Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

0 GWR Y WINLLAN.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

0 GWR Y WINLLAN. --Llawen ia,w.n oedd genym gael ar ddeall fod anrheg i gael ei chyflwyno i weddw y diweddar Barch E. M. Roberts, Pentretygwyn a Chefnarthen. Gweithiodd Mr Roberts ei hunan yn ddwfn i serch yr ardalwyr, er na fu ei arosiad yn eu mysg ond byr, ac ymhyfrydant inewn dangos parch i'w goffadwriaeth. Y maent i'w canmol yn fawr am hyny. .y. -Os na chamgymerasom, gwe"som enw un arall o blant Mr Rees, yr Alltwen, fel un wedi enill ysgoloriaeth o ddeugain punt y flwyddvn, i'w dal am dair blynedd, dan Gynghor sir For- ganwg. Dyma'r trydydd o'r un teulu i ddal ysgoloriaeth dan Gynghor y Sir. Eiddunwn iddo lwydd mawr i ddilyn camrau ei frodyr, 1. —Llawenydd mawr sydd yn Aberdar am fod y Parch J. Grawys Jones wedi penderfynu aros yn Ebenezer. Mae yn glod i eglwys Sardis, Pontypridd, ei bod wedi syrthio ar ddyn mor dda, ond dyna y rheswm fod Ebenezer wedi gwneyd ymdrech mor egniol i'w gadw hefyd. Yr hwn sydd yn werth ei gael sydd yn werth ei gadw. :!« -Llawen iawn fu gan lawer ohonom gyfarfod yn y eyfarfodydd yn Nghaerdydd a nifer o frodyr yn y weinidogaeth Seisonig nad oeddym wedi cael cyfle i'w gweled a'u cyfarch er's blynyddau. Mae blynyddoedd yn dwyn cyf- newidiad yn eu hymddangosiad, ond y mae yn destyn diolch mai treulio yn eu gwaith y maeut. Anrhydedd mawr i bob dyn yw hyny. —Yn mysg y Cymry enwog fu yn cymeryd rhan yn nghyfarfodydd yr Undeb yn Nghaer- dydd, a'r eyfarfodydd a gynelid yn y tfrefi cylchynol mewn cysylltiad a hwynt, yr oedd y canlynol :-Y Parchn W. Justin Evans, J. D. Jones, T. Eynon Davies, W. Pedr Williams, J. M. Gibbon, O. Thomas, D. Walters, ac Eben- ezer Rees. Clywsom eu bod wedi gwneyd eu gwaith yn rhagorol mewn pregethu ac areithio. —Pan gynelir yr Undeb yn Nghymru, neu yn un o drefi Lloegr lie y mae Cymry yn Uu- osog, trefnir cyfarfod Cymraeg. Oyfarfod areithio drefnir fynychaf—weithiau gyfarfod pregethu. Yr olaf drefllwyd yn Nghaerdydd, a'r pregethwyr oedd y Parchn W. James, Ahertawe, a Dr Davies, Emlyn. Ni raid i'r nail! na'r Hall wrth ganmoiiaeth o fath yn y byd, gan eu bod ill dau yn adnabyddus drwy Gymru benbaladr.' —Cafwyd tipyn o'r hyn a eilw y newydd- iaduron Seisonig yn 'scene' ar lwyfan yr Undeb cyn gorphen. Trin y Cyfansoddiad Newydd yroeddys, a'r Parch T. Eynon Davies oedd yn siarad. Ceisiodd rhywun o'r tu cefn i'r llwyfan ei rwvstro, a methodd gwaed y Cymro a dal. Yr oedd yn siarad i'r pwynt, ac heb gymeryd yr oil o'r amser a ganiateid iddo. Taflodd ei notes i'r bwrdd, a ffwrdd ag ef. Neidiodd Dr Charles Leach i'r adwy, ac ar ol ychydig eiriau ganddo ef mynwyd cael y Cymro yn o!, < a chaf- odd y derbyaiad mwyaf brwdfrydig. Mwy na hyny, cariodd ei welliant hefyd. -Un o'r petbau yn mha rai y gwahaniaethai yr Undeb Seisonig oddiwrth yr eiddom ni yw y nifer luosog o gyfarfodydd a drefnir yn nglyn ag ef yn y lleoedd o gylch y fan y cynelir ef. Cynaliwyd rhai degau o gyfarfodydd yn y gwa- hanol ardaloedd, a chafodd pobl gyfleusdra i glywed enwogion nad.yw yn debyg y clywsent hwynt mewn unrhyw le arall. Ai ni fyddai yn werth i Bwyllgor yr Undeb Cymreig feddwl am werth i Bwyllgor yr Undeb Cymreig feddwl am rywbeth felly ? —Peth arall a'ntarawodd oedd gweled cyniter o chwiorydd yn mysg aelodau yr Undeb Seis- onig. A thybio fod yr oil o'r chwiorydd oedd ar lawr y Neuadd yn aelodau neu gynrychiol. wyr, yr oeddynt yn lluosog iawn, un am bob dau yn mron. Yr oeddynt yn addurn mawr i'r cynulliadau, os na roddent unrhyw gymhorth peiiach, —Pwy yn y byd oedd yn gyfrifol am wahodd y ddwy foneddiges a gymerasant ran yn y Cwrdd Addysg i iwyfan yr Undeb Cynulleid- faol ? Os oedd angen cael boneddigesau, gall- esid yn hawdd iawn cael rhai mewn llawnach cydymdeimlad a gwerin Ymneillduol y deyrnas, a'u cael o Gymru hefyd. Ac yn s'cr gailesid gofalu eu bod J n sic:rad ar rywbeth mwy i'r pwynt mewn argyfwng o fath y presenol nag Evening Continuation Schools. Pethau da iawn yw y rhai hyny, ac y mae genym lawer iawn ohonynt, ond siarad am ddyferion pan mae'r cenllysg yn disgyn yw siarad am bethau felly yn awr # —Golwg batriarchaidd oedd ar y Dr John Brown ar Iwyfan yr Undeb Seisonig. Gwr yw efe sydd wedi gwneyd diwrnod caled o waith dros y Meistr yn ei fywyd. Yr oedd bron ar ei ben ei hun ar y llwyfan fel bynafgwr hefyd. Mawr mor lleied oedd yno. --Da geoym glywed, o amryw o gyfeiriadau, fod Colofn Farddonol y TYST yn dra chym- eradwy gan y darilenwyr. Mae barddoniaeth wedi ei fwriadu i foddhau yn ogystal a llesoli. Deallwn fod amryw o feirdd rhagorol yn bVt r. iadu anfon i Pedrog yn fuan. -A? =& —Llongy farchwn y Parch W. Bowen, Peny- groes, ar ei waith yn enill cadair eto. Yn ei gartref, Amanford a'r Betws, yr enillodd efe hon, a deallwn mai ei ferch hynaf a gadeiriwyd yn ei absenoldeb. Ni synem glywed fod yr awen wedi disgyn arni hithau bellach. —Grwelais yn rhywle fod y Parch E. Richards, Tonypandy, yn bwriadu cymeryd taith i'r Dwy- rain heb fod yn hir. Hei iwc, yn wir; bydd yn adnewyddiad mawr iddo, a deallwn fod yr eglwys yn bwriadu talu y draul. -Clywsom fod yn mwriad y Parch W. J. Nicholson ail-gydioyn ei waith y Sabbath nesaf. Da genym ddeall hyny. Mawr hyderwn fod ei iechyd wedi ei sefydlu gan y seibiant a gymer- odd, ac y ca y wlad yr hyfrydwch o'i wasanaeth eto fel cynt. -Deallwii mai un newyddiadur fydd at was- anaeth Cymry Llundain o hyn allan, ac nid dau, fel yr ofnid unwaith. Mae yr hen wedi ei brynu gan y newydd, a'r hen olygydd wedi sychu ei ysgrifell. Mr Machreth Rees fydd Golygydd y newydd, dan yr enw, The London Welshman. Deallwn y bwriedir ei wneyd yn newyddiadur cwbl genedlaethol o ran ei ysbryd, ac mae yn sicr nas gall fod yn wahanol dan olygiaeth gNVr fel Mr Machreth Rees. —Mawr ganmolir parodrwydd Mr Roderick Williams, Caerdydd, a'i gor, i roi eu gwasanaeth yn rhai o Gyfarfodydd yr Undeb. Cawsant dderbyniad ardderchog, fel y gallesid dysgwy), a theimlir yn ddiolcbgar iddynt am eu"gwaith da. :j(' Y n ystod y Cyfarfodydd yn Nghaerdydd, ymddangosodd yn y newyddiaduron lleol luaws o ddarluniau arweinwyr Cymreig a Seisonig. Dywedir mai ffodus iawn oedd fod yr enw dan ami un ohonynt—hyny yw, ffodus i'r rhai oedd yn edrych. ->:• —Yn y Tywysydd am y mis hwn, ceir darlun rhagorol o'r Parch D. Griffiths, Cwmdar,. ac ysgrif gynwysfawr ar ei fywyd a'i lafur, gan y Golygydd fel arfer. Mae wedi llafurio yn ddi- wyd iawn am iawer blwyddyn yn N ghwmdar. -YN mysg y gweinidogion a wnaethant was- anaeth mawr yn nglyn ag ymweliad yr Undeb a. Chaerdydd, yr oedd y Parchn H. M. Hughes, B.A., a T. Hughes. Yr oedd y blaenaf yn Gad- eirydd Pwyllgor y Lletydai, a'r diweddaf yn Ysgrifenydd Pwyllgor arall. Bu raid iddynt fyned drwy lafur mawr, a haeddant bob can- moliaeth. Bu Mr J. Austan Jenkins, hefyd, fel arfer, yn llawn prysurdeb yn ystod yr wyl. LLAFUEWE.

!—• MARWOLAETH SYR WILLIAM…

DAMWAIN ALAETHUS.

[No title]