Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Y GROES WEN A'R AMGYLCH- !…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y GROES WEN A'R AMGYLCH- OEDD. Uchelwyl Flynyddol. Cynaliwyd yr uchod eleni yn y Groeswen, ar y Sul a'r Llun, Awst 7fed a'r 8fed, pryd y dysgwylid i weinyddu y Parchn J. Davies, Cadle John Owen, A.T.S. (Dyfnalit) E. Bush, Caerphili; a Peter Price, M.A., Dowlais. Yn anffodus, oherwydd cystudd ei hoffus briod, gorfu i ni estyn Dythyr goll. yngdod i'r olaf; ond sicrhawyd gwasanaeth y Parch D. Leyshon Evans, Bargoed, at y Llun, yn y cymeriad o gauwr yr adwy. Ag eithrio ein cymydog hylithr, Mr Bush, doniau newydd ya y rhan hon o Forganwg oedd genym, a phob dawn yn rhagori yn ei ddull ei hun. Caed pregethau ardderchog, yn danbaid, yn dreiddiol, ac yn goeth. Tro Caredig.-Gwelsom dro o'r fath yn cael ei gyflawni yn ngorsaf rheilffordd y dydd o'r blaen ac os ydyw gair caredig i fyw byth, yn sicr y mae tro caredig yn anfarwol. Pwy Annibynwr teilwng drwy y rhanbarth nad yw yn hysbys o'r ffaith fod capel Saesoneg teilwng o'r Ellwad yn cael ei adeiiadu drwy ffydd gan yr eglwysieuanc yn N ghaerphili-gwerth, pan gwblheir yr oil yn agos i 4 000p! Cefais y pleser o wylio boneddwr baelfrydig o'r Iihondda, Mr T. Griffith, Y.H., Cymer, yn prynu. ugain copi o Bebyll SeioD,' er helpu pobl sydd yn gwneyd eu goreu i helpu eu huuain. Yr Olygfa oddiar ben Castell Cae'phili.' —Dyna ydoedd testyn pryddest eisteddfod y Llungwyn yn N ghaerphiii-a chawsom gyfle y dydd arall i fyned dros yr un fuddugol-eiddo Brynfab, un o feirdd enwocaf sir Forganwg. Dechreua fel y canlyn:- Rhwng muriau hen Gaerphili dringo wnaf A'r ysbiadur yn gydymaith gaf 0 ben y Castell syl af i bob tu Fel un o wyliedyddion Cymru Fu Ond nid i wylio'r gelyn ar ei hyut Yn cynllwyn difrod fel y gwyliwr gynt; Trwy wydrau heddwch niae fy iihren-i yii awr Yn nghwmni'r awen ar y Oastell mawr, Mae cysgod dewrder at1 y muriau moelion- A'r 'storm yn troi'n siomedig o'r adieilion Er difrod amser-ac estronol lid, Mae celf a golhvyd yma'n fyw o liyd A hen ysbrydion ein cyndadau pur Hyd eto wel yr awen ar bob niur Y fauer wen sydd heddyw yn cyhvvfan Uwchben y fangre lie bu'r eirf yn tincian, A hedd alawon gluda'r pur awelou Wrth ysgafn grwydro dros y tyrau llwydion. Aiff y bardd wedi hyny i gyferbynu y gwahan- iaeth sydd yn nodweddu yr olygfa beddyw i'r hyn a'i nodweJdai gynt yn mlynyddoedd yr hen oesoedd ac with, graffu i'r cyfeiriadau arbenig sydd o ddyddordeb neillduol i bob Annibynwr, dywed 'Uwch y Gleder ar y llechwedd, Uacw ardal y Groes Wen Dacw brydferth wen tangnefedd Uwch y Watford yn y nen Dau le anwyl. lie cyneuwyd Llusorn Anghydlfurfiaetb gu Dau le tawel anfarwolwyd Gan Ddiwygwyr Cymru Fn. Mae'r Groes Wen o hyd yn mnlwg o idiar y hh i mi Ni fyn awen golli golwg Ar ei chysegrsanctaidd hi; Pererinion-anfarwolioll Sydd yn huno yn ei llweh, Ac agofion a bendithion Kef a daear arni'n drwch. Nid ydym wedi cael y siawns o ddarllen am- genach pryddest er's llawer dydd, cynyrch ddi- amheuol yr awen wir. COFNODYDD.

Advertising