waith mwn Nantygywrdy, neu yn ol yr enw Seisnig arno, "The Wye Valley Mines." Ymddengys ei bod yn un o olch- yddion mwn y lie a enwyd, ac iddi fyned i oilio rhai o'r peirianau yn ddiachos, fel y dywedir; a gafaelodd rhai o begynau un o'r peirianau yn ei dillad. a thynwyd hi i mewn iddo, gan ei dirwasgu a'i dryllio yn arswydus, nes y bu farw bron yn ddiatreg. Dywedir ei bod wedi ei dyweddio i briodi yn mhen tua mis. 1111.

DEIIEUD1R GTMRU.

MAR WOLAETHA U GYMB U.

Advertising