Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

NODION.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODION. Heddwch y Byd. YMDDENGYS Rwsia yn hollol ddibris o heddwch yr holl j fyd. Yn wir, yn hytrach na chael ei churo gaii Japan, mae yn barod i wneyd unrhyw beth a ddygo ferw rhwng y gwledydd, ac a ganiatao iddi hi ddianc rhag canlyniadau gwaethaf ei rhaib a'i gormes. Ei gwaith yn crafangu Korea a ddygodd derfyn ar amynedd Japan. Wrth weled ei hun yn cael ei churo, mae eto yn tori ar holl ddarbodion Cytundebau Paris a Llundain, y rhai sydd yn rhwystro iddi ddefnyddio'r Dardanelles i amcanion rhyfel. Archwilia ein llongau ni yn arbenig, a than esgusawd fod nwyddau anghyfreithlon yn- ddynt, cymer hwynt yn gaeth. Aeth mor bell a suddo y Knight Commander heb fod unrhyw brawf wedi ei wneyd arni hi na'i llwyth. I'w dybenion ei hun, mae wedi rhoi pobpeth dichonadwy ar restr pethau anghyf- reithlawn i'w cario gan longau perthynol f alluoedd anmhleidgar. Metha gau i fyny borthladdoedd Japan, ac felly cymer arni boeni a chosbi'r gwledydd a wnant fasnach gyfreithlawn a'r ynys, yn mhell o'i chyffiniau. Gwaeth na'r oil, enfyn ei Hongau rhyfel a ddiangasant o Port Arthur a Vladivostok i borthladdoedd rhydd Chineaidd, megys Shanghai, a gwrthyd yn bendant ddiarfogi na gadael y He. Y mae hyn oil, meddir, yn groes i Ddeddf Ryngwladwriaethol, ac yn ddinystriol hollol i fasnach gyfreithlon. Ac eto deil Rwsia i gyflawni'r camwedd. Er addaw peidio, parhau yn ei chamwri y mae. Os na fyddis yn dra gwvliadwrus, diwedd hyn oil fydd dwyn gwledydd ereill, yn enwedig Prydain a'r Amerig, i'r cweryl, ac ni fydd Armageddon yn mhell wed'yn. Yn sicr, dylai fod north llywodraethau y byd yn ddigon i atal Rwsia yn ei rhysedd cyn iddi dd'od i hyny. Cynllun Cymru. MAE cryn ddyfalu wedi bod yr wythnos ddiweddaf yn nghylch dilysrwydd y cyn- llun a briodolid gan y Times i Mr Lloyd George fel yr un a fabwysiedid gan Gymru i gyfarfod a'r Ddeddf i orthrechu'r Dywysog- aeth. Er fod Mr Lloyd George wedi datgan fod gwallau pwysig yny cynllun crybwylledig, eto ni wedir ei fod yn gywir o ran ei egwyddor. Gellir bron yn sicr gymeryd felly mai polisi'r Cynghorau fydd galw ar holl lywiawdwyr ysgolion unigol i roi eu swydd i fyny, ac ymwrthod yn hollol a. chario'r eyfryw yn mlaen. Bydd raid felly i'r Bwrdd Addysg, nid yn unig gymeryd arno'r costau arianol yn ngtyn a'r Ysgolion Enwadol, ond hefyd ym- t, 0 gymeryd a chario yn mlaen yr holl ysgolion drwy yr holl siroedd. Wrth basio y Ddeddf Gorthrech, y bwi-iad oedd llanw 'llogell yr Ysgolion Enwadol heb ofyn caniatad y Cynghorau Sirol, a gadael i'r Cynghorau ofalu am eu hysgolion eu hunain ond yr hyn a gant drwy y ddeddf fydd ym- ddiswyddiad pob Manager, oddigerth y rhai Eglwysig, a'r holl ysgolion i'w dwylaw eu hunain, heb na threth na thai oddiwrth y Cynghorau i'w helpu. Mor belled ag y gwelwn, dyna fydd effaith y cynllun newydlJ. Ond beth am addysg y plant yn y cyfamser ? 0 Mae genym ein capelau a'n hadeiladau cref- yddol, a bydd raid defnyddio y rhai hyny am dymhor. Bydd raid, hefyd, i ni eu cynal a rhoddion gwirfoddol. Ac efallai y bydd raid i rhywrai fyned i'r carchar cyn diwedd yr helynt. Bath er hyny ? Mae Cymru wedi cvmeryd ei safle ar ochr cydwybod, egwyddor, a rhyddid oddiwrth bla'r clerig, ac nis gall droi yn ol mwy. Trengu neu enill yw hi i fod gydag Ymneillduaeth Cymru dan y Ddeddf Gorthrech, ac nid oes ynom fawr betrusder pa un gymer le. Yr Eglwysi Ysgotaidd. PARA yn yr unman y mae j pethau gyda dwy Eglwys Rydd yr Alban. Y mae'r dyrnaid o 25ain yn mynuyr I oil i'w dwylaw, ac hyd yn hyn yn delio yn dra chwyddedig a'r mwyafrif o 1,200 o eglwysi a gweinidogion. Daw camwri'r ddedfryd yn amlycach bob dydd. Ac fel pob dedfryd o'r fath, mae ei chamwri yn sicr o'i gwneyd yn aneffeithiol. Mae'r farn gyhoedd a chydwybod y wlad yn ei herbyn, a phe pen- derfynai yr Eglwys Rydd Unedig adael ei chapelau a'i hadeiladau yn nwylaw'r 25ain, byddai llogell a chalon Ysgotland gyda hi, a gwelid hi yn blaguro yn fwy nag erioed yn ei thy newydd. Ond, efallai, mai o'r ddedfryd ei hun y eyfyd ymwared. Apeliodd y lieiaf- rif at y gyfraifch, ac mae'r gyfi-aith wedi dedfrydu o'u plaid, ar y tir mai hwynt-hwy sydd yn cario allan ddarbodion y trust deed a'r cyffes ffydd. A fedrant yn awr gario allan y darbodion hyn ? A fedr 25ain wein- yddu addoliad, a gwasanaethu mewn 1,200 o gapelau ? A fedrant yn ychwanegol at hyn Z, gario yn mlaen eu tri choleg, a'u cenadaethau cartrefol a thramor ? Os mai cyfraith sydd ar y cyfeillion hyn ei heisieu, dylent ei chael yn ei llymder, ac yna daw rheswm a chariad a chyfaddawd i mewn. Apeliasant at Cesar, ac mae gan Cesar ei lymder yn ogystal a'i ffafr, a dylent gael y ddau. Ni bydd hedd- wch, mae arnom ofn, heb hyny. Y Cadfridog Booth. YN union wedi cyffro a gwaith ei Gyngres mawr yn Llundain, cychwynodd yr hen arwr ar daith drwy bentrefi a threfi Lloegr, o ben-bwy-gilydd, mewn modur-gerbyd i bregethu yr Efengyl. Mae yn cael derbyniad croesawus yn mhob man, a llawer, meidir, yn cael eu dychwelyd dan ei weinidogaeth. Llawenydd i bawb sydd yn caru lies Prydain yw clywed hyn. Efallai fod y ffafr a ddangosodd y Brenin Iorwerth tuag at y Cadfiidog yn adeg y Cyngres wedi rhwyddhau ei ffordd i ryw raddau yn y wlad, canys dilys yw fod snob bery Prydain wledig yn anaele. Ond pa waeth am hyny ? Mae yn hen bryd i'r Brenin ddangos ffafr i rhywrai heblaw gwleid- yddwyr, a milwyr, a rhedegwyr ceffylau, ac ymladdwyr, Y gwir reswm paham mae'r Cadfridog yn cael croesaw yw ei fod yn ddi- ffuant ac ymdrechgar parthed eneidiau pobl, ac mae Duw yn ddiamheu gydag ef. Dyma ddirgelwch ei lwyddiant, a hyn sicrhaodd iddo hyd yn nod w6n a ffafr Iorwerth VII. Bendith y Nef a'i dilyno yn ei ymgyrch bres- enol, a thywallter arnom oil ddeuparth o'i ysbryd. Mae ei wroldeb, a'i yni, a'i ymroad dihafal yn enill parch a chalon y byd. EnllibioW Piwritaniaid. DYWEDODD Llywydd Cym- deithas Brydeinig yr Hynaf- iaethwyr air yn ei bryd yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd un o'r aelodau wedi darllen papyr ar hen ddodrefn a screens eglwysig, ac yn unol a'r ffasiwn, wedi d'od i lawr yn drwm ar y Piwritaniaid am ddinystrio yr hen gelfi Pab- yddol a gedwid yn yr eglwysi. Eu sel hwy oedd wedi peri y golled hon i gelf a hynaf- iaeth. Dyma yr hen ffordd ystrydebol o gyf- rif am bob difa a dinystrio fu ar gynyrch crefft y canoloesau yn yr eglwysi Prydeinig, ac mae pawb wedi arfer ei derbyn fel efengyl. Eithr mae yn hysbys erbyn hyn na theilynga'r Piwritaniaid y degwm o'r bai a gant am y camwedd tybiedig hwn. A chy- hoeddodd y Llywydd hyny wedi darlleniad y papyr, gan ddatgan nad oedd dinystr y Piw- ritaniaid ond gronyn o'i gymharu a difrod ac esgeulusdra y rhai oedd yn gyfrifol am yr adeiladau yn ystod y ddeunawfed ganrif. Hyny yw, mae crynswth y dinystr wedi ei achosi gan esgobion ac offeiriaid mewn canrif ar ol rhwysg a difrod tybiedig y Puritaniaid. Yr oedd yn bryd i rhywun ag awdurdod ganddo o'r diwedd ddatgan y gwir, a gwnaeth Llywydd yr Hynafiaethwyr hyny yn eff- eithiol. Esgob a Thafarn. -OWYDDOM Yn-dda yn y wlad hon am gyfeillgarwch yr Eglwys a'r Dafarn, ond tyn 0 yr Esgobion y llinell yn Z, Mhrydain, gyda gwaddoli'r tafarnwr a'r bragwr. Ond yn America, aeth Esgob New York bythefnes yn ol mor bell ag agor tafarn trwy gyfiwyniad a gweddi, a chyhoeddodd y fendith ar ddiwedd y gwasanaeth. Ymffrost- iai ei fod wedi trafaelio canoedd o filldiroedd er mwyn bod yn bresenol, a thraddododd araeth ar yr amgylchiad hwy o tua chwarter awr na'i bregethau arferol. Ei reswm dros 0 yr holl gabledd oedd, fod y dafarn yn cael ei chodi gan gwmní. a foddlonent ar 5 y cant o log, ac a werthent ddiod anfeddvvol yr un mor rhydd a'r un feddwol. Mae yn bryd i Grist- ionogion godi eu lief yn erbyn y fath sham. A feddwa'r gwlybyroedd ychydig yn llai, am fod Esgob wedi eu bendithio Ai nid y tebygolrwydd yw y meddwa miloedd o'r newydd yn y dafarn hon, am fod Esgob wedi ei noddi a'i bendithio ? H.

0 GWR Y WINLLAN.