Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

OLYGWEDD GREFYDDOL YR YSGOL…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

OLYGWEDD GREFYDDOL YR YSGOL SUL. At Olygydd- y Tyst. Sy.a,-Wrth edrych o'n hamgylch ar gwrs y byd, &c., gwelir fod cyfnewidiadau pwysig yn cael eu bodolaeth i wneyd celfyddyd, masnach, a dysgeid- iaeth yn fwy hwylus ac effeithiol. Dyfais ar ei goreu i gyfarfod yr angen a deimlir, ac os dygwydd i ryw ddyfais newydd fod yn aneffeithiol, buan y troir hi heibio, ac y daw arall yn ei lie; ac mor faan ag y oa ei bodolaeth, bydd hithau drachefn ar ei phrawf, ao i dderbyn yr un dynged, 03 nad i fyny a'i phroffes. Dysgai yr lesu wirioneddau ysbrydol oddiwrth bethau, a thrwy gyfryngau naturiol, ac a fyddai allan o la ynom ninau, tybed, i'w efelychu yn hyny? Cydnabyddwn gyda diolchgarwch fod yna beth o'r teimlad yma yn bodoli yn barod, a bod anesmwythder yn yr eglwys am well peirianwaith gyda'r Ysgol Sul. Ymgais at hyny yw y Wers Rhyngwladwriaethol, cyfnndrefn yr arhaliadau sydd gan y gwahanol enwadau, yn nghyda rhai pethau ereill ellid enwi i'r nn eyfeiriad. Ond a ydyw y pethau hyn yn rhoi boddloarwydd ? A ydynt i fyny a'n dysgwyliadau ? Nid ydym am ddywedyd dim yn fach ac anffafriol am danynt, wedi eu pleidio ac yn eu pleidio eto. Diau y cytuna llu a, mi mai bach iawn mewn oymhariaeth yw nifer y rhai sydd yn eistedd mawn arholiadau, or ein holl ymgais i berswadio ein pobl ienainc i wneyd hyny. Teimlir hefyd fod gwybod- aeth Ysgrythyrol yn brin iawn, a chan nad yw pethau fel y carem, beth pe oymerai ein harweinwyr at ddyfeisio rhyw agweddau newyddion, ac ni fuasem yn petruso am foment ein hunain wneyd prawf ar ryw agwedd arall eto. Buasem, yn gyntaf peth, yn ymdrechu ac yn ymwroli i gael cor da o'r cantorion i'r ysgol erbyn 2 o'r gloch, a chaent ganu ton neu ddwy, neu dair, ac ambell anthem i ddechreu yr ysgol. Nis gwn paham na ellid cael hyny, o leiaf yn achlysurol. Mae ein cantorion yn awyddus iawn am gael canu. Paham na ellid troi y ffrwd hon at wasanaeth yr Ysgol Sul fel cangen o waith crefydd. Y mae ein cantorion bron a theimlo, yn enwedig ein harweinwyr, nad oes a fyno yr Ysgol Sul a hwynt, ac nad oes braidd hawl gan y cyfryw firnynt. Yn ami iawn bydd eiddilyn diallu yn gorfod gwneyd goreu y tnedro i arwain y canu, ac, yn wir, tybiaf na fuasid yn canu o gwbl onibai ein bod am fod yn orthodox, neu rywbeth tebyg. Os bydd mewn cymydogaeth arweinydd medrus, un all wneyd marc fel y dywedir, y mae y cyfryw, fel rheol, yn fwy o rwystr nag o help i'r Yagol Sul, oblegid byddant yn ami iawn yn parotoi i cystadlu, os nad ar amser yr ysgol, ar amser sydd yn anfanteisiol i ddyn fod yn yr ysgol ac yn y cor, a dyma y rhai a folir ac y cesglir i roi tystebau iddynt, &c. Wedi cael arweiniad defosynol a chymhorth cor da, goreu ellid cael, beth bynag a fynom, p'r gynulleidfo, a buasem yn barod i wneyd cais at ein pobl oreu, yn weinidogion a lleygwyr, i barotoi darlithiau ar faterion Beiblaidd dyweder ar y meusydd llafur ar gyfer yr arholiad, a gellid trwy wneyd yr ysgol, dyweder, yn ddwy ran neu dair, holi ac ateb bob yn ail a darlithiau felly, ac yn ychwanegol at hyny, neu bob yn ail eto, a hyny gallesid bod yn ddosbarthiadau fel yr ydys yn awr, a byddai yr athrawon yn cael llawer o help i arwain eu dosbarthiadau ar hycl y meusydd fu dan sylw yn y darlithiau ac yn benddifaddau dewiser y dynion goreu feddwn at bethau fel hyn. Yn ychwanegol at hynyna, buasem yn ymorchestu i gael dosbarth ryw amser i ddysgu athrawon at y gwaith. Rhoir blynyddau o ysgol a choleg i ddysgu ein gweinidogion i fod yn gymhwys i bregethu yr Efengyl. Da; y mae eisieu rhoi blynyddau o ysgol, coleg, a phrofiad i ddysgu athrawon cymhwys i roi dysgeidiaeth fydol i'n plant; ao os yw gwybodaeth elfenol yn werth yr holl ymdrech, yr holl draul, &c., onid yw gwybodaeth o'r Beibl, gwybodaeth ysbrydol, yn werth hefyd ? Os yw yn werth yr holl draul, &c., i godi ysgolion elfenol, canolraddol ac uwchraddol, onid yw hefyd yn werth i'r eglwys i fyned i draul ac ymdrech gyda'r Ysgol Sul ? Yn wir, Mr Golygydd, tybiaf y baasai yr Iesu yn llawer mwy boddhaus pe defnyddiai yr eglwysi y ddau, tri, neu y pump a'r chwech cant o bunau a werir am addurniadau ac organs ac orchestras i geisio ffordd mwy effeithiol a lleoedd mwy cyfleus i gario gwybadaeth ysbrydol i galonau y Iluaws, ac i feithrin a magu cymeriadau rhag- orol, cymeriadau cryfion i ymladd o blaid egwydd- orion Teyrnas ein Gwaredwr. Y mae hyn yn ein dwyn i gau ein hysgrif am y tro gyda geiriau yr lesu wrth y Phariseaid, Matt. xxii. 23: Degymu yr ydych y mintys, a'r anis, a'r cwmin, ac a adawsoch heibio y pethau trymach a'r gyfraith barn, a thrugaredd, a ifydd rhaid oedd gwneuthur y pethau hyn, ac na adewid y lleill heibio. J. B. L.

Advertising

CYRHAEDDODD MERTHYR YN FUAN.

AT OLYGYDD Y TYST.

TYSTEB Y PARCH. JOSIAH JONES,…