Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

ADFYWIADAU DIWEDDAR. -

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ADFYWIADAU DIWEDDAR. nr. YR wythnos ddiweddaf rhoddasom atebion y brodyr y buom yn gohebu a. hwynt i'r cwestiwn yn nghylch nifer y dychweledigion a gawsant yn yr adfywiadau a brofasant yn eu heglwysi. Mae'n sici- fod y ffugyrau wedi bod yn agoriad llygaid i lawer. Dangosent fod cawodydd breision wedi disgyn ar etif- eddiaeth Duw mewn manau yn Nghymru yn ystod y deng mlynedd ar hugain diweddaf, ac ni synem i lawer un wrth eu darllen deimlo awydd i ddyweyd—'Gwyn fyd na chaem ninau brofi rhywbeth cyffelyb yn y dyddiaa hyn.' Yn y flwyddyn 1898, cyhoeddodd y Parch Edward Parry, Aberdulais, un o weinidogion y Bedyddwyr, lyfr ar Ddiwygiadau Cref- yddol yn Nghytnru.' Rhydd hanes byr o bob Diwygiad Orefyddol a brofwyd yn ein gwlad, ac y mae yn ddarllenadwy dros ben. Ceir ganddo benod ar 4 Y Diwygiadau Diweddaraf,' ac yn hono rhydd ffeithiau a ffugyrau yn rhedeg yn hollol ar hyd yr un Uinellau a'r rhai a roddasom yn ein hysgrif ddiweddaf; gan hyny, cymerwn ein rhyddid i'w defnyddio. Cyfeiria at symudiad crefyddol grymus yn Nghwm y Rhondda yn y flwyddyn 1879. Fel hyn y dywedCafwyd adfywiadau cref- yddol ereill yn y Cwm hwn, ond nid mor nerthol a chyffrous a'r un sydd dan ein sylw yma. Yr amser hwn y daeth Byddin yr Iachawdwriaeth i'r lie a chof genym fod ar ymweliad a'r lie y flwyddyn hono, ac yr oedd y Cwm poblogaidd yn ferw crefyddol drwyddo ben-bwy-gilydd. Y Deffroad Urefyddol oedd pob peth siarad pawb. Bu llawer o ymosod a llawer o amddiffyn ar y Fyddin, ond nid oes a fynom ni yma a'r naill ochr na'l' llall; ar yr un pryd, y mae tegwch hanesyddol yn galw arnom mewn traethawd fel hwn i wneyd sylw o'r bobl hyn. Yn y cyfnod hwnw buont yn foddion i ddeffroi yr eglwysi o'u cysgad- rwydd, a'u codi ar eu traed i gyflawni eu dyledswyddau gyda llawer mwy o yni ac ym- roddiad, a'u dwyn yn amlach ar eu gliniau, ac yn daerach yn eu gweddiau ger bron Duw. Yn sicr ddigon, buont yn foddion i ddwyn oddiamgylch a,lfywiadau cyffrous mewn am- ryw ranau o'r Dywysogaeth, a bu eu hym- weliad a Chwm y Rhondda boblogaidd yn y wedd hon yn fendith anhraethol. Yn Cwm- parc, mewn oddeutu mis o amser, yr oedd rhif y dychweledigion tua 80 yn Noddfa, Treorci, 100 eglwys y Bedyddwyr, Ton, 70; Nebo, 50; Tonypandy (Wesleyaid yn unig), 89. Ychwanegwyd at eglwys Noddfa, Tre- orci, y flwyddyn hono, 172 a chofier fod effeithiau achubol yr adfywiad nerthol hwn yn debyg gyda phob enwad crefyddol drwy y Cwm. Manteisiodd yr holl eglwysi yn an- arferol arno. Blvvvddyn i'w chofio yn hanes crefydd yn Nghwm y Rhondda oedd 1879.' Cyfeiria at Ddiwygiad Richard Owen.' Am hwnw dywed Cafwyd adfywiad cref- yddol effeithiol iawn mewn rhanau o'r Gogledd yn y blynyddoedd 1883-5. Y prif un fel cyfrwng yn Haw Ysbryd yr Arglwydd yn y diwygiad hwn oedd y Parch Richard Owen, gweinidog duwiolfrydig ac ymroddgar gyda y MethodisLiaid. Yr ydym yn ddyledus i'n hen gyfaill caredig y Parch Richard Williams, Llangwyllog, un o weinidogion parchusaf y MethodisLiaid yn y Gogledd, am hanes Mr Owen yn Ynys Mon. Yr oedfa ddiwygiadol gyntaf iddo oedd yn Nghaersalem, Mynydd Bodafon, Mon, yn Ionawr, 1877. Ac yn mis Chwefror, yr un flwyddyn, cafodd gyrddau nodedig mewn dylanwad achubol yn Llain Coch, Caergybi; daeth pump yn mlaen i ofyn am Geidwad y noson gyntaf, a chyn diwedd yr wythnos yr oedd dros dri ugain wedi ym- uno a'r eglwys.' Yn mhellach yn mlaen gwna y nodiadau caiilynol Ychwanegwyd drwy weinidogaeth danllyd ac argyhoeddiadol R. Owen oddeutu tri chant yn Ynys Mon yn unig, a llawer ohonynt yn hen wrandawyr cyndyn, wedi dal yn ystyfnig a gwrthnysig trwy y blynyddoedd. Pregethodd lawer drwy Fon gydag arddeliad anarferol yn y blynydd- oedd 1884-5, a bu ar ei deithiau cenadol diwygiadol drwy swyddi Arfon, Meirion, a Dinbych, a chreai adfywiad grymus yn yr eglwysi yn mhob man lie yr ai. Achubwyd canoedd lawer yn yr adfywiad hwn, a bu o fawr fendith i grefydd, ac yn neillduol Jelly yn mhlith y Methodistiaid yn Ngogledd Cymru.' Sonia Mr Parry am Adfywiad grymus a gymerodd le yn Penuel, addoldy y Bedydd- wyr, yn Heol y Prior, Oaerfyrddin, yn 1887. Ar ol son am dano yn dechreu yn nghyfarfod gweddi y bobl ieuainc, pan nad oedd ond chwech yn bresenol, dywed 0 hyny yn mlaen, cynaliwyd cyrddau gweddio bob nos am naw wythnos. Dyma beth oedd dyfal- barhau mewn gweddi, ac wrth fyned rhag- ddynt o wythnos i wythnos, y brodyr yn un a chytun yn parhan wrth orsedd gras, teimlid eu hysbrydoedd yn dyfod yn gynesach, a'u ealonau yn llosgi o'u mewn, a chyn hir caw- sant amlygiadau pendant fod yr Ysbryd Glan yn gweithio yn etfeithiol yn eu plith. Yn ystod y naw wythnos o gyfu-fodydd gweddio, yr oedd y dychweledigion yn gant a naw, ac ar un nos Sabbath, bedyddiwyd pedwar ugain. Pregethid gan y Parch E. W. Davies, Ton, Cwm Rhondda, ond y pryd hwnw o Langyfelach, yr hwn a wahoddesid gan yr eglwys i gynorthwyo ei pharchus a'i llafurus weinidog, a chafwyd cyrddau yn Ilawn o'r Eneiniad Dwyfol, a derbyniwyd cant a naw gyda'u gilydd yn gyflawn aelodau. Dywedir fod yr olygfa yn ogoneddlls iawn, a'r gwein- idog wrth roddi deheulaw cymdeithas yn nefol-eneiniedig yn ei sylwadau. Yr oedd rhai ohonynt yn hen bobl, yn plygu dan faich blynydduedd tua'r bedd, ereillän wyr cryfion, yn nghanol eu dyddiau, ac ugeiniau o fechgyn a genethod yn Mai eu bywyd, mewn pryd- ferthwoh a hoewder.' Adfywiad arall y cyfeirlr ato yn y llyfr yw un yn Mlaenau, Ffestiniog, pan y cafwyd amryw wythnosau o bregethu. Cafwyd gwas- anaeth y Parchn J. R. Jones, Pontypridd J. Miles, Aberystwyth a'r diweddar D. M. Jenkins, Liverpool. Deallwn fod yr ymdrech yma yn canlyn cryn ddeffroad a ganlynodd ddyfodiad Byddin yr Iachawdwriaeth i'r lie. Yr oedd yr eglwysi eisoes wedi eu cyffroi, a chrefydd wedi dyfod yn destyn siarad yr holl le, Tyrai y bobl i weddio ac i wrando, ac yn ystod yr wythnosau hyny cododd y llanw yn uchel iawn. Ail-gydiodd lluaws o wrthgilwyr, a derbyniwyd cryn nifer am y tro cyntaf. Dywed Mr Parry fod rhif y dych- weledigion yn agos i gant, a diau en bod yn ychwaneg, a chymeryd yr oil o'r enwadau i ystyriaeth. Engraifft arall a roddir yw deffroad a brof- wyd yn Nghaersalem, Dowlais, yn 1890-1, pan y gweinidogaethai y Parch T. Morgan yno. I Cafwyd amlygiadau eglur fod yr Ysbryd Glan yn gweithio yn eu plith, a phrawfion pendant fod yr Efengyl yn allu achubol Duw-dynion yn awr wrth y degau yn y gyfeillach. Daeth yn haf ar grefydd yn eu plith. Parhaodd y Diwygiad am 5 mis. Derbyniwyd 50 i'r eglwys ar un nos Sabbath Cymundeb, ac yn ystod y flwyddyn gyman- faol hono ychwanegwyd at yr eglwys 133. Talodd y cyrddau gweddi canol dydd yn fen. digedig i'r brodyr.' Engraifft arall dra nodedig a roddir yw adfywiad a gymerodd le yn y Bontnewydd, yn Mynwy, yn eglwys y Bedyddwyr yno yn 1892. Ar ol wyth wythnos o gyfarfodydd gweddio ar ddechreu y flwyddyn, dywed :— Wrth fyned yn mlaen deuentyn fwy gwresog a gafaelgar ac yn lluosocach o wythnos i wythnos ac am beth amser cynelid cyfarfod- ydd gweddio am naw o'r gloch bob boreu, ac ar y Sabbath am ddeg y boreu, a phump y prydnawn. Yr oedd ysbryd gweddi wedi cymeryd meddiant llawn o'r eglwys. Nid oedd y cyfarfodydd yn cael eu nodweddu gan lawer iawn o swn a gorfoledd cyhoeddus, ond ynddynt oil teimlid dwysder a difrifoldeb dystaw, yr hwn yn ei angerddoldeb oedd yn anorchfygol yn ei ddylanwad ar feddyliau canoedd Arosai rhai ar ol yn y gyfeillach yn mhob cyfarfod—arwydd sicr i'r brodyr fod eu gweddiau yn cael eu hateb, ac Ysbryd yr Arglwydd yn gweithio yn eu plith. Ac mewn canlyniad i'r Diwygiad bendithiol, gwelwyd y Parch J. M. Jones, gweinidog Uafurus yr eglwys, ar brydnawn Sabbath haf- aidd, Medi 18fed, 1892, yn bedyddio allanyn yr afon 104, yn ngwydd o bump i chwe' mil o edrychwyr astud.' Ac yn mhellach: I Mewn tri mis yn ystod y diwygiad anarferol hwn, derbyniwyd o ddychweledigion i'r eglwys 165.' Gwel ein darllenwyr fod y ffeithiau a'r ffugyrau hyn i gyd o'r un natur a'r rhai a roddasom yr wythnos ddiweddaf, ac yn cadarnhau y syniad fod yr Arglwydd yn gweithio yn rymus mewn manau yn y blyn- yddoedd hyn.

BRYNSEION, GELLI.