Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
22 erthygl ar y dudalen hon
"Dechreu Oedfa."
"Dechreu Oedfa." "Disgyn, lor, a rhwyga'r nefoedd, Tywallt ysbryd gras t lawr; Disgyn fel y toddo'r bryniau, Dlosg fralch dy allu mawr; DUa'r lleni, ymddysglelrla Ar dy drugareddfa lan, Bho dy lais a'th wenau tlrlon, Achub bentewynion tan. Ti achubalst y rhal gwaethaf, Annheilyngaf a fu'n bod; Achub eto-achub yma— Achub finau er dy gir-d; Ti gel'r mawl pan danlo'r ddaear, A phan syrthio ser y nen Tl gel'r enw yn dragwyddol, Ti gel'r goron ar dy ben." »
CYFIEITHIAD O'R UCHOD.
CYFIEITHIAD O'R UCHOD. Lord, descend, and rend the heavens, On us now thy spirit pour, Melt the mountains with thy presence, Bare thine arm of mighty power; Lift the veil, and let thy glory On the mercy seat now shine; Softly speak, and smile upon us, Pluck the brand from flre divine. Thou hast saved the chief of sinners, And the guilty pardoned free; Save again-save at this hour- In thy mercy, Lord, save lDel Thine the praise when earth is burning, Thine, when stars of heaven shall fall; Thine the glory everlasting, Thine the crown-reign Lord of all I ÐjNu New York. At DANIEL. .1.
Lloer y Cynauaf.
Lloer y Cynauaf. ALAW—"Bugellio'r Gwenith Gwyn." Forwynig sirlol, 'rwyt yn dlos I Ar oriel nos yn gwelnl, A gwenau Hen 1 gynull yd, Er atal byd rhag tlodl; Mae'r meusydd yn eu cynyrch ha', Ac amaeth da hen Gymru A welir, drwy yr hwyrnos faith, Yn gwneyd eu gwalth dan ganu. Mae'r nos yn oleu fel y dydd, A thywydd teg hyfrydaf, A'r llanclau a'r lodesi glan Yn odll "Can cynauaf;" Y loyw loer, a'r gwenith gwyn, Yw testyn eu can newydd; A thorl mae'r medelwyr ffraeth Eu lluniaeth mewn llawenydd. Rhaid medi'n hwyr, tra deil yr hin, Ceir mln ar y crymanau, Rhaid gorphen cynull cnwd y tir I lenwi'r holl ydlanau; Y lloer sy'n llawn, fel llusern fry, Yn gwenu gwawl goleuaf, I hel yr hat at dywydd oer, Milhenffych "loer cynauaf." 'Rol cael yr yd 1 mewn o'r tlr, Dysgwylir diwrnod dyrnu, A dawnsio fydd mewn nant a chwm, A'r lloftwyr llwm yn liamu; Cydganu can "y lloerwen gron." Wna'r gweisloD leualnc gwisgi, A son mewn hwyl wna'r hwamyn hen Am adeg lawen medii Nantmor. OARNEDDOG.
Beibl Mawr Ty Nhad.
Beibl Mawr Ty Nhad. (Lllnellau a ysgrlfenwyd ar dudalen o'r hen Felbl Teulualdd.1 0 darddell fendigedig Yr Anweledlg Bn! Dy ffrydlau i'r sychedig Sydd ganmil gwell na'r gwin; Nid syplau grawnwin Escol, Nac un ddaearol wlad, Ond dwfr y bywyd dwyfol, Sy'n Melbl mawr fy nhad. 0 gyfrol gysegredig, Dy nef-anedig stor, Sydd gyfoeth anffaeledlg, Fel anfesurol for; 'Nol cyfoethogl miloedd Ar flloedd maith yn rhad, Anrbaethol yw'r goludoedd, Sy'n Melbl mawr fy nhad. 0 drysor y trysorau, A pherl holl berlau'r byd, Dy ddwyfol ddyianwadau, A ddygo'm serch a'm bryd Oddiar ddaearol wagedd, At sylwedcl a pharhad Yr etifeddiaeth ryfedd, Sy'n Mel'ol mawr fy nhad. O'r Hwn wyt Dad y goleu, Rho imi olwg glaer, Ar ddyfnlnn werthfawr bethau Sydd yn dy Santaidd Air, Gan guddlo'n nghlliau'm calon Yr ymadroddion mad, A chadw'r holl orch'mynlon Sy'n Meibl mawr fy nhad. A rho I'm henaid hefyd, 0 hyfryd nefol wlith, Y gelrlau ydynt ysbryd A bywyd bery byth; golch fl, Arglwydd, golch fl, 'N y ffynon fawr o wa'd, Mae hynod son am dani Yn Meibl mawr fy nhad! 0 ysbryd y gwlrlonedd, Yn amledd mawr dy ras, Rho ar dy elrlau rhyfedd Feunyddiol newydd flas; A'th nerthol weithrediadau Fo'n selio'm santeiddhad, Trwy rin y gwirioneddau Sy'n Meibl mawr fy nhad. T. C. THOMAS (Dtfri). Probate Registry, Llandaff. .11'.
Y Ddiweddar Miss Annie Thomas.
Y Ddiweddar Miss Annie Thomas. [Merch leuengaf Mr. H. W. Thomas, Livermore, Alameda Co., California, yr hon a fu farw Chwefror, 1885, yn 21 mlwydd oed.] Aeth Annie hon ar ol el mam DrolS afon yr lodrdonen, Yn groes i'r dwr rhoes angel lam A hithau dan el aden; Mae hiraeth welthian am y ddwy Yn llanw llawer dwyfron, A'l gledd gwnaeth angau erchyll glwy* Wrth daraw Annie dirlon. 'Boedd rhywbeth hynod, hynod lawn, Yn Annie er yn blentyn, o garedlgrwydd 'roedd yn llawn, A braldd yn hael ddlderfyn; Pan fu'm yn byw o dan ei tho A'm plant dl-fam o'm deutu, Mae'r adeg hono ar fy ngho', A choflo 'rwyf am Annie. El hoffder penaf yn y byd Oedd gwneuihur dyu yn hapus, Nid oedd gofalon ar ei bryd Yn orthrwm gordrafferthus; Llawn o berorlaeth ydoedd hi A gwir gall gyda'i horgan, Mae'r selnlau ter fuln Uanw'r ty 'Nawr wedi trol yn fudan I Ni welodd Annie ar y llawr Er cyfoeth, fawr o hawdd-fyd, Bu'n achwyn wrthyf lawer awr o achos gwaelder lechyd; El chalon fawr o dan el bron A gural yn ormodol, 'Boedd elalau mwy o le ar hon Na'r anedd frau ddaearol. Hi oedd anwylyn pena '1 thad, HI hefyd gadwal 'i anedd, Ei cholll bair i'w fron ddlfrad Ofldio 1 ormodedd; EI brawd a delmla heddyw'n brudd Gan hiraeth mawro'l herwydd, 0 alar wylo nos a dydd Yn chwerw mae'l chwiorydd. Ar ganol dydd daeth diffyg trwch Drus wyneb haul el bywyd, Mae heddyw yn el llety llwch Heb droed na llaw yn symud; Mae Aunie'u huno gyda 1 mam Dan gwrlid trwm o ddaear, Mae dydd yn d'od daw'r ddwy n ddlnam O'r llwch a'u gwedd yn llllocbar. Sacramento, Calif. IFOB OYNON.
Gwlad Fy Ngrenedigaeth.
Gwlad Fy Ngrenedigaeth. Mae gwlad fy ngenedigaeth Yn anwyl lawn 1 mi, A'i heuw'n gysegredig Trwy ryw adgoflon lu; 'Bwy'n coflolr ty y'm gan wyd, Dan lechwedd ael y fron, < Lie teimlwyd bywyd gyntaf 0 fewn y fynwes hon. Hen Gymru baradwysaidd, Dialt trwy'r ddaear gron, Gan addurniadau natur, Mor swynol ydyw bónl Mor hardd el gwyllt fynyddoedd, A'l doldlr teg eu rhyw, El nentydd a'i hafonydd Sydd yn adgoflon byw. 'Rwy'n cono afon Gwenwst Yu trelglo trwy y glyn, Lie bum yn hel el physgod Yn ddedwydd lawn cyn hyn; 'Bwy'n coflo'r derw taifrig Addurnent gylch el gro, Lie 'spelllwyd nyth y gigfran A'r barcut lawer tro. Mae hen goedwlgoedd Buallt A'i phlanigfeydd yn hardd, A mil o fTrydiau dyfroedd 0'1 brynlau hi a dardd; A chan y Uu asgellog 'N adseinio'r goedwlg werdd, Rbyw nefoedd fach mewn bywyd Oedd gwrando sain eu cerdd. Ffynonau pur, iachusol, Geir yn eu broydd hi, Llangamarch, Llanfalrmuallt, Llanwrtyd uchel fri; Rhyw flloedd gyrchant yno Yn mhell o fro a bryn, Mae canoedd.yn Americ Fu'n drachtio'r dyfroedd hyn. 'Bwy'n coflo dyddiau le'nctyd, Pan rodlwn ar fy hynt, Trwy hen ddyffrynoedd Buallt Mysg hen gyfeillion gynt; Ond heddyw yn Americ Yn mhell mewn estron wlad, 'Nol gado Cantref Buallt, Lie beddrod mam a thad. Mae myrdd o hen enwogion, 0 gymerladau pur, A belrdd a gwelnidogion, Yn gorwedd yn dy dir; A rhwng mynyddoedd Buallt, A'i bryniau celfydd man, Mae bedd ein dewr Llewelyn, Llyw olaf gwlad y gan. Mae hen fynwentydd Buallt Yn anwyl lawn I'm co', Mae yno ambell gyfalll Yn huno yn eu gro; A llu o hen berth'nasau— 'Bwy'n coflo am y fan, Lle'r hunant heddyw'n dawel Ger muriau llwyd y Llan. Mae'r ywen ddu gangenog Yn gwylioll hun mewn hedd, Ac aiar man y moelydd A ganant uwch eu bedd; Trwy ffydd 'rwy'n awr yn edrych I wawr yr olaf ddydd. Pan ddaw hen deulu'r beddrod O'u rhwymau mMth yn rhydd. 'Bwy'n awr ar waered bywyd, Oaf odrau'r glyn cyn hir, A thebyg yw fe'm cleddir Yn mhell mewn estron dir: 'Bwy' am foddlod bellach Man myno Duw bo'm bedd, Ond hyn yw'm gweddl beunydd, Cael codi ar ei wedd. Bark River, Wis. D. AFAN JONES.
EBION 0 SIR FON.
EBION 0 SIR FON. YMWELIAD Y PABCH. J. H. DAVIES, BLUE MOUNDS, WIS-Y PABCH. J. VENMOBE WILLIAMS. DOTHAN, MON, Ebrill 24.—Y mae y Parch. J. H. Davies o Blue Mounds, Wisconsin, yn cael derbyniad siriol yn Nghymru yma. Yn nghladdedigaeth y Parch. Hugh Jones, Llanerchymedd, y cyfarfum gyntaf y brawd anwyl a'r oyfaill dyddan; pryd y cawsom ymgom ddifyrus am America a'i helyntion. Y mae ei ddull plaen, dirodres a chyfeillgar ar unwaith yn rhoddi argraff ddymunol ar bawb a ddeuant i gyffyrddiad ag ef. Heb honi unrkyw fawredd.y mae rhyw ddylanwad swynol yn nodwedd arbenig yn ei gymeriad, yr hyn a bar fod y rhai a ddeuant i gysylltiad ag ef yn teimlo yn gartrefol yn ei gymdeithas ar unwaith. Y dydd Llun canlynol,cynaliwyd Cyfarfod Misol Mon yn Beaumaris. Yno cafodd yr ysgrifenydd y pleser o'i gyflwyno i'r Cyfar- fod. Wedi darllen ei dyst lythyrau oddi- wrth y Gymanfa a'r Cyfarfod Dosbarth, rhoddwyd derbyniad serchog a siriol i Mr. Davies i'n plith. Cafwyd gair ganddo, yn cynwys ei deimladau wedi cael ei hunan un- waith eto yn mhlith ei hen dadau, ac an- sawdd yr achos yn mhlith y M. C. yn Wis- consin. Trefnwyd iddo fyned ar daith trwy y Sir. Yn ystod ei ymweliad a chynulleid- faoedd y wlad, cafodd rai oedfaon nodedig iawn. Hir gofir am yr oedfa yn Glasinfryn un prydnawn Sabboth, pryd y torodd y teimlad allan yn orfoledd a llawenydd. Y mae amryw o fanau yn Mon yn chwenych yn fawr ei glywed eto. Ar derfyn ei daith yn Mon, aeth Mr. Davies i Arfon. Mewn Cyfarfod Misol a gynaliwyd yn Penygroes, rhoddwyd iddo dderbyniad brwdfrydig gan y frawdoliaeth, a threfnwyd taith iddo o fewn cylch Cyfar- fod Misol Arfon. Ar ol treulio mis yn y cylch hwn, aeth i gwr deheuol y Sir; ac yn Nghyfarfod Misol Lleyn ac Eifionydd, caf- odd yr unrhyw dderbyniad gwresog, a gwel- wn ddarfod iddo gymeryd rhan yn ngwasan- aeth cyhoeddus y cyfarfod. Yn bresenol y mae ar daith yn Sir Drefaldwyn. Wedi hyny bwriada ymweled a Sir Aberteifi, a dichon Sir Gaerfyrddin. Nis gwyddom yn bresenol pa bryd y bwriada y brawd Davies droi ei wyneb tua chartref; ond pa bryd bynag y gwna, eiddunwn iddo glyd aden rhagluniaeth ar ei daith. Erys adgoflon melus am dano yn Nghymru, a hir gofir ei hynawsedd a'i ddull diymhongar, a'i bregeth- au efengylaidd a gwresog. Cychwynodd y Parch. J. Venmore Wil- liams, Rhoscolyn, Mon, o Lerpwl ar yr 21ain, a bydd wedi glanio cyn y cyrhaedda y llythyr hwn. Y mae Mr. Williams yn bre- gethwr rhagorol a thra chymeradwy. Y mae ei bregethau bob amser yndangoa ol sylwad- aeth graff a meddylgarwch dwfn. Oyfunir ynddo y bardd a'r athronydd; ac nid rhyf- edd hyny, pan ystyriom mai un o fechgyn glewion Llanerohymedd ydyw. O'r braidd na thybiom nad ydyw athrylith yn heintus yn hinsawdd y Llan, gan mor luosog ydyw nifer y dynion athrylithgar a galluog a fag- wyd yno; ac nid y lleiaf o honynt yr anwyl Dr. Roberts, Utica. Diameu y bydd l Mr. Williams gael derbyniad gwresog gan retn- odistiaid America; nis gellir dysgwyl llai na hyny, oblegid yna y cafodd ei fodolaeth fel pregethwr. Bendith yr Arglwydd fyddo ar ei ymweliad ag America, a chaffed daitn gysurus ar dir a mor, nes dychwelyd yn oi l fynwes ei deu)u.-BRAWD.
GAIB ETO AM Y PABCH. J. H.…
GAIB ETO AM Y PABCH. J. H. DAVIES. MON, Ebrill 20.—Ychydig yn ol cawsomy pleser o fod yn nghymdeithas y Parch. J. H. Davies, o Blue Mounds, Wis., a gwrando arno yn traethu am ein cydgenedl yn Am- erica. Y mae Mr. Davies, gallwn dybio, yn specimen ragorol o'r ymfudwr Cymreig, ac o'r dosbarth o Gymry America a safant mor uchel yn marn y oyn-Arlywydd Hayes. Y mae yn meddu ar anhebgorion sefydlydd llwyddianna-natur dda, unplygrwydd cy- meriad, a gryin penderfyniad. Gesyd ar- graff ar feddyliau y rhai a ddenant i gyfar- fyddiad ag et, ei fod, er yn wr gwynebagor- ed a didwyll, yn meddu ar feddwl pender- fynol. Dyn a phregethwr hunan wneuth- uredig ydyw. Medda gryn lawer o good humor, a daw hwnw i'r golwg yn ei amddiff- yniad i'r America. Mynych y dywedir yn Nghymru, mai pobl o gymeriad amheus- dosbarth ag ydoedd wedi myned yn rhy boeth iddynt yma, sydd yn ffurfio rhan helaeth a phwysig o boblogaeth yr America. Etyb Mr. Davies vr edliwiad hwn gyda chryn lawer o newydd-deb; trwy ddweyd mai yr ochr yma yr hanodd ao yr ymddad- blygodd y drygioni, ond yn yr America fod y cyfryw gymeriadau yn myned o dan gyf- newidiad, ac yn dod allan o'r weithfa yn gymeriadau rhagorol a sefydlog, gan brofi eu hunain yn ddinaswyr gwyoh. Cyfodid yna adeilad newydd ar adfeilion yr hen; a'r diweddaf yn llawer mwy gogoneddus na'r cyntaf. Clywsom bregeth ragorol gan Mr. Davies ar y testyn, "Pwy yw hwn sydd yn dod i fyny o Edom, yn goch ei ddillad o Bozrah, &c." Yr oedd ei ragymadrodd yn dra phwr- pasol a meistrolgar, yn deilwng i'w gydmarn ag ymdrechion goreu progethwyr Cymru. Yr oedd ei gyfeiriad at fab y Parch. William Jones, Cambria (Rhyd-ddn gynt) yn hynod o effeithiol, yn neillduol felly pan ddeall- asom fod yr hen arwr crybwylledig ychydig ddyddiau yn flaenorol wedi croesi y Ilin- ell derfyn. Yr oedd hefyd rym neillduol yn y penillion home made, gallem feddwl, a adroddid ganddo-er yn amddifad o'r coeth- dra a nodwedda emynau amryw o'n cyfan- soddiadau Cymreig. Yr oeddynt yn ddi- ameu yn meddu ar ysbryd y peth byw. Pel pregethwr, gallwn dystio iddo daro yn hynod o hapus yn Mon, yn enwedig mewn rhai cymydogaethau. Pery adgoflon dy- munol am amryw o'i bregethau, yn neilldu- ol felly ei bregeth yn Glasinfryn. Yr oedd rhyw arddeliad neillduol ar y bregeth hon, a'r teimladau o dani yn orlethol-yn gymaint felly nes ydoedd yn floeddio cyffredinol trwy yr addoldy. Yr oedd hon yn ddiau yn oedfa fawr. Nid gyda'r pregethwr mawr y oeir bob amser yr oedfa fawr. Fel y nodai y diweddar Barch. John Ogwen Jones, yr oedd diwygiad Beddgelert yn brawf neillduol o hyn. Yr oedd y Parch. John Elias yn pre- gethu mewn ychydig filldiroedd i Bedd- gelert; ond gyda phregeth a ystyrid yn fach y torodd y diwygiad allan. Y mae ein mesur ni a mesur Duw ynaml yn anghytuno. "Nid fel yr edrych dyn yr edrych Duw." 0 safle golegol y dyddiau diweddaf yn bregethwr bychan yr ystyrir Mr. Davies gan rywrai; ond credu yr ydym ei fod yn rhestru yn llawer uwch yn nghyfrif y nefoedd; ac yn y dydd hwnw, pan brofir gwaith dynion, y ceir ei adeiladwaith ef yn sefyll, pan y bydd gwaith llawer un a ymhona bethau uwch; yn cael ei lwyr ddinystrio. Y mae Mr. Davies yn esiampl ragorol o'r hen ddosbarth Cymreig o bregethwyr—ei bregethau bob amser yn efengylaidd ao yn llawn tan Cymreig. Y mae yn meddu ar lais rhagorol, ac yn gallu ei ddefnyddio yn feifitrolgar ac effeithiol. Deallwn ddarfod iddo gael croesaw gwresog yn y cwrdd Misol y dydd o'r blaen yn Beaumaris, ac iddo daro ar dant hapus iawn wrth anerch y cyfarfod, ac fod rhyw effaith neillduol yn cydfyned a'i gyfarchiad yn y seiat. Cafodd wahodd- iadau caredig i ymweled a Chyfarfodydd Misol Arfon, Lleyn ac Eifionydd, Maldwyn ac Aberteifi. Dymunwn iddo bob rhwydd- ineb tra yn ein mysg.' Diameu yr hir gofir am ei ymweliad gan amryw o'r saint yn Mon; a phan yr ymadawa a Ohymry, gwna hyny gyda dymuniadau goreu y rhai y daeth i gydnabyddiaeth a hwy yn ei ddylyn.-D. R. J. I"
0 SWYDD CARBON, PA.
0 SWYDD CARBON, PA. TL Gweithfeydd-Diwygiad CrefyddoI-Taf- alaw a'i blant—Helpu yr helbulus. LANSFORD, PA., Mai 6.—Y mae pob math oruchwylion a masnach yn dal eu cwrs yn weddol reolaidd y ffordd yma, heb ond ych- ydig o le i achwyn wedi bod gan neb ar hyd misoedd y gauaf. Y mae yma ddiwygiad crefyddol pur rym- us wedi bod yn y ddwy eglwys Gynulleidfa- ol sydd dan ofal y Parch. J. Edwards. Bu- wyd mewn ymbil a gweddi yn hir am dano, a chafwyd teimlo ei ddylanwad mown modd helaeth yn y ddwy eglwys. Bernir fod o gylch 60 wedi eu hychwanegu at yr eglwys Seisnig, a'r rhai hynyyn mron i gyd yn bobl ieuainc gwir addawol. Bu yr Hybarch Mr. Davies, Pottsville, yma, am rai nosweithiau, yn llawn tan a hwyliau yn cynorthwyo y gweinidog; a heddyw yr aeth y Parch. Mr. Calton, yr efengylwr, diweddar o Loegr, i ffwrdd, wedi bod gyda'r eglwys Seisnig am wythnos. Hyderwn "nad yw hi eto ond deohreu gwawrio," y "cwydyr haul yn uwch i'r lan;" canys y mae yma ganoedd o Gymry a Saeson eto yn y dref heb eu hachub. Cynaliodd oantorion Coal Dale dri chyng- erdd yn ddiweddar yn yr ardal, er cynorth- wyo bachgenyn bychan Ifor Williams, mab John Williams, Coal Dale, i gael addysg gerddorol uwohraddol yn Philadelphia. Cafwyd cynulliadau rhagorol, help a siriol deb pawb, ac elw teilwng ac anrhydeddus oddiwrth y cwbl, i osod y bychan Ifor yn yr ysgol. Y mae yr oil o'r cantorion fu yn helpu i ddwyn yr achos teilwng hwn oddi- amgylch yn wrthrychau addas a haeddianol o ddiolchgarwch pur y teulu. Talodd yr Hybarch Bencerdd Tavalaw, a'i ferch dalentog Miss S. Tavalaw Jones, ym- weliad a Laasford a Coal Dale, y tro cyntaf, wedi bod oddiwrthym am dros bymtheg mlynedd. Yr oedd yn llawenydd mawr genym fel ardalwyr weled ein hen weinidog Mr. Jones yn edrych cystal, wedi iddo fod yn dyoddef cystudd mor drwm yn ddiwedd- ar. Bu y daith bleserus a cherddorol hon i wahanol sefydliadau Cymreig y Dwyrain, o fendith fawr iddo i gael adferiad i'w gynefin- 01 iechyd. Cynaliodd ddau gyngerdd yn y gymydogaeth hon, un yn hen gapel Cynull- eidfaol Lansford, lie bu yn gweinidogaethu, a'r Hall yn Nghoal Dale. (Jadeiriwyd y Parch. Edwards yn y cyntaf, a'r Parch. Hughes yn yr olaf. Drwg genym ddeall fod Miss Bella Tav- alaw, ei ferch ieuengaf, wedi ei chymeryd yn glaf yn Hyde Park, ac yn analluog i fod yn bresenol; er hyny eawsom wledd gerdd- orol na chawn ei chyffelyb na'i chystal ond rhyw unwaith mewn oes, gan Miss Sarah Tavalaw ac yntau, ac eraill. Gwyddem i raddau yn flaenorol am fedrusrwydd Tav. gyda'r crwth a'r organ; ond ychydig wyddem am alluoedd cerddorol Miss Jones, ei ferch, am ei bod i raddau yn ieuanc pan ymadaw- odd oddi yma am Kansas. Yn sicr, y mae wedi cael meithriniaeth odidog; ni raid lddi gywilyddio canu ar unrhyw fanlawr, gyda'r enwogion Emma Abbott, Miss Osgood, neu Miss Clara Louise Kellogg. Bravo! y Gym- raes anwyl o Kansas; bendithion enwog Ceridwen ar dy ben trwsiadus: Angyles Ian Yn llys y gan, Ydwyt hoff alawes ber; Yn glodfawr boed dy fri; Taniaist gyda'th fiwsig lion Lawer enwog dyner fron, A wna ymchwyddo fel y don, I ddyrchu'th folaidd di; Dwyn anrhydedd ar dy wlad, A dy linach enwog Had, Y bot heff bencerddes fad, Medd iaith fy mynwes I. Adferiad buan i Miss Bella, a bydded y gweddill o'r daith yn fwy llwyddianus a phleserus, medd canoedd o'u hewyllyswyr da y ffordd yma.-Meurig Aman. .1 II"
Gair a Nekimi, Wisconsin.
Gair a Nekimi, Wisconsin. NEKIMI, WIS., Ebrill 27.-Daeth darlun y diweddar J. W. Jones i'm llaw yn ddiogel. Dyma y darlun goreu o Gymro o'r maintioli yma y disgynodd fy llygaid i arno erioed. Dylai fod yn symbylydd i bawb i dalu yn miaen er mwyn ei feddianu. Y peth goreu a allai y rhai sydd wedi ei dderbyn wneyd fyddai ei fframio yn hardd, a'i ddangos i'w cyfeillioB. A diau pe gwnai pawb hyny, y chwanegai lawer at dderbynwyr y DBYCH; a thrwy hyny addurno llawer mwy o ystafe'il- oedd. Pa mor debyg ydyw i Mr. Jones nis gallaf ddywedyd, gan na welais ef ond un- waith erioed, a hyny yn y flwyddyn 1857— blwyddyn y panic mawr, taa pythefnos cyn i'r diwygiad mawr dori allan yn New York. Yr oeddwn y pryd hwnw yn myned o Hyde Park, Pa., drwy New York yn ol i Gymrn. Gelwais yn swyddfa Y Drych a'r Owyliedydd, ac yno, am y tro cyntaf, ac am y tro olaf, y gwelais y diweddar John W. Jones. Ai nid oes modd cael pigion o'i weithiau eto er mwyn gwneyd i'r darlun hardd hwn siarad a ni ? Atebed ei hen gyfeillion. 0 bosibl mai dyma y tymor hau diweddar- af a welwyd yn Wisconsin yma erioed. Gydag ychydig iawn o eithiiadau, nid oes neb yn y oylchoedd yma wedi hau dim. Cawsom eira heddyw y bore, a bu yn ymyl pwynt y rhewi drwy v dydd; ac y mae yn gwlawio yn drwm ao yn oer heno. Y mae y Parch. Evan Owen wedi dyfod i gymeryd bugeiliaeth eglwysi Soar a Bethel (W.), ao y mae am fyw yn nhy capel yr eg- lwys olaf a enwyd. Felly y mae yr hen dad am fod yn gymaint o Wesley ag o Annibyn- wr, yn mhrydnawn ei ddydd.-Dr. Price. It..
"Cerdyn Amser a Chost."
"Cerdyn Amser a Chost." Ceir cerdyn i gadw cyfrif o'r dyddiau, a'r wageni, a'r pylor, olew, &c., a ddefnyddir bob mis, yn mhob sypyn pwys o Gail and Ax's Tobacco.
[No title]
-Mae y Maxwell a ddrwgdybir o lofrudd- io Preller yn St. Louis, ychydig wythnosau yn ol, wedi ei ddal yn Auckland, New Zea- land. Gwrthoda ddychwelyd i'w brofi oddi- eithr dan orfodaeth.
"RHYDD I BOB MEDDWL EI FARN…
"RHYDD I BOB MEDDWL EI FARN AC I BOB BARN EI LLAFAR." Hoellon 0 Remsen. "Fel hoelion wedi eu sicrhau." "Fel boel mewn man sicr."—Beibl. MB. GOL. Mae eisiau rhoddi hoel yn nhafod y celwyddog rhag iddo ddwyn cam- dystiolaeth yn erbyn ei gymydog, a rhoddi ei "golyn angeu" yn nghymeriad y diniwed yn ei gefn. Mae eisiau hoel yn Haw y lleidr, rhag iddo, wrth ddylyn lladrata, ddwyn ei hun a'i deulu i ddianrhydedd. Mae eisiau hoel yn ngwefus rhai pregethwyr, rhag idd- ynt siarad yn ffol am yr ymadawedig mewn angladdau, a dweyd pethau y bydd yr holl wlad yn eu gwrthdystio. Dywedodd dyn call yn ddiweddar, diacon parchus gyda'r M. C., fod mwy o gelwyddyn cael ei ddweyd mewn claddedigaethau na thy tafarn! Un arall a ddywedodd eu bod yn debyg i gwm- peini yn adrodd pob un ei stori, a'r mwyaf hyf a llac ei dafo, I ai a hi, a hwnw yn gyff- redin fyddai y diweddaf; felly gyda'r preg- ethwyr—lie y byddai pedwar neu bump yn siarad ymddangosai iddo ef mai lle gwael fyddai i'r cyntaf ddweyd yn dda am y marw, am y dywedai yr un dylynol fwy, ac felly yn myned yn fwy eithafol y naill ar ol y llall i'r diwedd, nes syrffedu pawb a'r darluniadau gogoneddus a gaed o'r ymadawedig—"y goll- ed ar ei ol yn y teulu"—pan mewn gwirion- edd nad allai feistroli ei dymer ddrwg, a'i ysbryd erlidgar ei hun, na rheoli nemawr ar ei blant. "A'r golled fawr sydd ar ei ol yn y gymydogaeth," pan ar yr un pryd fod tystiolaeth ei holl gymydogion i'r gwrthwyn- eb yn hollol; "A'r golled fawr ar ei ol yn yr eglwys," nes peri i un anadnabyddus a'r ffeithiau, feddwl yr elai y cyfan i ddifancoll tragwyddol ar ei ol, pan mewn gwirionedd na fu mewn nemawr i seiat mewn dwy flyn- edd, nac mewn cyfarfod gweddi, na'r ysgol Sul am fwy na hyny; ae heblaw hyny, nid ami, ond anaml y byddai yn y moddion cyff- redin ar y Sul. Ac am gyfranu at gynal yr achos, ni roddodd un ddolar mewn dwy flynedd! Wel, meddai pawb, dyna ddigon bellaeh; na, dacw un arall yn oodi ac yn dweyd yn debyg i hyn: "Dyn call iawn oedd yr ymad- awedig, y callaf yn yr holl ardaloedd. Yr oeddwn i yn ei chyfrif yn fraint bob amser i gael ymgyfeillachu ag ef;" pan yr oedd ffeithiau annyddymadwy yn profi nad allai ddarllen y Gymraeg na'r Saesonaeg ond yn fwngleraidd iawn; nad oedd yn gwybod y gwahaniaeth rhwng y mynedol, y presenol, a'r dyfodol; rhwng areitheg a rhesymeg; nad allai gyfansoddi na dadansoddi y frawddeg fwyaf syml o ryddiaeth na barddoniaeth yn gywir; nad oedd ganddo well dirnadaeth am y prydferth, y rhamantus a'r ofnadwy na'r ddalluan; na allai nodi teithi yr un awdwr o nod, hen na diweddar; na roddodd awr er- ioed i efrydu natur eglwys Crist, swyddog- aeth yr Ysbryd Glan, &e. Ond pa ddyben myned y ffordd yna-ni fedrai roddi amlin- elliad o'r sir y ganwyd, y magwyd, ac y trig- ai ef ynddi; a dyna'r dyn call ag yr oedd yn "fraint" i weinidog dysgedig a choeth, un wedi bod yD ymgydnabyddu trwy ei oes yn y celfau, y gwyddorau, ac addysgiaeth glas- urol efrydwr craffus a thrwyadl, ysgolor a duwinydd hyglodus y bedwerydd ganrif ar bymtheg, i gael cyfleustra i ymgyfeillachu ag ef! Ffaith—yr oedd yn byw mewn ty hardd, ao wedi bod yn ddigon o grintachwr a gwyn- ao wedi bod yn ddigon o grintachwr a gwyn- eb galed i bentyru at eu gilydd, goed, gwair, son, a ffarm fawr ar ei enw, a dyna'r unig gymwysder oedd ynddo iddo gael ei alw yn gall. "Pa fodd y tywyllodd yr aur ?" Dyma arferiad ag sydd yn rhaid ei roddi i lawr, oblegid mae yr holl wlad yn crochlefain, "Mwy na digon yw;" ac os na ddiwygir yn y peth hwn yn fuan iawn, fe fydd y dylanwad a'r afael sydd gan y pwlpud ar y wlad yn bresenol, wedi eu colli yn llwyr, yn ol barn Uawer heblaw Remsen, N. Y. SHON Y GOF.
Pwnc y Dydd, neu y Skating…
Pwnc y Dydd, neu y Skating Rinks. Peth ryfedd iawn os nad yw'n fai Ar rai o ferched Seion, I daflu'r iau oddiar eu gwar, A myned ar olwynion; Peth chwithig gweled merched Mon, Fel dynion wedi meddwi, Ar wyth o 'lwynion bychain, del, Yn myned fel wageni! Ac ar frys gwyllt i foddio chwant, Hwy redant o'r addoldy, Gan fyn'd yn lluoedd gyda. gwen, I'w helfen i'r chwareudy; Er hyn i'r nef yr a pob sant Os byddant wedi eu hethol, Ant yno ar eu melus chwant, Trwy ganol plant y diafol. Peth chwithig gwel'd merch ifanc fawr, Ar lawr yn methu codi, Ac weithiau gwelir ambell un A'i hesgvrn wedi tori; Hen chwareu ffol, o ddiafol daeth, Ddarostwng chwaeth ieuenctyd, Difyrwch sydd yn llygru'r oes, Yn difa moes ac iechyd. Blin arw fod blaenoriad-yn noddi'r Anaddas arferiad; Y dwymyn wledd, damnia wlad, Lie enllib a'i llu anllad. A difudd weision diafol-a labrant Ar lwybrau annuwiol; Aed o'r wlad ei brad a'i brol, A'i ffyrnig lu uffernol. HEN LANC 0 CAMBRIA.
Mudiadau Gwladfaol.
Mudiadau Gwladfaol. MB. GOL.: Yn y DRYCR, yn ddiweddar, yr oedd rhywun am fy ngwneyd i yn Drysor- ydd y Mudiad Cymreig cynygiedig, er dar- paru cartrefi cysurus i luaws o deuluoedd mewn rhyw ardal fanteisiol yn y De, neu y De-orllewin. Nid wyf yn ymofyn y swydd o gwbl, ond yr wyf yn cymeryd dyddordeb neillduol mewn symudiadau fyddo a'n ham- can i leshau fy nghydgenedl. Gwelaf fod "A." yn oynyg rhes 8 reolau lied dda; y mae eisiau eu derbyn neu eu gwrthod-chwanegu atynt neu dynu oddiwrthynt, a dysgwyliwyf y traetha eraill eu barnau ar y mater. Cred- wyf fod yn mhlith ein cenedl heddyw ddyn- ion mor alluog a Howell Dda, pe gellid eu symbylu. Ar y cyfan, y maesylwadau "A." yn foddhaol, oddigerth un neu ddau. Peid- io gwerthu i neb ond Cymry; nid wyf yn deall y rheol yna yn dda. Hefyd, ethol tri i fyned allan (tri dosbarth ardderchog wedi eu henwi) a wnelai y gost yn fawr iawn. Oni ellir cael dynion addas yn mhlith ein cydgenedl i ysgrifenu o wahanol fanau, fel na byddai gan yr yspiwyr hyn ond myned i ychydig leoedd i basio barn am y lie goraf ? Y mae Cymdeithas wedi ei ffurfio yn Youngstown yn barod, a deall wyf fod dau yn parotoi i fyned allan dros y cwmni tua'r De. Soniant am godi $10,000; ac mae yma ryw bymtheg neu ugain o ddosbarth arall am fyned allan i ddewis cartrefi iddynt 6U hun- ain. Bum yn eu cyfarfod y dydd o'r blaen; ac yr oeddwn newydd dderbyn llythyr maith oddiwrth Gwilym Eryri, a phamphledau er- aill, y rhai a gyflwynais iddynt. Oymerad- wyai Mr. Powell Siroedd McPherson, Camp- bell a Walworth yn Dakota; ond ofni yr oerfel yno yr oedd aelodau y Gymdeithas. Cefais hefyd lythyr oddiwrth y Parch. J. A. Jones o South Vallejo, California, yn hys- bysu fod "The Emigration Society of Cali- fornia," yn cynyg lie i ffurfio sefydliad Cymreig yn agos i Cottonwood, lie y gwertha y tir am o $6 i $10 yr erw, yn ol ei safle- gyda'r eithriad o un 240 erw o dir, ar yr hwn y mae lluaws o welliantau. Gellir lleoli yno 44 o deuluoedd, a phob un i gael 80 erw yr un. Y mae tiroedd llywodraeth tua deng milldir o'r olsaf, lie y gallai llawer o bobl sefydlu, ond iddynt ddyfod yma yn fuan. Mae y tir o natur gleiog a grafelog (red gravelly soil-clay and sand). Ceir cyf- lawnder o ddwfr yn y dyfnder o 20 i 60 troedfedd. Mae y tir o ran ei orweddiad y fath, fel y gellir trin yr oil o hono. Ac nid oes eisiau ei ddyfrio, gan fod digon o wlaw yn disgyn—tua 30 modfedd yn flynyddol. Tyfir yno bob math o lysiau, gwinwydd, ac amrywiol ffrwythau; ac mae yr hinsawdd yn ysblenydd o Hydref i Gorphenaf. 0 Gorph- enaf i Hydref y mae yn bur boeth, ond nid eithafol felly. Ysgrifena Mr. Jones yn mhellach, gyda golwg ar gyDllun cenedlaethol i archwilio tiroedd: "Beth feddyliech o ddewis tri o ymwelwyr-un o'r Dwyrain, un o Ddyffryn y Mississippi, ac un o ororau y Tawelfor ? Y tri i ymweled a'r gwahanol Dalaethau y bern- id yn fwyaf priodol i w henwi; ac ar ol idd- ynt wneyd eu hadroddiadau, i'r cyfranddal- wyr trwy bleidlais y mwyafrif, ddethol lie i ffurfio gwladfa. Yn ol cynllun felly, dodid pob teimlad personol, cul a Ueol o'r neilldu, a dyna y mudiad yn genedlaethol. Gwir y costiai y cyfryw gynllun arian; ond rhoddai foddlonrwydd cyffredinol a chenedlaethol. Gwn trwy brofiad fod gororau y Tawelfor o flaen pob man arall yn y Talaethau Unedig o ran hinsawdd a ffrwythau; acy mae y ben- dithion yna ynddynt eu hunain yn siarad cyfrolau," "Tebyg fod tir y rheilffordd yn Shasta Co. am o $2 i $2.50 yr erw-townships cyfain o hono; a thebygol fod pob alternate section yn perthyn i'r llywodraeth. Bu J. C. Edwards yma, yn nghyd a rhai eraill o Kansas, yn edrych y wlad; ao mor bell ag ydwyf yn deall, y maent yn talu $40 yr erw am dir gerllaw San Diego, yn y rhan ddeheuol o California. Nid ydys yn sicr eto pa le y bydd genau y Rheilffordd Ogleddol; felly y mae rhwystrau ar y ffordd yn bresenol i ddechreu yno." "Yr ydwyf fi wedi treulio $400 yn ddiw- eddar i chwilio am le da heb ddim draw back i gael sefydliad Cymreig da. 0 hyn allan rhaid i mi adael i eraill wario peth. Aeth ugain o Gymry i Jennings, La., ar y 3ydd o Ebrill, ac mae y tir yno yn codi yn gyfiym." Carwn weled rhyw ddaioni yn dyfod o'r gwahanol gynlluniau a gynygir y dyddiau nyn. Yr eiddoch, Youngstown, 0. D. J. JONES.
St. John ai St. Judas.
St. John ai St. Judas. G. Griffiths, Chicago, yn y DRYCH. Ebrill 23, 1885. MB. GOL.—Yn mhen- derfynlad y cwestiwn uchod mae dau beth neillduol y dylai y rheithwyr eu colla a'u hystyried yn ddlduedd, sef yn (1) Mai ar sail dau lythyr, yn llawysgrif St. John ei hun, y rhai sydd at el wasanaeth unrhyw ddlwrnod y dewlsa eu demandio trwy gyf raith, y cyhuddlr ef o gelsio bradychu achos Gwa- harddiad. (2) Mai yr ateb a wneir i'r achwyn, gan ei amddiffynwyr yn y DBYCH a'r Wasg, ydyw fod y celwyddwr Legate, cyfalll mynwesol St. John, yn gwadu yr haer- iad, a bod y Parch. Jo- seph Cook yn credu "Fod y cyhuddiad yn anwlreddus a malels- us." St. John yn y Voice, New York, lonawr 1,1885, I gave my time and labor during the cam- paign freely, "without money and without price." And I now de- nounce every statement or lnsiauation incon- sistent with the fore- going as absolutely false, and I challenge all persons who have published or circulated reports to the contrary to produce competent evidence to establish the truth of their asser- tions, or stand branded before the people as common scandal-mon- gers. Os nad yw Mr. Griffiths yn alluog i brofi euogrwydd St. John, y mae wedi gosod ei hun o flaen y cyhoedd fel un o'r scandal- mongers. A oes dyn o synwyr cyffredin yn credu pe byddai gan Clarkson, neu unrhyw Werinwr arall, lythyrau yn profi St. John yn euog, y buasent yn aros iddo eu 'demandio" trwy gyfraith ? jNa, ae nid yw Mr. Griffiths ei hun yn credu y fath beth. Ond y proofs, Mr. Griffiths; dewch. Hyde Park, Pa. TALIESIN MORGAN.
[No title]
Rwsia a'i Hymrysonau. MB. GOL.: Cyfansoddais yr Englynion canlynol er's rhai wythnosau yn ol, pan oeddwn yn maddwl yn sicr y buasai ymladd- fa ofnadwy yn cymeryd lie rhwng y Llew a'r Arth. Gwelaf yn awr fod arwyddion am heddwch rhyngddynt, a diolch am hyny. Gan y credwyf na fydd cyhoeddi yr Englyn- ion yn y DRYCR yn un rhwystr ar ffordd hedd- weh, eyhoeddweh hwy; bydd yn dda gan lawer o fy hen gyfeillion eu gweled a'u dar- llen, a chan yehydig eraill, efallai: Ymryson o hyd mae Rwsia—am gael Mwy golud na'i gwala; Yn awr ymdrychwantu wna, Yn rhandir fras yr India. Ei thrachwant a wna'i gorthrechu-er maint Yw ei grym a'i gallu; Daw i lawr a'i hynod lu, A buddiol fydd eu baeddu. Ei danedd i'r Llew Brydeinig—ddengys, Arwydd angeu ffyrnig; O'i llwyn y daw yn llawn dig, Fel anwar Arth fileinig. Rhaid yw ei churo a'i dal—a'i rhoddi Dan wareiddiad dyfal; Yn bur o hyd nes bo'i rhal, 0 wych duedd uweh dial. Y Llew Brydeinig i'r llaid-a ddygo Eiddigedd y Rwsiaid; Ymhyfant, rhuthrant heb raid, I ostwng Afghanistiaid. lor achub hwy drwy dy rad-o ddwylaw'r Arth ddialus anfad; Gwir addysg a gwareiddiad, A diwyg lwydd doa'u gwlad. Myn Rwsia, O! mae'n resyn-ymrwyfo Mor rhyfel heb derfyn; Tra medra rhyfela fyn, Ond alaeth too a'i dylyn. Rhaid yw i Loegr ei dwyn—i'w rhwymo Gyda grymus gadwyn; Od ynfyd ei nwyd anfwyn, Ac ni fedd serchog wen fwyn. O'i monwes gormes a gwaed-a lifa Fel afon o ruddwaed; Tyn, a thrin ddyn tan ei thraed, A hoffa rodio mewn ffrwdwaed. Arth ddwl yw, ond nerthol iawn-o anian Fileinig a chreulawn; A'i holllulanferth sy'n llawn, 0 ereslid echryslawn. Ei hawydd bob dydd yw dod—yn benaeth Annibynol hynod, I dywysu'r bydysod, A chael i'w glyw uchel glod. E ddaw Rwsia i ddyryswch—sodda I syddyn Belgarwch; 0 herwydd ei dyhirwch, Gwna'r Llew iddi rygnu'r llwch. 01 na welwn ddynoliaeth-y byd oU, Ya byw dan unbenaeth lor; a'i foli heb ryf^eth,—yn lan 0 dduwiol anian, yn ddielyniaeth. Johnstown, Pa. CADWGAN FABDD.
Hawl ac Ateb.
Hawl ac Ateb. YR IAITH GYMBAEG.—Carwn ofyn yn mha barth o Gymru y siaredir yr Iaith Gymraeg berffeithiaf.-Cymro o Sir Fon. Y GYMDEITHAS DIBOL GYMBEIG.—Y mae yn dda genyf gael eyfle i ddatgan fy nghymer- adwyaeth i'r Gymdeitbas hon, a datgan fy nymuniad am ei llwyddiant. Yr wyf yn barod i fuddsoddi $200 ynddi.—Ff. Y MYFYBIAN ABCHAIOLOGY.—A wyddooh chwi rywbeth am y "Myfyrian Archai- ology ?" Hoffwn gael gair arno yn y DBTCH, ac am yr argraffiad diweddaraf o hono.—L.. M. Ateb: Cyhoeddwyd yr argraffiad diweddar: af o hono gan T. Gee, Dinbych, a gellir ei gael yn y wlad hon gan Richard E. Roberts, Utica. CYMBU A'R IWEBDDON.—-Pa bwynt yn Nghymru ydyw yr agosaf i'r Iwerddon. Trefor Rowlands. Ateb: Rhan o Sir Benfro.
PETHAU CHWITHIG AM STREICS.
PETHAU CHWITHIG AM STREICS. Yn cael eu hegluro yn hanes anghvdfod blin yr Hocking Valley, O. !■—Chwithig yw gorfod dweyd fod streic yr Hocking Valley yn fethiant—y plant yn ei chanmol, y mamau yn ei melldithio, a'r meistri oeddynt yn erbyn eu gilydd i'n golwg ni, yn awr, mewn heddwch, ae yn llawenhau am y fuddugoliaeth. 2.—Galw cwrdd o'r gweithwyr er ceisio dyfod i ddealltwriaeth, a dim ond un rhan o dair yn dod yn nghyd, a rhyw ychydig yn cyhoeddi streic mewn rhanbarth mawr fel hwn. Dyma addysg i bawb ddod yn nghyd y tro nesaf, fel na chaffo neb achos grwg- nach nac edifarhau. 3.—Gweled llywodraeth dlawd, wasgar- og, ddiarfau a diamddiffyn, yn dechreu llawenhau mewn sierwydd o fuddugoliaeth wrth ddechreu ymladd yn erbyn lly vodraeth gyfoethog, wedi hen barotoi erbyn y frwydr. "Gwell diwedd peth na'i ddecitreuad," medd Solomon, a gwell llawenhau wrth ddadwisgo arfau wedi buddugoliaeth; ond nid felly gyda ni. 4.—Cadw cymaint stwr yn erbyn corffor- iaethau, a chymaint o arwyddion hyny yn ein plith ein hunain. 5.—Gweled llywodraeth yn gosod ei hun- an mewn sefyllfa fel nas gall ymresymu mwyach, pan mae yr holl wlad wedi myned yn anffafriol i gario ei rhyfel yn mlaen. Gwell ceisio amodau heddwch cyn cael ei dryllio yn ohwilfriw man, a bod at drugaredd y gelyn-yr hyn fu gyda ni yma. 6. —Meddwi mai trwy drais, gormes a dinystr mae enill y naill blaid a'r Hall i ym- ddwyn yn deg at eu gilydd. Cawsom 30 cents y dunell o godiad chwe' blynedd yn ol, yn nghorff dau fis o amser; a gwrthod- asom gymeryd 10 oent o honynt yn ol. Bu- asai yn llawer gwell cymeryd y 10c; a chaw- sem oleuni ar sefyllfa y wlad wrth weithio yn mlaen fuasai yn ein cymeradwyo am hyny. Hefyd, buasai yn llawer hawddach cael 10c. yn ol ar adeg cynydd masnach trwy ymddwyn felly, na phan fyddo y gelyn wedi ffyrnigo. 7.—Chwithig yw rhuthro i streic heb law- er iawn o bwyll a doethineb. Yr oedd nod- wedd o gariad yn ymddangos yn lied deg ar y oyohwyn, ond wrth garlamu yn mlaen yr oedd y cydbwysedd hwnw yn cael ei golli, a gwaethygu wnaeth hyd y diwedd, nes mae y mwyafrif wedi myned yn elynion i'w gilydd. Onid ydyw hyn yn siarad yn uchel ein bod yn ddiffygiol ? 8.-Chwithig yw gweled llawer yn myned i weithio at y coesau duon cyn bod y streic ar ben; ie, mwy felly, rhai yn gwerthu eu cydweithwyr er mwyn swydd a chyflog da, wedi bod mor ymdrechgar gyda'r streic cyn ei bod ar ben. 9.—Gweled ein cyfeillion yn myned ar hyd a lled y wlad i chwilio am waith, a gweithio mewn gwythienau bychain am bris bach, a danfon swm bob wythnos i gynal y streic, tra yn gorfod talu $4 yn yr wythnos am fwrdd, a hwnw yn ddigon gwael y rhan fynychaf. Onid oedd peth fel hyn yn orth- rwm, pan ystyriom fod y bwydydd lawer yn is nag oeddynt. Wedi gweithio misoedd fel hyn, yr oedd rhai yn y diwedd heb ddigon i'w cario adref. Gwagedd a gorthrymder ysbryd yw peth o'r fath. 10.—Gweled y gaethglud yn dyfod adref, a muriau Jerusalem wedi eu chwalu; llog ar eu heiddo, eu gwaith wedi myned mor brin, a'r Amaleciaid, y Moabiaid a'r Ethiop- iaid wedi cymeryd meddiant o brif heolydd ein dinas-a dim un Nehemiah i yru y dyeithriaid ar ffo. Rhaid oedd, ac yw bodd- loni i aros a gweithio yn eu plith. 11.—Chwithig oedd gwrthod 60o. y dunell chwe' mis yn ol, gan un o gwmniau Shaw- nee—yr hwn oedd yn pallu cydymffurfio a'r syndicate. Ond heddyw, pawb yn gorfod derbyn dim ond 50 cents. 12.-Aros yn rhy hir heb ystyried y can- lyniadau. Dyma naw mis o streic, a bydd yn ddeg cyn y gwelir un drefn ar bethau mewn llawer man, a bydd yn flwyddyn gyfan yn Shawnee cyn y bydd lie i wneyd dim. Hyn fuasai yn dda—i'r dinystrwyr sefyll y golled eu hunain; ond nid felly y mae. Yr oedd mwyafrif y bobl yn gweled ar ganol y streic mai gwell oedd cytuno a'r meistri, wrth weled ansawdd y wlad; ond ystyrid pwy bynag a feiddiai siarad i'r cyf- eiriad hwnw, yn ddafad ddu. Ond mae ysgrifenydd hyn o linellau yn herio unrhyw un i roddi blot ar ei gymeriad yn y cyfeiriad hwn, ag sydd wedi tori glo yn y wlad hon er's 32 o flvnyddoedd. Piti fod dynion yn myned i sefyllfa na allant wneyd y goreu o'r gwaethaf.-HEN LOWB.
NODION GWEITHFAOL.
NODION GWEITHFAOL. SHAWNEE, 0., Mai 5.—Daeth y tren i'r lie hwn ddoe am y waith gyntaf er pan rodd- wyd y twnel ar dan amryw fisoedd yn ol.—J. T. B. JOHNSTOWN, PA., Mai 6.—Mae y dref hon yn anadlu o hyd, ond nid oes yma yr un Morrell i ymaflyd yn ei law i'w arwain, a dyna y golled fwyaf a welodd Johnstown erioed.-Cadwgan. NEWPORT, OREGON, Ebrill 22.-Heddyw darfu i'r gwaith glo ail gychwyn ar ol mis o seibiant, yr achos o hwn oedd y gorlawnder yn y farchnand. Cymerodd y cwmni fan- tais ar hyny i adgyweirio y rhan allanol o'r gwaith. Tebyg mai araf fydd y gwaith yr haf dyfodol, oddigerth i rywbeth nag sydd mewn golwg yn awr droi allan. Yr oedd tua 90 o fwnwyr yn gweithio yma yr hydref a'r gauaf diweddaf; erbyn heddyw y mae yr haner mwyaf wedi ymwasgar, gan fedd- wl gwneyd yn well; er hyny y mae mwy o dorwyr glo yma eto i ateb i'r alwad am y nwydd yn San Francisco. Gwaith caled yw hwn, ac arian bach a enillir mewn cydmar- iaeth. Nid oes chwaith gymdeithas Gym- reig na Seisnig yn nes na rhyw dair mill- dir o ffordd; felly nid ydwyf yn canfod dim yma i ddenu y Cymry, oddigerth yr hin- sawdd, yr hon sydd yn ardderchog, er dechreu Mawrth. Tir coediog sydd yn y cylchoedd hyn; ac mae yma bedair melin lino. Mae y tir coed goreu wedi ei gymeryd i fyny, a chymerwyd rhai timber claims i fyny yr wythnos hon. Ceir ambell lygedyn o dir ffarmio rhwng y coedydd mawreddog, ond wedi eu meddianu gan mwyaf, er yn anghysbell, heb yr un ffordd i fyned atynt, na marchnad i werthu y cynyrchion.—Mes- mer.
Yr Egwyddor Gymreig.
Yr Egwyddor Gymreig. MB. GOL.: Mae eich gohebydd parchus D. F. Lewis am gael unoliaeth i seiniad llyth- yrenau ein hiaith. Mae gramadeg pob iaith yn sylfaenedig ar arferiad—dyna yr awdur- dod, ac y mae arferiad dysgedigion yn syl- faenedig ar naturioldeb a rheswm. Nid oes un awdurdod nwch yn y byd Uenyddol ar bethau gramadegol a geiriadurol. Ac fel yr amrywia chwaeth, felly yr amrywia arferiad. Gwn am feirniaid yn gosod ffordd neillduol o sillebu geiriau i lawr yn wallau yn eu beirniadaethau, tra yr oedd y dull a fabwys- iadwyd gan y cystadleuydd yn gywir, yn ol arfenad amryw o awduron enwog, ao yn gyson a rhai geiriaduron o safle uchel. Ni ddylid anghymeradwyo arferiad un os bydd ei arferiad yn gywir yn ol arfer dosbarth o lenorion parchus, ac yn gyson ag un gram- adeg, neu eiriadur yn ein hiaith, er y gall mai fel arall yr arfera y beirniad sillebu. Shenandoah. D. S. THOMAS.
[No title]
-Y mae y Cad. Russell Thayer o Phila- delphia, wedi derbyn archeb i wneyd awyr- en anferth at wasanaeth milwrol y Llywodr- aeth. Bydd yn 60 troedfedd o dryfesur, ao yn 185 o droedfeddi o uchder, ac yn alluog i godi saith tunell. Bydd o ffurf cigar, a symudir hi gan awyr gwasgedig. Fe gostia tua $10,000. c °& s 6 -Yr oedd rhew ac eira yn Minnesota, Wisconsin, Iowa a Nebraska, ganol yr wyth- nos ddiweddaf, ac ofnir fod niwed mawr wedi ei wneyd i'r ffrwythydd mewn llawer o fanau.