Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
EIN TELERAU AM 1875. Pris yn mlaen Uaur$2.50. W- Pris y DRycii i Glybiau P 20 or Pris y DRYCH i Canada .$2 70 g- Pris y DRYCR i Gymru 3 50 Anfoner arian mewn Post Office Order neu Registered Letter, neu mewn Draft ar New York, taladwy i T. J. GRIFFITHS, DRYCH OFFICE, UTICA, N. Y. Y Goreu yn Ddiddadl. DR. MORRIS' SYRUP OF TAB, WILD CHERRY AND HOREHOUND yw y cymysgedd goreu a baratowyd a hysbyswyd, neu a werthwyd enoed gan unrhyw ber- son o dan unrhyw enw-at roddi esmwythad union- gyrchol agwellhad hollol oddiwrth Beswch, Anwyd, Croup, Whooping Cough, Bronchitis, Byranadl, a phob anhwyldeb o natur y darfodedigaeth. Di- wreiddia yr arwyddiou peryglus hyn mewn haner yr amser a gymerir gan unrhyw feddyginiaeth arall. Mae o natur hcilol lysieuol, heb fod yn cynwys dim opium nac un cyffyr peryglus arall. Tystia meddyg- on yn mhob parth o'r wlad mai efe yw y meddygin- iaeth mwyaf effeithiol at anhwylderau y gwddf a'r ysgyfaint. Nid yw bytti yn ffaelu. Sicrheir y cyt- lawna pob potel yr hyn a addewir. Byddwch yn sicr 0 ofyn am Dr. Morris Syrup of Tar, Wild Cherry and Horehound. Prawf botelau, 10 cents. Gwerth- ir ef gan y prif gyfferwyr yn mhob man, ac yn mysg eraill gan C. H. Williamsou a'i Gwm., Utica, a Fran- cis Etheridge, Rome, N. Y. DAVID W. LEWIS & CO., COMMISSION MERCHANTS, No. 85 & 87 BROAD ST., NEW YORK. YR TDYI YN AWR YN GWNEYD MASNACH er's un mlynedd ar bymtheg, a dymunem ddiolch i'n hen gyfeillion am eu hymddiried ynom. Mae ein mas- Dachdy, 85 & 87 Broad St., congl South William St., yn oleu, eang a chyfleus; a thelir sylw uniongyrchol 1 lotiau o YMENYN, CAWS neu DDOFEDNOD, a anfon- ir i'n gofal gan Amaethwyr Cymreig Swyddi Oneida, Madison, Herkimer a Lewis. Marciwch y parseli a chyfeiriwch lythyrau i DAVID W. LEWIS & CO., Yn ol y cyfeiriad uchod. 1-18'76 Y COFNODYDD." Cyhoeddir y llyfr uchod ddechreu Ebrill nesaf, yn cynwys cyfansoddiadau buddugol Eisteddfod ddi- weddar Hyde Park, gan brif feirdd a llenorion y genedl yn America; fief FFUGCHWEDL, gan W. S. Jones. TRAETHODAU gan H. M. Edwards, Ysw., D. O. Johns, Wilkes-Barre, a W. S. Jones. PRYDDEST AR Y MAYFLOWER," gan y Parch. T. C. Edwards (Cynonfardd). YMSON AR Y Y FERCH DWYLLEDIG YR Y TLOTY," gan John H. Powell, Hyde Park. Y GWALLGOFDDYN," gan y Parch. T. C. Edwards a Dewi Glan Peryddon. HIR A THODDEIDIAU I T. STEPHENS, MERTHYR, gan y Parch. J. P. Harris, Nanticoke, a D. Jones, Hyde Park. Yn nghyda Hanes yr Eisteddfod, &c. Pris y Ilyfr fydd 75 cents; ond anfonir ef am haner dolar i'r rhai a dalant am dano yn mlaen Haw o hyn i'r cyntaf o Ebrill. Pob gohebiaeth ac arian am dano i'w hanfon i'r cyhoeddwr— THOMAS R. HUGHES, Hyde Park, Scranton, Pa. (Bin Dgchh))¡!r a'n tX{nJntn))r, Carwr Gwir, COUNCIL BLUFFS.-Methwn yn lan a gwneyd synwyr o'ch ysgrif. Ac y mae Ir. Pwns wedi methu hefyd. Mewn Llaw.—Pryddest J. J. Powell, yr hon a gyhoeddir yn fuan. Mae genym hefyd ddigon o Farddoniaeth ar law i wneyd ein tro am rai wyth- nosau. Cymered y beirdd yr awgrym. H, J., DANVILLE, III —Ni fu neb o'r swyddfa hon yn casglu enwau at y DRYCH yn y gorllewin yna er's blynycldau Twyllwr o'r fath ilolaf oedd yr hwn a alwai ei hun yn J. C. Roberts, a byddwn yn ddiolch- gar i'r Cyrnry yn Ohio, Illinois, &c., am roddi iddo gospedigaeth hen ffasiwn. Cardi Cynon.- Ysgrifenwch yr adolygiad i'r pa- pyr y gwelsoch yr ysgrif ynddo. Meirionwr.—LA CROSSE, WIs.-Geilw y goheb- ydd hwn sylw at gamgymeriad a lithrodd i'r DRYCH, Rhif. 3. Yn lie fod nifer trigoliou LA CROSSE, WIS., yn rhifo o 1,200 i 1,500, dylasai fod o 12,000 i 15,000 -y diweddaf yw y cyfrif cywir. AGENTS Y DRYCH. KINGSTON, PA.—Mr. JOSEPH W. THOMAS. Taled pawb yna iddo ef. ARENA, WIS.—Mr. Thomas J. Hughes. MINERAL POINT, WIS.—Mr. Robt. Hnghes. -JIE- BR L
[No title]
RHODDIR ar ddeall fod y mwnglawdd aur Idaho, yn California, wedi cynyrchu y flwyddyn ddiweddaf$492,919 o aur, a thal- wyd i'r rhan-feddianwyr$127,000 o elw. Gildiodd pob tunell o'r mwn $17.63 o aur ar gyfartaledd. Cynyrcliodd y Consoli- dated Virginia Mine $16,840,300; yr Ophir 12,382,990; Crown Point,$3,124,052; Bel- cher, $3,107,992; Etireka, Nor- thern Belle, $851,700; Raymond ac Ely, $698,635; Chollar-Potosi,$288,017. Cyfan- "29, swm,$29,000,695. Anfonwyd mwn aur o'r Centennial Mine, Wyoming, i fathdy y Llywodraeth, ac adroddir ei fod yn gildio $46,780.34 y dunell o aur. Caed 271.49 oddiwrth dunell o fwn arian. Hysbysir y gwnaed darganfyddiad yn ngwytliien yr Emma Mine, yn Utah, sydd yn profi fed y mwnglawdd yn werth 1'1 #1IIS'mr¡
[No title]
Eu y planedau yn wrihrychau tra phryd- ferth yn y ffurfafen yn ystod y mis hwn, a pharhant felly i radcbu am wythnesau i ddyfod. Yr < edd y planedau Gwener a Sadwrn mewn cysyiltiad ar yr 17eg; nd ar ol hyny yr oeddynt yn agos i'r gorwel ar ol machlucliad haul, fel na chaed amser hir iarsyllu arnynt, canys yr oedd Gwener yn machlud ychydig cyn saith. Tua diw- edd y mis bydd y blaned Mercury mewn J sefyllfa hawdd i'w chanfod yn y gorllewin •ar ol i'r haul fyned o'r golwg, ac ychydig i'r goglcdd o bwynt machlucliad haul. Mae ei dysgleirdeb yn dra gwahanol i'r planed- au eraill. Hefyd gellir gweled y blaned Sadwrn yn ei hymyl. Bydd yr olygfa ar y lleuad newydd, ddiwedd yr wythnos, a'r pedair planed, Mercury, Venus, Saturn a Mars yn ysblenydd tu hwnt i ddesgrifiad. Mae Jupiter yn llywodraethu ei hun ar yr adeg bresenol fel yr unig Seren Foreu, ac yn codi rhwng tri a phedwar. Parha ei dysgleirdeb yn llachar hyd ddyfodiad brenin y dydd, o flaen terylliad yr hwn y diflana gogoniant y ser a'r planedau.
[No title]
YMDDENGYS fod yr anghydfod rhwng y Talaethau Unedig a Mexico yn cynyddu yn ddyddiol, ac nid oes amheuaeth nad ar Mexico y mae y bai. Mewn cwerylon cy- ffredin bydd bai ar y ddwy ochr; ond mae yr holl derfysg gyda Mexico yn gynwys- edig yn y ffaith, fod lladron Mexicanaidd yn tori dros y terfyn i ysbeilio dinasyddion Texas o'u hanifeiliaid a chynyrch eu tir. Blaenor y carn-ladron hyn oedd un Cor- tina, yr hwn a ddaliwyd amser yn ol gan swyddogion Mexicanaidd, ac a sicrhawyd yn ddiogel yn y carchar. Dyn oedd hwn a'i ddwylaw yn gochion gan waed y di- niwed er's deng mlynedd; ac yn awr, der- byniwyd y newydd fod yr Arlywydd Ler- do wedi ei ryddhau ar feichiau, cyn ei ddwyn i brawf. Mae rhyddhau llofrudd ysgeler, a charn-leidr cyhoeddus, ar feich-, iau, yn symudiad newydd yn ngolwg y gyfraith; ac mae yr Arlywydd Grant wedi anfon at Lywodraeth Mexico am esboniad ar ei hymddygiad, a'i rheswm dros beidio dwyn yr adyn Cortina i sefylli brawf yn ddiseremoni.
[No title]
MAE y tywydd llariaidd, a hafaidd ar rai adegau, a gaed er cyn y Nadolig diweddaf, yn destyn syndod i'r preswylwyr hynaf; ac nid oes neb yn fyw yn cofio haf yn y gauaf o'r blaen. DywerHr fod gauaf 1776, gan' mlynedd yn ol, yn debyg iawn o ran tym- eredd yr hin, ac nad ydyw hyn ond croes- awiad naturiol i gyfnod yr wyl ganmlwydd- ol. Dylanwadodd y tywydd teg yn fawr ar bris helwriaeeh, ac ni welwyd adar gwylltion mor uchel erioed o'r blaen yn y prif farchnadoedd. Yr oedd quails yn brin- ion am $7 ac $8 y dwsin yn New York, yr wythnos ddiweddaf; ac yr oedd braidd yn anmhosibl cael ieir mynydd am $2.50 a $3.50 y pqr. Ni welwyd erioed gynifer o arthod duon o'r blaen yn ngogledd New York. Daeth pedwar i'r golwg gefn canol dydd, ger pentref North Creek, yr wythnos ddiweddaf; a'r noson cynt lladdasant am- ryw o ddefaid a moch. Dydd Sabboth, yr ail o'r mis hwn, cerddodd arth mawr yn hyf i'r capel yn North Creek, tra yr oedd y gwasanaeth crefyddol yn myned yn mlaen; ac wedi cyraedd tua haner y Ifordd o'r drws i'r pwlpud, a chlywed y merched a'r plant yn llefain am eu bywydau, ym- godoid ar ei arau ol, yn unol a defod nat- ufiol y goedwig, gan droi ei lygaid taullyd i edrych mewn syndod ar y cynwrf oedd o'i amgylch! Pan welodd nad oedd per- ygl, na neb yn dewis cael eu cofleidio gan- ddo, trodd yn ol ac aeth allan. Bu mor baganaidd a thori y moddion i fyny, ac er- lyniwyd ef tua'i gattref yn y goedwig, gan nifer o ddynion, bechgyn a chwrn.
Y BLAiD BDEMOGUATAIDT).
Y BLAiD BDEMOGUATAIDT). Er nad oes ond ychydig amser er pan ddaeth y Ty Democrataidd i weithrediad yn y Gydgyngorfa, oddiwrth yr hwn y dys- gwylid cymaint o ddiwygiad buan yn ol ymffrost ac addewidion blaenorol y blaid, eto y maent wedi llwyddo i wneyd amryw o gamsyniadau cyhoeddus. Amcanasant agor dadleuaeth ar hen bwnc diddiwedd y cwerylon lleol yn Louisiana, nad oes ar neb awydd clywed mwy yn eu cylch; ac yr oedd pob gwladgarwr egwyddorol yn awyddus am i'r bobl hyny benderfynu eu hanghydfod yn eu plith eu hunain. Pwnc arall o gamsyniad dybryd o eiddo y Dem- ocratiaid oedd' gwrthwynebu y cynllun i adferu arian bathol i gylchrediad, a chynyg diddymu y ddeddf a basiwyd i ddwyn hyny oddiamgylch. Hefyd gwrthodasant a phleidio penderfyniad yn anog y Gyd- gyngorfa i basio mesurau ychwanegol, er sicrhau dychweliad arian caledion i gylch- rediad, fel ag y bydd i'r Talaethau Unedig fod ar yr un telerau masnachol a holl genedloedd y ddaear. Camgymeriad arall o eiddo y Democratiaid oedd haeru nad oedd gan y rhai a ymladdasant dros gadwr- aeth yr Undeb, fwy o hawl i bensiwn na'r rhai a ymladdasant yn erbyn y llywodraeth. Ac yn ddiweddaf cyflawnasant gamgymer- iacl mawr drwy gynyg maddeuant cyifred- inol i flaenoriaid y gwrthryfel, yn cynwys yr Arch-fradwr Jefferson Davis; ac agoras- ant ddadleuaeth chwerw ar y pwnc, pryd yr agorwyd yr holl hen glwyfau, fuont-yn gwella yn raddol yn ystod y deng mlynedd diweddaf. Rhaid i'r Democratiaid gyfadd- ef eu bod yn gyfrifol am hyn oil; ac nid oes ganddynt le i feio y Gbverinwyr am amddiffyn eu hanesyddiaeth a'u gwladgar- weh yn ystod y rliyfel cavtrefol.
[No title]
TV-DORIAD BEIDDGAR.—Tua 2 o'r gloch Loren yr 20fed eyfisol, dèffrowydFrederick Kleystuber, 239, 18 heol, New York, gan oleuni dysglaer ar ei wyneb. Deallodd fod rhyw un yn y ty, a neidiodd i fyny, pan y gwelodd leidr yn amcanu dianc." Taraw- odd Mr. K. yr adyn, yrhwn oedd yn ddyn cryf. a throdd ato, gan ei wanu dair g-Wtiillx a chyllell. Llwyddodd y lleidr i ddianc, a chymerodd gydag ef$300 o ar- ian. Gorwedda Mr. Kleystuber mewn cyf- Iwr peryglus.
BOLAR FEL SAFON G WERTH.
BOLAR FEL SAFON G WERTH. Nisi gall pobl Prydain gael drychfeddwl cywir, ac iawn amgyffrediad am wir werth unrhyw nwydd neu olud, heb ddefnyddio ceiniogau, sylltau a phunoedd yn safon i fesur y cyfryw; ac wedi dyfod i America, rhaid iddynt ddwyn pris pob peth i arian Prydain, cyn y gallant ddeall y gwir swm. Wedi ymarfer dros amser a sentiau a doleri, deuant yn alluog i amgyffred pris- iau a gwerth heb gydmaru y cyfryw ag ar- ian yr Hen Wlad. Mae yr un darnodiad yn gymwysiadol i ddeiliaid pob gwlad, gyda golwg ar eu hamgyffrediad o wir z, werth darnau arian. Dolar ydyw y safon yn y wlad hon, ac mae yn Rmlwg i bawb fod yma ddau fath, sef un aur ac un bapyr. Maent wedi gwahaniaethu yn eu gwerth yn ystod y dyng mlynedd diweddaf 0 $1.10 i $2.85. Ar y laf o Orphenaf, 1864, yr oedd yn ofynol cael$2.85 mewn arian papyr i brynu un ddolar aur. Dengys yr uchod fod aur yn sefydlog mewn gwerth, dan bob amgylchiad, tra yr oedd arian papyr yn an- sefydlog, a'i werth yn dibynu ar amgylch- iadau cartrefol a lleol. Rhaid cael$1.13 mewn papyr heddyw i brynu$1 aur. Cyn y gellir iawn ddeall y pwnc, rhaid cofio un ffaith sylfaenol mewn cysylltiad a gweitlired Seneddol i benderfynu gwerth arian, sef nad ydyw gwaith y Gydgyngorfa yn enwi darn o bapyr yn ddolar, yn ei wneyd yn werth canto sentiau meteliidd o bwysau penodedig. Mae proflai wedi sefydlu y ffaith nas gall dolar bapyr feddu gwerth lianfodol, unffurf a sefydlog.— Hyny ydyw, nis gall hyd yn nod unrhyw lywodraeth sicrhau, neu yswirio dolar bapyr i brynu cyfanswm neillduol o ang- enrheidiau bywyd, neu lafur, os na fydd aur yn wystl wrth ei chefn. Nid oes gwerth o gwbl mewn arian, ond yn unig ei allu i brynu nwyddau eraill. Nis gellir bwyta, yfed na gwisgo arian, ac ni chyn- yrcha log tra mewn llogell neu goffr; canys cyfrwng i brynu ymborth, dillad, nwydd- au, tai a thiroedd ydyw. Cyfanswm y pethau a ellir brynu a dolar ydyw mesur neu safon gwerth. Camgymeriad ydyw mesur gwerth unrhyw nwydd a'r nifer o ddoleri angenrheidiol i brynu y nwydd hwnw. Ni roddai neb fwsiel o bytatws am- 10naidllogell o ddoleri papyr, os na ellid prynu ond haner bwsiel a'r doleri hyny. Arferid dweyd y gellid byw yn well cyn y rhyfe] ar $500 y flwyddyn nag ar $1,000 yn awr; gan hyny haerir fod pethau gymaint a hyny yn ddrutach yn bresenol. Mae camgymeriad mawr yn y syniad, a'r ffaith ydyw fod y doleri yn llai o werth y blyn- yddoedd hyn nag oeddynt yr amser a nod- wyd. Cwynir yn barhaus gan rai, nad yd- ynt yn deall y pwnc, o herwydd nad ydyw y llywodraeth yn gwneyd deddf i osod ei greenbacks yn gydwerth ag aur. Barn- ant y byddai hyny yn ddigon i godi gwerth dolar bapyr, ar ol i'r llywodraeth dderbyn y cyfryw i dalu y doll ar nwyddau tramor. Mae y syniad hwn yn hollol gyfeiliornus, ac yn milwrio yn erbyn deddfau anhyblyg galwad a cliyflenwad. Mae dolar bapyr yn werth 87c. yn awr; ond pe cyhoeddai y Gydgyngorfa yfory ei bod yn werth lODe., ni wnai hyny ffyrling o wahaniaeth yn ei gwir werth hanfodol. Os gall y llywodr- aeth godi gwerth darn o bapyr i 100c., pa- ham nas gall roddi cam yn mhellach, a'i godi i 300c., 400c., 500c. neu 1,000? Yr unig ffordd y gall y Llywodraeth wneyd dolar bapyr yn gydwerth a dolar aur, yd- Ily yw ei chyfnewid am aur. Nid ydyw dolar bapyr ond addewid y llywodraeth i dalu arian bathol; a chan ei bod yn analluog i wneyd hyny, y mae ei haddewid wedi cli- brisio. Nid ydyw stamp unrhyw lywodraeth ar ddaVn o bapyr yn cyfiwyno rhyw werth hanfodol iddo. Pe buasai troedfeddi mesur y wlad wedi eu gwneyd o ddefnydd fuasai yn byrhau i naw modfedd wrth sychu, ac er fod stamp y llywodraeth ar y droedfedd, ai teg fyddai prynu a gwerthu wrth y fath fesur, a'i al w yn droedfedd? Codai prisiau pob peth a werthid wrth y droedfedd, nid o herwydd cynydd hanfod- ol yn y gwerth, ond mewn canlyniad i fyr- had y mesur. Yr un modd hefyd y mae gyda dibrisiad dolar bapyr, yr hyn a gyn- ydda brisiau y nwyddau. Byddai byrhad troedfedd neu lathen yn amlwg i'r llygaid a'r teimlad, ac felly yn hawdd ei ddeall; ond am ddibrisiad dolar bapyr, peth i'w amgyffred ydyw, ac nid i'w weled a'i deimlo. Enw neu air ydyw dolar, ac ni wna galw darn o bapyr yn ddolar y cyfryw yn werth tri gronyn o aur coeth. Y mddengys fod rhai yn priodoli rhyw allu swyngyfareddol i'r llywodraeth, ac yn credu y gall drwy ddeddf osod gwerth ar ddarn o bapyr neu ledr, nes y bydd yn gyd- werth ag aur pur. Dyma yr ofergoeledd mwyaf cyfeiliornus a phlentynaidd mewn cysyiltiad a chyllid gwlad. Byddai yr un mor resymol haeru y gall gwlad dalu ei dy- led, drwy wneyd cyfraith i gyhoeddi ei hun yn ddiddyle< heb dalu sent i neb. Dylai pob dyn deallus wybod nad ydyw arian bathol unrhyw wlad yn werth dim mwy na gwir wTerth yr aur agynwysa. Mae am bell i ddarnau aur yn fwy o werth na'r swm ar eu gwyneb yn ol y sicrwydd am eu purdeb, a dyna ydyw holl werth stamp pob llyw- odraeth. Y gwahaniacth rhwng gwerth telpyn o aur wrth enau y mwn-dwll a'r aur bathedig yn y Bank of England ydyw y gost i fathu yr aur, ac nid ydyw stamp y llywodraeth yn ychwaneguy mwmryn llei- af at ei werth. Mae aur bathedig y llyw- odraeth wanaf yn Nghanolbarth America yr un mor werthfawr ag aur y llywodraeth gyfoethocaf ar wyneb y ddaear. Yn hyn y mae holl genedloedd y ddaear yn gyfar- tal, a'u stampiau ar eu harian bathedig yn gydwerth. Y pwnc yn awr ydyw, beth sydd yn rhoddi gwerth i bapyr fel cyfrwng mas- nachol? Os bydd ar un masnachwr eisiau talu $1,000 i'r llall, rhydd check iddo ar y banc am y swm; a dichon y bydd i'r ail fasnachwr dalu y trydydd, a hwnw y ped- werydd a'r un check. Gwelir drwy hyn fod darn o bapyr sydd hollol ddiwerth ynddo ei hun. yn pasio o law i law am fil o ddol- eri. Dealler nad yn y papyr y mae y gwerth, ond yn y tri phwys o aur a delir yn y banc i'r hwn d iaw a'r check yno. Os na fydd y banc yn alluog, ac yn rhwym i dal i y check, ni fydd yn werth dim, pa mor brydferth bynag fydd y cerfwaith a'r stampiau arno. Nid ydyw yn ddigonol fod y papyr yn cynrychioli hyn a hyn o aur, neu fod y llywodraeth fydd wedi ei roddi allan yn gyfoethog a chyfrifol, os na thelir yr aur i'r hwn fydd yn dal y papyr. Os bydd amheuaeth gyda golwg ar dalu yr aur a gynrychiolir gan y papyr, oibrisia ei werth yn ol graddau yr amheuaeth; ac os ceir sicrwydd na thelir byth yr aur, ni fydd y papyr yn werth dim. Addewid y llyw- odraeth i dalu ydyw y greenbacks-, ac mor fuan ag y cyflawna hyny, deuant yn gyd- werth ag aur, safon masnachol yr holl fyd.
Y XL-T V GYDG YNGORFA.
Y XL-T V GYDG YNGORFA. DYDD LLUN, Ionawr 17.— YSenedd—Cyf- lwynodd Mr. West, o Louisiana, fesur newydd i hyr- wyddo gwneuthuriad ffyrdd haiarn, a llinellau pell- ebrol, rhwng yr afon Missouri a'r Tawelfor. Dang- osodd y bydd y Llywodraath yn sicr o golli $180,000,- 000, os na ddiwygir y deddfau presenol. Hefyd cyn- ygiodd fesur arall i orfodi cwmni y RheilfEordd Unol i'r Tawelfor i dalu yn ol i'r Llywodraeth $3,000,000, gan en bod wedi rhoddi bond allan i'r swm 0 $53,- 000,000, tra nad oedd y gyfraith yn caniatau ond $50,000,000. Cyflwynodd Mr. Conkling, N. Y., ddeis- ebau oddiwrth amryw o filwyr yn erfyn am estyniad yr amser i roddi hawliau am bensiwn i mewn. Cyn- ygiodd Mr. Sherman, Ohio, fod arian Lloegr ac America i'w cyfartalu, drwy wneyd dolar aur yn saf- on yma. Y cynllun ydyw fod dolar aur America yn safon ac i gynwys 9-10 o aur pur a 1-10 o gopr, ac i bump o honynt fod yn berffaith yr un faint o werth a phunt Lloegr. Cyflwynodd Mr. Cameron, Pa., ddeiseb oddiwrth ddinasyddion ei Dalaeth yn erfyn ar y Llywodraeth gydweithredu yn ngwneuthuriad rheilffordd ddeheuol i'r Tawelfor. Y Ty—Cynyg" iodd Mr. Joyce, Vermont, fesur i atal gwerthiad gwirodydd meddwol yn yr adeilad i dda, liln yr Wyl Ganmlwyddol yn Philadelphia. Galwodd Mr. O'Brien, Md., sylw at amryw welliantau ar y Cyfan- soddiad, yn neillduol i gadw yr eglwysi a'r wladwr- iaeth ar wahan. Cynygiodd Mr. Holman, Dem., Ind., fesnr i ddiddymu y ddeddf sydd yn penodi amser neillduol i ddechreu talu arian bathol, ac ata; chwyddiad yr arian papyr; ond collwyd y cyny iad drwy bleidlais 1158 yn erbyn 112. DYDD MAWRTII, lonawr 18.— Y Senedd-Cyny,, iodul Mr. Davis, W. Va., fod pwyllgor i'w benodi i roddi archwiliad manwl ar lyfrau Trysorydd y Llyw- odraeth. Cynyrfodd hyn ddadleuaeth hirfaith, a siaradodd Mr. Boutwell, Mass., yn rymus ar y pwnc, gan ddangos nad oedd un gwrthwynebiad i'r fath archwiliad, er nad oedd efe yn credu fod unrhyw fath o dwyll nac anonestrwydd yn y cyfrifon. Aeth yn mlagn i fanylu ar y derbyniadau, y taliadau, yr arian ar law, &c. Y Ty-Wedi cyfiwyno amryw fesurau a fwriedid gynyg, dygwyd pwnc cymwysiad arian at y Dathliad Canmlwyddol dan sylw. Dadleu- I¡ odd Mr. Hopkins, Pa., dros y mesnr. Dywedodd Mr. Waddell, North Carolina, fod yn ddrwg iawn ganddo o herwydd y dadleuon diweddar ar y mesnr o faddeuant cyifredinol i'r gwrthryfelwyr diweddar a'i fod yn gobeithio na ddarfu i hyny oeri cariad yr aelodau Deheuol at yr Undeb, ac y byddai iddynt oil ymuno yn y Dathliad Canmlwyddol. Parhawyd y dadleuon hyd awr y gohiriad heb ddyfod i bleidlais. DYDD N FRcu-mit, Ionawr 19.— Y Senedd-Derbyn- iwyd amryw o ddeisebau oOhio, Pennsylvania, &c., yn gofyn am. gymorth y Llywodraeth i wneyd y flordd haiarn i'r Tawelfor. Cymerwyd i fyny y gweddill o'r eisteddiad gan Mr. Morton, Ind., yn dadleu dros archwiliad i'r etholiad diweddar yn Mis- sissippi.-Y Ty.—-Ymfturfiodd y Ty yn bwyllgor cyffredinol i ystyried y cynygiad i gymwyso arian o'r Drysorfa i ddwyn rhan o'r draul mewn cysyiltiad a'r Dathliad Canmlwyddol yr haf dyfodol. Dadleu- odd amryw yn erbyn y cynygiad, am y tybiant ei fod yn anghyfansoddiadol. DYDD IAU, Ion. 20.-Y Senedd.—Cymerwyd llawer o amser i fyny gan Mr. Morton, i ddangos ansawdd afreolns pethau yn Mississippi; ond methodd a gorphen ei sylwadau, o herwydd dolur gwddf. Pen- derfynwyd parhau mewn gryin y rheol a fabwysiad- wyd i lywodraethu dau Dy y Gydgyngorfa, yna gohir- iwyd.— Y Ty.—Dygwyd pwnc y Dathliad Canmlwydd ol clan sylw, ac agorodd Mr. Townsend, N. Y., y ddadleuaeth yn ffafriol i'r mesur; yna gwrthwyneb- wyd ef gan Sergant, Pa., Fulton a Cook, o Georgia- Dadleuwyddros y mesur wedi hyny gan Jones, Ky.; Bank, Mass., a Swan o Maryland. Cyflwynodd y pwyllgor ar gymwysiad arian fesur i leihau cyflogan y gweinidogion a'r traf-noddwyr mewn gwledydd tramor. Bydd i'r mesur hwn greu dadleuon gwresog. DYDD GWESTER, Ion. 21.-Y Senecld.-Cyhoeddodd Mr. Bon: wen farwolaeth yr Is-Arlywydd Wilson, mewn dull ffurftol, a chynygiodd y penderfyniadan arferol, y rhai a baiwyd. Traddodwyd amryw o ancrchlodau coffadwriaethol am rinweddau a gwas anaeth yr ym-,idawedig.- Y l'?i.-Cynygiodd Mr. Hol- man, Ind., fod y fintai o olygyddion o Indiana, oedd- ynt ar ymweliad a Washington, i gael aros ar lawr y Ty, tra y traddodid yr anerchladau coirawdwriaethol am y diweddar Is-Arlywydd Wilson, a mabwysiad- wyd y penderfyniad. Cymerwyd i fyny yr holl eis- toddiad gyda'r anerchiadau .darfolawl. Nid oedd y Senedd yn eistedd ddydd Sadwrn; a chymerwyd i fyny yr holl eisteddiad yn y Ty i ddadleu y mesur ar y Dathliad Canmlwyddol.
[No title]
UTICA, N. Y.—Oydnabyddiaeth ddiolchgar am rodd wertJifawr—Gadawodd Mr. SBfON THOMAS bum' cant o ddoleri i'r. Gymdeithas Feibiaidd. Yn awr, wedi marwolaeth Mrs. Thomas, y mae ei frawd, a'i gymun wein- yddwr, Mr. Lewis Thomas, New York, wedi talu y cyfryw i drysorfa Cymdeithas Utica. Anfonir hwy i'r F'ara Gymdeithas yn New York. Teimlwn yn ddiolchgar i Mr. Thomas am dalu mor brydlon. Hefyd rhoddodd$500 at y Gymdeithas Genadol Gartrefol. R. Gwesyn Jones, Llywydd, a J. D. Jones, Trysorydd.
0 WASHINGTON, D. C.,
0 WASHINGTON, D. C., ODDIWRTH SAMUEL J. DAVIES. WASHINGTON, Ion. 26.—Fe gofir i Mr. P. B. S. Pinchback, boneddwr o liw, gael ei ethol gan Ddeddfwrfa Dalaethol Louis- iana i Senedd y Talaethau Unedig—y tymor i ddechreu y 4ydd o Fawrth, 1873,- ac i derfynu y 4ydd o Fawrth, 1879. Nidyw y Senedd, hyd yma, wedi cydnabod Mr. Pinchback fel un wedi ei ethol yn rheol- aidd, er fod y Ddeddfwrfa a etholwyd ar ol yr un a'i betholodd ef wedi cadarnhau ei etholiad, eto y mae y Senedd heb dd'od i'r penderfyniad i roddi iddo ei sedd. Ond yn fuan fe orfodir iddi ei dderbyn neu ei wrthod, am fod un arall wedi ei ethol, a hwnw yn Ddemocrat yn 01 yr ystyr dde- heuol o'r gair; a dywedir fod Mr. Pinch- back yn bwriadu, yn mhen ychydig ddydd- iau, beri i'r Senedd wneyd i fyny ei medd- wl, i'w dderbyn neu ei wrthod-dyweder o fewn ugain niwrnod, mwy neu lai, neu y byd 1 i. 1 do anfon ei resignation i lywodr- aethwr y Dalaeth, a thrwy hyny orfodi y Senedd i dderbyn Democrat, pan y mae arni eisiau pob pleidlais werinul a all gael, canys ar strict party vote nid oes ganddi ond ychydig fwyafrif. Pan etholwyd Mr. Kel- logg yn Llywodraethwr Talaeth Louisiana, dair blynedd yn ol, etholwyd Deddfwrfa befyd yr un amser, a'r Ddeddfwrfa hono a etholodd Mr. Pinchback; ond fe gofir fod llawer o amheuaeth o barthed cyfreithlon- edd etholiad Mr. Kellogg, a'r un amheu- aeth a foflolal o berthynas i'r Ddeddfwrfa hefyd, nad oedd y naill na'r llall o honynt yn gyfreithlon; ac yn y gauaf diwe'daf buwyd agos a thywallt gwaed wrth iawn drefnu y Ddeddfwrfa yn New Orleans, canys cydnabyddai un blaid Mr. McEnery, a'r blaid arall Mr. Kellogg. Dywe ir mai y gwrthwynebiad mwyaf i Mr. Pinchback yn y Senedd, yw hanes rhan o'i fywyd. Bu am rai blynyddoedd yn rhedeg yr afon- ydi, Ohio a Mississippi, fel coginydd, wedi hyny fel eilliwr, ac yn ddiweddaf oil fel hapchwareuwr. Y mae'r ddwy alwedig- aeth flaenaf yn ddigon anrhydeddus, ond am yr olaf, ystyrir y byddai yn sarhad ar urddas i dderbyn gambler yn aelod o gorff mor anrhydeddus a Senedd y Talaethau Unedig; ond ni fyddai hyny un mymryn gwaeth na derbyn Mr. John Morrissey, yr ymladdwr a'r hapchwareuwr yn aelod o Dy y Cynrychiolwyr rai blynyddoedd yn ol. Ond ni wnawn rtdadleu achos Mr. Pinchback, canys mae y bobl o liw yn y ddinas yma wedi bod wrth hyny rai wyth- nosau yn ol. Y mae Mr. Pinchback yn wir deilwng, o ran galluoedd meddwl a dysg briodol, i gynrychioli unrhyw Dal- aeth, ac y mae yn mhell yn mlaen ar y mwyafrif o'i genedl, ac ni ryfeddem nad ei dderbyn a wneir yn y diwedd. Un diwrnod yr wythnos ddiweddaf bu Mrs. Victoria C. Woodhull, a'i chwaer, Miss Lennie C. Claflin, o flaen y Pwyllgor ar hawliau, yn Nhý y Cynrycliiolwyr, yn herwydd y golled a gawsant trwy gael eu carcharu yn Hy ref, 1872, am gyhoedti newyddiadur anfoesgar yn ninas New York. Tua'r amser hwnw, ac yn y Woodhu-I and Claflin's Weekly, y dcchreuwyd cJ- hoeddi y celwyddau anfad a maleis-ddrv g am y Parch. Henry Ward Beecher, a'r bei ywod liyn, i raddeu pell, sydd yn gyfrifd am, yn gyntaf, liudo Mr. Theodore Tiltor, fel priod a thad, oddiwrth ei deulu c oddiar lwyln; rhinwedd a dyledswydd, ic yn ail, edliwio Mr. Beecher, i foddlu u mympwyau uchel-geisiol Mr. Tilton. D- weu ai Mrs. Woodliyll o flaen y pwyllgor, i'w masnach ar Broadway gael ei lw; r ddinystrio, a'i newyddiadur gael ei r): flu allan gan yr American News Company gyè- ag archebau wythnosol o 40,000 o gopnu ar law, ac hefyd fod ei galwedigaeth, f\ 1 darlithyddes, bron yn hollol wedi ei ddir ystrio-" ffordd y troseddwyr sydd galed. Costiodd y gyfraith idoi, meddai, rhag cat 1 ci charcharu yn mhellach, dros $50,000, tc iddi orfod gwerthu yr oil a feddai, hyu J n nod ei dillad oddiam ei chefn. in y ddeiseb crybwyllai i gopiau o'r papyr gat 1 eu gwerthu y prydnawn y cymerwyd hi i law'r gyfraith am$5—15—20, ac am un copi i'w anfon i Paris, Ffrainc, $50.00! Yn awr, y mae y Firm of Woodhull & Claflin yn hawlio iawn-obrwy oddiwrth y Llywodr- aeth am y cam a'r golled maent wedi oddef o$110,000, a'r swm hwn, meddai, fydd: i ei lienill oddiwrth yr argraffiad a gynwys: i y cwyn yn erbyn Henry Ward Beecher! Yn ol y cyfrif uchod, gallem feddwl pe caent lonydd yn eu gyrfa gywilyddus am fyr amser, y deuant o leiaf yn gyfoethog mewn doleri, os nad yn enwog fel cy- hoeddwyr newyddiadur. Y mae'r wythnos ddhveddaf wedi bod yn un dra chynhyrfus yn y Gydgyngorfa. Ni welwyd cymaint o deimladau drwg er y gauaf diweddaf, pan fu achos Louisiana dan ystyriaeth. Asgwm y gynen y tro hwn yw Arsawd yr Ebargollaeth a'gynyg- iwyd gan Mr. Randall, o Pennsylvania, i dynu ymailh bob analluedd ag sy'n bodoli ar bawb sydd wedi eu difreinio drwy gyf- raith, 0 herwydd eu cysylltiad a'r llywod- raeth gyngreiriol, pa un bynag a ofynant bardwn am eu troseddau ai peidio. Os pasia yn y tymor hwn, fel y cynygiwyd ef gan Mr. Randall, nid annhebyg na wdir Jeff. Davis yn y Senedd cyn hir. Ym- ddengys fod y Democratiaid bob yr un yn y De a'r Gogledri,am ei anrhydeddu Sphar- dwn heb ofyn am duno, a'r Gwerinwyr o'r