Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Y GOLOFN WLEIDYDDOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y GOLOFN WLEIDYDDOL. GAN GWLEIDYDDWR. BUDDUGOLIAETH ar ol budd- Yr Etholiadau. ugoliaeth ydyw hanes y blaid Ryddfrydig er's blynyddoedd bellach. Llwydda i gadw y seddau a feddai eisoes, ac i adfeddianu y rhai a gollodd drwy gam. Cymerodd dau etholiad pwysig iawn le yn ddiweddar, ac yr oedd cryn bryder yn nghylch eu tynged. Yn Reading yr oedd y naill, a'r 1Iall yn Ngogledd-ddwyrain Lanark yn Ysgotland. Sedd teulu y Paimers ydyw Read- ing wedi bod drwy y blynyddoedd, oddigeith y tymhor byr pan ddygwyddodd y gelyn ei chipio oddiarnynt. Rhoddwyd y niferi yn y TYST yr wythnos ddiweddaf, ac ni raid eu rhoddi dra. chefn. Gelwir sylw at yr etholiad i geisio dangos fod gallu cadw y sedd hon o dan yr am- gylchiadau yn fuddugoliaeth. Dylanwad y teulu oedd yn dyogelu y sedd bob amser i'r Palmer a ddygwyddai fod yn ymgeisydd. Cyflogir nifer mawr o weithwyrgan y Palmers. Braidd na ellir dyweyd mai hwy sydd wedi gwneyd Reading. Ond y tro hwn gwr dyeithr oedd Mr Isaacs, yr ymgeisydd Rhyddfrydig, er mor enwog ydyw fel bargyfreithiwr. Dyn lleoi o barch mawr a dylanwad pur gyffredinol ydyw i Mr Keyser, ei wrthymgeisydd, ac wedi gwneyd ymgais aflwyddianus ddwy waithd enill y sedd. Er pob anfantais, llwyddodd yr ymgeisydd Rhyddfrydig i ddyogelu y sedd i'w blaid, a mawr oedd y gorfoledd trwy yr holl wersyll. Bydd Mr Isaacs yn gaffaeliad gwerthfawr iawn

NODION.