Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

NODION DIRWESTOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODION DIRWESTOL. ODDIWBTH adroddiad sydd wedi ei gyhoeddi, gwelir fod 3,394 o ddeisebau, yn cynwys 55,064 o enwau, wedi eu cyflwyno yn erbyn newid y Ddeddf Drwyddedol mewn unrhyw fodd. Cyflwynwyd y rhai hyny cyn 'gwybod beth oedd darbodion y Ddeddf newydd. Ar ol gwybod beth oedd y cyfnewidiadau a gynwysodd eyflwynwyd 8,213 o ddeisebau, y rhai a arwydd- wyd gan 321,450 o bersonau. I adgyweirio cwynion y trwydded-ddalwyr, yr oedd 10 deiseb, arwyddedig gan 296 o bersonau. Yn ffafr y Bil newydd yr oedd dau ddeiseb wedi eu harwyddo gan 255 o bersonau. Yr oedd hefyd 66 o ddeisebau yn cynwys 7,029 o enwau am gyfnewid y Bil. MAE y mudiad Dirwestol wedi enill nerth yn Ffrainc yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf. Melldith penaf y Ffrancwr ydyw yfed absinthe, ac yr oedd .wedi myned yn berygl mor fawr fel y mae ymgyrch egniol wedi ei gwneyd yn ei erbyn, ac hefyd yn erbyn pob mata o wirodydd poethion. Mae y Llywodraeth wedi gosod i fyny yn yr ho!l barracks furleni darlun- iadol gyda'r geiriau yma arnynt, Alcohol ydyw eich gelyn penaf.' Darlunir hefyd gwahanol adegau yn mywyd y dyn sobr a'r'dyn meddw. Gwaherddir gwerthiant diodydd meddwol yn y barracks. Gosodir hefyd yr un darluniau yn yr Ysgolion Dyddiol, a rhoddir gwersi i'r plant gan yr athrawon ar effeithiau niweidiol alcohol. Fel effaith o hyn oil, mae nifer fawr o'r Ffrancwyr wedi dyfod yn ddwfr- yfwyr. MAE Cymdeitha8 Ddirwestol Genedlaethol Japan yn manteisio ar y Rhyfel presenol rhwng Japan a Rwsia, i hyrwyddo achos Dirwest yn eu gwlad. Ceisir gan y genedl hono i rhoddi fyny yfed ac ysmocio, er mwyn tanysgrifio at drys- orfa y Rhyfel, ac at Gymdeithas y Groes Goch. Credant y gall y Rhyfel barhau am flynyddau, 'ac am hyny, mae eisieu darparu digon o arian. Dywedir, os llwyr-ymwrthodir &'r ddau arferiad yma am flwyddyn, yr arbedir yn Japan 320,000,000 yen. Mae pwyllgor cryf wedi ei ffurfio i gano allan yr amcanion hyn; ac os cerir allan y genadaeth yma mor llwyr ag y gwnaethant eutrefniadau i gario allan y Rhyfel, mae llwyddiant y mudiad wedi ei sierhau eisoes. PAN yn siarad yn y Rhondda, ychydig ddyddiau yn ol, ar Ddeheudir Affrica, dy- wedodd Syr Charles Warren fod y brodorion yn alluog i dderbyn y gwareiddiad uchaf, ond ei fod yn anhebgorol angenrheidiol i gymeryd mesurau i wahardd danfon alcohol iddynt. Da genym fod gwr o safle Syr Charles yn cadarn- hau tystiolaeth unfrydol a phendant cenadon hedd. GWRTHODODD Pwyllgor Eisteddfod Genedl- aethol y Rhyl ail-ystyried eu penderfyniad i ganiatau gwerthiant y diodydd meddwol ddydd- iau yr Wyl Genedlaethol. Danfonwyd nifer o ddeisebau iddynt yn ceisio ganddynt wneyd hyny, ond yr atebiad oedd fod y trefniadau wedi cael eu gwneyd a'r hawl wedi ei rhoddi. Cywilydd mawr iddynt. Dylent wybod teim- lad y genedl yn well. EELYNIWYD tafarnwr yn yr America gan ddynes am iddo werthu diod i'w gwr a'i feddwi, a chafodd mil o bunau yn iawn. Da iawn mae eisieu deddf o'r un natur yn y wlad hon. MAE Talaeth Oregon trwy bleidlais y bob!, wedi pasio Mesur o Waharddiad Lleol, gan roddi i'r etholwyr yr hawl trwy bleidlais y mwyafrif i atal gwerthiant y diodydd meddwol mewn unrhyw gymydogaeth. MAE Cynghor Trefol Salford wedi pender- fynu i roddi trwyddedau i'r chwareudai ar yr amod na fyddai iddynt geisio trwydded gan yr awdurdodau i werthu diodydd meddwol ynddynt MAE tua 7,500p wedi cael eu tanysgrifio gan gyfeillion yr United Kingdom Band of Hope Union tuag at drysorfa newydd o ddeng mil o bunau angenrheidiol i adnewyddu am y pum' mlynedd nesaf y Darlithiau Gwyddonol mae yr Undeb yn trefnu yn Y sgolion Elfenol y wiad ag sydd eisoes wedi gwneyd cymaint o les. MAE deiseb wedi ei arwyddo gan 14,718 o feddygon y Deyrnas Gyfunol a'r Iwerddon wedi cael ei gyflwyno i Arglwydd Londonderry, Llywydd y Bwrdd Addysg, yn dymuno ar y Llywodraeth.i ddarparu ar gyfer gorfodi dysgu yn yr holl Ysgolion Elfenol hygiene, a natur ac effeithiau alcohol. Gobeithir y cydsynir a'r cais. Dyma. un ffordd effeithiol i leihau yfwyr a meddwon y dyfodol. ODDIWBTH y 6Saia adroddiad blynyddol o eiddo Urdd y Rechabiaid, gwelir fod yr Urdd hono yn parhau i gynyddu. Yn 1903 yr oedd cynydd yr aelodaeth yn 21,999, ac ychwanegwyd 109,826p at y trysorfeydd. Talwyd allan mewn buddianau y swm o 207,028p, y rhan fwyaf yn glafdal. Gwellr fod pobl darbodol yn cynyddu yn ein gwlad, a da iawn hyny mae eisieu mwy o gynydd yn y gras yma yn ein gwlad. YN nghyfarfod blynyddol Cwmni y Dar- llawyr adnabyddus Guinness, Son, & Co., dywedodd y Cadeirydd, Arglwydd Iveagh, fod y flwyddyn oedd yn terfynu Mehefin 30ain, wedi bod yn un hynod o anffafriol i bob cangen o ddiwydianau y deyrnas. Wrth feddwl am hyny yr oedd yn dda ganddo ddyweyd nad oedd y gwasgfa masnachol wedi effeithio ar ei busness hwy i'r graddau y gallesid yn naturiol ddys- gwyl. Yr oedd elw y Cwmni am y flwyddyn, ar ol tynu allan bob peth mewn costau a choll- edion dysgwyliedig, yn939,988p 19s 3c, ac wrth ychwanegu y 69,982p Is 4c a gadwyd mewn llaw oddiar y flwyddyn ddiweddaf yr oedd gan- ddynt y swm o 1,009,971p Os 7c i ranu. Talwyd i'r eyfranddalwyr 20 y cant! Ac i'r bobl dlawd yma a'u cyffelyb, mae ein Llywodraeth bresenol wedi pasio Deddf sydd yn rhoddi iddynt anrheg o 300,000,000p o arian y cyhoedd. YMDDANGOSODD y llinellau canlynol yn y Gentleman's Magazine,' am y flwyddyn 1770. Dywedir yr ysgrifenwyd hwynt gan ferch dar- Uawydd, yr hwn oedd wedi danfon i ffwrdd o'i wasanaeth ei gerbydwr (coachman), am ei fod wedi meddwi:— 'Honest William, an easy and good-natured fellow, Would a little too oft get a little too mellow Body coachman was he to an emiaent brewer, No better e'er sat on a box, to be sure. His coach he kept clean-no mother or nurses Took more care of their babes than he took of his horses. He had these, aye, and fifty good qualities more, But the business of tippling could ne'er be got o'er. SJ his master effectually mended the matter, By hiring a man who drank nothing but water. Now, William," says he, you see the plain case, Had you drunk as he does, you'd have kept a good place." "Drink water t" quoth William, "Had all men done so, You ne'er would have wanted a coachman, I trow For tis soakers lika me, whom you load with reproaches, That enible you brewers to ride in your coaches.' WRTH siarad yn ddiweddar yn Biggleswade, dywedodd y Barnwr Rentoul fod y Ileidr diweddaf a fu dan brawf o'i flaen yn yr Old Bailey wedi lladrata pan dan effaith y diodydd meddwol. Nis gallodd ei garcharu, ac felly dywedodd wrtho fel hyn: Nis gallaf eich anfon i'r carchar oherwydd mae y dynion a'ch meddwodd yn bresenol yn Nhy yr Arglwyddi ac yn Nhy'r Cyffredin yn deddfu i'r wlad, ac nid wyf yn hoffi adlewyrchu arnynt hwy.' A gadawodd y dyn i fyned yn rhydd. Wrth rhoddi ychwaneg o'i brofiad, dywedodd fod gan y clerigwr a'i perswadiodd ef i ddyfod* i Loegr, ac a ddangosodd iddo lawer iawn o garedigrwydd, eglwys a chynulleidfa yn rhifo o 700 i 800, a chyflog o yn agos £ 800, wedi wedi marw fel scavenger yn enill 22s. yr wyth- nos, ac yr oedd wedi gweled ei weddw yn gyru cart asyn ar y Thames Embankment. Pan oedd ef (y barnwr) yn weinidog Presbyteraidd yn Woolwich, yr oedd clerigwr yn byw yno mewn persondy ardderchog; yn awr yr oedd yn Nhloty Greenwich. Bu farw y bar-gyf- reithiwr oedd yn ei arwain ef yn yr achos cyntaf a gafodd, a'r dyn mwyaf dysglaer yn yr Old Bailey, mewn ystad o anymwybodol- rwydd trwy yfed, ac yr oedd yn ddiweddar iawn wedi tanysgrifio ychydig bunoedd at gynaliaeth ei weddw a'i deulu, y rhai a adawyd yn hollol dlawd. Ffeithiau difrifol o effeithiau cyfeddach a. meddwdod.

CYFARFOD CHWARTEROL CEREDIGION.