Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

CONGL YR ADOLYGYDD.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CONGL YR ADOLYGYDD. T Cerddor.-Deil hwn yn llawn o amryw- iaeth a'i gwna yn ddyddorol i'w ddarllenwyr. Mae yr ymchwiliad i hanes hen donau yn sicr o brofi yn agoriad Uygaid i lawer, os parheir. Cymru r Plant.-Anfiawdd meddwi am ddim mwy cymhwys i gynyrchu yn mhlant y genedl awydd am ddarllen Cymraeg. 0 fis i fis, llenwir ef a. darnau byrion, bywiog, a chwaeth- us, a'r mis hwn y mae'n rhagorol. Tywysydd y Plant.- Gystal ag erioed. Darlun o Mr Ross' Hughes, Borthygest, geir ynddo y tro hwn-darlun da, fel arfer—a hanes prif symudiadau ei fywyd gan Taborfryn. Hir y parhao y Tywysydd i wasinaethu yr Enwad a'r wlad. Dysgedydd y Plaiit.-Da rhagorol yw hwn eto. Dengys ymdrech fawr i barotoi blasus- fwyd o'r fath a gar y to ieuanc ac os na chant flas ar beth fel hyn, y maent yn ddiobaith. Y Cronicl Cenaiol.—Cenadaeth neillduol hwn yw rhoi i'r eglwysi ddefnyddiau i feithrin set mwy dros waith Cenadol, ac mae'r rhifyn hwn yn llawn o bethau cymhwys i hyny. Pe nabiusai yuddo ddim y tro hwn ond apel Dr Griffith John at yr eglwysi ar ran y gwaith Cenadol yn China, buasai yn ddigon am un mis. Dylai yr apel wneyd gwaith mawr iawn. Ceir yma hefyd yr anerchiad rhagorol a draddododd Mr D. D. Williams, TYST Office, Merthyr, fel llywydd y Cwrdd Dirwestol yn Mangor. Dy- wedodd ffeithiau ddylent agor Ilygaid dynion i gymeriad ofnadwy y fasnach feddwol. Rhoddir hefyd hanes y Cwrdd Cenadol yn yr Undeb, a dyfyniadau o bapyr gwerthfawr y Parch W. Owen ac i orphen ceir yr Ystadegaeth lawn a threfnus a ddarllenwyd gan Ystadegydd ein Henwad—y Parch H. Eynon Lewis. Rhifyn da iawn yw hwn. *:11:* Y Dysgedydd.—Darllenasom y rhifyn hwn gyda bias mawr. Mae yn gryf drwyddo, o erthygl gref Mr Owen, Liind)silio, ar Gydwybod' hyd y terfyn. Diolcha llawer am yr ysgi-if ar rimrys gan yr Hybarch D. Griffith, Bethel. Cynorthwya hwynt i ffurfio syniad cliriach am un y clywsant gyfeiriadau lawer ato. Mae ysgrif Dr Owen Evans ar Hugh Owen, Bronclydwr, yn wir dda, a llawen- hawn am nad yw ond y gyntaf o gyfres ar Wroui-tid Ymneillduol y Dyddiau Gynt.' Ond dyna, gellid canraol pob ysgrif a ran hyny. Y Ditv *ygitor.-Egyr hwn gydag erthygl feirniadol ar gyfarfodydd yr Undeb Cymreig yn Matigoi-, ae y rnae, fel yr erthygl yn y Dysgedydd, yn gymedrol a theg. Y sgrifena yr oil mewn ysbryd rhagorol. Beth sydd i'w ddyweyd am drydedd ysgrif y Parch J. M. Jones, B.A. Aberdar, ar Feirniadaeth Feibl- aidd a'i, Efengyl'? Nodweddir hon eto gan ysbryd rhagorol. Dywed bethau mewn ffordd ddidramgwydd y buasni ambell un yn tynu y wlad am ei ben wrth eu dyweyd. Gwerth eu darlleu yw pregethau y Parchn ThomaS Roberts, Wyddgru/, a W. Glannant Jones. Cawsom wir foddhad wrth ddarllen 'Gwen Parri mae'r benod yma wedi ei hysgriferju yn gampus. Diguro yw englynion Pedrog ar ym- adawiad y Parch Peter Price, M.A., a. Lerpwl. a gorphenir gydag Apel Dr Griffith John ar ran China. The Evangelical ,If(igazine. Y rnie hwn bob amser yn ddarllenadwy, a'r mis hwn m:1e r dJarpariaeth bron yn well nag arfer. E'thy^( ragorol yw eiddo Dr Garvie ar Y Cristion- Ceir nifer o erthyglau byrion, ond llawn dydd- ordeb. Y mae chwaeth dda, ac ysbryd iach, hyderus, yn nodweddu yr oil. Cynwysa Y rhifyn hwn Adroddiad Blynyddol Cymdeithas Genadoly Trefedigaethau, ac y mae yn nodedig o ddarllenadwy. Goiygydd a'i lygad y n agored yw y Parch D. Burford Hooke. 0)(. Yr Ymwelydd Misol.-Glan a di. Pe na chynwysai ddim ond yr ysgrif ar y Parch Edward Matthews, buasai yn werth ei gael. Ysgrif gref a galluog ydyw, yn troi at ddirgel- ion nerth Edward Matthews fel pregethwr. Mwynhasom yn fawr hefyd yr engraifft 0 areithyddiaeth John Elias, a'r ysgrif ar Richard Cobden. Y Cenad Ilecld.-Rhoddir y lie blaenaf yn Y rhifyn hwn i Gyn-Olygydd y Cenad i draetbu ar Y WeinidogietLi hon,' a gwna hyny yn ei arddull nodweddiado! ei hun Yn ot ei arfer, olrheinia eiriau i'w gwraidd, gan ddwyn allaa ystyr newydd ac awgrymiadol. Yn engraitft, cymerer a gaiilyn Ystyr y gair diacon yW drwy y llwch, yn dynodi gwas yn rhedeg drwy Y llwcl1 dros ei feistr, neu gydag ef yn marchog- aeth ar farch, neu mewn cerbyd. Felly, rheda saint yn genadon Duw drwy y llwch, nid yn Y

Y GOLOFN WLEIDYDDOL.