Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
lc:l II. A WEEKLY PWSPAPEE, ESTABLISHED 1851. Issued Every Thursday Morning. T. J. GRIFFITHS, PROPRIETOR. UTIOA, N. Y. Important to Advertisers I-The attention of business men in general is called to Y DRYOR as a superior advertising medium, being read by thousands who cannot be reached by any other publication; AND HAVING A CIRCULATION EXCEED- ING THAT OF ALL THE WELSH WEEKLIES AND MONTHLIES PUBLISHED IN THE UNITED ^STATES COMBINED.
Y FFOADUR.
Y FFOADUR. DARN ADBODDIADOL GAN CYNONFARDD. Wedi blino ar gaethlwed, Wedi telmlo 'i fod yn ddyn; Wedi credu tod porth rhyddid Yn agoryd 1 bob un I Gwyllai'r hwyr gysgodau'n dyfod, Yn bryderus, ond mewn trydd- Byddal'r nos yn fantell drosto Idd ei guddio nes yn rhydd. Cychwynai'n araf, ac yn ddystaw, ddystaw, Tra ambell seren yn y nen yn gwyllaw, Fel cenad dirgelo ororau gwynfyd, I nodi allan y brif llordd 1 ryddid. Arosal bob yn ail gam 1 glustfeinlo, Ac ofnal rhag i'r cwn neu'r melstr ddlhuno; Ond nid oedd awgrym bywyd trwy'r blanhlgfa, Gorphwysent oil mewn heddwch a'u sefyllfa 1 Cyflyma *1 gamrau, ei ddychymyg wylltia, El galon gan lawenydd a lesmelrial Er el amgylchu gan y nostfwl gaddug, Mae llusern gobaith ynddo, rhed fel ewlg Ar hyd y dyliryn; nofia'r afon lydan, A drlnga riwiau serth; Mae ynddo nerth heb nerth ei hunan. Ust, safa, ust I mae'n clywed swn, Rhyw swn brawychus, cyfarthiadau cwn! "0 Dduwt maent yn fy hela," gwaeddai ef, "0 rho ymwared, Arglwydd lory nef!" Y cwn a'i gwelent, ac fel llewod llament, Cynddelrlog ysgyrnygent, a bytheirlent, Fel ellyll anwn wedi gorftyrnlgo I 0 Dduw, na ad l'r truan gael el ddarnio. Ymwylltia yntau, llama fel yr hydd, O'i amgylch mae y nos, o'i fewn mae ffydd; 0'1 ol mae angeu a gwarthruddol fedd, O'l flaen mae rhyddid, ffafrau Duw a'l hedd. Y'mlaen yr a, .yn wrol, dewr el fryd, Y'mlaen, y'mlaen fel DYN, y'mlaen o hyd, Yn benderfynol, tra bo Duw uwch ben, A thra gwel sirlol seren yn y nen, Yn benderfynol byth 1 beidio troi, Os marw raid, rhaid marw'n ddewr wrth ffoi. Pan dorodd gwawr "y boreu bach," 'Roedd ef yn lach ar fwrdd y bad, 0 gyraedd pob gwenwynigsaeth, Yn ngolwg traeth rhyddgarol wlad Y cwn ddyryswyd ar y dalth, Bu'r gwaith yn ofer drwy y nos, Y ser glliasant oil o'r nen, Ond yn eu lIe daeth heulwen dlos. Cyrhaeddwyd y lan, ac angel gwyn rhyddid Estynodd et law l'w roesawu 1 fywyd; Mi welaf yn nghyfyng ddlangfa'r ffoadur, Ddarlunlad o yrfa a llwyddlant pechadur. v
ATHRONIAETH PREGETHU.
ATHRONIAETH PREGETHU. CYNGHORION Y PARCH. D. SAUNDERS, D. D., I BREGETH WYE IEUAINC.* Astudiwch bob gwirionedd Ysgrythyrol yn ei le a'i drefn, a'i berthynas a gwirioneddau eraill. Y mae anhawsder neillduol i gyfun- drefnau dnwinyddiaeth. Cyfyd yr anhaws- der, mewn rhan, oddiwrth natur y gwirion- eddau eu hunain. Y mae anhawsder arall yn cyfodi oddiar ffurf y dadguddiad. Y mae y Beibl wedi ei ysgrifenu mewn iaith agos a phoblogaidd, yn fwy at y galon nag at y deall. Am mai iaith calon ydyw iaith y Beibl, y mae yn anmhosibl gwneyd duwin- yddiaeth yr hyn a elwir yn exact science. Y mae gan rai dynion ragfarnau cryfion yn erbyn pob cyfundrefn o dduwinyddiaeth. Nid gwiw celu fod ein duwinyddiaeth Grist- ionogol wedi treiglo hyd atom drwy y canol oesoedd llygredig. Rhywbryd rhwng yr 11 a'r 15 ganrif y cymerodd dnwinyddiaeth ffurf wyddonol neu athronyddol. Peter Lombard oedd y cyntaf i ffurfio cyfundrefn o dduwinyddiaeth. Cyndyn a chywrain ddadleuon oedd yn hynodi y cyfnod hwnw. Gwir fod rhai o bynciau, sylfaenol yr efeng- yl wedi cael gylw mawr yn flaenorol i hyny, megys Athrawiaeth yr lawn, gan Anselm. Ond hollti blew duwinyddol yr oeddynt gan mwyaf, yn y cyfnod hwnw. Yr oeddynt yn "anghynefin a Gair Duw,"ac ni cheisient ddeall Cristionogaeth yn ol y safon Ysgryth- yrol, ond yn hytrach yn ngoleuni Awstin. Yr oeddynt yn ceisio ieu6 dysgeidiaeth y tadau ag athroniaeth Aristotle a Plato. Diau pe gwybyddai llawer hen Gymro eiddigus dros dermau duwinyddol, eu bod wedi cael eu geni yn Sentences Peter Lombard, a Scholia Aquineas, y byddai iddynt golli llawer o'u swyn iddo. Y mae peryglon yn nglyn a chyfundrefnau o dduwinyddiaeth. Y maent i rai yn atalfa i feddwl yr ymchwilgar. Gwyliwch chwi rhag i'ch cyfundrefn dduwinyddol fod yn gaethiwed, yn garchar meddyliol heb ffen- estr. Penderfynwch y bydd raid i'ch cyf- undrefn gynwys pob gwirionedd Dwyfol y gwyddoch am dano. Penderfynwch fod yn iibgical yn ngolwg eraill, yn hytrach na *Rhau o'r cyngor a draddodwyd i weinldogion ordelnledlg yn Nghymdelthasfa Llanrwst. chau allan unrhyw wirionedd Dwyfol. Na chymerer chwi yn gaeth gan un ran o'r ath- rawiaeth Galfinaidd, ond pregethwch "holl gyngor Duw," heb atal "dim o'r pethau buddiol." Dywedai Dr. Chalmers yn yr Eclectic Review nad oes a fedr bregethu pob dyledswydd yn debyg i'r hwn sydd yn credu fod holl gyfoeth gras Duw o'r tu cefn iddo. Meistrolwch y gyfundrefn dduwinyddol yr ydych wedi ei mabwysiadu. Wrth bregethu cadwch y dogmas a'r systems at. eich gwasan- aeth eich hun, a chyflwynwch wirioneddau duwinyddol yn y dull mwyaf syml i'r bobl. Ymadroddion bywiol y gelwir oraclau Duw. Na adewch i'ch duwinyddiaeth ladd y gwir- ionedd fel y mae y botanist (yllysieuydd) yn lladd y blodeuyn wrth ei ddisectio. Gwyl- iwch chwithau fyned i ddisectio athrawiaeth- au, nes iddynt fyned yn gelaneddau meir- won. Os gofyn y plant am fwyd, na rodd- wch iddynt fosil duwinyddol o'r canol-oes- oedd, ond gofalwch am roddi iddynt bob rhyw luniaeth cyfaddas. Nid rhoddi def- nyddiau at wneyd bwyd a ddylech yn eich pregethau-hyn a hyn o'r peth yma a'r peth arall ond y bwyd ei hun wedi ei barotoi yn gynes genych chwi. Drwy bob math o efrydiau astudiwch Gristionogaeth, nid yn unig yn ei hanes allanol, ond hefyd yn ei hanes mewnol yn eneidiau dynion. Myn- wch ddeall crefydd yn gystal a'i meddu. Y mae gallu uwch yn angenrheidiol i ganfod ysbryd Cristionogaeth nag i ddeall y dogmas. Teflwch eich holl ddynoliaeth i'r bregeth wrth ei chyfansoddi ac wrth ei thraddodi. Dywed Buffon mai yr arddull yw y dyn. Prin y mae hyny yn wir am ambell bregeth- wr. Y mae y bregeth yn llai na'r dyn. Gwn am rai sydd yn llai na hwy eu hunain yn y pwlpud. Y maent yn gadael rhanau helaeth o honynt eu hunain ar ol pan yn esgyn yno. Dylech gysegru pob dawn, a thalent, a theimlad a feddwch at weinidogaeth yr efengyl. Os oes genych ddychymyg o byw- iog, defnyddiwch ef i roi bywyd yn hanes- iaeth a ffeithiau y Beibl. Os oes genych allu cryf i ymresymu, fel Paul, rhoddweh lawn waith iddo. Os oes genych humor, rhoddwch ffrwyn yn ei ben, ac ysgrifener arno, "Sancteiddrwydd i'r Arglwydd," ond hwyrach mai go gynil y dylid ei ddefnyddio. Byddweh yn naturiol, yn union fel chwi eich hunain. Dyma yr unig ffordd i ragori, yn gystal ag i fod yn ddefnyddiol. Nis gall- wch fod yn fawr heb i chwi dyfu eich hun- ain. Ysgorniweh ddynwared neb, yn en- wedig ddynwared llais neu ystum unrhyw bregethwr. Na fydded i neb o honoch fod fel y dyn hwnw yn ngwlad Groeg, a dybiai y deuai yn feddianol ar hyawdledd rhyw ar- eithiwr mawr drwy briodi ei weddw. Preg- ethwch hefyd i holl ddynoliaeth eich gwran- dawyr. Nid cyfeirio at un ran o'u dynol- iaeth a ddylech, ond pregethu ar gyfer y dyn i gyd, ar gyfer y deall, y gydwybod, ond yn enwedig ar gyfer y galon. If
CREFYDD A'R IAITH GYMRAEG.
CREFYDD A'R IAITH GYMRAEG. GAN Y PARCH. B. H. EVANS, WAUKESHA, WIS. Yr wyf yn caru Cymry a Chymraeg; ac oni bae fy ymlyniad selog, er yn ieuanc, wrth yr hen iaith a'm cenedl, gallasai fy maes llafur fod yn llawer eangach, a fy am- gylchiadau, o'bosibl, mewn ystyr fydol, yn well. Ond pan yn eymeryd i ystyriaeth fy mod wedi aberthu rhyw gymaint wrth aros gyda'm cenedl, nid wyf yn teimlo yn ddrwg. Yr wyf wedi bod yn Iled ddedwydd yn y maes bach, a gobeithio fy mod wedi bod, ac y caf fod, o ryw wasanaeth gydag achos fy Ngwaredwr. Pan yn clywed ambell un yn dyweyd, "Oes y byd i'r iaith Gymraeg," byddaf bob amser yn teimlo i ddyweyd Amen; ond ar yr un pryd, ymddengys i mi fod y darfodedigaeth wedi cymeryd gafael yh ei chyfansoddiad, a bod mqrw yn ei har- os. Mae yn sicr fod y Gymraeg wedi darfod mewn llawer man, ac nad yw yr hen iaith anwyl i'w chlywed yn y tai, yn yr Ysgol Sul, nac yn y pwlpud mwy. Mae miloedd o Gymry mewn oed heb ddeall Cymraeg; ac ymddengys fod dros haner y plant mewn teuluoedd Cymraeg yn siarad dim ond Saes- neg. Pa beth a wnawn yn ngwyneb hyn ? Os rhaid i'r Gymraeg farw, a oes modd trefnu rhyw foddion fel na bydd ei marwol- aeth yn gwneyd niwed i grefydd ? Yr wyf yn sylwi fod llawer o Gymry wrth golli eu hiaith yn colli eu crefydd, a bod plant y Cymry wrth ddysgu Saesneg yn myn- ed yn annuwiol. Beth yw y rheswm o hyn? Atebwn mai y prif reswm yw, fod addoliad ac addysg grefyddol mewn iaith nad ydynt yn ei deall. Nid yw y plant yn deall Cym- raeg, na'r rhieni yn deall Saesneg, ac felly mewn anfantais i'w hegwyddori yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Bydd y rhieni yn dwyn mawr sel dros yr achos Cymraeg, ac addoliad Cymraeg, a bydd raid i'r plant fyned i gapel Cymraeg. Bydd y rhieni yn mwynhau y gwasanaeth a chael bias ar y bregeth, ond bydd y plant a'r bobl ieuainc, lawer o honynt, fel delwau, yn gwneyd dim ond llanw He. A gwyddom am lawer, er eu bod yn ysgolheigion da, eto yn druenus o anwybodus mewn pethau crefyddol. Y mae Hyfforddwr a Geiriadur Charles, yn nghydag Esboniad James Hughes i'w cael mewn teuluoedd, ond ni byddy plant yn eu darllen nac yn eu deall. Bydd y plant yn darllen pob math o ffug-chwedlau; a thuedd y rhan fwyaf o honynt i lygru y meddwl a lladd rhinwedd. Bydd y sothach yma mewn llawer ty yn gorwedd ar y bwrdd, yn ymyl llyfrau crefyddol, a'r rhieni heb fod yn alluog i'w darllen, na deall dim o'u cynwys! Yn awr, ar ol i'r plant hyn gael eu hamddi- fadu o'r fantais o dderbyn addysg grefyddol yn ieuanc, ni theimlant un dyddordeb mewn pethau crefyddol yn yr iaith Saesneg, a bydd pynciau duwinyddol yn cael eu teimlo yn fwy o faich na dim arall. Symuda y bobl ieuaine hyn i'r West, ond ni byddant yn un cymorth i sefydlu achos crefyddol; ac fel rheol, ni bydd ynddynt yr un cydym- deimlad at grefydd o gwbl. Yn ngwyneb fel y mae pethau, ofnwn nid yn unig y gwna y Gymraeg ddarfod, ond y gwna ein plant godi i fyny yn oes heb adnabod yr Arglwydd. Mae yr hen bobl yn marw, ac nid yw y bobl ieuainc, mewn llawer man, yn alluog nac yn gymwys i lanw eu lie. Ni fynant er dim gymeryd llaw mewn dyledswyddau cy- hoeddus. Nid oes galwad arnynt i weddio yn Saesneg; ac ni fynant i neb eu clywed yn ceisio gweddio yn Gymraeg; ac o ddiffyg arferiad, ofnwn am lawer nad ydynt yn gweddio mewn unrhyw iaith. Yr ydym yn cael fod golwg wael ac adfeil- iedig ar yr Ysgol Sabbothol, yn neillduol mewn rhai ardaloedd. Heblaw ei bod yn lleibau yn rhif ei haelodau, y mae yn colli ei ha mean, ei nerth a'i dylanwad. Mae hyn yn arwydd drwg, oblegid yr Ysgol Sab- bothol yw maethfa (nursery) yr eglwys, ac os a yr Ysgol Sabbothol i lawr, fe fydd yr achos crefyddol yn yr iaith Gymraeg, farw cyn hir, a bydd ein pobl ieuainc yn anwy- bodus o egwyddorion crefyddol, ac felly yn "blantos yn trtvbwman, ac yn cael eu cylch arwain a phob awel dysgeidiaeth, trwy hoced dynion, trwy gyfrwysdra i gynllwyn i dwyllo." Yn wir, y maent yn cael eu dy- lanwadu gan lenyddiaeth lygredig, ac ysbryd penrydd, ac anffyddol yr oes, i raddau pell yn barod. Mewn trofn i'r Ysgol Sabbothol fod yn llwyddiant, dylid ymdrechu cael gan bawb ddod iddi; ac yn nesaf ei gwneyd mor adeiladol a deniadol ag y bo modd. I gyraedd yr amcan hwn dylid (1) Talu y sylw mwyaf i'r plant lleiaf, a gofalu eu bod yn cael athrawon da; (?) Gwneyd pob ym- drech i e gwyddori, yr hyn a esgeulusir yn dost; (3) Gofalu am gyflawnder o bapyrau da i'w rhanu i'rplant; (4) Cael dosbarth neu ddosbarthiadau Seisnig, os bydd rhai plant heb ddeall Cymraeg. Gwn fod gwrthwyn- ebiad mawr i'r peth diweddaf, mewn rhai manau; ond y mae yn sicr na ddylid gwneyd cam ag enaid un plentyn oblegid nad yw yn deall Cymraeg. Mae rhai plant na welid mo honynt yn ein Hysgolion Sabbothol o gwbl, oni bae eu bod yn cael eu gorfodi gan eu rhieni. Ni wna rhwymo plentyn mewn dosbarth na byddo ef a'i athraw yn deall eu gilydd, byth ateb y dyben. Nid ydym yn anfon ein plant i'r Ysgol i ddysgu Cymraeg, ond i ddeall gair Duw, a derbyn argraffiad- au crefyddol ar eu meddwl. Y ffaith fod yr elfen Seisnig wedi dod i mewn i'n heglwysi, a ninau yn cadw yn gaeth gyda y Gymraeg, yw y rheswm penaf, feallai, fod yr Ysgol Sul yn colli tir mewn rhif a dylanwad. Mantais fawr i'r Ysgol Sabbothol yw fod gweinidog yr eglwys yn aelod gweithgar o honi. Y mae rhai o'n gweinidogion yn gor- fod pregethu dair gwaith bob Sabboth,.«c felly nid ydynt byth i'w gweled mewn Ysgol Sul. Anwyl frodyr, bydded i ni edrych yn deg ac ystyriol ar agwedd pethau. Onid yw yn ffaith fod llawer o'r bobl ieuainc yn es- geuluso yr iaith Gymraeg, fel nad ydynt yn teimlo ond ychydig o ddyddordeb mewn cyfarfodydd Cymreig; ac nid ydynt yn allu- og i dderbyn ond mesur bychan o adeilad- aeth a mwyniant oddiwrth bregethau Cym- raeg. Y mae yn amlwg er ein gofid, fod yr elfen Seisnig ar gynydd yn ein mysg, a bod hyn yn difa nerth yr eglwysi mewn llawer man. Fel y dywedwyd, y mae yr hen bobl yn marw, a'r bobl ieuainc yn ein gadael; a phan fyddo mab neu merch yn priodi un o genedl arall, yr ydym, wrth gwrs, bron bob amser yn eu colli: A phe baem yn llwyddo i'w cadw, gwnaem gam a'u henaidiau. Y mae nid yn unig alwad yn mron yn mhob claddedigaeth i* gynal rhan o'r gwas- anaeth yn Saesneg; ond teimla y pregethwr yn y gyfeillach, a'r arholwr yn yr Ysgol Sabbothol, a'r athraw yn y dosbarth, nas gall fod yn ddefnyddiol a buddiol heb siarad ychydig o Saesneg-cryn lawer ambell dro. Gellir beio a chondemnio hyn, ond ni wna ateb un dyben. Gall swyddogion yr eg- lwysi benderfynu nad oes dim ond Cymraeg i fod; ond byddant yn gwneyd hyn mewn llawer man i foddhau eu hunain, ar draws teimladau y mwyafrif, a chaent ddeall hyny ond i'r mater gael myned i bleidlais. Os ydym i farnu yn ol natur pethau, ac os cym- erwn y gorphenol i'n cynorthwyo i esbonio y dyfodol, rhaid i ni addef er ein tristwch, nad all yr eglwysi Cymraeg ddal eu tir yn hir. Yn awr, y mae y cwestiwn yn codi, Pa beth a wnawn yn ngwyneb hyn ? Nid oes genyf ond un atebiad i'r gofyniad. Os dewiswn y moddion trwy y rhai y gallwn wneyd mwyaf o les, os mynwn lwyddo fel cyfundeb, ac os mynwn i'r egwyddorion y dysgwyd ni ynddynt fyw yn ein plant, rhaid i ni sefydlu eglwysi Saesneg; ao yna, er i'r Gymraeg farw, ni gadwn yr achos crefydd- ol yn fyw yn ein mysg. Y mae gan ein Cyfundeb yn Nghymru lawer o eglwysi Seisnig, dim llai na 158; ac onid yw yn syn- dod nad oes genym gymaint ag un eglwys Saesneg ya y wlad hon, a ninau yn byw yn nghanol Saeson. Ai nid peth da fyddai i'r genadaeth gymeryd y mater hwn i sylw! Cynllun rhagorol-y cynllun goreu yn fy marn i, fyddai gwneyd dwy eglwys o'r un gynulleidfa, o dan ofal yr un bugail, sef un Saesneg ac un Gymraeg. Gallant fod yn yr un cap el; a gall y gweinidog bregethu un waith bob Sabboth i'r eglwys Saesneg, ac un waith i'r eglwys Gymraeg; cynal cyfeill- ach un wythnos yn Gymraeg, a'r wythnos arall yn Saesneg, a'r cwrdd gweddi yr un modd; ao wrth gwrs, gall yr holl gynulleid- fa, os dewisant, fod yn y naill a'r llall o'r cyfarfodydd hyn; a gellir ei gwneyd yn gyfleus i gael dwy Ysgol Sabbothol ar yr un adeg. Yn y modd hwn, fe fydd nerth yr holl gynulleidfa i gynal un gweinidog; fel hyn ni bydd yr achos yn cael ei gloffi, ac ni bydd neb yn cael cam. Gwyddom am eg- lwysi sydd wedi mabwysiadu y cynllun hwn; a bu y Gymraeg farw yn raddol, heb i neb gael niwed, a'r eglwysi yn enill nerth par- haus, ac nid yn ei golli—cadw ei holl blant o'i mewn, ac yehwanegu cenedloedd eraill atynt. Mantais fawr, fy mrodyr, yw fod plant a rhieni yn addoli yn yr un man, heblaw eu bod yn deall yr hyn a ddywedir. Teimlwn yn ngwyneb yr esgeuluso sydd ar yr iaith Gymraeg, fod llawer o'n plant yn cael cam, ac yn tyfu i fyny yn ddi-grefydd; ae ofnwn fod rhai yn dechreu coleddu egwyddorion anffyddol. Gan fod eymaint o bethau da yn perthyn i Gymanfa Wisconsin, ac mai iddi hi y perthyn yr anrhydedd o ffurfio Cronfa Addysg a Chronfa er Cynorthwyo Gweinid- ogion Methedig, ni obeithiwn yr enilla iddi ei hun yr anrhydedd o ffurfio eglwysi Seis- nig, a thrwy hyny ddwyn nerth a bywyd newydd i'w chyfansoddiad. Y mae genym ddyn, on Ieuainc yn alluog i bregethu yn y ddwy iaith, a dysgwyliwn y bydd genym ragor yn fuan. Dylai y dynion hyn fod yn foddlawn i wasanaethu y Cyfundeb am gyf- log a wna sicrhau iddynt fywoliaeth gysur- us, pan nad yw yn ein gallu i roddi iddynt gyflogau mawr. Credwyf mewn rhai am- gylchiadau y dylent wneyd cryn dipyn o aberth ar y cyntaf; oblegid y mae teilyngdod yn sier o gael ei weled, gydag amser, a chyr- aedd llwyddiant. Y mae rhai wedi dechreu gyda dwsin o aelodau, a chwyddo cyn pen pum' mlynedd i bum' cant. Y prif amcan ddylai fod, yw gwneyd daioni; a chofier, yn gystal a bod Duw wedi ordeinio esgob ar bob eglwys, ei fod wedi ordeinio hefyd i'r esgobion wasanaethu am gyflog resymol. Yn ein Cymanfa Gyffredinol, a gynaliwyd yn Oak Hill, 0., penderfynwyd yn ngwyneb lledaeniad cyflym yr iaith Saesneg, a bod llawer o ieuenctyd mewn canlyniad i hyn, yn cael eu hamddifadu o addysg a meithrin- iad crefyddol, eu bod yn cymeradwyo ac yn anog ar fod mwy o ymdrech yn cael ei wneyd i'w dysgu yn egwyddorion crefydd drwy gyfrwng yr iaith Saesneg, yn yr Ysgol Sabbothol, o'r pwlpud, a thrwy sefydlu eg- lwysi Seisnig.
Y DIWEDDAR EVAN THOMAS, Y…
Y DIWEDDAR EVAN THOMAS, Y MEDDYG ESGYRN. DISGYNYDD 0 HEN DEULU HYNOD. Nis gellir gwadu fod rhai talentau yn eti- feddol, ac yn rhedeg megys yn y gwaed, o dad i fab, ac o genedlaeth i genedlaeth. Parodd marwolaeth Mr. Evan Thomas, y meddyg esgyrn, i'r ffaith hon gael ei dwyn ar gof gyda grym adnewyddol. Bu Mr. Thomas farw ddydd Sadwrn, Mehefin 21ain, yn ei breswylfod, Bryneglwys, Llanfwrog, Mon, lie yr oedd wedi adeiladu palasdy, ac wedi ymneillduo oddiwrth ei al- wedigaeth brysur a phwysig yn Lerpwl. Dywed G. M. Bennett, yn ei "Art of the Bone-setter," ac yntau (Mr. Bennett) yn ddisgynydd o gytras o feddygon esgyrn o'r hil gerdd, fod Syr James Paget yn tystiol- aethu fod y meddyg esgyrn yn feddianol ar "hyfydredd," neu gelfyddyd sydd yn tueddu at leddfu poen ac adferu defnyddiad aelod- au drylliedig, a'r hon y mae llawfeddygon rheolaidd wedi ei hesgeuluso er's amser maith. Y mae Mr. Bennett, yn y gyfrol werthfawr hon, yn crybwyll am fedrusrwydd mawr Mr. H. Owen Thomas, llawfeddyg es- gyrn, o Lerpwl, un o feibiori y diweddar Mr. Evan Thomas, fel prawf fod yr "hyfydredd" yn eithafol yn y teulu. Yr oedd taid y di- weddar Mr. Evan Thomas yn ymarfer a'r gelfyddyd yn Ynys Mon a'r siroedd am- gylchynol, fel y prawf y dyfyniad a ganlyn allan o'r "Cambria Depicta; sef taith trwy Ogledd Cymru," ysgrifenedig gan y diwedd- ar Edward Pugh, yn y flwyddyn 1813: "Yn y parth hwn o sir Fon, myfi. a glyw- ais lawer am werth a galluoedd rhyfeddol Evan Thomas, y meddyg esgyrn hunan- ddysgedig, o'r Maes, yn mhlwyf Llanfair- ynghornwy. Ymddengys ei fod wedi llwyddo i gyraedd y wybodaeth fwyaf trwy- adl o esgyrneg, canys efe a ymdrinodd a'r achosion mwyaf eithafol o ddyrus ac an- hawdd, ac hyny gada'r llwyddiant penaf a'r buandra mwyaf. Fe ymledodd ei glod nid yn unig trwy ei wlad enedigol, ond fe gyr- haeddodd i Loegr, lie y profodd amryw ddyoddefwyr anffodus fudd ei fedrusrwydd goruchafol. Hyd yn nod heddyw, pan y mae genyf y cyfleusdra a'r pleser o sylwi ar y dyn hwn, fe'm hysbyswyd fod cenad wedi dyfod o sir Amwythig, gyda chynygiad o dal o dri chant o bunau am ei gynorthwy dioed, yr hyn y mae efe newydd ei dderbyn." Y mae rhai yn fyw eto, yn Mon, Arfon, Meirion, a lleoedd eraill, sydd yn cofio mab enwog yr hen Evan Thomas, o'r Maes, nid amgen y medrus Richard Evans, Cilmaen- an, yn mhlwyf Llanfaethlu. Y mae lluoedd o bobl Mon yn cofio fod enw "Richard Evans, Cilmaenan," mor enwog a pharched- ig fel meddyg esgyrn, ag ydoedd enw "John Elias o Fon" fel pregethwr yr Efengyl. Mab i'r Richard Evans hwnw, ac wyr i'r hen Evan Thomas o'r Maes, oedd yr Evan Thomas yr ydym yn awr yn cofnodi ei far- wolaeth yn Mryn Eglwys, Mon, a'i gladded- igaeth yn Lerpwl. Gan nad pa mor enwog oedd ei daid, Evan Thomas, a'i dad, Rich- ard Evans, efe a dra rhagorodd arnynt mewn enwogrwydd, ac ymledodd ei glod dros wyneb pob cyfran wareiddiedig o'r ddaear. Ymadawodd o Fon, gan ymsefydlu yn Lerpwl, tua'r flwyddyn 1835, a buan y daeth y cyhoedd i wybod ei werth, a chyn pen ychydig flynyddau, fe ddanfonid dyodd- efe digion i'w ofal o America, Cyfandir Ewrop, ac hyd yn nod Awstralia. Er hyny, ac er mor gyffredinol oedd y cyfaddefiad o'i fedrusrwydd a'i ddewrder, ni ddarfu iddo fyned trwy yr arholiad colegawl angenrheid- iol i hawlio cael ei gydnabod a'i noddi gan y gyfraith yn deilwng o'i fedr a'i athrylith. Bu yr esgeulusdod o hyny yn golled dirfawr iddo, oblegid fod llawfeddygon cofrestredig, ond difedr ac eiddigus yn, cymeryd pob mantais o fewn eu gallu i'w erlid a'i gospi o herwydd ei hyfedredd a'i lwyddiant. Llwyddasant i beri iddo lawer o golledion arianol, ond nid coll penderfyniad na llei- had yn ymddiriedaeth y cyhoedd, ac yntau, gan wybod, trwy gymaint profiad chwerw, am rym rhagfarn ac eiddigedd proffesyddion a benderfynodd roddi i'w feibion yr addysg golegawl a'r tystysgrifau cyfreithiol a esgeu- luswyd ganddo ei hun, ac y mae yn llawen- ydd i ni ganfod nad yw'r athrylith wedi am- adael o'r teulu, a bod y Thomasiaid a'r Evansiaid yn debyg o barhau am genedl- aethau eto yn addurn ac awdurdodau i wyddoniaeth esgyrndraith. Gwalia
AWGRYMAU I BREGETHWYR.
AWGRYMAU I BREGETHWYR. GAN UN O'B URDD. Mawr y pregethu sydd i bechaduriaid, o bwlpudau, trwy gylchgronau a newyddiad- uron, a phob cyfrwng arall, fel y gellid barnu y bydd y lluaws yn ddiesgus am eu pechod- au; ond tra y mae y pregethwyr yn argy- hoeddi pechaduriaid y set fawr a'r gynull- eidfa yn feunyddiol, anfynych iawn y clywir pregethu i bregethwyr, gan na phregethwr na blaenor; fel mai pechaduriaid a gyfrifir yn fwyaf beiddgar a phechadurus, ydyw pregethwyr y pregethwyr yn y diwedd; ac wrth gwrs, gweinidogaeth ddiddylanwad a diddiolch yw un y pechadur i bregethwr, yn gyffredin; yn fwy felly nag un pregethwr i bechadar, pa mor ddiddylanwad a diddiolch bynag y gall hono fod lawer pryd. Mewn misoedd a blynyddoedd diweddar, y mae yn dod i'r golwg yn eglur mai pechaduriaid yw pregethwyr, fel dynion eraill;neuo leiaf fod yn eu mysg bechaduriaid o'r fath ac y gwnai pregethu efengyl onest gwirionedd, les a bendith iddynt. Gwn yn mlaen llaw y bydd rhai yn gos twng eu haeliau, ao yn edryoh yn guchiog, am i bregethwr na phechadur feiddio argyhoeddi na chynghori dim ar y dosbarth hwn; a digon tebyg y beiir y DBYCH, yn gystal a'r ysgrifenydd, am gyhoeddi syn- iadau archbechadur ar bregethwyr; ond boed a fyddo, y mae i mi air neu ddau a phregethwyr, nid fel dosbarth, ond a'r rhai sydd yn bechaduriaid yn y dosbarth. Yn mlaenaf oil, goddefer i mi gyfeirio at yr ysbryd crwydro ar draws gwlad a gwled- ydd sydd yn aflonyddu amryw. Ni fynwn ddweyd dim yn fychan am ymweliadau rheolaidd dynion cymeradwy, o herwydd y mae genyf feddwl mawr o ymweliadau felly. Beth sydd yn fwy dymunol na gweled dyn- ion da a gwerthfawr un Dalaeth yn cael gwahoddiad a chroesaw mewn Talaeth arall? Y mae ymweliadau felly yn foddion i selio cariad a theimladau da. Nid oes genyf wrthwynebiad chwaithi bregethwyr dyeithr, pan y bydd amser ac amgylchiadau yn ffafr- iol, ar eu cyfrifoldeb a'u traul eu hunain, i ymgydnabyddu a'r byd ac ag arferion cym- deithas; gall wneyd lies i lawer. Yr hyn sydd feichus a diraddiol, ydyw fod dynion anadnabyddus a dinod yn ymlusgo yn ddi- ddiwedd ar draws y wlad, ac yn hawlio gwneyd hyny ar draul yr eglwysi a'r cynull- eidfaoedd, pryd nad oes awydd na dymun- iad am eu gweled. Mor fynych y gwelir cyn- ulleidfaoedd yn cael eu hamddifadu o wein- idogaeth dderbyniol eu gweinidog dewisol, wythnos ar ol wythnos, trwy bresenoldeb rhyw wib-deithwyr fydd yn dysgwyl cydna- byddiaeth dda am eu hen bregethau dilafur, pryd yr oedd gan yr eglwys ei dyn llafurus at ei hewyllys, ac yn barod i'w gwasanaethu yn fwy cymeradwy ac effeithiol. Mewn gwlad fel America, lie y mae pellder mor fawr rhwng ei sefydliadau, nid yw ond peth i'w ddysgwyl, i ddynion annheilwng gymer- yd mantais ar arferiad cyffredin, a gwthio eu hunain fel pregethwyr teithiol ar ymweliad, pryd y buasai yn gyfiawnach i ami un fod rhwng muriau y carchar, na thu cefn i bwl- pud; ac yn sicr, y mae y drefn annhrefnus hono a rydd fantais i elynion crefydd ym- lusgo trwy y wlad dan yr enw pregethwyr, er heb enill yr enw yn rheolaidd erioed, yn drefn a ddylai gael ei throi o'r neilldu un- waith am byth. Beth, mewn difrif, sydd yn adlewyrchu yn fwy anffafriol ar safle a chymeriad preg- ethwr, nai fod yn ddigon segur i dreulio tri neu chwe' mis, neu ychwaneg, yn ol a blaen ar hyd y wlad, heb alwad am dano, na neg- es ganddo; eto ei gynulleidfaoedd yr arfera bregethu iddynt, yn cael cymeryd eu siawns i fyw neu farw yn ei absenoldeb. Gynifer o eglwysi America eleni sydd wedi eu gadael fel defaid heb arnynt fugail, tra y mae eu pregethwyr arferol yn treulio eu misoeddyn Nghymru, heb yr un mymryn o'u hangen yno, na fawr o awydd eu gweled chwaith, ond odid. Am bregethwr yn ei le o ran ei ysbryd, dylai fod ganddo ormod o ofal am ei gynulleidfa i fedru treulio ei amser lie Bad oes ei eisiau, ar draul eu gadael i ymsifftio fel y medrant. Er mwyn pobpeth, bydded i bregethwyr aros gartref i lafujio mewn dy- falwch, nes y bydd awydd ar rywrai eu gwel- ed, i estyn gwahoddiad anrhydeddus, yna ni theimla neb i'w beio am fyned. Pechod arall parod i amgylchu dosbarth o bregethwyr, sef cefnogi anturiaethau am- heus, er mwyn mantais bersonol. Ar gyfrif y parch a deimlir i bregethwyr o radd dda, a'r dylanwad a feddant, y mae dynion' sydd o'r tu cefn i anturiaethau bydol yn awyddus yn fynych i gael enw y pregethwr fel cym- eradwyaeth, ac wrth gwrs, fe rydd gydna- byddiaeth yn ei ffordd ei hunan, am y ffafr; ac fel y mae gwaethaf y modd, ceir llawer pregethwr yn ddigon difeddwl, neu ddibris o'i safle, i gefnogi pethau hollol annheilwng. Mor fynych y gwelir enwau pregethwyr wrthlyfrau sydd yn waeth na difudd; ac wrth symudiadau, ac anturiaethau, sydd i ddwyn elw i ychydig, a hyny trwy dwyllo a niweidio lluaws. Gwyr y rhai sydd wedi cadw llygaid agored, fod y manau hyny y tynwyd Cymry i sefydlu ynddynt yn y wlad hon, pryd nad oedd ond tlodi ac anfanteis- ion yn eu haros, wedi eu codi i sylw a bri gan ryw bregethwr, neu bregethwyr, oedd yn fwy llwyddianus fel goruchwylwyr ym- fudol, nag fel cenadon i "efengylu pethau daionus." Wrth gwrs, os na bydd dim pell- ach, y mae cwmni y ffordd haiarn yn rhoi free pass i bregethwr, ar y dealldwriaeth ei fod yntau i wneyd ei oreu i godi y wlad i sylw; a mawr y ganmoliaeth a ddyry ar y tro, i le na fynai er dim wneyd ei gartref arosol ynddo ei hunan. Yn sicr, "ni ddylai y peth- au hyn fod felly;" yn hytrach dylai pregeth- wyr ymroi i'r efengyl, a gadael anturiaethau masnachol yn llonydd. Gwers briodol iawn arall y byddai ai yn dda i ambell un ei dysgu, ydyw gadael llonydd i gymeriadau ei frodyr yn y weinid- ogaeth. Gwyddom yn sicr fod llawer preg- ethwr gwych wedi andwyo ei ddylanwad wrth geisio pardduo cymeriadau gwell nag ef ei hunan. Yr hybarch John Jones, Tre- ffynon, pan yn son am enllibwyr yn baaddu eu hunain, a'u cydmarai i ddyn wedi bod yn marcio defaid yn y gorlan: "Sut yr ydwyt wedi difwyno dy hunan gymaint?" meddai. "0, marcio defaid y bum i, a 'does dim modd gwneyd y job hono a chadw yn lan." Y mae yn sier ddigon fod y drwg a ddychymygodd ambell bregethwr, wedi glynu wrtho ef ei 4un; a chenfigen, yn ol y wir ddiareb, wedi "lladd ei pherchenog." Dylai y pregethwr eto fod yn ochelgar yn ei weinyddiadau ar bob amgylchiad, yn neillduol ar amgylch- iadau fel priodasau, angladdau, a chyfarfod- ydd difyrus ac adlonol. Nid ychydig yw y rhai sydd yn myned i brofedigaeth a thrallod trwy fod yn rhy barod i wasanaethu mewn selio y eyfamod priodasol, pryd y bydd rhin- wedd a chrefydd yn eu gwahardd. Y mae eto ddau eithafnod y rhedir iddynt gyda chyfarfodydd difyrus. Rhydd un ei wyneb yn erbyn cyfarfodydd llenyddol, eisteddfod- au, gwyliau cerddorol, a chyffelyb gymellion, nes colli cydymdeimlad yr ieuaine yn 11 wyr- colli eu dylanwad arnynt, a'u colli o'r eg- lwys a'r gynulleidfa yn y diwedd. Y mae eraill yn tueddu i redeg i eithafion mewn cefnogi a dylyn cyfarfodydd difyrus, ac ym- ollwng i gymaint o ysgafnder cellweirus nes niweidio eu dylanwad felly. Dylai pregeth- wr adael yr argraff ar feddwl ieuenctyd ei fod am iddynt gael pob difyrweh cydweddol a gweddeidd-dra a chrefydd, a gwahardd yn benderfynol bob peth dros ben hyny. Diau fod meddu doethineb a chrefyddolder a'n galluoga i iawn ddysgu ac i iawn ymddwyn, yn guddiad nerth y pregethwr llwyddianus, er bendith i ieuenctyd ei gynulleidfa. Doeth a buddiol, yn ddiau, i bob pregethwr sydd a gofal am fantais crefydd, yw cadw gwyliad- wriaeth fanwl arno ei hunan, a chadw llyw- odraeth cariad ar ei holl deulu. Gwelsom ddysgeidiaeth dda pregethwr lawer tro yn gwbl ddiwerth a gwrthodedig, am y byddai y plant oedd o dan ei awdurdod, ac o dan ei sylw, neu o leiaf a ddylasent fod, yn yfeiar-