Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

LLANGOLLEN.

Advertising

- ! CYNGHOR EGLWYSI EFENGYLAIDD…

NODION 0 DDINBYCH A FFLlN"r.…

j CONGL YR' ADOLYGYDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

bu mewn unrhyw gyfnod yn ei hanes 5 n effcithiolach i'w genadaeth nag ydyw elen Rhifyn rhagorol yw Dysgedydd Medi. Rhoddi y lie blaenaf i ysgrif gref a hyffbrddiadol Proff Davies, M.A., Bangor, ar Syniadau Boreol yr Hebreaid am Dduw.' Diolch i'r Parch J. Jones, Merthyr, am ei erthygl ar Y Parch R. S. Williams, Dowlais.' Fy Nhad a bod ar y biaen,' gan Justin, er yn fyr eto yn odiaethol :flasus ac addysgiadol, Ysgrifened lawer o'r fath bethau. Y mae erthyglau J. T.' o fis i fis mor fyw, racy, ac iachus, fel y mae ei ddarllen yn angenrbaid. pa un a gydolygir ag ef neu beidio. Gwnaeth eisoes ei le iddo ei hun yn nghynwys- iad y Dysgeclydd. O. E.' sydd a gofal y Nodiadau Misol' yn gyffredin, ac yn y rhifyn presenol, Marwolaeth y Pab, ac etholiad ei olynydd;' y I Rhyfel, Cartrefol, a Gohiriad y Senedd,' a ddaw dan ei sylw, ac ymdrinir a'r pynciau hyn yn feistrolgar a theg. Y Diwygiwr. Ceir darlun pur dda o'r diw. eddar Mr Thomas Williams, Y.H.. Gwaelod ygartb, ac ysgrif ragorol arno gan R. T.' yn rhifyn Medi. 'Y Seithfed Pla,' preeth gan y Parch J. Gwrhyd Lewis, yn wir werthfawr. Pery Elwyn a Watcya Wyn i ofalu yn dyner a chyson am Nansi—merch y Pregethwr Dall.' Hanes Eglwys y Christian Temple. Amanford,' ac 'Agoriad Capel y Gwynfryn,' yn dra dyddorol. Yr Ymwelydd Misol.—Awgryma enw y cy- hoeddiad hwn natur ei genadaeth. Daw allan o Swyddfa Gwrecsam, no y mae Ityn war_ y yn ?n?? ei lendid mewuol ae allanol. El gynwy 8- lad yw dariiau byrio-,i, gwreiddiol, a detholedig, a darluniau o'r enwogiori y traetliir ya eu cyloh. Arweinir yn y rhifyn hwnganbenod Anthropos ar 'John Wesley,' wedi ei chymeryd o'i lyfr ar ( Oriaa gydag Enwogion.' Ceir darlut^gwych o'r diweddar BrifathrawThos.Charie3 Edwards, D.D., ac erthygl for oni nodweddiadol arno, gan y Parch It. J. Rees, Aberystwyth. Dylai yr Ymwelydd Misol gael derbyniad eyff redinol oherwydd ei duedd iachuso!. v Y Cerddor.—Gyda'r Cerddor y mis hwn an- fonir darlun campus i'w ff'ramio o'r cerddor adnabyddus Mr Caradog Robei ts. Dewis Testynau yw pwnc Mr Emlyn Evans yn ysgrif gyntaf y rhifyn, ac y mac yn ddoniol a miniog dros ben. Tcstynau i gystadleuneth yn nglyn a'r Eisteddfod a olyga, a da y gwnelai pob pwyllgor dalu sylw i'r liyn a fynegir ganddo. Hysbys i bawb a'i hadwaen ydyw y ffaith fod chwaeth Emlyn Evans yn bur ac uchel iawn. O bosibi, fod ei chwaeth yn ei gario i eithafion weithiau, ond gwell hyny nag ymostwng at yr anheilwng. Rhydd engreifftiau chwerthinus yn ei erthygl, a hyderir y llwydda drwy hyny i gael diwygiad yn y cyfeiriad a noda. Rhoddir cryn le i feirniadaeth ar Eisteddfod Llanelli, a digon naturiol yw hyny mewn cyhoeddiad o nodwedd y Cerddor. Mr Thomas Gabriel, Bargoed, a anrhydeddir yn oriel Ein Cerddor- ion,' y tro hwn, acy mae y dariun a'r ysgrif yn rhai gwych. Y Cenad Ifedd.-Y Parch David Lewis (Dewi Medi), Lanelli, sydd ger ein bron y mynyd yr agorir y Cenad, ac y mae y dariun Hior gywir, fel na raid i'r neb a adwaen y gwrthddrych gael ei enw wrtho i wybod pwy ydyw. Y mae sylwadau y Golygydd arno yn nodweddiadol a chywir. Gallasai ymhelaethu, ond nid ei arfer yw byny, ac wrfch beidio y mae ar yr.ochr ddyogelaf. Darlleriir y math yma o ysgrifau gyda bias a dyddordeb mawr. Pryd- forth, buddiol, ac o saerniaeth gelfydd yw pregeth y Parch J. Solon Rees, ar y geiriau, Canys wele Teyrnas Dduw o'ch mewn chwi y mae." Gair yn ei bryd yw cenadwri y Parch t. E. Davies, Dinas Mawddwy, ar Rwymed- igaeth yr Eglwys tuag atyr Ysgol Sul,' a dy lai gael sylw difrifol. "A- *■ Y Cronicl Cenadol.Priodoi iawn ydyw i'r Cronicl Cenadol roddi y He blaenaf i'r diweddar Mr Thomas Williams, Y.H., \r hwn oedd yn gefnogydd mor ffyddlon a selog i'r Gymdeithas Gonadol. Cyfranodd lawer yn ei ddydd, a gedy ddwy fil o bunau yn ei ewyilys iddi hi. Rhoddir dau ddarlun gwahanol ohono, ac ychydig o syi- wadau ar ei nodweddion. Dywedir liawer mewn cylch bychan am dano, ond buasem yn dysgwyl ychwaneg nag a geir yma, yn enwedig gan fod Mr Williams yn gymeriad mor rhag- orol. Beddfaen Coffadwriaethol Chalmers,' ac Adgofion am Bregethwyr Brodorol,' yn gyf- add as iawn i'r fath gyhoeddiad a dylai syl- wadau pwrpasol y Parch Griffith Parry, Llan- badarn, gael eu lie dyladwy yn ystyriaeth yr eglwysi. Tywysydd y Pla)it.-Da genym weled y Tyivysydd yn parhau i gadw ei Oriel mor ddes- tlus a glan. Darlun rhagorol o'r Parch W. D. Thomas, Brynaman, sydd yn yr Oriel y mis hwn, ac y mae yr ysgrif fywgraffyddol yn hYQod o gyflawn. Nid haues Mr Thomas yn unig a geir yma, eithr hanes cryn lawer o sir Gaerfyrddin, yu enwedig plwyf Caio, lie gan- wyd y gwrthddrych. Nid liawer o feirniadaeth geir yn yr ysgrifau hyn yn fisol, ond dichon fod yr awdwr yn teimlo mai dyogelwch iddo ydyw ymgadw oddiwrth hyny hyd y gallo, a diau ei fod yn gywir. Ar yr un pryd, ychwanegid at werth yr ysgrifau yn nghyfrif rhai, ac yn neill- duol at eu dyddordeb cyffredinol, pe ceid mwy o'r elfen feirniadol yn gymysg a'r hanesyddol ynddynt. Dysgedyddy Plant. Y Golygydd a'r Plant. yn dda iawn. Tuedda i'w cael i ddarllen, gwrando, a gweddio, a hyny ydyw yr amcau yn ddiau. Richard Owen ac Evan Ellis,' yn dynerac effeithiol. Mab ieuengafi Mr a Mrs Rowlands, Tanycoed, Meirion, oedd Richard Owen, ac ail fab Mr a Mrs Richards, Gwern- brychdur, yn yr un sir, ydoedd Evan Ellis. Bu y ddau farw. Ceir eu darluniau yn y Dysged. ydd, ac ni eUir darllen yr hanes heb gydym- deimlo a'r rhieni galarus, gan hyderu y bydd i holt blant y Dysgedydd fod ar eu gwell o'i ddarllen. Cymru'r Plant. DJsgu gweithio,' yn Hawn addysg. Dihangfau,'yn gyffrous ac effeithiol iawn. Yr holl ddarluniau yn wych, a gweddill y cynwysiad yn rhagorol. Palla gofod i ni fan- ylu mwy ar y cyhoeddiadau a ddaw i'n bwrdd.