Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
A. WjEMALT JVJ?7f established is«i. Issued Every Thursday Morning. # T. J. GRIFFITHS, Proprietor, '• UTICA. N. Y.
LLINELLAU ANERCH
LLINELLAU ANERCH A GYFANSODDWYD WEDI DARLLEN ENGLYN- ION EIRA A RHEW, OER YW'R HIN," GAN DEWI HAFHESP, YN Y DRYCH. Mra a rheiv, Olr yw'r Mn, Ow! ?/ durew wyd erwin Wyd erwin, 0 y durew, Oer yw'r Mn, eira a rhew." Teg yw'r hin. paid ti g-wiriani-Hafhcs-p Hefo'th rew a'th oerni; A bydded lawen d' awen di Yn enw'r anwyl ni ryni. Os hen Ferwyn sy'n farw-os anlan SwynoJ sydd yn welw; Mewn hun hyd y gwanwyn mae nl w, Ac enwog acen y gwcw. Na chwyna wych awenydd—gaua' dig V Dal it' yn ysblenydd; Dymor du y mawr dywydd Fe dd'wed werth yr hafaidd ddyctd. 0 gwasgarosr wisg o eira—ddododd I Eden Ewropia; Gwanwyn prid a'i newidia, Twymua li holl fotymau ia. Eto ceir eilio caroig,—hudol, Gan adar y goenwig; J' ehedydd llnig, Wibia a clian bach yn ei bif. I wel'd gwerth gwlad y gan—i Amerig Am awr o doet Ow, ti a rewet. druan, Dra rhewa y dwr ar dan. Chicago, Ill. Ehisiabt DDU o Fon.
I YR HEN FRUTANIAID.
I YR HEN FRUTANIAID. Sifle Dysgeidiaath yn Mhrydain o'r flwyddyn 55 Cyn Crist, hyd ddyfodiad y Saxaniaid i'r Ynys yri- yfl. 449 o Oes Cred. GAN BRYTHON HEN. ."V YSG RIF III. v. f Gallwn feddwl fod ymddangosiad y cyrff nefol mor darawiadol a hynod, fel o angen- rheidrwydd i dynu sylw neillduol yr hen- afiaid atynt, nes eu gwneyd yn brif ym- chwiliad athronwyr gwahanol wledydd. Mae gwirionedd 'y nodiad hwn yn cael ei gacjarnliau gan haneswyr henafol yr Aifft, Assyria, Groeg, a phob gwlad aralllle y bu y wyddor hon yn cael ei gwrteithio. Yn yr holl wledydd hyny yr oedd yr hen ath- ronwyr yn seryddwyr, ac yn cymwyso eu hunain gyda ffyddlondeb diflino i ddargan- fod maintioli, pellder, symudiad a chylch- droad y cyrff nefol. Dyma oedd un o brif fyfyrdodau Gaul a Phrydain. Dywed Ca5- sar fod yn mysg y Derwyddon amryw ym- chwiliadau mewn perthynas i symudiadau y bodau nefol, y rhai a ddysgid ganddynt i'w dysgyblion. Ymddengvs i mi fod gan y Derwyddon amcan neillduol wrth fyfyrio seryddiaeth, a phriodol yw dweyd nad oedd eu ham- gylchiadau yn gwbl anffafriol i ddysgu y gangen hono o wybodaeth. Yr oedd rhyw gymaint o'r wybodaeth hon yn angenrheid- iol er mesur amser yn gyffredinol, er gwneyd parhad gwahanol dymorau yn ddealladwy, i lywodraethu gweithredia 'au yr amaethwr, ac i arwain cyleb daith y mor- wr, yn nghyd a llawer eraill o wahanol ddybenion mewn bywyd; ond yn neilllu- ol, yr oedd yn angenrheidiol er gosod am- ser penodol dychweliad eu huchel-wyliau crefyddol, y rhai oeddynt yn gwbl dan ar- weiniad y Derwyddon. Yr oedd rhai o'u huchel-wyliau yn cymeryd lie yn fisol, ac eraill yn nynyddol. Gan liyny, yr oedd yn angenrheidiol iddynt hwy wybod gyda chryn lawer o fanylrwydd a cliywirdeb ni- fer y dvddiau yn y rhai yr oedd yr haul a'r lleuad yn cyllawni eu cylchdroadau, fel y byddai i'r uchel-wyliau a gynelid ganddynt gael eu cadw yn eu tymorau priodol. Yr oeddhyn, fe ddichon, yn fwy pwysjg ac angenrheidiol, gan fod y gwyliau hyn vn cael en mynychu gan bersonau o wahanol wledydd, a rhaid oedd bod yn sicr o'r d vdd yr ymgynullid Er eu cario yn ml^nf rhaid oedd cael rheol i wybod rtychweliiri blynyddoly dyddpenodedig. Yn mysg v cymellion i'r Derwyddon fyfyrio serydd- iaeth, gallwn nodi tri. Yn gyntaf, fod yr haul a'r lleuad, ac efallai y planedau, yn wrthrychau eu haddoliad; ac oblegid hyny rhaid fodeu sylw yn ami yn cael ei arwajn i fyfyrio ar y cyfryw fodau. Yn yr ail Ie, yr oedd eu lleoedd o"addoliad, yn y rhai y treulient ran fawr o'u hamser ddydd a nos, yn ddiorchudd, ac yn sefyll ar fanau am- lwg a chyfleus, fel y gallesid cael pob man- tais i ganfod y bodau nefol. Yn olaf, yn ol yr haneswyr mwyaf henafol, ymddengys fod yr haul a'r lleuad wedi eu hamconu gan y Creawdwr i fod yn arwyddion ac yn dymorau, yn ddyddiau ac yn flynyddoedd i-fesur gwahanol ranau amser, er gwneyd dyfodiad ac arosiad gwahanol dymorau yn gyson. Dywed Csesar a Mela fod Derwydd- on Prydain yn myfyrio y ser yn gystaI a'r haul a'r lleuad. Dychymygid fod gan y Derwyddon off- erynau o ryw fath, y rhai a atebent yr un dyben a'r syllddrych mewn gwneyd ar- chwiliadau ar y bodau nefol; ond nis gallaf gael dim i brofl fod hyn yn ffaith. Mae yn dra thebygol fod Derwyddon Prydain, yn nghyd a'r bobl gyifredin, yn deallychydig am rifyddiaeth yn y cyfnod yr ymwelwyd a hwy gan Cassar, gan eu bod yn codi 11 u- aws o anifeiliaid, ac felly yr oeM deall ffugyrau yn angenrheidiol i'w hachosion eu hunain. Hyd yn nod yn y sefyllfa fug- ciliol, yn amddifad o bob cyfoeth arall ond eu praidd, yr oeddynt dan angenrheid- rwydd i ddysgu cyfrif eu hanifeiliaid yn eu gwahanol rywogaethau, er cael gwele yn mha gyfartaledd yr oeddynt yn lleihau neu yn cynyddu. Gan fod y Derwyddon yn myfyrio atlironiaeth, anianeg, a serydd- iaeth, yn nghyd a changenau eraill o'r celf. yddydau, mae genym sail dda i gredu eu bod yn gwybod rhywbeth am rifyddiaeth, gan fod rhifyddiaeth yn angenrheidiol i'r athronydd at fesur maintioli a phellder y gwahanol fodau, yn gystal ag mewn am gylchiadau cyffredin bywyd. Gallwn dyb- ied fod mesureg felgwyddor yn adnabydd- us yn mysg y Prydeinwyr, gan fod pobl unrliyw wlad amaethyddol ag sydd yn cael ei gwrteithio, dan angenrheidrwydd i fy- fyrio mesureg at eu gwasanaeth, gan fod yn rhaid i'r cyfryw fesur rhai o'u nwyddau yn ddyddiol pan yn masnachu. Fel diweddglo ar yr uchod, dywed Cae- sar, fod pob dadl a ddigwyddai godi yn mysg y Prydeinwyr o berthynas i derfyn eu tiroedd, yn, caeI ei benderfynu gan y Derwyddon drwry fesureg. A phan ystyr- iom ei bod yn arferiad a chyfraith yn mysg y Brythonwyr henafol i ranu yr etif- eddiaeth a berthynai i'r tad yn gyfartal rhwng y meibion, rhaid oedd eu bod yn deall mesureg yn dda, cyn y gallasent ranu yr etifeddiaeth cyd-rhwng pedwar, pump, chwech neu saith o feibion yn yr un teulu. Mae genym sail i gredu fod y Brython- wyr, yn neillduol y Derwyddon Brython- aidd, yn deall daear-ddarluniad (geography) yn weddol dda, yn neillduol yr eiddo eu hynys eu hunain. Mae holl ddynolryw hyd yn nod yn eu sefyllfa farbaraidd a di- wrtaith, yn naturiol yn ymgyraedd am wy- bodaeth yn nghylch y wlad y maent yn byw ynddi-y pellder a'r berthynas a fod- ola rhwng ei mynyddoedd, ei choedydd a'i hafonydd, a lleoedd nodedig, erhwylusdod i ddwyn yn mlaen eu helwriaethau, ac i fugeilio eu praidd yn y cyfryw wledydd. Heblaw yr hyn a ddywedwyd uchod am wybodaeth y Derwyddon Brutanaidd, gwel- wn fod ganddynt fanteision eraill i gyr- aedd gwybodaeth am geography y wlad, gan eu bod yn gorff lluosog o bobl, a chan- ddynt gymdeithasau lawer wedi eu sefydlu mewn gwahanol ranau o Brydain, a'r ynys- oedd cylchynol, ac yn derbyn gohebiaeth gyson oddiwrth naill y llall drwy eu harch- dderwyddon. Ac wrth gasglu a chyfer- bynu yr amrywiol ohebiaethau a'u gilydd oddiwrth wahanol gymdeithasau, hawdd oedd iddynt ffurfio cyfundraeth gyflawn o ddaearyddiaeth o'r ynys. Nid oedd y Brutaniaid ychwaith, gallem dybied, yn bell iawn yn ol yn eu gwybod- aeth am beirianwaith, gan fod lluaws o'r cenedloedd Prydeinig yn gyfarwydd ag amaethyddiaeth, atlironiaeth, anianeg, mes- ureg, a morwriaeth, a llawer o bethau er- aill, pan ymosododd y Rhufeiniaid arayni gyntaf drwy Julius Caesar. Gallwn gasg.l.a oddiwrth yr hanesion a roddir i ni, d ad oedd y bobl hyn yn hollol anwybc.dus mewn gweithio a gwneyd peiriana-ii, er gwneyd yr hyn oedd yn rhy drwm i'r dyn ei hun i'w wneyd. Mae colofnau m awrion a chedyrn wedi eu hadeiladu yn Mhrydain, ac yn aros hyd y dydd heddyw, y rhai ni ellir eu priodoli i neb arall ond i'r Prydein- wyr henafol, yr hyn sydd yn J.hoddi lie i ni gredu fod y Prydeinwyr w edi gwneyd Ilwyddiant helaeth yn y gangen hon o ddysg, fel ag yr oeddynt yn gallu cymwyso peirianau i gyflawni petliau ag oeddynt yn peri syndod. Gan yr ymddengys fod y colofnau hyn wedi eu bwriadu i ddyben- t ion crefyddol, gallwn fod yn sicr bod wedi eu codi dan gyfarwyddydy Derwydd- on. Pa nifer o geryg mawrion heb e6 trin a welir y dydd heddyw wedi eu gosod ar benau mynyddoedd yn ynys Brydain a'r ynysoedd cylchynol? A cliyn y gellid eu dwyn i'r manau hyny, rhaid fod yno ddy- fais beirianol uwch law gallu naturiol dyn. If.. h.
DYDD YR ANGLADD.
DYDD YR ANGLADD. SAN Y PARCH. E. D. JONES, EilfPOHIA" RAS. Amser galar a gruddfan yw dydd yrang- lad yn mhob gwlad. Penillion a thonan galarus a genir wrth gychwyn y corff o'r ty. Yn gyffredin dewisir y penill hwn, neu ei gyffelyb: Ffarwel gyfeillion anwyl iawn, Dros enyd fechan ni 'madawn," &c. Gyda bod y rhan olaf o'r penill allan, dyna yr angladd yn cychwyn, y cantorion yn ymwahanu i bob cyfeiriad, er dianc rliag traedy meirch ac olwynion y cerbyd- au. Eto ceir rhai personallyn parhau i ganu, a bydd rhif y tonau yno yn ami mor lluosog a rhif y cantorion. Yn raddol dyna y swn aflafar yn ymgolli yn y pellder. Tybia rha; fody fath ddefod anhrefnus yn fawl i'r Goruchaf. Teimla rhai pregeth- wyr i roddi heibin y ddefod hon, ond mae ofn digofaint perthynasau y marw yn eu dal hwy mewn caethiwed. Y pwnc yw, yn angladd pwy mae dechreu reform? Y mae perygl i'r galarwyr feddwl eu bod hwy a'r ymadawedig yn cael eu diystyru. Gwel- wyd rhai yn tramgwyddo wrth y gweinidog am fod ei weddi yn y ty, neu ei araeth ar lan y bedd yn rhy fer. Gwn am un a dyn- odd i lawr gyflog ei weinidog, o herwydd 9 11 9 na buasai yn parhau ei weddi yn hwy, a son mwy am y marw. Hyd yn nod yn yr angladdau lluosocaf, ni welir ond ychydig alarwyr-nid oes yno arwydd t6imlad dwfn. Ceir pob un yn nesau at ei gyfaill er trin a thrafod holl helyntion y byd, a hyny yn aml gyda mesur helaeth o ddigrifwch a chwertliin. Pe yr ysgrifenid mewn llyfr yr holl ym- ddiddan a gymer le o'r ty i'r bedd, byddai hwnw yn un o'r llyfrau rhyfeddaf a wel- wyderioed; byddaiynddo agos bob peth ond yr hyn ellid ddisgwyl mewn angladd- Er fod yr hin yn boeth a'r capel yn orlawn o bobl, dyna yr arch yn cael ei hagor, er i'r dyrfa wrth fyned heibio gael sylldremu ar y corff. Yn nesaf, dyna y perthynasau yn cofleidio a chusanu y clai oer. Tra mae y defodau hyn ar droed, mae sawrhedion {effluvia), gwenwynig a marwol yn deilliaw allan o'r corff, gan lenwi yr awyr nes gwneyd y lie yn beryglus i bawb yn bresen- ol. Yn ychwanegol at hyn, clywir yno y lleisiau mwyaf torcalonus, yn ngbyd ag ys- grechfeydd cyffrous. A oes raid i'r pethau hyn fod? Ar ddydd yr angladd, gwelir rhai preg- ethwyr yn ymddwyn yn hynod anheilwng o'u proffes a'u hurddasol swydd. Gydag ochenaid drom, a gwyneb hir, clywais weinidog yn darllen y testyn, "Ac yn uffern efe a gododd ei olwg," &c. Da genyf allu dweyd nad oedd yno neb yn cymeradwyo ei ymddygiad ond efe ei hun. Ceir dosbarth arall o bregethwyr yn bur dueddol i osod yr ymadawedig yn y nef- oedd. Er y dichon ei fod hyd derfyn ei oes yn ddiarebol am ryw bechod neu bechod'au, eto gosodir 6f allan fel siampl deilwrig o fywyd duwiol. Mae rhai yn myned mor bell a sicrhau yn y nefoedd ddynion na wnaethant erioed gymaint a pbvofEes o grefyild. Dan amgylchiadau er- am, clywir hwy yn pregethu yr angen- 'rheidrwydd am ail enedigaeth a bywyd santaidd, gan dystio na chaiff neb "etifeddu teyrnas Dduw" heb hyny. Gan fod eu pregethau angladdol yh gwrth- ddweyd eu pregethau eraill, nis gall yr oil fod yn gywir. Ond os Ilwyddant trwy hyny i fodrthau perthynasau y marw, dichon eu bod "yn derbyn eu gwobr." Da fy 'dai iddynt gofio nad ydyw padell a sebon meddal yn gweddu i'r pwlpud. Mae yn yr arferiad drygionus hwn duedd i beri i broffeswyr difraw a rhagrithwyr i orwedd yn dawel ar eu clustogau. Dysgir yr an- nuwiol i barhau yn ei bechod au, a chredu y ca yntau fel eraill yn angeu fyned i ogon- iant. Anhawdd genyf gredu fod y pregeth- wyr hyn yn bwriadu cam-arwain y bobl trwy weniaeth ac anwireddau, ond ryw fodd mae dylanwad arferiad drwg yr oes yn eu sugndynu yn ddiarwybod iddynt eu hunain. Yn ami, bydd y draul angladdol yn ofnadwy o afresymol. Rhaid cael yr arch wedi ei liaddurno a phinau a dolenau arian- aidd. Tra mae y rhai hyn yn swynol i'r llygad, maent yn dan i'r llogell. Ceir y byw yn tlodi ei hun yn fawr heb lesau dim ar y marw. Pe gellid profi fod yr addurn- iadau uchod yn chwanegu y gradd lleiaf at ddedwyddwch, hyd yn nod man chwil- anod bedd, byddai lie i roddi gair dros yr arferiad gwastraffus. Er yr holl wastraff, ni welir ar yr arch gymaint a gwerth dog sent o ddolenau er atal y rhaff rhag llithro a'i gollwng i'r bedd yn anhrefnus. Gwelais eirch yn syrthio i'r dyfnder ar eu penau, a thrwy hyny yn achosi trafferth ac archolli teimladau. Gwelir yn ami fod traul yr arch, y ceibydau a'r gof-golofn ar y bedd, fel mynydd, yn llethu teuluoedd i Jawr yn ddwfn, gan eu dal dan faich trwm am flynyddoedd.—$50 am arch—yr un faint i dalu traul cerbydau, &c., a $200 am gof- adail, a'r holl draul i bwyso ar weddw ac ymddifaid bychain, heb fod ganddynt ond y peth nesaf i ddim rhyngddynt a'r gwaeth- af. Y bwystfil hwn a elwir ffasiwn. Pa hyd y caiff efe ormesu ar gymdeithas, a llyncu teuluoedd yn fyw? Os yw y weddw yn parchu ei phriod a thad ei rhai bychain, onid gwell iddi hi dreulio yr hyn sydd ganddi er eu porthi a'u dilladu? Ni chwenychai yr enwog Calvin ddim mwy uwch ei fedd na chareg syml, a J. C. arni. Onid gwell i ni ei efelychu yn y mater hwn? ..t.
HYNODION ST. HELENA.
HYNODION ST. HELENA. GAN TOM AP DAVIES, CHURCH HILL, OHIO. Napoleon yn traethu ei farn am wahanol bethau pan ar y fordaith tuag yno. Tra ar y fordaith arferai yr Ymerawdwr fwyta ei foreu-fwyd yn ei ystafell, a dar- llenai trwy y dydd hyd amser ciniaw—tua pump o'r gloch. Nid oedd erioed wedi arfer bod dros 15eg mynyd yn bwyta, ac yr oedd yn fKeiddio y rrefn ffol Seisnig o aros wrth y bwrdd i yfed gwin am awr ar ol bwyta. Nid oedd yn yfwr gwin na gwirodydd, ond arferai fwyta yn helaeth o'r dysgleidiau mwyaf cyffre Un. Codai oddiwrth y bwrdd weithiaufrnor fuan ag y gorphenai fwyta, ac o barch iddo, codai pawb ar eu traed tra yr elai allan; ond yr oedd Cockburn yn anfoddlon i'w ymddyg- iad, a dywedodd wrtho un tro nad oedd erioed wedi dysgu moesgarwch Lord Ches- terfield; moesgarwch yr hwn ydoedd llym- eitian gwin wrth y bwrdd hyd nes y syrth- iai yn feddw o dano. Yr oedd y siarad wrth y bwrdd ar ol ciniaw yn dra dyddorol, ac o barch i rai o'r Saeson, arferai yr Ymerawdwr eistedd gyda hwynt weithiau, ac ymunai a hwynt yn y siarad. Un tro, pan yn siarad am y rhyfel fu rhwng Lloegr ag America, trwy yr hwn yr enillodd y Talaethau Unedig eu hannibyniaeth, dywedodd Napoleon, "Bu Mr. Madison yn rhy hir cyn cyhoeddi y rhyfel, neu buasent yn gorphen eu gwaith yn gynt, ac ni ofynodd yr Americaniaid am gynorthwy oddiwrthyf fl, neu buaswn yn rhoddi amryw o gSd-longau iddynt pe y gallesid anfon morwyr Americanaidd i'w hwylio drosodd, a'u llywio yn briodol, ond nis gallaswn roddi cynorthwy milwrol idd- ynt, o herwydd fod amgylchiadau cartrefol Ffrainc yn dechreu gwaethygu y pryd hwnw." Dro arall, pan yn siarad am sefyllfa peth- au yn Ewrop, dywedai: "Os unwaith y cyll Poland ei hannibyniaeth, a myned yn eiddo Rwsia, bydd y gwrthglawdd sydd rhyngddi (sef Rwsia) a'r gweddill o wled- ydd Ewrop werli ei symud, a bvdd raid gwylio yr Arth gyda llygad drwg-dybus." Ychydig^mser wedi hyny cymerodd cyn- adledd Vienna Ie, yn yr hon y bu Lloegr mor llwfr a gadael i Rwsia gael Poland, yr hyn a gostiodd yn ddrud iddi crn pen haner can' mlynedd wedi hyny ar faesydd y Crimea." Tra yn ymddiddan a Las Casas dro arall, dywedai: I America y dylasem fyned, ac nid i Loegr. America yw yr unig wlad He y mwynheir perffaith ryddid a chydradd oldeb, yr hyn sydd yn hollol gydunol a. fy syniadau am ffurf-lywodraeth, a phe buas- wn yno yn amser y rhyfel, nis gallaswn laii na bod yn Washington Ffrengig." Pan yn pasio ynysoedd Azores, daetli y llynges Ffrengig yn destyn yr ymddiddan, a dywedai yr Ymerawdwr, "Pan esgynais i'r orsedd ni feddai y Weriniaeth ond ped- air o gM-longau. Gwnaeth cymeryd Tou- lon, a brwydrau Jenes, Rochefort ac Abou- kir yn 1793-94, roddi dyrnod marwol i'r llynges; ond wedi i mi deyrnasu 10 mlyn- edd gadewais i Ffrainc gant o gad-longau a 80,000 o forwyr a milwyr, a gadawswn ragor oni buasai fy mod yn gorfod ymyr. aeth yn barhaus a'r prif alluoedd ar y cyf- andir, ac o herwydd y dinystr yn Trafal- gar, yr hwn a achoswyd trwy i Admiral Vileneue beidio ufuddhau i fy ngorchym- yn. Dvlaswn fod wedi ymyraeth a Lloegr. am ei bod yn bawlio meddiant or holl for- oedd, prif ffyrdd y Cenedloedd; ond er na wnaethum hyny, gorfodais hi i barchu baner Ffrainc ar y mor, fel y dysgais i Ym- erawdwyr Awstria a Rwsia ei pharchu ar y tir. Dinystriodd Cynadledd Paris yr oil a wnaethum i'r llynges. Er pan esgynais i'r orsedd, mae y Weinyddiaeth Seisnig wedi fy niraddio, ac ymdrechu iselhau fy nghymeriad yn ngolwg y werin Seisnig;, ond deuant i weled y twyll eto, a dialant: ar eu blacnoriaid am eu casineb diachos; ond er eu holllibels nid ofnaf niwed. Caf gyfiawnder oddiar ddwylaw cenedlaethaii a ddaw—{posterity will da me justice)—cyd- marant y da a wnaethum a'r drwg a gvf- lawnais, ac nid ofnaf y canlyniad. Pe llwyddaswn i gadw yr orsedd, buaswn yn marw gyda'r cymeriad o fy mod y dyn mwyaf a droediodd y ddaear erioed. Daethum i fyny trwy fy niwydrwydd, o ddim a dinodedd, i fod y Llywiawdwr penaf yn yr universe, heb gyflawni trosedd- au. Pe buasai troseddau yn unol â fy syn- iadau, ni fuasai Louis XVIII na Ferdinand yn teyrnasu. Cynygiwyd eu penau i mi lawer tro fel anrhegion, a dywedai fy nghynghorwyr doethaf, y dylasent gael eu symud oddiar y ffordd, ond gwrthodais, ac nid yw yn edifar genyf. Gwir fod ynof uchel-gais, ond yr oedd yn gorphwys yn syniadau y werin; os byddant hwy yn uchel-geisiol, rhaid idd eu rheolwr fod i raddau felly hefyd. Credaf fod penadur- iaeth yn orphwysedig yn nghalonau y bobl, Nid oedd yr ymerodraeth, fel yr oeddwn i wedi ei threfnu, ddim amgen na gwerin- iaeth fawreddog. Cefais fy ethol i'r or- sedd trwy bleidlais y bobl, a dyma oedd fy arwyddair, gyrfa agored i dalent heb wahaniaeth gradd. '-(a career open to talent without distinction of birth.) Ac o herwydd fy mod yn meddu y fath syniadau cyd- raddol, y mae holl benau coronog Ewrop am fy nyfetha. Yn Lloegr yr ydych yn liaeru fod talent, dewrder a gwasanaeth da yn codi unrhyw f1 dyn i'r safle uchaf, ac 06 felly, paham na fuasai Lloegr yn fy neali?^ Yn hwyr y 14eg o Hydref, daeth St. He- lena i'r golwg yn y gorwel pell, ac arosodd y llong (hove to) hyd y boreu, pryd yr ail gychwynwyd. Aeth yr Ymerawdwr i ben blaen y llestr, a'i bell-welyr yn ei law, ac fel y dynesai y llong at y lan, syllai yn ddistaw a syn-fyfyriol ar y coast, yr hwn oedd i fod yn fur allan ol ei garchar; syllai ar y creigiau duon, daneddog, anferth oeddynt wedi eu hyrddio i fyny trwy nerthoedd llosg-fynyddawl, i gusann gwef- usau gwynion y cymyiau. Pan yn angorl ganol dydd o flaen pentref Jamestown,, dywedodd yr Ymerawdwr wrth Las Casas, Wele fy ngharchar, ac fe allai fy rnedd." Dymunodd yr Ymerawdwr ar Cockburn i: ganiatau iddo lanio yn yr hwyr yn hytracli na chanol dydd, er osgoi edrychiadaa eywreingar pobl Jamestown, a chafodd ei ddymuniad. Golygfa ddifrifol oedd ei weled yn gad- ael y Northumberland. Ysgydwodd ddwy- alw g, phawb, a diolchodd o'i galon iddynt am y tynerwch, y boneddigeiddrwydd a'r mawr garedigrwydd a gafodd tra. ar y bwrdd. Ymgasglodd pawb i ochr y Ilong i'w weled yn disgyn i'r bad. Nis gallodd un morwr na milwr ddal yr olygfa, oad wylodd pawb. Cysegrwyd dec y Hong, yn nghyda'r heli, a dagrau cydymdeimlad, Tra yr ymdaenai mantelli caddugawl y nos dros y llanerch drofegawl, a thra y clnvib- ianai y trSd-wyntoedd rhwngy creigiau ys- gythrog a'r clogwyni serth, glanio,ld, tin harwr ar y grisiau ceryg. J