Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Y TYST YN Y DYFODOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y TYST YN Y DYFODOL. Y MAE i'r TiST ei orphenol, ac ni raid iddo gywilyddio wrth edrych yn ol drosto. Cyf- oethogwyd ei ddalenau gan gynyrchion prif lenorion Cymru yn yr oes o'r blaen, ac yr wyf yn gobeithio cael egwyl cyn hir i gymeryd cipdrem dros gynwys y cyfrolau cyntaf yn ei hanes, y rhai yn ddiamheu fyddant yn cynwys llawer o bethau o ddyddordeb. Ond y mae a fynwyf heddyw a'r dyfodol, ac a'r ddimai sydd ar fin myned o'n gafael. Bu yr hen ddimai anwyl yn gysur ac yn galondid i ni mewn llawer awr dywyll, ac amgylchiadau cyfyng. Cadwodd ni rhag teithio llwybr llawer new- yddiadur anffodus, a thrwy ei help yr ydym wedi gallii osgoi y creigiau, a dianc llong- ddrylliad am namyn deugain mlynedd. An- hawdd iawn ydyw tori priodas mor ddedwydd, a chladdu y ddinjai fel na welir eu gwyneb mwyach ar ddalenau glan y TYST. Y mae ambell un yn svnu at ein creulondeb, ac fel y dywedai Mr James, Nefyn, ei fod ef bob amser yn credn fod ein hymlyniad mor gryf wrth y ddimai, fel pan ddelai yr ymddatod- iad mai claddu y geiniog y buasem, a phar- hau i lynu wrth yr hen ddimai anwyl. Yr wyf yn cydnabod ein bod wedi bod yn bur hwyrfrydig ond dvlid cofio nad ydyw new- yddiaduron pwysig yn gostwng eu pris i gyf- arfod pob awel fyddo yn chwythu. Y Times a'r TYST yn unig oedd yn meddu digon o bwysigrwydd i barhau yn mlaen ar yr un llinellau, pan yr oedd papyrau ereill mewn panic gwvllt i gyfarfod ysbryd cybyddlyd yr oes. Nid wyf yn sicr y buasem eto wedi gostwng y ddimai, oni buasai fod y Times we li cymeryd cam yn y cyfeiriad yma a chan ein bod yn awvddus i barhau yn yr un cwmni urddasol, rhaid oedd dyweyd ffarwel i'r ddimai. Beth am yr enw 1 Diolch i'm cyfaill Mr Owen, Llanberis, am awgrymu ychwanegiad. t, el Y mae ef trwy y blynyddoed 1 wedi bod yn gefnogwr ffyddlawn. Braidd yr wyf yn tyb- ied y buaal yr ycnwan^giad yn unrhyw fantais, heblaw rhoddi mwy o waith i dafod gwan. Gwell genyf iddo fyw, a marw pan ddaw yr adeg—' Y TYST.' Calff ddwyn tystiolaeth i'r gwirioredd, ac i burdeb, ac i ryddid yn mhob gwedd arno, yr hyn bethau ydynt sylfaeni Cynulleidfaoliaeth. Dioleh yn fawr am y gefnogaeth oddiwrth lu o ddynion taleutog sydd wedi addaw ein cynorthwyo trwy ysyrifenu yn rheolaidd i'n colofuau. Beth bynag oedd athr, lith a thalent y gorpheool, y mae eto yn parhau yn ein mysg lenorion llawn mor ddysglaer fyddant I Z, yn eyfoethogi ein dalenau o wythnos i wythnos, Ond beth am y darllenwyr ? Yr wyf wedi gwneyd ymgais deg i ychwanegu ei dderbyn- I wyr. Ysgrifetiais dros bum'cant o lythyrau at weinidogion a lleygwyr ein Henwad yn dymuno am eu cefnogaeth a'u cydymdeimlad yn yr anturiaeth. Diolch yn fawr am y mesnr o gefnogaeth sydd eisoes i law. Byddai yn ddymunol iawn cael gwybodaeth yn ddioed am y nifer ychwanegol i'w hanfon i bob man. A gaf fi unwaith eto erfyn yn daer ar bob un dderbyniodd y post card, eu dychwelyd ar unwaiea, yn ntfhyjiectr arno. Bydd yn hwylusdod mawr i'r CJyhoeddwr, ac ni bydd o fawr trafferth i'r sawl a'i cafodd. JOSIAH THOMAS, Llundain, Medi 24ain, 1904.

Y NEWYDDIADUR.

AMRYWIOL.

IGWIBDEITHIAU LLINELL Y GREAT…

PA LE YR YDYM GYDA DEDDF ADDYSG?