Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

§riniiatotta.

WILKES BARRE, PA.

ADGOFION FY NHAITII.

[No title]

YSBRYD DIWYGIAD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YSBRYD DIWYGIAD. —Dywedir fod llawer o bobl feddwon, na fyc(lant yn myuychu tai adcloliad, wedi myned i wrandaw Moody a Sankey yn Phil- adelphia, a chael troedigaeth. —Dvwedir fod 254 o Babyddion yn nhir- fogaeth Quebec wedi cofleidio Protestan- iaeth yn nghorfl ychydig d.ly diau yn ol. Gwna hyny y cyfan a ddychwelodd mewn ychydig wythnosau yn bedwar cant ac un ar ddeg, fel ffrwyth gwaith y Genadaeth Bresbyteraidd yn mhlith y Ffrancod. —Hysbysir mewn adroddiad o Philad- elphia, fod cyfarfodydd Moody a Sankey yn y ddinas hono wedi costio $30,000, a bod eisiau codi $8,000 eto i orphen talu y costau. Dechreuodd y diwygwyr eu llafur yn New York yr wythnos hon. -Adrodda y Parch. John A. Monroe, gweinidog Wesleyaidd yn Port Jervis, N. Y., ffrwyth cyfarfodydd diwygiadol am ddeng wythnos. Cofrestrwyd 701 wedi cael troedigaeth; ar brawf 501—196 o wr- ywod a 301 o fenywod, a'r gweddill yn blant. Mae y pentref wedi ei ddosranu i 13 o adranau, fel y gall y chwiorydd lafur- io ynddynt. Prin y gwelir neb meddw yn y He. -Hysbysir fod yn China 436 o genadon mewn 41 o ardaloedd. Bu un yno 38 o liynyddoedd; un arall 31, a'r trydydd 30. Mae yn Japan 100 o geiiadon Protestanaidd mewn 7 o randiroedd; ac o'r nifer uchod y mae 44 wedi eu hordeinio, 4 yn feddyg- on a 52 o fenywod. Hefyd y mae yn Siam 24 o genadon. Allan o'r 436 yn China y maeJIO o'r Talaethau Unedig; 194 o Bryd- ain Fawr, a 32 o Germany; ac o'r 100 yn Japan, 76 or Talaethau Unedig a 24 o Brydain Fawr. Mae yr holl genadon Pro- testanaidd yn Siam o'r Talaethau Unedig, RACINE, WIS.—Mae genyf newydd da o lawenydd mawr i bob Cristion sydd yn darllen y DRYCH, sef fod diwygiad bendig- edig wedi tori allan yn y ddwy eglwys Gymreig yma. Ymunodd yr A. a'r M. C. i gadw yr "wythnos weddi;' ond mae yr wythnos wedi myned yn dair, a'r hwyl nef- olaidd yn parhau yn ei rym, a rhyw bech- aduriaid braidd bob nos yn ffoi rhag y Hid a fydd, a'r rhai hyny gan mwyaf yn benau teuluoedd—hen wrandawyr yn plygu ac yn wylo fel plant. "Diolch iddo Byth am gofio llwch y llawr." Mae yr eglwys A. yn awr heb fugail; ond mae bugail ac esgob eneidiau yn gofalu am danynt, drwy rod<!i adnewyddiad i'r aelod- au, nes mae llestri yr hen bererinion yn llawn, ac ar brydiau yn tori drosodd. Mae ffurfioldeb wedi myned o'r ffasiwn, a'r hwyl canu a gweddio, a'r Amen, 0 diolch, &c., wedi cymeryd ei Ie. Mae y Parch. Joseph Roberts yn sicr o fod yn enill setch nefoedd a daear, am ei ddoetliineb a'i ysbryd efeng- ylaidd yn arwain y symudiad hwn o daerin- eb ar bechaduriaid i ffoi rhag y gawod ofn- adwy sydd i ddyfod ar fyd yr anwir ddyn- ion. Dos yn mlaen,nefoldS,n,yw dymuniad. —C'ymro. FISH CREEK, GER BANGOR, WIS.—Da genym allu hysbysu y cyhoedd fod y cyfar fodydd gweddio a gychwynWyd yn yr ar- dal uchod ddechreu y flwyddyn wedi troi allau yn gyfarfodydd toreithiog. Mae yr hen frodyr crefyddol yno fel yr hydd, yn brefu am yr afonydd dyfroedd; felly y maent hwythau wedi bod yn hiraethu am Dduw, am y Duw byw; ac yn ol ei arfer, fe adawodd Duw iddynt ei gael; a'r can- lyniad yw, fod y diafol yn barod wedi colli ei ddeiliaid yno or bron. Nid ydym am geisio rhoddi cyfrif i chwi o'r dychweled- igion, oblegid y mae hi yn edrych yn awr fel pe baent oil o'r mwyaf hyd y Ileiaf o honynt am gael adnabyddiaeth o'r Ar- glwydd fel eu Gwaredwr. Par hyn lawen- ydd nid bychan i garedigion yr Arglwydd yn yr ardaloedd hyn, yn neillduol i'r ddau frawd yn y weinidogaeth, sef y Parehn. O. Jenkins a H. M, Pugh. Teimlad y brodyr yw, fod braich yr Arglwydd yn ymddang- os, ac felly nad yw eu llafur yn ofer yn yr Arglwydd. Wrth ddarHen newyddion y dydd, cawn fod yr Arglwydd fel pe bae yn galw ar ei Seion i ddeffro rawn modd mwy cyffredtnol nag arfer; a phWy a wyr tra y mae yr holl ddarpariadau ya snyffed yn mlaen, a'r holl adeiladau yn cael &>a! codi i ddathlu y flwyddyn Ganmlwyddol d oes y Talaethau Unedig, nad ydyw Duw tiefyd yn myned i adeiladu Seion, yna y gweHtef yn ei ogoniant; bydd palasau beion mOlt wych nes tanu palasau gwychaf y byd i'r cysgod. Ni a obeithiwn y bydd y flwydd- li yn Ganmlwyddol hon yn arieg ag y cymer ein Duw ni hi i gymeryd Cyfandir mawr America, i ddiosg ei fraich yn ngolwg yr holl genedloedd sydd yma yn barod, ac hefyd i'r rhai fydd yn cyrchu yma bron o bog) cwr o'r byd o fewn corS y flwyddyri honf a tliray mae Duw yngalw ar Seion i ddeff to, y caiff hithau nerth i waeddi— "Deilro, Deffro, 0 fraich yr Arglwydd!" Bydded hon yn flwyddyn Jubilee i Seion, yv/ fy nymuniad, er yn wan—J. M. larry, GOMER, O.—Da genym allu dweyd drwy ein papyr elodwiw, fod y Cymry yn ardai Gomer yn nT wynhau cysuron bywyd i radd- audymunoL Mae iechyd yr ardalwyr yn rhagorol; ag ystyried y gauaf agored., a'r gwlawogydd- parhaus y tymor hwn. Bu Llwyildiant- tynwwol yn helaeth y flwyddyn a bashJdd; agystjlxied amgylchiadau y w lad —y cynhauafllaifb, a'r cyfyngder arian ol y cwynir cymaint or,i herwydd; ond yn ben- af oil, cawsom; f wyi-illiau yn helaeth o fen- dithion ysbrydol; a'douiasuyr Ysbryd Glan. Bu llwyddiantyreglwy»yn fawr, a gwein- idogaeth ein gweTnidoa:" parefet 'dig yn bob cysur i ni, er pan y sefy cilo#d y* Ðin plith. Mae yr eglwys yn rynydfe me"% 'n undeb, cariad, a gwenau y' nefoedd awaoia i radd- au dymunol. Ni bu gweinidog- yn nghyd a'i deulu erioed: yn ddyfnach yn-seinv hiadau eglwys nag yw y Parch. D. Jsfles^ aA deu- lu anwylaf yn serchi-adau eglwys G<V.ft 81' Un o'r bendithion-'gwerthfawrocafi'a'p^ 'sur penaf all gweinidog a'i eglwys au ydyw undeb, cariad'ia chydweithrgdiadl 11 holl gylchoedd crefyddy yn nghyd 8/' gWik. au grasol "Preswylydd y berth." swvd cvfeiliorni. erallaf ■ ddweyd, ein- bod yn nghariad Crist, yn mwynhau y bendith- ion hyny yn eglwys Gomer i r&ddau dy-- munol. Maeyn wir i ni golli drWy farwol- aethau rai o'r aelodau ffyddlonaf, ac ar- chollwyd felly deimladau personol a cliym- deithasol; ond yn ol yr addewid, Pyrth uffern nis gorchfygant hi." Buychwaneg- iad parhaus at rif yr eglwys ar hyd: y flwyddyn ddiweddaf, fel yn y blynyddau blaenorol. Derbyniwyd i'r eglwys dros ddeugain y flwyddyn ddiweddaf, ac eto y mae amryw yn ymofyn am:eu lie yn yr eg- ,lwys. "O'r Arglwydd y dae'th hyn;" De- chreuwyd y cyfarfodydd gweddio yr wyth- nos gyntaf o'r flwyddyn hon yn lluosog, gwresog a dylanwadol, a daliasant felly yr wythnos ganlynol, heb un arwydd edwino na llesgau; felly cawsom bythefnos (eel- wvdd, ac arwyddion amlwg fod Duw yn ei ras yn ein bendithio. Ac yn 01 rhif y cyn- ulliadau, cynesrwydd y canu, a nerth gaf- aelgar y gweddiau, ein cred yw, y buasai y cyfarfodydd yn parhau etc oni buasai y ty- wydd anffafriol, a ihywyllwcli y nos. Mae yr eglwys yn Gomer wedi ei dyrch- afu yn uchel, yn mwynhau y weinidogaeth buraf a'r gweinidog ffyddlonaf, yn nghyd a'r cantorion a'r gerddoriaeth ragoraf all- wn ddymuno. Ni bum erioed yn nyled y cor am sebon, felly nid ofnaf gael fy nghyhuddo o seboni, wrth ddweyd fod caniadau y cor yn ardderchog, ac ni allwn iawn brisio canu cynes a gwir werthfawr felly yn addoliadau y cysegr. Wn i ddim na allaiy cor gydag ychydig o rag-drefnu, leoli eu hunain yn fwy manteisiol er taflu eu dylanwad yn fwy nerthol drwy y gyn- ulleidfa. Ond yn wir, dylem gydnabod gwasanaetli Dr. Davies fel arweinydd y gan, yn nghyd a cliantorion Gomer, er cy- sur yr eglwys a llwyddiant yr achos. Dig- rif i ni oedd darllen barn N. Ddu, gangyd- maru goruchafiaeth Cor Gomer yn Eistedd- fod Columbus i "drwch asgell gwybedyn." Dichon ei fod ef yn gwybod trwch esgyll gwybed. Beth bynag am hyny, gwelodd y beirniad eu rhagoriaeth yn ddigon trwclius i'w barnu yn oreu; dyna i gyd, tae waeth am ryw ysmaldod felly.—Josiah Jones. III

HAELLOM EGLWYSLG.

CAMBRIA, WIB.