Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

ADFYWIADAU DIWEDDAR. -

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ADFYWIADAU DIWEDDAR. — II. UN o'r cwestiynau a ddanfonasom i'rbrodyr y buom yn gohebu a hwyntoedd Pa nifer o ddychweledigion a gafwyd ? Rhaid i ni ddyweyd fod ton o ddiolchgarwch i Ben Mawr yr Eglwys, wedi ymgodi yn ein mynwes, wrth ddarflen yr atebion i'r cwestiwn hwn. Nid ydym yn golyga mewn modd yn y byd i ddysgu mai dyma yr unig ffurf all adfywiad 11 y crefyddol gymeryd byddai hyny yn ynfyd- rwydd. Er hyny, pan mae y dylanwad yn nerthol iawn, y rheol yw fod dynion yn cael en difrifoli, eu tywys i weled en sefyllfa, a'a henill at Grist. Ië, deuant o bob oed, ac o fysg pob dosbarth weithiau o fysg dosbarth- iadau iselaf cymdeithas, gan ddangos yn ol Haw gyfnewidiad llwyr yn eu bucheddan. Pan fyddo pethau felly yn cael eu profi, teimla dynion da nad oes dim cyfrif i roi am hyny, ond fod yr Arglwydd yn tosturio wrth Ei bobl, ac yn eu cofio mewn Adfywiad grymus. Mae meusydd gweinidogaethol y brodyr y zn buom yn gohebu a hwynt, yn ngwahanol ranau y Dywysogaeth, a'r adfywiadau a brof- asant, wedi eu cael ar adegau pell oddiwrth eu gilydd; ond, er hyny, yn dangos fpd dylan- wadau nerthol ar waith, ac ychwanegiadau mawrion wedi eu gwneyd at yr eglwysi. Dyma fel yr ateba un brawd y cwestiwn yn nghylch ychwanegiadau Yn 1880, ychwanegwyd at yr eglwys mewn clan fis 230. Ar ol hyny, yr ydym wedi derbyn av ddechreu blwyddyn, ddeg neu bymtheg-ar-hugain. Eithriad yw i gyfarfodydd gweddi dechreu y flwyddyn basio heb fod nifer luosog yn cael eu dychwelyd atom.' Llafuria y brawd yna mewn cylch llnosog, lie y mae tyrfa luosog o wrandawyr. Fel hyn yr ysgrifena brawd arall:—'Yroeddy dychweledigion tua chant. Cawsom 37 yr un Sabbath.' Ar ol egluro amgylchiadau ei eglwys ar y pryd—amgylchiadau yn tueddu i gynyrchu teimladau a meddyliau pryderus— dywed brawd arall Mewn teimladau cym- ysg fel hyny aethcm i gynal wythnos weddi. Cafwyd cyfarfodydd dymunol, a phenderfyn- wyd cynal wythnos arall. Deallwyd erbyn hyn fod cynhwrf yn y gwersyll. Yr oedd y cyfarfodydd yn myned yn fwy poblogaidd o nos i nos, a'r teimlad yn dwyshan. Antur- iwyd i gynal cyfeillach ar ddiwedd y cwrdd gweddi, a daeth rhai o'r newydd. Parhawyd i weddio, a chynal cyfeilluchau, ac yr oedd rhai o'r newydd yn dyfod i mewn bob nos. Deuent bob yn 10 neu 12, ac weithiau 15 neu 20. Parhaodd y cyfarfodydd hyn amryw wythnosau, ac yr oeddynt wedi myned yn y bynod o boblogaidd erbyn y diwedd. Nod- weddid y cyfarfodydd gweddio, a'r cyrddau pregethu y Sabbath, gan deimladau dwysion, a llawer o wylo dystaw. Yr oedd angerddol- rwydd yn y teimlad—yr oedd yn gwbl genuine. Teimlais yn Niwvgiad 1859 a 1860, ond teimlais yn ddwysach o lawer yn y diwygiad dan sylw. Daeth rhai hen bobl i'r seiat-un tua 75—hen wrandawr goleu yn ei Feibl. Cafodd yr ordinhad o Fedydd yn gyhoeddus. Yr oedd ei briod a'i blant eisoes yn aelodau, a mawr y llawenydd a barodd ei ddyfodiad i'r gyfeillach, gan ddatgan fod gras Duw wedi goichfygu o'r diwedd,. Nid anghofir ycyf-j eillachau vr amser hyny byth. Cof gehyf dderbyn 12J ar yr un Cymundeb. Yr oedd- ynt yn llanw yr Co l&O&d bob ochr i'r drysau, drwy y set fawr. Yr oedd torf aruthrol yn edrych arnynt yn cael deheulaw cymdeithas, a theimladau drylliog wedi meddianu canoead yn y lie. Cymundeb rhyfedd oedd yr un hwnw. Derbyniwyd yn ystod dau fis 150 o aelodau newyddion, yr hyn oedd yn gryn ychwanegiad, ag ystyried ein bod wedi derbyn yn ystod y pum' mlynedd blaenorol tua phedwar cant o'r newydd.' A dyma dystiol- aeth brawd arall am ei eglwys yntau Der- byniwyd dros 200 o aelodau newyddion yn ystod yr adfywiad, a rhai ohonynt yn gymer iadau nodedig iawn. Un Cymundeb derbyn- iwyd 35. Yr oedd dau ohonynt yn hen iawn, un yn 76 mlwydd oed, a'r Hall yn 72.' A dyma eto dystiolaeth brawd arall, nad oedd ei eglwys yn lluosog pan brofodd y cyntaf o ddau adfywiad pur iierthol Derbyn- iwyd dros gant o aelodau newyddion mewn llai na chwe' mis, a thros haner cant mewn adfywiad diweddarach.' I'r un cyfeiriad yr a tystiolaeth brawd ffyddlawn arall, yr hwn a ysgrifeuodd am adfywiad a brofodd yr oil o eglwysi y cylch, ac nid ei eglwys ef ei hunan yn unig —' Nis gallaf ddyweyd yn fanwl, eithr yn ystod y pedair blynedd diw- eddaf, mae canoedd wedi en dychwelyd at y gwahanol eglwysi, a'r mwyafrif mawr ohon- ynt, nid yn unig yn dal eu tir, ond hefyd yn cymeryd eu lie yn mysg gweithwyr mwyaf egniol yr eglwysi.' Ysgrifena brawd arall atom ei fod ef a'i eglwys wedi profi tri o adfywiadau o fewn y chwarter canrif diweddaf. Dywed am ei eglwys, cyn cael y cyntaf ohonynt, nad oedd ond fel llin yn mygu, yn fychan a gwan, bron yn wrthrych tosturi yr ardal. Rhoddwn ei eiriau ef ei hunan :—' Daeth Miss Davies, yr efengyles, yma i gadw cyfarfod, Sabbath, Hydref, 18-, a chwaer a-all gyda hi. Cafwyd y cyfarfod cyntaf nos Sadwrn, a daeth cynulliad da yn nghyd, ac arosodd rhai ar ol y noson hono. Yr oedd y cynulleidfa- oedd ar hyd y Sabbath yn neillduol o luosog, fel ag yr oedd yn anmhosibl i neb fyned yn agos at y drysau yn mhell cyn amser dechren yn yr hwyr. Yr oedd y teimladau wedi codi yn uchel erbyn hyn, fel mai prin y cawsai y chwiorydd gyfle i ddyweyd gair gan gynifer oedd yma a thraw ar hyd y capel yn gweddio, yn siarad, yn molianu. Arosodd nifer luosog iawn ar ol yn y gyfeillach y noson hono. Cynaliwyd cyfarfodydd ar hyd ddyddiau yr wythnos ganlynol, am 7 a 10 y boreu, a G yn yr hwyr, ond byddai un cyfarfod yn dechreu yn gyffredin cyn y byddai y llall wedi gor- phen; ac felly y bu am yn agos i chwech wythnos, fel nad oedd y capel nemawr byth heb fod ynddo gyfarfod, trwy'r dydd, a phob dydd. Byddai hyd yn nod y gweithwyr ar yr awr giniaw yn dyfod yno yn eu dillad gwaith, a llawer ohonynt yn cymeryd rhan yn y cyf- arfod. Yr oedd yn anmhosibl meddwl am bregethu ar y Sabbathau hyn, a gwell oedd peidio. Mewn canlyniad i'r adfywiad hwn, derbyniwyd genym 104 y ddau gymuadeb agosaf i'w gilydd—60 y blaenaf, a 44 yr olaf.' Yna, a yn ei flaen i ddesgrifio yr ail adfywiad. 'Yn niwedd y flwyddyn 18-' meddai, E cawsom dracliefn adfywiad arall lied rymus. Ni fu yr un rbagbarotoad cyhoeddus ar ei 0 y gyfer, ond daeth yn bur annysgwyliadwy. Teimlais ryw ddylanwad dyeithr yn yr oedfa yn y boreu, ond nid oedd un arwydd fod y gynulleidfa yn teimlo dim yn wahanol i arfer. Yn yr hwyr, yr oedd yr arddeliad Dwyfol yn fwy amlwg, a safodd ychydig nifer ar ol yn y gyfeillach, ond nid wyf yn cofio yn gywir faint. Yr oedd yr wythnos ganlynol yn wythnos weddi gyffredinol ar ddechreu y flwyddyn, a thestynau wedi eu penodi i weddio arnynt bob nos o'r wythnos. Yn fuan iawn aeth y cyfarfodydd yn rhy frwd i gadw yn gaeth at destynau penodeiig. Un testyn mawr oedd gan bawb yn eu gweddiau a'u cymhellion, sef iachawdwriaeth eneidiau. Ni pharhaodd y diwygiad hwn cyhyd a'r llall, ac yr oedd yn gyfyngedig bron yn llwyr i'r eglwys hon, er hyny derbyniwyd genym 86 o aelodau newyddion mewn un Cymundeb, a'r rhan fwyaf ohonynt yn bobl ieuainc yr eglwys.' Tystia brawd arall eto ei fod ef wedi cael y fraint o dderbyn dros ddau gant mewn ychvdig fisoedd o amser, a'i fod ef a'r eerlwvs wedi proti amser bythgofUdwy yn ystod y misoedd hyny. Fe gofia ein darllenwyr fod y ffugyrau ydym wedi roddi i gyd yn awdurdodedig, ac fod yr oil o'r adfywiadau grymus hyn wedi cymeryd lie o fewn y deng mlynedd ar hugain diweddaf. Pa dystiolaeth eglurach sydd eisieu fod pethau mawr yn bosibl i'r eglwysi yn awr ? Yn y Ooleuad am Chwefror 5ed, 1901, ymddangosodd llythyr o eiddo y Parch James Morris, Penygraig, Rhondda, yn desgrifio ymweliad o'i eiddo ag eglwys Saesoneg y Methodistiaid yn Nhonypandy, Ionawr 17eg, 1904. Temtir ni i ddyfynu ohoni, gan fod ei chynwysiad yn ategu y mater sydd genym dan sylw. Dyma un paraoraff Y mae yn wybyddus i lawer fod yma ddiwygiad grymus yn yr eglwys hon er's amser maith bellach. Darfu i lawer o gymeriadau gwaethaf yr ardal brofi cyfnewidiad amlwg. Nid oes raid i ni yn yr ardal hon fyned i'r uchelder nac i'r dyfn- der, na thu hwnt i'r mor, er cael prawf o Ddwyfol allu yr Efengyl. Na, y mae profion amlwg yn agos atom, yn ein canol, ac yn ein hymyl. Y mae yma feddwon wedi eu sobri, pobl aflan wedi eu glanhau, cablwyr a thyng- wyr yn gweddio, ac ugeiniau o ddynion hollol ddifater am eu heneidiau wedi eu dwyn i feddwl yn ddifrifol am angeu, barn, a thra- gywyddoldeb. Y mae gwres yr eglwys yn uchel iawn, a'r teimlad o achub dynion yn angerddol. Y mae yma gyfarfodydd gweddiau naill ai yn y capel, neu mewn tai anedd, neu ar benau yr heolydd, bob nos, ac yn ami iawn mewn dau neu dri o fanau yr un pryd. Der- byniwyd i gymundeb y llynedd o'r byd 163. Rhif yr aelodau presenol yw 417. Yr oadd yn yr Ysgol Sul y Sabbath diweddaf 562, heblaw cangen y Dinas.' Yna a yn mlaen i ddesgrifio y Sabbath a'i„waith fel y canlyn :— Gyda golwg ar y Sabbath pur bryderus oeddwn foreu Sul, ya un peth, am mai pur