Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
-0 ) 0 0 MAE RHAID M Y-N ED AT Y GWAED! Y Gwaed yw'r Bywyd Y Gwaed yw'r North Y Gwaed yw Pob- petli Y MAE pawb—a chwi yn eu mysg-yn agored i nifer fawr o glefydau. Paham felly ? Oherwydd fod Annihurdel) yr Awyr, Anmhurdeb y Dwfr, Anmhurdeb Bwydydd, ac Anmhurdeb pethau amgylchiadol, yn creu. Anmhurdeb yn y Gwaed. A phan y bydd y Gwaed yn cael ei lygru a'i wen- wyno, y mae yn gwneyd yn bosibl i'r SCURVY, TARDDIANTAU Y .CROEN, RASH, PENDDYNOD, OORNWYDON, ECZEMA, LLYGRIADAU, GWYNEGON, AOESAU CLWYFEDIG, CANCER, CLWY'R BRENIN A llu o glefydau ereill y corff a'r ymenydd i ruthro ar wahanol ranau o'r cyfansoddiad. Fa ellir atal a rhagflaenvi y rhan fwyaf o'r clefydau ag sydd yn blino yr hil ddynol, drwy gadw'r Gwaed yn Bur. Y mae miloedd yn barod i dystio a phrofi fod HIT GHES'S BLOOD PILLS Yn Puro y Gwaed, ac yn ei gadw yn Bur. Os byddvvch yn dyoddef oddiwrth DDOLUR PEN, DIFFYG TRAUL, POENOEFN, BILIOUSNESS, GWYNT, AFU DDRWG, CORFF-RWYMEDD, NERVES iW AN ANHWYLDERAU Y CYLLA A'R ARENATf Cofi wch fod gwreiddyn y drwg yn y GWAED, a bod yn rhaid myned at y Gwaed cyn y gellir cael iachad gwir- ioneddol. Mae mjGrHESS BLOOD PILLS yn cael effaith uniongyrchol ar y Gwaed, ac ar yr toll gyfansoddiad. RHODDWCH BRAWF ARNYNT. w Mynwch weled LInn y Galan ar Bob Box. ,I I, 1; rl 7 "I I I ■Ts^i Heb Hwn Twyll Ydyw. Ar werth gan bob Chemist a Stores am Is lie., 2s 9c.,a 4s 6c, neu danfoner en gwerth mewn P O neu stamP?' at Jacob Hughes, M.P.S.L.D.S., Manufacturing Chefflis1' Penarth, Cardiff. RODDASOCH CHWI BRAWF AR GOMER'S BALM? ELI YW IT WN AT IIWN AT BOB CLWYF. Gomer's Balm' yn iachau braidd yn wyrthiol holl glef> au allanol y corff, megys C'wyfau, Rash, Scurvy EczeUla Llosgiadau, Piles, Penau Crachlyd, Llygriadau Plant a Benywod, Dwylaw Toriadol, Malaethau, Tarwden, Crafn, Cymalau Poenus, at GOESAU DRWG 'Does dim o'i fath. Rhoddwch brawf arno. Gofynwch am Gomer's Balm,' a mynwch weled en'; JACOB HUGHES ar bob box, heb hyn twyll ydyw. werth gan bob Chemist a Stores am Is lie, neu danfone ei werth mewn stamps, neu P. 0., at- Iacob IIughe9, Manufacturing Chemist, Penarth, Cardiff.
YR YSGOL SABBATHOL, --
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
mae llawer o dirgfanau ar eu eyfer. Aeth Elias ac Eliseus. Wedi galwad Eliseus, y mae yn ym- ddangos ei fod wedi cysyllta ei hun ag Elias i was- anaethu arno (1 Bren. xix. 21). Dywedir yn 2 Bren. iii. 2: Eliseus mab Saphat, yr hwn a dywalltodd ddwfr ar ddwylaw Elias.' Hyny yw, cyflawnai bob gwasanaeth angenrheidiol i Elias, fel mab yn gwas- anaethu ar ei dad. 0 Gilgal. Nid Gilgal rhwng yr lorddonen a Jericho a olygir, ond lie o'r un enw, a safai ar lechweddau gorllewinol mynyddoedd Ephraim. Yr oedd ysgol y prophwydi yma, yn 9 gystal ag yn Bethel a Jericho. Wrth gymharu yr adnodau hyn a. 2 Bren. iv. 38, cawn fod Elias ac Eliseus wedi bod yn cartrefu yn y lie hwn am beth amser. Adnod 2.—' Ac Elias a ddywedodd wrth Eliseus, Aros, atolwg, yma: canys yr Arglwydd a'm han- fonodd i Bethel. Ac Eliseus a ddywedodd, Fel mai byw yr Arglwydd, ae mai byw dy enaid dithau. nid ymadawaf a thi. Felly hwy a aethant i waered i Bethel.' Ac Elias a ddywedodd wrth Eliseus, Aros, atolwg, yma. Nis gellir penderfynu i sicrwydd beth oedd amcan Elias wrth ddymuno ar Eliseus i aros. Hwyrach ei fod am i'w symudiad gael ei gadw yn ddirgelaidd. Neu, ei fod am arbed i Eliseus y loes y gwyddai a deimlasai wrth ymadael. Neu, gallai ei fod yn teimlo awydd i fod ar ei ben ei hun, i fyf- yrio ar yr hyn oedd i ddygwydd. Canys yr Ar- glwydd a'm hanfonodd i Betliet. Cyf. Diw., Mor bell a Bethel,' Yr oedd ysgol arall i'r proffwydi yn Bethel, ac yr oedd yn cael ei gymhell i dalu ymwel- iad a hi. Ac Eliseus a ddywedodd, Fel mai byw Jehofah, ac mai byw dy enaid dithau, nid ymadawaf a thi. Dangosodd Eliseus trwy lw difrifol beth oedd ei benderfyniad. Beiddia hyd yn nod omedd cais Elias. Felly hwy a aethant I Bethel. Safai Bethel mewn cyfeiriad de-ddwyreiniol o Gilgal, pellder o tua naw milldir. Adnod 3.—' A meibion y proffwydi, y rhai oedd yn Bethel, a ddaethant allan at Eliseus, ac a ddy- weiasant wrtho, A wyddost ti mai heddyw y mae yr Arglwydd yn dwyn dy feistr oJdi aruat ti ? Dy- wedodd yntau, Mi a wn hyny befyd, tewch chwi it son.' A meibion y proffwydi, y rhai oedd yn Bethel, Sc. Y dysgyblion oeddynt yn ysgol y proffwydi yn Bethel. Yr oeddynt hwythau wedi cael rhyw wybodaeth fod Jehofah ar gymeryd Elias at Ei Hun. Pa un ai efe ei hun a roddasai ryw awgrym iddynt, neu ynta fod Jehofah wedi eu hvs- bysu trwy ysbryd proffvvydol, nis gwyddom. Nid oedd Eliseus mewn ysbryd i ymddyddan a hwy, am y dygwyddiad, gorchymyna iddynt dewi. Nid mewn ysbryd sarug, ond fel un rias gallasai ym- ddyddan am y peth, gan ei fod yn teimlo mor ddwys yn ei gylch. Adnod 4.—'Ac Elias a ddywedodd wrtho, Aros yma, atolwg, Eliseus canys yr Arglwydd a'm han- fonodd i Jericho. Dywedodd yntau, Fel mai byw yr Arglwydd, ac mai byw dy enaid dithau, nid ym adawaf â thi. Felly hwy a ddaethaut i Jericho.' Ac Elias a ddywedodd wrtho, Aros yma, Sc. Cynygiodd Elias i Eliseus aros yn Bethel, gan ei fod yn myned i Jericho. Ond gomeddodd Eliseus fel o'r blaen. Safai Jericho tua 13 milldir o Bethel, yn nyffryn yr lorddonen. Yr oedd yma eto ysgol y proffwydi. Adcod 5.—'A meibion y proffwydi, y rhai oedd yn Jericho, a ddaethant at Eliseus, ac a ddywed- asant wrtho, A wyddost ti mai heddyw y mae yr Arglwydd yn dwyn dy feistr oddi arnat ti ? Yntan it ddywedodd, Mi a wn hyny hefyd. tewch chwi a son.' A meibion y proffwydi, &,c. Holwyd EIiseus eto yn Jericho, gan feibion y proffwydi, am yr hyn oedd i ddygwydd i Elias. Rhoddodd yntau yr un d atebiad ag a roddodd i feibion y proffwydi yn Bethel. Mai heddyw. Yr adeg yma, neu ar y daith hon. Adnod 6.—' Ac Elias a ddywedodd wrtho, Aros yma, atolwg; canys yr Arglwydd a'm hanfonodd i'r lorddonen. Dywedodd yntau, Fel mai byw yr Arglwydd, ac mai byw dy enaid dithau, aid ymad- awaf a thi. A hwy a aetljant ill dau ihagddynt.' Ac Elias a ddywedodd wrtho, Aros yma, Sc. Dan- gosodd Eliseus yr un penderfyniad am y trydydd tro, i lynu wrth ei feistr, hyd nes y buasai yn cael ei gymcryd oddiwrtho. Ar ol hyn boddlonodd Elias i Eliseus ddyfod gydag ef. A hwy a aethant ill dau rhagcldynt. Yr oedd ganddynt tua phum' milldir o Jericho hyd y lie agosaf i'r lorddonen. Yr oedd yn naturiol- i Elias ewyllysio myned i Gilead, i ffarwelio a'r byd. Yma oedd ei hen le genedigol, lie y treuliasai foreu ei oes. Adnod 7.—5 A dengwr a deugain o feibion y proffwydi a aethant, ac a safasant ar gyfor o bell; a hwy iil dau a safasant wrth yr lorddonen.' A dengior a deugain, Sc. Rhan o'r nifer oedd yn yr ysgol, y mae yn debygol. Ni feiddient^fyned gyda hwy, wedi clywed yr hyn a ddywedasai Eliseus, ac eto teimlent awydd i'w gwylio, i weled beth a ddaethai ohonynt. Gwelsant y ddau yn sefyll wrth yr lorddonen. Adnod 8.—' Ac Elias a gymerth ei fantell, ac a'i plygodd ynghyd, ac a darawodd y dyfroedd, a hwy a ymwahanasant yma 8C acw, fel yr aethant hwy trwodd ill dau ar dir sych.' Ac Elias a gymerth ei fantell, Sc. Y cloak laes a wisgai. Plygodd hi mewn fifurf briodol i daro y dyfroedd. Tarawodd y dyfroedd a'i fantell, fel y gwnaethai Moses a'i ffon ranu y dyfroedd. Adood 9.—' Ac wedi iddynt fyned drosodd, Elias a ddywedodd wrth Eliseus, Gofyn y peth a wnelwyf i ti, cyn fy nghymeryd oddiwrthyt. A dywedodd Eliseus, Bydded gan hyny, atolwg, ddau parth o'th ysbryd di arnaf fi.' Ac wedi iddynt fyned drosodd, Elias, Sc. Gwnaeth Elias ei ewyllys i Eliseus, fel ei etifedd. Eneiniodd ef yn broffwyd yn ei le. Gorchymynodd iddo ofyn am y fendith a ddymun- asai iddo adael iddo cyn ymadael. Cynfp nghym- eryd. Nid gofyn i mi ar ol fy nghymeryd. Aw- grymir mai ofer ydyw gwneyd apeliadau at y seintiau wedi iddynt fyned i'r nefoedd. Bydded gan hyny, atolwg, ddau parth o'th ysbryd arnaf fi. Nid cymaint ddwywaith ag oedd gan Elias a olygir. Y mae yma gyfeiriad at yr arferiad dan y Gyfraith. Yr oedd y cyntafanedig i dderbyn deuparth o'r hyn oil a gaffer yn eiddo ei dad (Deut. xxi. 17.) Dy- muniad Eliseus ydoedd am i Elias ei ystyried ef fel ei gyntafanedig yn mysg y proffwydi. a gadael iddo ddeuparth o'i ysbryd. Ei ysbryd fel proffwyd Jehofah. Ei ddymuniad ydoed 1 cael ei gymhwyso yn arbenig at y gwaith oedd yn ei aros. Adnod 10.—' Dywedodd yntau, Gofynaist beth anhawdd os gweli fi wrth fy nghymerydoddiwrthyt fe fydd i ti felly ac onid e, ni bydd.' Dywedodd yntau, Gofynaist beth anhawdd, Sc. Yr oedd yn anhawdd rhoddi i Eliseus ei ddymuniad gan mae Duw yn unig a allasai ei roddi, etc y mae yn amI wg fod Elias yn penderfynu gofyn am dano iddo. Os gweli fi wrth fy nghymeryd., Sc. Edrych, dys- gwyl, gwylia—fel un yn awyddus i dderbyn, fe fydd i ti. Mae yn amlwg na allai gweled Elias yn cael ei gymeryd ymaith gael un dylanwad o'i ran ei hunan, er cwblhau dymuniad Eliseus; eto credai Elias y byddai cyfatebiad rhwng arosiad Eliseus gydag ef hyd y diwedd, i'w weled ef yn cael ei gymeryd ymaith, a chaniatad y fendith iddo ef, gan Jehofah trwy hyn efe a gymhwysid i ystyriec1 yr olygfa ryfeddol yn fwy astucl, fel y byddai yn gy- mhwysach i ddwyn tystiolaeth iddi. Adnod I t. Ac fel yr oeddynt hwy yn myned dan rodio ae ymddyddan, wele gerbyd tanllyd, a meirch tanllyd, a hwy a'u gwalianasant liwynt ill dau. Ac Elias a ddyrchafodd mewn corwynt i'r nefoeid.1 Ac fel yr oeddent hwy yn myned dan rodio ac ymddyddan, fyc, Tra yr oeddynt yn ymddyddan daeth cwmwl tanllyd ar lun cerbyd heibio gan gymeryd Elias ymaith i'r nefoedd, ac felly ei wahanu oddiwrth Eliseus. Megys Enoch, symudwyd ef fel na welai farwolaeth. Aeth trwy y cyfnewidiad angenrheidiol i'w gymhwyso i'r byd ysbrydol mewn moment, ar darawiad llygad. GWERSI. 1. Ymadawiad Elias i'r Nef. Gwyddai fod ei ddiwedd yn agos. Nid oedd yn ofni. Yr oedd yn hunanfeddianol ac yii (ltwel ei feddwl. Ynberffaith foddlawn. Parhaodd i weithio hyd y diwedd, ac yr oedd ei ofal yn arbenig am yr icuainc. Yr oedd yn wybyddus ei fod yn myned. Teimlai meibion y proffwydi yn fawr, ac yr oedd Eliseus yn bender- fynol o weini arno hyd y diwedd. Yn ei ymadawiad gwelir yr hyn ydyw angeu i'i- dj n da-p,-tssage o'r byd hwn i'r byd ysbrydol. Y mae yn lwybr gogon- eddus, yn arwain i berffaith ddedwyddwch a Ilawcn. ydd tragywyddol. II. Taith olaf bywyd. Rhaid i bawb fyned trwy brofiad tebyg i eiddo Elias ac Eliseus. Yr oedd ei eyfeillgarwch mewn bywyd, a'u cymundeb a'u gil- ydd ar derfynu, Eto boddlonant yn dawel i ewyllys Jehofah. Y mae eu serch a'u hymlyniad wrth eu gilydd yndal hyd y diwedd. Wrth fyned yr oeddynt yn ymddyddan. Cymerwyd un i'r tefoedd, a gadawyd y Hall ar y ddaear, Meddianodd ysbryd Elias-nodweddion ei gymeriad-ci ffydd—gweddi a gwaith. GOFYNIADAU All Y WERS. 1. A oedd yn debygol fod Elias wedi cael gwy- bodaeth gan Jehofah am ei symudiad ? 2. Paliam yr oedd am ymweled ag ysgolion y proffwydi ? 3. Both oedd yr achos ei fod yn cynghori Eliseus i beidio ei ganlyn ? 4. Paham yr oedd Eliseus yn glynu wrtho ? 5. Paham yr ymofynai meibion y proffwydi ag Eliseus am ymadawiad Elias ? Beth oedd atebiad Eliseus ? 6. Beth oedd yr achos fod Elias am groesi yr lorddonen ? 7. Wecli iddynt fyned trwy yr lorddonen, Beth a dywed Elias ? 8. Am ba beth y gofynodd Eliseus ? Beth oedd ei olygu ? 9. Pa fodd y mac Elias yn ateb ?