Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Y DOCTOR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y DOCTOR. (GAN IAN MACLAREN.) .0 WEDI EI GYMBEIGIO GAN MR. R H. TT-OWIES, DRWY GANIATAD YR AWDWR. + PENOD I. UNIG FEDDYG DRUMTOCHTY. 'ROEDD trigolion Drumtochty (Ysgotland) yn arfer tori holl ddeddfau iechyd, oddigerth ymborth syml ac awyr iach ac eto yr oeddynt wedi llwyddo i wneyd pedwar ugain mlynedd y Salmydd yn beth hollol gyffredin yn eu plith. Ni byddai y dynion byth yn gwneyd unrhyw wahaniaeth rhwng haf a gauaf yn eu dillad, ac eithrio Drymswch, ac un neu ddau o ffermwyr cefnog ereill; gorfodid hwy gan eu safle gym- deithasol i wisgo cotiau ucha ar y Sul, boed hi y tywydd y bo hi. Mewn angladdau gwisgent oil eu dillad duon bob amser, gan wrthod eu cuddio 4 chot ucha nac arall, er mwyn rhoi pob chwareu teg i'r brethyn du i ddangos ei barch i'r ymadawedig. Ac fel rheol ymdroent yn hwy yn y fynwent ar dywydd oer nag ar unrhyw adeg arall, gan anwybyddu gwynt y gogledd, serch fod ias can' milldir o eira arno. Ar ddiwrnod gwlyb arosii pobl Drumtochty allan yn y gwlaw ar blatfform y Junction yn bollol ddiangenrhaid, nes y byddai gwaelod eu cotiau yn dyferu fel bargod. Ond tua haner y ffordd rhwng y Junction a Kildrummie, efallai y crybwyllid gan rywun yn y garriage fod 'natur taflu dafne yni hi.' Ac yr oedd taflu dafne yn haner y ffordd ganddynt i fwrw cafod,' a 'bwrw cafod' yn haner y ftordd i ddiwrnod glyb.' Byddai y diystyrwch yma o'r tywydd weith- iau yn dwyn ei gosb yn y ffurf o anwyd ar y frest, ac ar adeg felly byddai merched y ty yn arfer crefu ar y I claf,' os byddai wedi dygwydd cerdded drwy'r afon ar ei ffordd adre, i newid am ei draed; ond anfynych y gwnai hyny gochelgarwch i'w arfer gan ferched y trefydd, ac nid gan wyr Drumtochty, oedd peth felly. Fe fu Sandy Stewart wrthi hi yn tori ceryg ar y ffordd yn llewys ei grys ar bob math o dywydd, haf a gauaf, nes y perswadiwyd ef i roi i fyny pan oedd yn bump a phedwar ugain oed, ac fe dreuliodd y deng mlynedd dilynol i weld bai ar ei olynydd, ac i edifarhau iddo ef roi'r swydd i fyny mor ieuanc. Y rheol gyffredin yn mhlith y gwladwyr hyn, gyda'u hawyr iach a'u bywyd tawel, oedd gwneyd diwrnod da o waith bob dydd nes y byddent yn ddeg a thriugain, edrych dipyn ar ol' rhwng hyny a phedwar ugain, ac yna dianc o swn y boen sy' yn y byd' pan yn ngolwg deg a phedwar ugain. Pan lwyddai rhywun i fyw dros ddeg a phedwar ugain, ystyrid hwnw yn anrhydedd iddo ei hun ac i'w ardal, a pheth cyffredin iawn yn mhlith y cyfryw oedd diystyru barn pawb iau na hwy eu hunain, ysgubent farn dyn deg a thriugain o'r naill du fel un anaddfed ac anheilwng o sylw, ac aentyn miaen i son am bethau oeddynt hwy yn eu cofio bedwar ugain mlynedd yn ol. Pan anghofiodd Drums, brawd Hillocks, ei hun i'r fath raddau nes dianc adre ac yntau yn ddim ond triugain oed, fe geisiodd Hillocks ei oreu ddydd yr angladd wneyd esgusawd drosto. I Mae hwn yn fater pwysig iawn, drychwch chi arno fo ffor fynoch chi,' meddai, ac mae o yn siwr o fod yn brofedigaeth fawr i ni gyd. Chlywes i rioed son am fath beth yn ein teulu ni o'r blaen, ac rydwi'n methu'n glir a chyfri am dano fo. Mae'r wraig ma yn treio deyd na fu o byth yr un dyn ar ol y noswaith fawr hono pan gollodd o'r ffor ar y mynydd, ac y bu raid iddo fo gysgu allan yn i ddillad glybion, ond yn y marn i doedd hyny nag yma nac acw. Credu rydw i iddo fo andwyo'i gyfansoddiad pan fu yn aros am ddwy flynedd i lawr yn Lloiger, es talwm. Mae deng mlynedd ar hugen er hyny, ond waeth i chi prun, tydech chi byth yr un dyn ar ol bod yn y gwledydd tramor ne.' Gwrandawodd y cymydogion yn amyneddgar ar eglurhad Hillocks, ona nid oedd yn un digonol yn eu goiwg. Aeth yntau yn mlaen. Lol i gid ydi stori'r cysgu yn y dillad glybion ne. Yn eno dyn, ond dydi pawb ohonom ni wedi bod yn cysgu allan rywbryd neu gilydd, ac heb fod flewyn gwaeth. Rydwi'n adde y gall mai Lloiger nath y drwg, ran nid dim byd ydi cerdded o fan i fan mewn lie felly, i chwilio am waith. Ond chwynodd Drums yrioed wrtha i mai Lloiger ddaru anmharu arno fo.' Y gwir oedd, fod y gymydogaeth wedi colli ei hymddiriedaeth yn Drums ar ol iddo fyn'd mor wirion a phrynu offeryn ffasiwn newydd i godi tatws, ac i hwnw droi allan yn dda i ddim ac yr oedd ei ymadawiad anamserol, rywfodd, yn cadarnhau ei barn Haenorol am dano. Wel, mae o wedi myn'd rwan,' meddai Drymswch, ar ol i'r farn gyffredin gael amser i addfedu mi weles i rai salach na Drums gan- weth, ond 'roedd hi'n biti garw na fase dipyn mwy o ddal arno fo.' Pan feiddiai afieehyd ymosod ar un o ddynion Drumtochty, dywedid fod y cyfryw un wedi oeri,' ond diystyrid yr afieehyd gan y dynion eu hunain. Yr oedd Hillocks yn eistedd yn y Post Office, un prydnawn, pan elwais i yno i ymofyn fy ilythyrau, ac yr oedd ochr dde ei wyneb yn goch fel tan. Y mater dan sylw gan- ddo oedd rhagolygon y maip, ond fe grybwyll- odd yn ddamweiniol ei fod yn dysgwyl cyfarfod y doctor yno. Mae'r wraig acw yn cadw swn drwy gydol y dydd, yn nghylch y ngwyneb i,' meddai, I ae rydwi'n gweitied am Dr MacLure i gael potel gyno fo er mwyn heddwch. Dacw fo'n dwad ar y gair.' Deallodd y doctor, heb orfod disgya oddiar gefn ei geffyl, beth oedd ar Hillocks, a dywed- odd ei farn yn y dull difloesgni oedd wedi gwneyd Drumtochty mor hoff ohono. A'ch sgubo chi, Hillocks; be dech chi neyd yn fan yma yn y glybanieth, ddyn, a'ch gwyneb chi'n goch fel y mae o? Ydech chi ddim yn gwbod mai tan-iddew sy arnoch chi, ac mai yn y ty y dylech chi fod P Cerwch adre'r fynyd ma, cyn i mi ddisgyn atoch chi, a danfonwch hogyn ar f'ol i i nol ffisig. Y creadur gwirion. isio myn'd cin y'ch amser, 'run fath a'ch brawd, Drums, sy arooch chi P' Cychwynodd Hillocks o'r diwedd, ond daliai meddyg Drumtochty i ddyweyd y drefn, a gwaeddi ar ei ol pa sut i wne) d. 'Rydwi'n cadw fy Ilygad arnoch chi,' gwaeddai a gwae chi os ymdrowch chi ar y ffor adre. Rhoswch yn y'ch gwely bore fory, a chofiwch, dydech chi ddim i fyn'd i olwg y caue nes y gwela i chi eto. Mi alwa i acw ddydd Llun. Beth oedd meddwl y dyn, deydwchP Does ma neb yn y plwy ma yn gofalu dim am i iechyd i hun, nac am iechyd neb arall.' Fe ddywedodd y wraig y boreu Sul dilynol wrth y twr pobl arferol oedd yn sefyll yn nghorneI y fynwent, fod y doctor wedi rhoi hi'n ofnadwy i Hillocks, a'i fod yntau yn cadw i mewn nes y cai wel'd y doetor wedyn. Ond yr oil olygid wrth y 'cadw i mewn' oedd, fod Hillocks yn cael cwpanaid o de i'w frecwast, a'i fod y foment hono yn ol pob tebyg, yn cerdded o gwmpas y buarth a shol am ei ben. Gan ei bod yn anmhosibl i unrhyw feddyg enill ei darned mewn cwm mor iach a Drum- tochty, yr oedd Dr MacLure wedi ychwanegu ato amryw o'r ardaloedd cylchynol. Safai ei gartref diaddurn mewn coed ar fin y ffordd, yn lie i uchel yn y cwm, ac o'r canolbwynt yma teithiai i bob cyfeiriad. Yr oedd Drumtochty ei hun yn wyth milldir o hyd a phedair o led. Yna yr oedd ganddo gwm yn uwch i fyny, a elwid Glyn Urtach, lie y byddai lluwchfeydd o eira ddeuddeg troedfedd o ddyfnder yn y gauaf, ac ar adeg felly, yr unig fynedfa i'r cwm hwnw oedd ar hyd gwely yr afon. Dros y mynydd i'r gorllewin yr oedd ganddo ardal fawr anhygyrch o dan ei ofal, yn dwyn nodweddion pen draw'r byd, a'r ffordd iddi drwy ganol corsydd a phyllau mawnogydd, ac yn berygl bywyd ar noson dyw- yll. Ac i'r dwyrain drachefn yr oedd ei gynefin yn ymestyn cyn belled a thaith y llythyr-glud- ydd, oblegyd anfynych y dychwelai y gwr hwnw o'i bererindodau, beb dd'od & chais ar i'r doctor fyn'd i ymweled â rhywun oedd ar ddarfod am dano, mewn rhyw fwthyn neu gilydd. Gwnaeth y gwron hwn ei oreu i bob dyn, dynes, a phlen-, yn yn y cymoedd gwylltion hyn, drwy eira a gwres, nos a dydd, heb orphwys na hamdlen, am ddeugain mlynedd. Yr oedd mor brysur fel nad oedd un ceffyl yn ddigon iddo. Ond liawer gwell oedd genym ei weled ar gefn ei gaseg wen na'r un fel arall, ac yr oedd golwg ar y ddau yn myn'd heibio bob amser yn sirioldeb i'n hysbryd. Druan o Jess, bu farw yn mhen yr wythnos ar ol ei meistr. Marchogwr hynod o anghelfydd oedd y doctor. Ysgydwai ei freichiau yn ol a blaen gwyrai gymaint nes ymddangos fel pe yn siarad yn nghlust y gaseg, acyr oedd yn codi llawer mwy yn ei gyfrwy nag oedd yn angenrheidiol. Er hyny i gyd, gallai farchogaeth yn gyflymach ac yn ddyogelach, ac aros yn ei gyfrwy yn hwy na neb gyfarfum i erioed, a'r cwbl i gyd er mwyn pobi ereill. Ar adeg cynhauaf, os gwelid marchogwr yn carlamu heibio gan adael cwmwl o Iwch ar ei ol, neu os clywid swn troed ceffyl gefn nos yn mhellderau Glyn Urtach, neu os gwelai'r bugeiliaid ysmotyn du yn symud drwy'r eira i gyfeiriad y cwm pella, gwyddent oil mai y doctor oedd, ac heb yn wybod iddynt eu hunain dymunent Dduw yn rhwydd iddo. Arferai rwymo ei arfau a'i feddyginiaeth beth ta blaen a pheth tu ol i'w gyfrwy, oblegid nis gallai byth ddyweyd pa alwadau sydyn allai dd od arno. Nid oedd meddygon neillduol at anhwylderau neillduol yn Drumtochty. Felly yr oedd yn rhaid i'r dyn yma wneyd pobpeth ei hunan oreu gallai, a hyny mor ddiymdroi ag yr oedd modd. Yr oedd yn ddoctor yr ysgyfaint, y glust, a'r Ilygad; yn dynwr danedd, ac yn osodwr esgyrn; heblaw bod yn gyweiriwr gwelyau i famau, ac yn gymysgwr meddygin- iaeth i'r holl ardaloedd. Hoffid yn fawr adrodd fel y dygwyddodd pan oedd y doctor yn nghwr ucha Glyn Urtach yr adeg y tynwyd mab Burnbrae i'r peiriant dyrnu ac fel y carlamodd yr holl ffordd heb aros ond yn unig i newid ei geffyl wrth basio'i gartref, a'r modd y taflodd ei hun allan o'i gyfrwy, ac y torodd ymaith fraich y llanc, a thrwy hyny arbed ei fywyd. 'Roedd pawb yn gweld "pob mynyd yn awr," meddai James Soutar, yr hwn oedd yno gyda'r dyrnu. 'Anghofia i byth mo olwg. y bachgen yn gorwedd fel corff ar lawr y daflod ac ysgub o yd o dan ei ben, a Burnbrae, ei dad, yn dal y cadache oedd am i fraich o, ac yn gweddio run pryd, a'i fam yn crio naill du. Pam na ddaw 0 P" medde hi; ac ar hyny mi glywwn swn troed ceffyl filldir o ffordd drwy r awyr rewllyd. -Bendigedig fyddo enw'r Arglwydd," medde Burnbrae. Llithrais i lawr yr ysgot mewn pryd i weld y doctor yn cyredd y buarth, a'i, geflyl yn furym o chwys. '"Lie mae o?" oedd yr unig beth ofynodd o, a chin pen pum' mynyd yr oedd wedi gosod y bachgen ar stylien yr injian ddyrnu, ac wedi dechre ar i waith-y fath waith, cofiwch chi- ond mi gnath o i'r dim. Ac mi nhrawodd i yn neillduol iawn mor feddylgar oedd o yn nghanol yr helynt i gid, ran mi anfonodd fam y bachgen ° r< £ s £ ubor dan J* esgus o neyd gwely iddo fo. (< 'fi wedi gorphen, rwan," medde fo j mi neith i gyfansoddiad o bobpeth arall;" ac mi ganodd y llanc yn i freicbie i lawr yr ysgoi fel plentyn, ac mi rhoth o i orwedd yn i wely, ac mi rosodd ono efo fo tan gysgodd o, ac wedyn dyma fo yn troi at Burnbrae rhwng difri a chware ac yn deyd- i ■ rhyfedd ydech chi, Burnbrae, ddaru chi ddim cymint a gofyn gymwn i darned o fwyd, a fine heb brofi dim es un awr ar bvm. theg." J 'Wyddoch chi be, bobol, golygfa i'w chofio oedd i weld o yn dwad i'r buarth y diwrnod hwnw-roedd buddugoliaeth i'w gweld vn i wyneb o.' Fe anghofiodd James Soutar ei watwares arferol yn ei frwdfrydedd wrth adrodd yr hanes jj-aC yr °edd am ,unvfaitIi yn ei oes wedi rhoddi mynegiad syml i deimladau Drumtochty. (['u; barhau.)

[No title]