Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
UNDEB CYNUL.LEIDFAOL LLOEGR…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
UNDEB CYNUL.LEIDFAOL LLOEGR A CHYMRU. FEL y gwyddis, cynaliwyd y cyfarfodydd yn ngtyn a'r uchod yn Nghaerdydd yr wythnos ddiweddaf, ac yr oeddem wedi trefnu i gael erthygl arnynt, ond rywffordd neu gilydd ni chyrhaeddodd yr ysgrif y Swyddfa mewn pryd. Gobeithiwn y daw yn brydlon erbyn y rhifyn nesaf.
Y NEWYDDIADUR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y NEWYDDIADUR. GWLEI DYDDO L. Bu Mr Lloyd George, A.S., ac ereill, fel dirprwyaeth o flaen Awdurdod Addysg Meir- ionydd yn Abermaw, y Sadwrn diweddaf, yn ceisio ei ddarbwyllo i syrthio i fewn a'r polisi Cymreig yn yr argyfwng presenol. Yn ol yr Ysgrifenydd, byddai gan Meirion ddiffyg o l,900p i wneyd i fyny o'r dreth er mwyn cadw yr Ysgolion Enwadol mewn sefyllfa effeithiol Profodd Mr Lloyd George y gellid cadw yr ysgolion oil yn ol llythyren Deddf Addysg heb godi dim dimai o'r dreth at gynal y rhai cnwadol yn y sir. Siaradodd yn groew. Dangosodd y modd i weithredu i bwrpas, ac yn y diwedd cwympodd yr Awdurdod Addysg i fewn i'r cynllun. Bellach wele Cymru yn gyfan. Llongyfarchwn Mr Lloyd George yn y modd mwyaf calonog ar ei waith. Bhydd brofion ychwanegol yn barhaus ei fod yn wlad- weinydd o'r radd flaenaf. Bu Mr Lucy yn ddiweddar yn ceisio cyfan- soddi Llywodraeth Ryddfrydol y dyfodol agos. Is-Ysgrifenydd y Swyddfa Dramor oedd Mr Lloyd George, yn ol ei drefniant ef. Is-Ysgrif- enydd yn wir! Nis gall fod ymgeisydd cryfach na'n cydwladwr galluog am sedd yn y Cyfrin- gynghor nesaf. Tybed fod Mr Lucy yn talu yr hen chwech i Mr Lloyd George am ei waith yn glanhau y Daily News oddiwrth ei ysfa ryfel- gar ac ymherodrol ef. Ymddengys yn debyg. Ond nid oes anwybyddu i fod ar yt aelod dros Fwrdeisdrefi Arfon. Saif yn y rhestr flaenaf, a rhaid fydd caniatau ei le iddo yn y man. CEIR llygaid y deyrnas yn canoli ar y Gy- nadledd Fawr Genedlaethol Gymreig yfory (dydd Iau) yn Nghaerdydd. Gwna papyr Ceidwadol y De ymgais i gael yr athrawon i fewn i'r helynt, ond metha hyd yn hyn. Ceidw yr awdurdodau allan ond perffaith amlwg yw erbyn hyn eu bod fel corff o blaid trefniant addysgol cenedlaethol. Ni hudir hwy gan y Western Mail. Ceir fod dwy o Ysgolion Enwadol sir Gaerfyrddin, dan gymeradwyaeth Esgob Bangor a'r awdurdodau Eglwysig, wedi eu cyflwyno dan reolaeth y cyhoedd ar amodau arbenig. Myn Uawer weled yn yr amodau hyny y ffordd rydd allan o'r dyryswch presenol. Dysgwylir pethau mawr oddiwrth Gynadledd Caerdydd. Ni lwydda Bwrdd Addysg Toriaidd byth yn erbyn y fath allu unol. Peidier gwa- malu dim. Undeb a chydweithrediad hawlia y fuddugoliaeth. Y mae hono ger Haw.
AMRYWIOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AMRYWIOL. NID cynt y terfynodd cyfarfodydd Hydrefol Undeb Annibynwyr Lloegr a Chymru yn Nghaerdydd nag y dechreuodd Dr Torrey ac Alexander ar eu cenadaeth yno. Dechreuodd y diwygwyr uchod ar eu gwaith yno y Sul diweddaf. Dywedir fod 20,000 yn bresenol. Gorlenwid y babell eang—cynwysa le i 7,000 yn gysurus. Cydiai canu Mr Alexander yn y mil- oedd, ac yr oedd pregethau Dr Torrey yn taro calonau y dorf arutbrol. Rhoddwyd derbyniad swyddogol iddynt y Llun. Pery y genadaeth am saith wythnos. GWNAETH y Parch R. J. Campbell, M.A., gweinidog y City Temple, ymosodiad anheilwng iawn ar y gweithwyr Prydeinig yn ddiweddar, ac ni chollodd Mr R. Bell, A.S., a Mr Keir Hardie, A.S., amser i'w ateb yn gryf. Gellid dysgwyl yn amgenach oddiwrth Mr Campbell. Nid hon yw y waith gyntaf iddo yn anffodus ruthro i dynu casgliadau anheilwng ar gynseil- iau pwdr. Deil y gweithiwr i'w gymharu ag unrhyw ddosbarth yn y tir. CYFLWYNODD y gyrwyr tanddaearol eu cais am ad-drefniad yn eu eytundeb yn nglyn a'u cyflogau, i'r Meistradoedd ar y Bwrdd Cymodol yn Neheudir Cymru. Ond ei wrthod wnaed. Mynai Mabon, A.S., iddo gael ystyriaeth bell- aeh; Addawyd gwneyd hyny, ond heb un lie i gredu y derbynir ef. LLWYDDODD Glowyr Forest of Dean i wneyd cytundeb newydd am dairblynedd mewn ffordd o Fwrdd Cymodol, a sicrhau manteision ych- wanegol trwy hyny. Ceir y Fasnach Lo wedi arafu tipyn. Y mae dyddiau segur yn cael eu iluosogi yn y glofeydd. CEIB tipyn o ymryson hefyd yn nglyn a'r Gwrth-Undebwyr, ac yn Llwynypia ceir ych- ydig annealldwriaeth rhwng gweithwyr a swydd- ogion. Cyll y gweithwyr rai manteision fu yn eiddo iddynt. Dysgwylir y gwna Cynrychiol- wyr y Bwrdd Cymodol ddwyn hyny i derfyniad boddhaol, heb wneyd cam a neb. ANHAWDD dyweyd pa fodd y try y Rhyfel yn y Dwyrain pell ar hyn o bryd. Ceir y new- yddion o faes y gwaed yn gwrthddywedyd cryn lawer. Eto, saif Port Arthur heb syrthio, ac ymddengys brwydr fawr ar gymeryd lie yn nghymydogaeth Mukden. Dichon y pender- fynir tynged yr ymgyrch gyntaf yno.
UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMREIG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMREIG. Cy n e'ir Ucbel W) 1 nesaf yr Undeb ucboj yo Nbredegar, ar y dyddiau LluD, Mawrtb, Mercher, ac Iau, Gorpbenhaf lOfed, lleg, 12fed, a'r 13eg-, 1905. Mae y Rbaglen erbyn byn, byd at ycbydig taDyliOn, wedi ei gorpher. Bydd sn ddymunol, efallai, gin lawor i gael gwybod y trefniadau. Y maent fel y canlyD Nos Lup, Gorphenhaf 10fed, Cyfarfod D rwestoJ. Llywydd-LVIr Hugh Edwards (Huwco Penmaen), Rhyl. Areitbir gan y Parcbn W. Evans, Salem, Mertbyr, ar 'Hawl'au Sir Fynwy i Ddeddf Cau y Tafamdai ar y Sabbath W. Ross Hughes, Borfbygpst, ar 'Adfydau Plant oddiwrth y Fasnach FeddwoJ, fel cymhelliad i'r Eglwys i ofelu am danyrit J. O. Evans, Gilfach Gocb, ar Urddas y Bywyd Crefyddol, fel Cymhelliad i Aelodau Eglwysi? Lwyrymwrtbod oddiwrth y Diodydd Meddwol.' Am 7 o'r gloch, boreu ddydd Mawrth, Gorphenhaf 11 eg, cynelir Oyfcillach Grefyddcl, dan lywydd- iaeth y Parch R. Tbotnss, Glindwr, yr hwn befyd fydd yn agor ymddyddan ar 'y Perygi i'i, rhai sydd yn dysgu crefydd i ereill esgeuluso dysgu eu hunain.' Am 9 o'r gloch, Pwyllgor yr Undeb. Am 10.30, Cyfarfcd y Gronfa. Gwneir y trefa- iadau eto gan Bwyllgor y Gronfa. Am 2 o'r gloch, Cynadledd Busnes. Ami o'r gloch ynyrltwyr, traddod'r Pregethau yr Undeb, gan y Parcbn O. L. Roberts, Lerpwl, a D. A. Griffith, Troedrhiwdalar. Dydd Mercher, Gorphenhaf 12fed, am 9.30 o'r gloch, Cynadledd yr Undeb, prydi y traddoda Mr Josiah Thomas, LerpwJ, ei I Anei,chiad o'r Gadair.' Ar ol yr Anerchiad, gweinyddir yr OrdiDbad o Swper yr Arglwydd.' Am 2 o'r gloch, Cyfarfod Addysg. Llywydd, Mr D. Evans, Manordaf, Whitland. Darllenir papyr gan y Parch J. Harry, Ysgol yr Hen Goleg, Caerfyrddin, ar Gwestiwn Addysg fel y bydd wedi dadblygu yn ystod y misoedd dyfodol. Ar yr un adeg, cynelir Cyfarfod yr Ysgol Sul. Llywydd, Mr J. Morris Ellis, Filint. Darllenir papyr gan y Parch J. Llewellyn, Borth, ar Safle bresenol yr Ysgol Sul o ran ei nifer, a nodwedd ei Haddysg.' Rhoddir Cynllun-Wers yn yr un cyf- arfod gan Mr D. R. Gay, ysgolfeistr, Llanwrtyd. Am 3.30, Oyfarfod Cenadol. Llywydd Mr T. Davies, King's Cross, Llundain. Darllenir papyr gan y Parch T. Lloyd Jones, B.A., B.D., Pencader, ar r OyfleustJra yr Efengyl yn wyneb y Deffroad Dwyreiniol.' Yn yr hwyr, cynelir dau Gyfarfod Cyboeddus- y naill yn Saron, Tredegar, a'r llall yn Ebenezer, Sirhowi. Llywyddiryn Nghyfarfod Saron gan y Parch L. James, Brynbank. Areithir gan y Parchn J. C. Lioyd, Ynysybwl. ar Beth ellir wneyd i ddyogelu Crefydd yn wyneb Trawsnewidiad IaithJ. T. Phillips, Hebron, ar Y Beibl fel Ffynonell Gwar- eiddiad D. G. Williams, St. Clears, ar 4 Ieuaa Gwynedd.' Llywyddir yn Nghyfarfod Sirhoivi gan Mr Henry Jones, Lerpwl. Areithir gan y Parchn B. D. Davies, Gwaencaegurwen, ar Y pwysigrwydd i Grefyddwyr fod yn fwy ymosodol i ddyrchafu a phuro Moesau Cymdeithas L. Evans, Capelywig, ar 'William Wroth a'i Amserau W. C.Williams, Llanrwst, ar 'Yr angenrheidrwydd am Gymru Unol i gyfarfod ag angenion ein Gwlad a'n Cenedl.' Rhoddir manylion pellach ar ol i'r Pwyllgor Lleol orphen ei drefniadau, pan anfonir y rhagleni allan. Maenclochog. D. WILLIAMS, Ysg. Hynaf.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
HYARCH ER&cq§p. GOLDENRETURNS I REGISTERED |jgj -i#¡;H!Í1,iii mllml\ Darlun o Pecyn Wns. ARCHER'S GOLDEN RETU RNS PERFFEITHRWYDD MYGLYS PIB.
Y DIWEDDAoR BARCH J. TAIHIRION…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
rhan fwyaf. Ar yr un pryd dichon y buasai yn well iddo ef ei hun i'r awenau gael eu dal yn llacach ganddo nag y gwnaed ambell waith. Ond ni ddaeth i'w feddwl i wneyd hyny, ac yr oedd wedi myned i'r weinidog- aeth mewn cyfnod pryd na feddyliai yr un gweinidog, ao na ddysgwyliai yr un eglwys i'r llywodraeth fod yn amgen na'rhyn ydoedd yn ei hanes ef. Cafodd Mr DAVIES fwy nag un cynyg i newid maes ei lafor. Gallasai symud i ofalu am eglwysi Cwmdar a Llwydcoed, ac atebodd yn gadarnhaol yr alwad a gafodd o Groesoswallfc. Pan ddaeth yr amser iddo ymadael ymgasglodd y tair eglwys o'i gylcb, gan ei orfodi i aros yn eu plitb, ac aros a wnaeth hyd derfyn ei oes. Ni feddyliodd ar ol hyny am symnd. Yr ydym yn credu yn gryf mewn gweinidogaeth sefydlog a phar- haol ar gyfrif ei manteision amryniol, ond nid yw, ac ni ddylai fod, yn ddieithriad. Tueddir ni i dybied y buasai yn well i Mr DAVIES yn bersonol pe buasai wedi symud. Wrth gwrs, nid yw y cyflog i fod y peth penaf, ond y mae y gydnabyddiaeth hono i'w hystyried yn ddifrifol, a buan y delo y dydd pan y gellir son am gyflog gweinidog yr Efengyl fel y sonir am gyflog rhywun arall. Darfydded y rhagrith cysylltiedig a'r mater ar frys, a gadawer mwy o le i synwyr cyff redin a chyfiawnder yn yr ymdrafodaeth. Cyflog fechan a gafodd Mr DAVIES ar hyd ei oes, ac ni allai fod yn amgen yn ol nifer a nerth yr eglwysi dan ei ofal. Peth arall A bAr i ni gredu y buasai yn well i Mr DAVIES symud ydyw iddo wneyd cam a'i hun fel pregethwr drwy aros mewn cyleh ag yr oedd o ran ei nodwedd yn atalfa i'w ddadblygiad. Gwell fuasai iddo gael ei osod mewn maes yn yr hwn y cawsai ei orfodi i fyfyrio mwy, gan ymdrechu bod i fyny a gofynion 'cynyddol yr oes. Yr oedd ynddo ddigon o adnoddau meddyliol, a chanddo dafod oedd fel pin yr ysgrifenydd buan. Meddai gof ardderchog, ac yr oedd yr Ysgrythyr at ei wasanaeth fel y mynai bob amser. Oherwydd amlder ei ddoniau parod, ei brofedigaeth oedd ymddi- bynu arnynt heb ymboeni digon yn y Gair a'r athrawiaeth. Er hyn oil gwnaeth ddiwrnod o waith ardderchog. Yr oedd yn nodedig o ffyddlon a theyrngarol i bersonau acachosion. Nid corsen yn ysgwyd gan wynt ydoedd ef, eithr un o gedrwydd mynydd Duw. Taened yr ARGLWYDD ei gysgod dros ei anwyl briod a'i blant amddifaid, yn gystal a thros yr eglwys a fu mor garedig. Bu Mrs DAYIES yn ymgeledd cymhwys iddo pan yr oedd mwyaf o angen hyny arno, a chafodd gan yr eglwys barch cynyddol hyd y diwedd. JOB MILES.