Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
NID OES EISIEU YCHWANEG AR…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
NID OES EISIEU YCHWANEG AR MERTHYR. Mae prawf amser wedi cael ei roddi ar y can- lynol, a chytuna pob person yn Mertbyr nad oes aa,en prawf cryfach o'i wirioneddolrwydd. Mae fy ngwellhad i gan Doan's Backache Kidney Pills wedi sefyll y prawf am o yn agoe bedair blynedd, meddai Mrs M. Bailey, o 32, Her!. y- bont, Merthyr. I Nid wyf wedi cael y iad lleiaf o'r hen ddolur byth oddiar byny, er mai yn ol yn Awst, 1899, y siarednis am f y ngwellhad.' Mae y datganiad y sia.redir gan Mrs Bailey am dano fel y canlyn I Am amser hir dyodlefais boenau arswydus yn fy nghefn, fy ysgwyddau, a'm lwyrau. Mynych yr oedd y poenau mor llym, fel yr oeddent megys yn dwyn pob cryfder allan ohonwyP. Yr oedd yn ofid mawr i ymunioni ar ol plygo, a gwnaeth hyn waith y ty yn fliodsr mawr i mi. Cefais drjfferth oddiwrth yr arenau, y rhai oedd prif achos fy ngofid a'm poea. Yn clywed fod Dean's Backache Kidney Pills yn foddion arbenig at yr arensu, prynais rai, a decbrcJuais eu defnydtiio. Er fy llawenydd gwnaeth ychydig ddognau les mawr i m;—cryfhaodd fy ngbefc, a theimlais yn woll yn mhob ffjrdd. Parbeais gyda phelenau DJaD, a chefais yn fuau fy ngwobrwyo a gwellhad per- CEaith. Dylaswn ddyweyd o gyfiawnder i belenau Dùan, fy mod wedi treio llawer ereill o fedlygic- iaethau, ond nis gwnaethant i mi unrhyw les. I belenau Doan yn uuig mae yn rhaid i mi ddiolch am y gwellhad rhyfeddol yn fy ierhyJ.' Os ydych yn glaf, anfonwch i ni ddesgiifiad o'r arwyddion. Bydd yn dda genym roddi i chwi y cynghor goreu sydd yn ein meddiant yn ddidal. Ymddygir at eich Ilythyr gyd¡t'r ymddiriedaeth mwyaf. Mae Doan's Backache Kidney Pills yn ddau swllt a naw ceiniog y blwch (chwech blwch yn dri swllt ar ddeg a naw ceiniog). Oddiwrth bob lferyllydd a'r ystordai cyEEyr, neu anfonir trwy y llythyrfa yn r'aad ai- dderbyniad y pris gan y parchenogion—Foster MeClellnn, Co., 8, Wells- street, Oxford-street, London, W. Byddwch yn eicr o gael yr un fath belenau ag a gafodd Mrs Bailey.
RHOSLLANERCHRUGOG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
RHOSLLANERCHRUGOG. Y dydd o'r blaen yr oeddis yn agor yr yagoldy newydd ardderchog sydd wedi ei hadeiladu yn nglyn a chapel Bethlehem. Yr oeddis yn cwyno er's talm fod y festri yn rhy fychan, ac nad oedd modd cyfranu addysg i'r plant fel y dylid oher- wydd dillyg lie. Yn ugwyneb hyny cysurem ein hunain y byddai genym ddigon o le pan ddelai capel Salem yn barod. Er i nifer fawr o'r plant fynel yno, er syndod i bawb, aeth festri Bethle. hem yn llawnach nag erioed, a theimlwyd fod ya rbaid gwneyd rhywbeth yn fuan, neu y byddai y plant yn cael cam, a'r eglwys yn cael colled. Yr oedd genym dir yn rhydd-ddaliadol mewn man cyfleus, ac aed at y gwaitb o ddiftif. Mae bellach wedi ei orpheu. Costiodd yr adeilad yn agos i dair mil o bunau, ac y mae yn bobpeth a ellid ddymano. Mae yr ysgol yn rhifo rbwng pump a chwe' chant bob SAbbatb, ac ysgol Salem yn rhifo oddeutu dau gant. Dathlwyd yr agoriad ti wy gael te patti cyffredinol a cbyngerdd y nos. Arweiniwyd y gweithrediadau gan y Parch R. Roberts, a chafwyd areithiau byrion gan Md Isaac Smith, J. Thomas, ac ereill. Yr oedd Yswain Yorke, Erddig, ger Gwrecsam, yn bresenol, yn cael ei ddilyn gan nifer o foneddigesau. Cafwyd anerchiad calono^ol ganyrYswaio, ac nid angbof- iodd efe drysoifa adeiladu yr ysgoldy newydd. Cynwysa yr ysg-nldy gynifer a'r capel pan agorir yr holl ystafelloedd ar achlyauron neillduol. Bydd yr adeilad hardd h wn yn gyfleus iawn i ddysgu ac hyliorddi y naill genedlaeth ar ol y l'all o biaat am lawer blwyddyn. GOHEBYDD.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
fcHrARCHER&C??li GQLSEN RETURNS'i;; BEG I STEHEDE^ j J Darlun o Pecyn Wns. ARCHER'S GOLDEN RETURNS. PERFFEITHRWYDD MYGLYS PIB. Anwresog, Melus, a Pheraidd,
WERN, ABERTEIFI.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
WERN, ABERTEIFI. PLANT Y WERN SYDD AR WASGAR TN ANRIIYD- EDDU EU TAD YN Y FEYDD, SEF Y PAIlOH J. M. PRYTHERCH, LLANARTH. Dydd a gofir yn hir yn eglwys y Wern fydd <vdd Mercher, y 19eg o Awst, 1903, Yr oedd llu jjiawr o'r plant sydd ar wasgar wedi dychwelyd i dreulio ychydig ddyddiau yn hen ardal eu mebyd yr oeddynt wedi trefnu i gwrdd yn ngbapel y ^»ern ar y dydd uchod, er cyflwyno BDrhegion i'w weinidog anwyl, yr hwn sydd wedi gwasan- aethu y cylch am y cyfnod hir o bum' mlynedd a wugain. Wedi darllen a gweddio gan Mr Howelis, Llwyncelyn, a Mr Edwards, Brynrhiwgaled, cymerwyd y gadair gan Mr E. H. Davies, Y.H., **entre. Cafwyd anerchiad byw a racy gan Mr *^ivies. Dywedodd eiriau caredig iawn am Mr Prytherch. Yr oedd ya student wedi dal test a<tt8er. Hwyrach yn twy o athraw nag o breg- ethwr. Cymeriadau cryfion wedi eu codi o dan ei Weinidogaeth. Nis gallai anghofio y flwyddyn 1859. Dyna'r flwyddyn y derbyniwyd ef pan yn ddeuddeg oed yn un o ugain yn gyflawn aelod o y Wem. Blwyddyn deheulaw Duw oedd "°no. Ni fu yn hir o dan weinidogaeth Mr P., and dyma lie y rhoddwyd ef ar ben y ffordd. Yn dta dyledus i'w hen dad yn y ffydd am lawer o Synghorion a chyfarwyddiadau. Yn falch o'r cyfle i gydnabod hyny yn gyhoeddui. Wedi canu emyn, galwodd y Cadeirydd ar y mudiad, sef y Parch E. Wern Vvilliams, Hirwaun, un o'r plant sydd ar wasgar, ddarlion yr anerchiad hardd, goreuredig, oedd i w gyflwyno i$Mr Prytherch. Drwg genym na chymerasom gopi o'r anerchiad, felly nis gallwn el: roddi yma, ond gallwn ddyweyd ei fod yn. fynegiad cywir 0 deimladau y plant sydd ar was- gar tuag at eu hen weinidog parchus. Cafodd y darlleaiad ohono gymeradwyaeth uehel M unfrydol Y dorf oedd yn bresenol. Wedi ei ddarlien gal w- odd y Cadeirydd ar Mr W. Thomas, cyfreithiwr, Caerdydd, i'w gyflwyno i Mr Prytherch. Gwnaeth Mr Thomas y cjflwyniad mewn geiriau pwrpasol a charedig. Wedi dyfod yn un swydd o Gaerdydd er dangos ei barch a'i edmygedd o'i hen weinidog. Nid oedd Mr P. yn myned yn hen. Syniidau yn gwneyd un yn hen. Mr P. yn ieuanc ei feddwl a'i ysbryd. Yn bleser mawr ganddo wneyd byn dros y plant oedd ar wasgar. Yna galwodd y Cadeirydd ar Mrs Aaron Evanp, Seacombe, i gyflwyno ei ddarlun iddo, ac hefyd ar Mis William Jones, Lerpwl, i gyflwyno codaid o aUr iddo. Darfu i'r ddwy foneddiges fyned drwy eu gwaith yn rhagorol iawn. Erbyn byn yr oedd y cwrdd wedi codi i bwynt uchel mewn teimlad a brwdfrydedd. Mr Prytherch weli ei orchfygu ei deimladau, a'r plant yn wylo o lawenydd. ■^id anghofiwn yr olygfa yn hir. Mae ychydig o S&redigrwydd yn medru troi y ddaear yn nefoedd, &wneyd yr hen yn ieuanc. Wedi canu yr hen ?eniu;— Yn dy waith y mae fy mywyd, Yn dy waith y mae fy hedd,' &c., » Ralwodd y Cadeirydd ar y personau canlynol Biarad:— Y Parch D. LEWIS THOMAS, Clare: Mae genyf barch mawr i Mr P. Cefais fy nyegu i'w "archu pan yn blentyn. Er fod Mr P. yn heD, a j^ioau yn ieuanc, gallaf ddyweyd ein bod wedi D°d yn yr un coleg, ac o dan yr un athraw. Y fwyaf arbenig yn ei gymeriad fel gwein- idog yw gonestrwydd. Mr P. yn student wedi Radael y Coleg. Yn parotoi ar gyfer yr areithfa. r^Qglyn ar gareg fedd Daniel Thomas, cyn-wein- S y Wern, sydd yn nodweddiadol o Mr P. Nid yw un o'r bloeddwyr,—diysgog Y dysga'r gwrandawyr; Ei holl oes enilla ",yr, Nid a swn ond a synwyr.' Y Parch W. CEREDIG DAVIES, America, a ddy- "edodd ei fod ef wedi dyfod o bellach ffordd na'r o'r plant er dangos ei barch i Mr P, Pan yn tentyn yn credu nad oedd pregethwr tebyg iddo, c Wedi tyfu yn ddyn nid oedd wedi newid ei farn. gryf fel gweddiwr ihywbeth newydd yo ei W,ddlau bob Sabbath. Ni chlywodd neb yn debyg i4do yn hyn, ond y diweddar Mr Evans, Eglwys- bacb. Mr THos. H. WILLIAMS, Caerdydd Wedi Gulio blynyddoedd dedwydd o daa weinidogaeth erl^ yQ arwain y canu am dros 16 mlyn- d yma, ac ni fu gair croes rhyngom erioed. Er ^ad oedd Mr P. yn gerddor ei hunaD, eto medr<!i ^awrogi llafur y rhai oedd yn ymdrechu v 'r r^aQ 'lnn 0 waith y cysegr. „ Parch W. E. EVANS, Tresimwn Yr adgof yvrtb am I5- ydyw cofio fy nhad yr allor tleulnaidd ar foreu Sul yn gweddio am fendith ar ei weinidogaeth. Yr oedd wrthi yn hir iawn, a minau mewn brys i f t ned allan i chwareu. Pan yn blentyn nid oeddwn yn meddwl yu uchel ohono fel pregethwr, am nad oedd yn gwaeddi digou. Mae pob plentyu, hen ac ieuanc, yn hoffi swn yn fwy na sylwedd. Wedi tyfu i fyny, gwelais fod mwy mewn sylwedd na swn, ac felly daethum i werthfawrogi gweinidogaeth gyfoeLhog Mr P. Ei bregethau bob amser yn fresli fel awelou y boreu. Y mae yn feddyliwr gwreiddiol. lihoddodd i mi lawer o help pan yn dechreu pregethu. Y mae yn foneddwr, yn ysgolhaig, ac yn Gristion. Da genyf gael bod a Haw yn y gwaith o'i anrhydeddu. Y Parch H. BEVAN, Bradford: Da genyf fod yma. Hyfryd clywed y plant yn canmol y tad, a'r tad yn canmol y plant. Nis gnU y plant byth daln i'r tad. Ni ellir talu i'r uchedydd am ei gan, i'r enfys am ei Iliwiau, nac i'r rhosyn am ei bersawr. Personolineth yw y dylanwad cryfaf. Nid yr hyn y mae un yn ei ddyweyd nac yn ei wneyd, ond yr hyn ydyw. Bydd i blant y Wern anghofio geiriau Mr P., ond erya dylanwad ei bersonoliaoth arnynt hyd bytb. Y Parch D. PIOTON JONES, cenadwr: Nid wyf yn un o'r plant, ond yn un o'r brodyr sydd ar wasgar. Golygfa brydferth oodd yma—tad a phlant yn cyf- arfod a'u gilydd—y plant yn d'od adref ag anrheg- ion i'w tad. Fel hyn y dylai fod. Y Parch W. GRIFFITHS Yr oedd ganddo lawer i'w ddyweyd am Mr P., ond cwrdd i'r plaufc oedd hwn. Cawsai ef gyfle eto wrth gyflwyno y dysteb sirol. Da oedd ganddo weled y plant yn parchu y tad. Y Parch D. M. DAVIES, y Cei: Neb wedi dyweyd dim am Mrs Prytherch. Ni fuasai Mr E. y peth ydyw oni bai am dani hi. Yr oodd yn un o'r gwragedd goren-wedi dysgu llywoiiraethu ei thafod a'i thymher—dim yn fwy pwysig i wraig gweinidog. Dymunai iddynt gael byw yn hir i fwynhau y rhoddion. Y Parch E. C. DAVIES, Ynyshir: Yn meddwl yn uchel o'r IAJell am blant y Wern, ond yn uwch yn awr. Ilhai ohonynt yn yr Ynyshir-boehgyn rhag. rhagorol. Anfonwch ragor. Y Parch TOWYN JONES Wedi gwneyd ymdrech i dd'od yma. Yr wyf yn cofio yr hen weinidogion. Brodyr auwyl oeddynt. Mr P. wedi byw yn hir, ond nid yw yn myned yn hen. Dim eisieu myned yn hen. Y dyn sydd yn byw yn ol sydd yn myned yn hen. Gweled Mr P. yn cael oi iwytho ag anrhegion yn ei adgofio am yr ysgolfeistr yn rhoddi sum i'r plentyn. Meddylia,' meddai, fod dy fam yn cael deg punt ddydd Llun, wyth dJydd Mawrth, pedair ddydd Mercher, &c., beih gaiflf hi ddydd Sadwrn ?' Fit, syr,' oedd atebiad y plentyn. Mr P. yn haeddu gwneyd ohonoch hyn iddo. Y Parch D. GLANANT DAYIES, Brysto Gwr yw Mr P. sydd yn werth ei anrhydeddu—15 mlynedd o wasanaeth. Dyn a chenadaeth ganddo. l'wy fedr fesur dylanwad ? Y Parch H. A. DAVIES, Cwmaman; Gofynir weithiau, Sut blant sydd gan liwn-a-hwn ? 0, plant rhagorol, yn cofio am eu rhieni. llhaid fod plant y Wern yn blant da—er wedi gadael yr hen gartref, eto yn cofio am eu tad. Ni cblywais am symudiad fel hwn o'r blaen. Dyma both newydd yn hanes yr eglwysi. Mr P. yn grand divine. Nid yw yn synu ei fod wedi magu cewri, Mr MORGAN EVANS, Y.H., Oakford: Mr P. yn ddyn o ymddiried-yn gyfaill cywir. Hon yn un o'r llinellau cryfaf yn ei gymeriad. Da gonyf weled y plant yn cofio am dano. Wedi hyny cododd Mr PRYTHERCH i ateb. Cafodd dderbyniad cynes iawn gan y gynulleidfa. Yr oedd yn amlwg fed.ei deimladau yn ddrylliog. Dywed- odd: Medraf ddal gwrthwynobiad, ond nis gallaf ddal caredigrwydd. Yr oedd caredigrwydd yn ei doddi. Nis gallai fynegi mor anwyl oedd y plant ganddo. Yr oedd amrw ohonynt wedi enill safle- oedd yn y byd a'r eglwys. Nis gallasai ragweled hyn pan yn eu derbyn yn aelodau o eglwys y Wern. Dim erioed wedi dysgwyl y fath garedigrwydd ar eu Haw. Nis gallaf roddi fy nioleh mewn geiriau. Chwi wyddoch beth ddywed fy nghalon.' Wedi y diolchiadau arferol, dygwyd y cyfarfod i ben drwy weddi gan y Parch II. P. Jenkins, Aberaman. Trealiwyd y gweddill o'r prydnawn yn Parc- yddol—cae a roddwyd at ein gwasanaeth gan Mr David Jones, Wern, wyr Shon Gymro—i yfed te a chwareu. Yr oedd y to yn cael ei roddi gan Mrs Aaron Evans, Soacombe, a Mrs William Jones, Lerpwl, ac yr oedd holl eglwys a chynulleidfa y Wern wedi cael gwahoddiad cynes i gyfranogi ohono. UN O'R PLANT SYDD AR WASGAR.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DYGWYD wyth o Wrthodwyr Goddefol, yn cynwys dau weinidog Ymneillduol, o fiaen ynadon Ellesmere am wrthod talu y dreth addysg. Codwyd gwarantau yn erbyn yr oil ohonynt. Gweithia y Ddcddf Addysg newydd yn ardderchog