Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

11 Y DIWEDDAR BARCH W. GRIFFITHS,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y DIWEDDAR BARCH W. GRIFFITHS, CENDL. Y MAE yntau bellach yn ei fedd. Pe cawsai fyw hyd Ebrill nesaf, buasai wedi gorphen deugain mlynedd o weinidogaeth; ond lludd- iwyd ef. Cawsai ergyd o'r parlys dymhor yn ol, ac er iddo ddyfod yn alluog i ddarllen, a phregethu, a bugeilio drachefn, ni chwbl ad- ferwydef. Nid oedd wedi pregethu er's tua naw wythnos, a phe caniateid iddo fyw am ychydig yn mhellach, yr oedd "edi pender- fyna rhoi i fyny ei ofal eglwysig. Oladdwyd ef dydd LInn diweddaf, yn nghanoI arwydd- ion o alar dwfn, ac yr oedd yn eithaf eglnr fod yn yr ardal a'r sir galonau lawer yn ym- lynu yn dyn wrtho, Yr oedd Mr GRIFFITHS yn wir efengylydd. Credai mewn pregethu Crist fel Gwaredwr digonol i bechadur. Rhoddai le amlwg yn ei weinidogaeth i genadwri arbenig yr Efengyl -cenadwri y Cymod. Pregefchai foesoldeb, ond fel ffrwyth cymod a Duw, fel canlyniad bywyd ysbrydol, ac yn cael ei gynyreha gan ymdeiralad o gyfrifoldeb i'r ARGLWYDD, a'i rwymedigaeth bersonol i'r PRYNWR MAWR. Ni ofalai lawer am bregeth, os na fyddai yn cynwys Gair y Cymod.' Ac yr oedd yn hoff iawn o bregethu. Carai ei waith. Carai ymddyddan am dano, yr hyn a drlangosai y lie a gai yn ei feddwl. Ni fwynhai ddim yn fwy na chael myned dros fraslun o bregeth gyda brawd yn y weinidogaeth. Ymddifyrai mewn galw sylw at y rhagoriaethau a'r diffygion, a llawer awr ddifyr a gafodd gyda'i frodyr yn gwneyd hyn. Yn wir, yr oedd o feddylfryd crefyddol o'r dechren. Magwyd ef ar aelwyd gwein- idog a fa yn fawr ei glod yn Morganwg am ddeunaw mlyneddarhugain, Mr GRIFFITHS, Llanharan, aa nid yn fuan yr anghofir y llyfchyr tyner a ddarllenwyd yn yr angladd, oddiwrth hen eglwys ei dad, gan y gweinidog t, zn n presenol, Mr DAVIES yn nghydag anerchiad y Parch W. OwEif, Cadoxton, yr hwn a'i had- waenai pan yn ieuanc. Nodwedd amlwg yn Mr GRIFFITHS oedd ei hoffder o ddarllen. Daliodd i ddarllen hyd y diwedd. Perthynai i Gymdeithas Gweinid- ogion Annibynol y cylch, aelodau pa un a gyfarfyddant yn fisol i adolygu y llyfrau diweddaraf. Yr oedd ef yn un o'r ffyddlonaf, a thystiai amryw o'r frawdoliaeth y byddai bwlch amlwg pan ddygwyddai fod yn absenol. Hyn yn ddiau a gyfrifai am fod ei bregethau yn dalyn llawndyddordebo hyd. Mewn anerchiad a gyflwynwyd iddo ychydig amser yn ol dywedid fod ei bregethau yn parhau yn newydd a blasus o hyd, a diau mai dyma y rheswm am hyny. Yr oedd wedi cario allan gynghor yr apostol-' glyn wrth ddar- llen.' A rhaid gwneyd hyny os am fod yn 'newydd a blasus ar ben deugain mlynedd o weinidogaeth. Cafodd Mr. GRIFFITHS lawer o gysur a chalondid yn y ddau faes y bu yn llafurio ynddynt. Treuliodd yr un mlynedd ar ddeg gyntaf yn Nhrefriw—un o ardaloedd tlysaf Gogledd Oymru-a bu yn dra llwyddiaous yno, mor llwyddianus ac a caniatii nodwedd y cylch a rhif y boblogaeth iddo fol Y mae naw-ar-hugain o flynyddoedd oddiar pan ymadawodd oddiyno, ohd nid yw yr eglwys wedi ei anghofio, canys anfonodd hifchau hefyd genadwri i'r angladd. Rhoddwyd hefyd lawer o seliau i'w weinidogaeth yn N ghendl ar hyd y blynyddoedd, a chafodd brofion cyson fod ei lafur yn gymeradwy gan DDUW, ac yn dderbyniol gan y bobl. Y mae yr eglwys yno yn un o'r engreifffciau amlwg geir yn Mynwy o'r anhawsder y teflir eglwysi Cymreig iddynt gan gynydd cyflym y Seis- oneg. Ymgynefina y plant yn fwy a'r iaith hono nag a'r Gymraeg. Deallaut ychydig o'r olaf, ond y flaeuaf a siaradant yn mhob man oblegid hyny, hawlir gwasanaeth dwy ieithog, er mwyn cyfarfod orea y geliir a'r amgylch- iadau. Anhawdd cario hyny allan drachefn heb dramgwyddo rhywrai y mae eu sel dros y Gymraeg yn gryf a bywiog. Rhaid dyweyd mai adegau traftèrthus iawn yn hanes eglwysi yw rhai felly, ac fod yn rhaid wrth ddoethineb, amynedd, a dyoddefgarwch mawr i gadw pethau heb fyned yn chwalfa. Yr oedd Mr. GRIFFITHS yn ddyn cymhwys iawn i gwrdd a'r amgylchiadau yma. Yr oedd yn ddoeth a phwyllog, ac wedi arfer pregethu yn Seisoneg yn ei gylch cyntaf. Bu hyny o gymhorth mawr iddo yn ystoi y blynydd- oedd diweddaf.

Advertising

IAT EIN GOHEBWYR. --- I -I