Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Y GOLOFN WLEIDYDDOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y GOLOFN WLEIDYDDOL. GAN GWLEIDYDDWR. Seibiant i feddwl. AR ol cyffroadau y Senedd daeth tawelwch, a cheir seib- iant i feddwl. Ni bu erioed 'I 'I 'I." 1'8 rwy o angen meddwl yn ddirntol nag yn awr. Y mae deddfwriaeth ddiweddar wedi ein gwthio i argyfwng sydd yn llawn cyfrifoldeb. Profir Cymru yn Itym a liwyr. Y mae llygad yr holl qeyrnas ar ein gwlad fechan ni. Nid ymffrosfc gwag, eithr ffaith anwadadwy ydyw, fod Cymru yn arwain y gid yn erbyn yr ymgais i ddwyn y genedl i gaethiwed Priestyddiaeth. Er fod Mesur Gorthrech mewn enw yn gyfeiriedig at Loogr a Chymru, eto i gyd fe wyr pawb mai yn yr olaf yn unig y mae gwaith iddo hyd yma. Nid yw Lloegr. wedi bod yn ddigon gwrol a chyson a'i honiadau i feiddio gwrthsefyll y Llywodraeth ar Ddeddf Addysg. Hysbys i bawb ydyw mai ymgais ystrywgar a gwael i geisio darostwng cenedl fechan mewn nifer, ond toerthol mewn cymeriad, ydyw y Ilipryn Mesur a wthiwyd a. grym y Cloadur drwy y Seoedd ar derfyn y tymhor diweddaf. Ac onid yw y M esur ei hun yn gyduabyddiaeth o wendid? Beth ydyw ond prawf fod y Weitayddiaeth yn thy wan i orfodi Deddf Addysg 1902. Paham na orfodwyd y Cynghorau Sirol i osod y Ddeddf ttiewn gwaith yn ei holl agweddau a chysyllt- Jadau P Ofn, yw yr unig atebiad. Ni feiddiai osod llaw ar unrhyw Gynghor Sirol. Dyma brawf o wendid, a gwendid yn cael ei achosigan ymwybyddiaeth o anghyfiawnder y Ddeddf, a chyfiawnder y gwrtiiryfel In ei herbyn. Yn wyneb y sefyllfa, gwnaed mesur arall i orfodi I)eddf 1902 gan dybied y byddai hwnw yn ddy- fais effeithiol i'r amcan. Dywedir fod Morant, yr hwn, meddir, ydyw prif awdwr y ddwy Vdeddf yn gwenu yn foddhaus ar ei ail blentyn yn ymwthio drwy y Senedd mewn ychydig oriau. Ond gwenodd yn rhy fuan. Nid yw yr offeryn mor berffaith i'w waith ag y meddyliwyd Y gwir yw, ei fod yn gadael y sefyllfa ar ryw oIwg yn union fel yr ydoedd cyn ei lunio. Ofn cyffwrdd a'r Cynghorau Sirol oedd unig achos ei fodolaeth. Pa beth yd, w grym Deddf GorthrechP Dim, oni esyd ei llaw ar y Cyng- horau. Nid oes gan y Bwrdd Addysg hawl nac iIwdurdod i godi dimai o dreth. Eiddo y Cyng- hor yn unig ydyw y gallu hwnw ac oni wna y gynghor osod y dreth, pa le y bydd Balfour a ^orant a'u Deddf GorthrechP A fwriant y Cynghorau i garchar P Diddymwyd Cynghor Ahitophel, er ei holl gyfrwysdra. Amser ydyw yn awr i'r holl wlad feddwi ac ystyried yn 4difrifol yr holl sefyllfa. Os ydyw Balfour mor ystyfnig ac ynfyd a chario allan ei ddeddfau i'r eithaf, y mae yn rhaid i'r Cynghorau wynebu y canlyniadau a hyder pob gwir wladarwr ydyw y saif y Cynghorau, ac y bydd mwyafrif aruthrol y wlad tu ol iddynt yn eu gwrthsafiad yn erbyn y traha a'r anghyfiawnder gwarad- wyddus presenol. Canmoliaeth Afradus. AR derfyn Senedd-dymhor yn gyffredin ymhyfryda y wasg i bwyso a mesur yr aelodau, gan nodi allan y rhai hyny a wnaethant gynydd pa un bynag ai tuag yu ol, neu tuag yn mlaen. Dyddorol iawn ydyw yr ysgrifau hyn. Darllenir hwy gyda bias gan lawer, a hyny heb ymholi yn fanwl yn nghylch eu hystyr na'u gwirionedd. Y mae y peth wedi dyfod yn arferiad mor gyffredin nes bod yn angenrhaid. Goruchwyliaeth brvderus ydyw i'r aelodau, a diau mai amry wiol a digon annymunol ydyw eu profiad yn fynyeh. Y fath yw perthynas yr aelodau a'r wlad, fel y cymerir mwy o ryddid i'w beirniadu hwy nag a wneir ag odid yr un dosbarth arall mewn cymdeithas. Dylid cofio fod ganddynt hwythau deimlad fel ereill, ac na ddylid ei ddolurio yn ddiangenrhaid. Ychydig ohonom sydd yn ddibechod yn y mater hwn a'r fdth yw y teimlad o euogrwydd ynom weithiau fel Mai pi-in y gallwn faddeu i ni ein hunain am ein haerllugrwydd a'n rhyfyg. DiByg ystyriaeth briodol sydi tu ot i'r hyfdra anghymeradwy hwn yn gyffredin. Tri, yn benaf, a wnaethant eu nod amlycaf ar y Ty Cytfredin eleni. Mri Lloyd George, Winston Churchill, ac Arglwydd Hugh Cecil ydyut, a'r mwyaf o'r rhai hyn ydyw y Cymro athrylitilga r a llwyddianus. Yn agos atynt ceir enw Mr McKena, yr aelod anrhydeddus dros Ogledd Myuwy. Wrth gwrs, fe gydnabyddir y Prif- weinidog, ond y mae y ganmoliaeth yn afradus, a hoiloi wag o feddwl ac ystyriaeth. Y prif, os nad yr unig reswm a geir dros y ganmoliaeth ddrygsiwrus ydyw y ffaith iddo lwyddo i gadw y Senedd yn nghyd hyd derfyn y tymhor. Oherwydd fod y rhagolygoa ar ddechreu y tymhor mor fygythiol, ystyriai ei fod wedi gwneyd y peth nesaf i wyrth i ddal y Senedd yn nghyd, a phriodolir y cwbl, wrth gwrs, i'w iedrusrwydddtbafat. Bi-aidd.jija ddycredir mai efe yw yr unig un yn y Ty a ailai gyflawni y fath orchestwaith. Y fath ff'wibri iVieddylier am ychydig ffeithiau. Yr oedd ginddo ar ddechreu y tymhor tua 110 o fwyafrif, ac yn agos hyny ar y terfyn yn mhob ymraniad a olygai ei gwymp. Cofier drachefn fod y nifer lluosocaf o'r mwyafrif yn gosod plaid o flaen egwyddor; ac yn mhellach yr oedd yn agos bob un o'r mwyafrif yn ofni dadgorfforiad y Senedd yn fwy na dim. Cysyllter y ffeithiau hyn â'u gilydd, ac yn mha le y mae y gallu eithriadol yn dyfod i'r golwg? Buasai yr hybarch Mr Jesse Collings yn Hawn mor llwyddianns a Balfour i gadw y Senedd yn gyfan ar y fath amodau. Maddeued Mr Collings i mi. Braidd na ddywedir y buasai. wedi gweiLhio ei ffordd drwy yr anhawsderau tybiedig yn esmwythach nag y gwnaeth y Prifweinidog, ac yn llawer gonestach. Y mae canmoliaeth afradus yn angharedigrwydd. Effeithia yn annymunol ar un o synwyrau mwyaf teimladol natur dyn. Dadgorfforiad y Senedd. DECHREUIH son eto am ddad- gorfforiad y Senedd. Ceidw y Prifweinidog y gyfrinach iddo ei hun ar v mater hwn. Mor bell ag y darllenir yr arwyddion, gan gofio pwy ydyw y dyn sydd a'r awdurdod yn ei feddiant, y tebygolrwydd yw y ceir sesiwn arall. Ty bia Balfour, o bosibl, mai pa hwyaf y pery i gamlywodraethu y wlad mai goreu oil y bydd arno yn yr etholiad. Byr iawn yw cof y byd gwleidyddol; ond er byred yw, ni ollynga dros gof y pethau a wnaed yn ddiweddar. Diau y bydd yr ymdrafodaeth yn nglyn a, Chymru drwy Ddeddf Gorthrech wedi cymeryd ffurf weithredol mewn rhyw ffordd neu gilydd cyn yr ä y flwyddyn hon allan, ac ni bydd hyny yn help i anghofio camweddau y Weinyddiaeth. Ond nid y pethau hyn sydd yn cymhell Balfour i lynu wrth ei swydd. Cryfach ydyw ei awydd i wasanaethu Toriaeth trwy ddyogelu ei budd- ianau tra y mae ganddo fwyafrif digonol i hyny. Er dalled ydyw, gwel fod ei gwymp ef a'i blaid yn sicr yu yr etholiad nesaf. Y mae Mr Chamberlain ac yntau wedi liwyddo rhyngddynt 1 &'u gilydd i rwygo eu plaid, a bydd y rhwyg hwnw yn anfantais ddirfawr iddynt yn yr ethol- iad pan ddaw. Tueddir i greduyn gryfach bob dydd fod yn mwriad Balfour i ad-drefnu y Seddau cyn ymddiswyddo. Y mqe gwir angen am y diwygiad hwn. Ofna yntau, os na wna efe y gorchwyl yn awr, yr ymgymera y Weinyddiaeth Ryddfrydig nesaf a'r gwaith, ac y cyflawna ef mewn modd anfanteisiol i fuddianau Toriaeth. Gwesgir arno gan ei gefnogwyr ar bob cyfrif i sicrhau y mater hwn cyn gollwng yr awenau o'i law. Os gwrendy arnyot, diau y bydd ei gynllun yn Heihau nifer cynrychiolaeth yr Iwerddon, gan dybied, wrth gwrs, y bydd hyny yn golled i'r Rhyddfrydwyr, ac yn enill i'r Toriaid. Gall fethu yn hyn fel mewn llu o bethau ereill. I'r waith arbenig fydd yn aros Gweinyddiaeth Ryddfrydig, bernir mai mantais fydd lleihad nifer canlynwyr Mr John Redmond. Gyda llaw, os dychwelir Mr William O'Brien dros Cork, bernir y gellir dysgwyl tipyn o fywyd yn y Blaid Wyddelig. Nid oes gormod o serch rhwng Hedcnond ac yntau. Ond er mor aw- yddus ydyw Balfour a'i ganlynwyr i barhau mewn awdurdod, dywedir fod gwr arall a'i ganlynwyr yu aflonyddu, gan ddeisyf cael apelio at y wlad cyn diwedd y flwyddyn. Y mae achos Diffyndolliaeth mor wael ei wedd, fel y mae yn angenrhaid cael dadgorfforiad y Senedd, neu ryw gyffroad mawr arall, i atal ei lwyr drancedigaeth. Bwriada Mr Chamberlain gario yn mlaen ei ymgyrch yn fuan. Mawr fydd y clustfeinio ar ei leferydd, i eisio de all ei deimlad tuag at y Prifweinidog. Awgrymir fod yr olaf yn mynei yn fwy diystyr o'r blaenaf bob dydd. Daw i'r golwg cyn hir, i ryw fesur, wir natur eu perthynas a'u gilydd ar hyn o bryd. Y mae yn eglur i bawb fod y pellder yn fwy nag yr ydoedd ddechreu y flwyddyn. Datguddia dadgorfforiad y Senedd yr holl sefyllfa.

PAWB 0 BOBL MERTHYR.

0 GWR Y WINLLAN.