Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
-- -__-.__.__---__---"-LIBANUS,…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LIBANUS, CWMSYFIOG, MYNWY. Cynaliwyd gwyl de flynyddol y capel uchod dydd Llun, Awst 15fed, pryd daeth tyrfa luosog yn ngbyd. Yr oedd y darpariadaa yn bob peth ellid ddymuno, ac yr oedd y gwragedd a merched yr eglwys ar eu goreu yn gweini, a'r fam gySredm ar ddiwedd yr wyl de oedd na chafwyd y fath wledd erioed yn Jjibanup. Awd yri yr hwyr i ysgoldy Cynghor Sirol y lie, a chafwyd gwledd i'r meddwl, dan lywyddiaeth Dr. Maitin. Brithdir. Yr oedd plant y Gobeithlu, dan arweiniad medrus y gweinidog ieuane. sef y Parch J. Lloyd, yr hwn sydd yn teimlo dyddordeb dwfn yn y plant ac yn y canu, ac yn arweinydd g.alluog, wedi bod wrthi yn ddiwyd iawn am yl1 agos i dri mis o amser, yn dysgn I Cristiana'r Plant,' sef cantata gysegredig o waith Hugh Davies (Pen- cerdd Maelor). Er mai hon oedd y cantata gyntaf i'r Gobeith'u ddysgu oddiar pan y mae Mr Lloyd yma (efe sefydlodd y Gobeithlu hefyd), yr oedd yn amlwg odaiwrtb y datgaciad gafwyd gan y plactfPod yma lafur ac ymdrech diflino wedi bod o du y gweinidog ieuanc llafurus, yn cael ei gynorthwyo gan Mr. W. T. Williams, organydd y Gobeithlu. Cadwyd y dorf fawr oedd wedi dyfod yn nghyd mewn ilawn hwyl am awr a baner o amser, a tbeimhd pawb yn gyffredinol oedd ei fod yn darfod yn rhy fuan. Aeth y plant drwy eu gwaith yn rhagoio!, Hefyd cymerwyd yr unawdsu i fyny gan aelodau y Gobeitbla, sef Maggie Davies, Blodwen Williams, a Lily Jenkins. Er mai hon oedd y waith gyntaf i'r tair geneth ieuane hyn i ymddangos ar y llwyfan, eto credwn, oddiwrth y datganiad gafwyd ganddynt, fod yna ddyfodol dysglaer o'u blaen yn y byd cerddorol ond iddynt barhau. Cafwyd gwledd o'r fath oreu, a dytrtuniad unol pawb wrth ymadael oedd, Melus moes eto. UN OEDD YNO
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BETHANIA, ABERCYNON.-Mae y Parch D. J Thomas, Rhydri, wedi derbyn galwad daer oddi- wrth eglwys Bethania, Abercynon, ac wedi ei hateb yn gadarnhaol. Bydd yn dechreu ar ei weinidog- aeth dechreu Hydref. Bydd colled eglwys Rhydri yn enill i Abercynon. Dymunir ei lwyddiant yn fawr.-Brawd. EGLWYS Y GWERNLLWYN, DOWLAIS. Darfu i'r eglwys hon nos Snl diweddaf, benderfynu yn nnfrydol roddi fgalwad i Mr Edward Jones, M.A., Coleg Mansfield, Rhydychain, Gobeithir yr etsb yn gadarnhaol. Mae lie rhagorol yma i weithio, ac eglwys gref a charedig. Mae Mr Jones yn breg- ethwr rhagorol yn y ddwy iaith, ac y mae gallu gwneyd hyn yn dyfod yn fwy angemheidiol bob blwyddyn yn Sir Forganwg, •
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
P F, a deliwch ar yr hyn sydd dda. Mae Coltsfoot Elixir I James, Llanelli, wedi profi max y feddyginiaeth oreu yw at Beswch, Anwvd, bronchitis. Mae i'w gae] gun bob fferyilydd. Ehodd- wch brawf arno, and you will praise and recommend it as a great Cough and Lung remedy.
! C E I D 10
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
C E I D 10 CYFARFOD ORDEINIO. Nos Iau a dydd Gwener, Awst 18fed a'r 19eg, cynaliwyd cyfarfodydd i ordeinio Mr E. T. Evans, o Goleg Bala-Bangor, yn weinidog ar eglwyei Ceilio a Morfa, Nefyn. Pregethwyd yn Morfa, Nefsn, nos Iau, gan y Parcbn T. Lloyd, Hebron, a W. D. Evans, Aber- dyfi; ac yn Ngheidio gan y Parchn R. Evane, Abergynolwyn (brawd y gweinidog ieuanc), a J. T. Parry, Cileenin. Cynelid y cyfarfodydd ddydd Gwener yn Ngbeidio yn unig. Yn y boreu, pregetbai y Parchn T. Lloyd, Hebron, a D. J. Williams, Portbmadog. Yn y prydnawn, awd trwy wasanaeth pwysig yr Ordeinio. Ar ol darllen a gweddio gan y Parch D. Eiddig Jones. Cliwilog, cafwyd anercfa/ad byr gan y Parch Griffith Jones, llywydd y cyfarfod. Yna caed pregeth ar Natur Eglwys,' gan y Piifathraw Dr Piobert, Bangor. Yn nesaf, holwyd y gofyn- iadau gan y Parch T. Williams, Cipel Helyg, ac wedi i Mr Evans eu hateb yn dyner a phwrpasol, gofynodd y Parch Llewellyn Williams, Nefyn, am arwydd o du'r eglwysi a'r gweinidog. Yna offrym- wyd yr Urdd Weddi gan y Parch W. B. Marks, Criecietb, a thraddododd y Parch J. T. Parry, Cileenin, Siars i'r gweinidog. Yn y cyfarfod hwn hefyd cyflwynodd Mr Felix, un o ddiaconiaid Cilcenin, rodd o lyfrau i Mr Evans, oddiwith ei fam eglwys yn Nghilcenin, sir Abeiteifi, fel arwydd o'i tbemladau da tuag ato. Dug Mr Felix a Mr Pairy dystioliaeth uchel iawn i gymeriad gloew ein cyfaill ieuare. Yn yr hwyr, pregethwyd gan y Parch W. D. Evans, Aberdyfi, Siars i'r eglwysi, a Dr Probert. Yr oedd y capel yn orlawn, a cbafwyd oedfa a hir gofir. Decbreuwyd y gwahanol oedfaon gan y Parchn W. G. Williams, Rhoslin E. Morgan, Bryste H. Davies, Abererch a W. Davies, Llaniestyn. Gwelsomyn bresenol y Parcbn J. Hugbes (M C.) Edern G. Parri Hugbes (M.O.), Morfa, Nefyn Mri J. W. Ffculkes ac R. J. Mason, o Goleg Bala- Bangor; Mr Thomas Davies, Nefyn y Parch D. Wyn Lewis (B), ac ereill. Rboddwyd croeeaw cslocog gan y cyfeillion yn y ddwy eglwys i'r dyeitbriaid a ddaeth i'r eyfatfod o bell ae agos. YR OOJJ V>V n; GO-A B d'ClOAJ) ÐB2 AbA]]U. yr Hybarcb E. James, NefyD, i fod yn bresenol yn y cyfnrfodydd. Dechreua Mr Evans ei waitb mewn cylch dy- munc 1, o dan amgylchiadau ffafriol iawn. Arosed bendith y Nef arno ef, a'r egl wysi sydd dan ei ofal. D. E. J.
TYDDEWI.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TYDDEWI. Nos Sul, Awst 21ain, pregethodd y Parch L. T. Jones ei bregeth olaf yn eglwys Ebenezer, ar oi gweinidogaethu am bymtheg mlynedd. Fel arwydd o barch tuag ato ef a'i briod, anrhegwyd ef ar ddiwedd yr cedfa ar ran yr eglwys gan y diacon hynaf, Mr Rees. Clegyr, a phwrs yn cyni-vys 27p lis 9c. Anrhegwyd Mrs Jones ar ran yr Ysgol Sabbatbcl gan Mrs Maitin, Arfon Villa, a gwd^fdlws ccstfawr. Dymunwyd gan Mrs Martin y buasai mor ffyddlon yn yr ysgol newydd ag y bu n Tyddewi, ac utebodd hithau y gwnai ei goreu. Diolchwyd yn gynes am danynt, a dymun- wyd yn dda iddynt n eu maes newydd o lafur. Bydded i flodau ihinwedd a sancteiddrwydd darddu allan fel ffrwyth eu gwasanaeth. Croes- awn hwy yma eto pan y byddont yn dyfod am dro i'r ardal i'r man y dechreuasant ar waith pwysicaf eu bywyd. Haul llwyddiant fyddo yn tywynu ar eu llwy bran. Nawdd y Nef drcstynt a'r teulu. M. C. OWEN, Ysgr'fenydd.
------------0 GWR Y WINLLAN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
mwy. Cydiodd y frawddeg ddiweddaf yn Cynonfardd, ac ysgrifenodd y penillion. Diati y byddant yn desgrifio profiad llawer o ddar. llenwyr hynaf y TYST. Bum yn medru diingo'n heinyf Fyny Iethrau banau'r byd Cerdded oedd hyfrydwch genyf, Pell filldiroedd ar eu hyd Methu myn'd fel yr arferwn Sydd mi'n ddcJurns glwy' Ond er hyny 'rwy'n brdilon:, Gwn nas gallaf ddringo mwy. Diolch am gael nerth i geidded Ar y gwastad, yn y gh n Diolch am fy mod yn gweled Rhywrai'n gallu dringo'r bryn Cofiif oriau cysegredig Pan y teithiwn gyda hwy. Heb un aelod yn flinedig, I Oad nis gallaf ddringo mwy.' Hawdd y medraf yn fy meddwl Ddriogo uwch boll fryniau'r lliwr, Ac ehedeg uwch pob cwmwl Dros dal fryniau'r gwynfyd mawr Gyda rhwydd-deb yr angelion, Mor ddiflino a hwynt-hwy Ond y ddaear a'i huchelion- Gwn nas gallaf ddringo mwy. Os rbaid aros hwyr a boreu Yn y dyffryn ddyddiau f'oe<?, Penderfynaf wneyd fy ngoreu, Er mor drymed ydyw'r groes Traethaf ar y gwastadeddau Am rinweddau 'matwol glwy,' Rhowch im' dawet bwlpud isel, Gwn nas gallaf ddringo mwy. Ond mi welaf ddydd i wawrio, Tecach na holi ddyddiau'r llawr, Rhydd ei oleu nerth im' ddringo Dros heirdd risiau'r oriedd fawr! Haleliwia, hael oleuwawr Er y glyn, heb unrhyw glwy' Aur heolydd, a'r orielau Ddringaf heb an blinder mwy. T E. C. —Pwy mor ddonio! a Watcyn Wyn P Yn y Diwycjhor ceir ganddo nifer o benillion o dan y penawd 'Ty'r Cyffredin.' Bum yn meddwl dyfynu allan ohonynt, ond yr anhawsder oedd i wybod beth i adael allan. llhaid iddynt gael myned i fewn i gyd. TY'R CYFFREDIN. LLAWER ty, a llawer teulu, Sydd yn Lloeger ac y'Nghymru, Ond y ty rbyfedda o dipyn O'r boll dai-yw Ty'r Cyffredin. Ty yn nghanol Dinas Llundain, Sin am dano sydd drwy Brydnin, Ac mae siarad anghyffredin Drwy bob gwlad am Dy'r Cyffredin. Clywafs rai yn son am dano, A'r digrifwch mawr sydd yno,— Tylwyth don ol anghyffredin Ydyw teula Ty'r Cyffredin. Saeson, Cymry, Scotmyn, Gwyddyl, WeHr yno gyda'u gyddyl: Yn gytuno'n anrhyffredin- Ar y llawr yn Nby'r Cyffredin. Y mae pobun sy'n byw yno, Yn gallu gwneuthur fel y myno, Am yr boll blant i ofalu Nid oes yea un pen-teulu. Mae pob plentyn wedi ei eni Yn ei faint,—a mwy in hyny, Fel Bad oes yn Nhy'r Cyffredin, Ddim gwaith magu uaryw blentyr. Nid oes yno neb yn gweithio, Dim ond siarad mae nhw yoo, Mae pob un yn byw yn gyfan Ar ei sense, neu ar ei arhn Sjn am waith, a son am weitbiau, Son am drrthi, a chyfreithiau, Am reoli bol! dai Prydain, Oed heb ieoli eu ty eu huoain Mae y teulu i gyd yn ffryndiau, Ond yn esgus ffraeo weithiau, Ond nid oes ungwr drwy y gwledydd Feiddia rbyngddynt bwy a'u gilydd. Pan yn fflamio waetba waetha, Mae darpariaeth bwylus yma, I ddwyn y pIeidiau 'nol i dymer, Pobo 'stafell sy' ar eu cyfer. Mae rhyw siarad er ys blwyddi Am ddiwygio Ty'r Arglwyddi, Ond mae'r siarad nawr er's tipyn Am roi'r sylw i Dy'r Cyffredin. Dyma'r Ty sy'n haeddu'n sylw, Ein tylwyth ni sy'n Ilanw hwnw, Ac mae'n myn'd er's amser bellacb, Gyffredinacb, gyffredinach 1 —Y mae Annibynwyr Saesoneg Maldwyn wedi cael colled fawr yu marwolaeth y gwein- idog da i lesu Grist—Mr Williams, Bwlchy- ffridd. Gwnaeth waith da yn y cylch hwnw am flynyddau lawer, mewn fFordd ddystaw a di- dwrw. Ei j 3 oi goffadwriaeth yn fendigedig yn hir yn y eyleii. =& & # Y mae yr achos yn Benllech, Mon, yn gwisgo gwedd hynod o lewyrchus. Mawr gan- molir ffyddlondeb diball Mr Lloyd, yr ysgol- feistr, yn nglyn a'r achos hwn. Yr oedd yr ymwelwyr eleni yn lluosocach nag arfer. # Cydymdeimlir yn fawr a'r Parch W. Justin Evans, Llundain, a'r teulu, yn ngwyneb afiechyd blin eu mab henaf, Mr Herber Austin Evans, B.A. Pregethwr ieuane, hynod o addawol, ydyw Mr Evans, ieu. Y mae newydd orphen ei gwrs yn Mansfield, ac yr oedd wedi enili ys- goloriaeth i un o Brifysgolion Germany, ond torwyd ef i lawr pan yr oedd ar fyned drosodd i ddilyn y cwrs yno. Modd bynag, llawenheir yn fawr ei fod yn gwella, ac fod gobaith cryf y 1 daw eto yn gryfach nag erioed. —Y mae yr eglwys yn Llangefni yn parhau i fyned rhagddi, ac i endl nerth, wedi cael ei chapel newydd. Yr wythnos ddiweddaf bu yn cynal bazaar, i dynu i lawr ddyled y capel. Da genym ddeall fod llwyddiant mawr wedi coroni yr ymdrechion byn. LLAPUBWE.