Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Y GOLOFN WLEIDYDDOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y GOLOFN WLEIDYDDOL. GAN GWLEIDYDDWR. Y Gyllideb nesaf. Dywedodd Ar^lwydd Welby un o'r prif awdnrdodau ar y Sefyllfa Gyllidol, y byddi tua phum' miliwn o ddiffyg yn y Gyllideb nesaf. Y mae ychydig o wythnosau er y dywedodd hyn, a dichon fod y gwelliant yn y Cyllid yn y cyfaraser wedi lleihau rhyw gym- aint ar y diffyg. Er efallai na bydd yn llawn bum' miliwn yn eisieu, eto, sicr yw y bydd swm pur fawr yn fyr i gyfarfod a'r gofyn. Dyma sydd yn dyfod o gefnogi Toriaeth. Nid yw hyn yn beth newydd yn ei banes. H leddiaut cyf- iawn y rhni a etholasant y Weinyddiaeth breseno! ydyw gorfod talu ei threuliau. Gresyn ydyw fod y cyfiawn yn gorfod dyoddef oherwydd yr anghyfiawn. Ond er mai gwastraff ac an- effeithiolrwydd ydyw banes Toriaeth yn mhob oes, eto, tegwch a. Thoriaid y dyddiau gynt ydyw cydnabod mai anaml, os erioed, y bu Gweinyddiaeth mor ddwfn yn y camwedd a'r gwar.adwydd ag ydyw yr hon sydd yn awr mewn awdurdod. Y mae wedi bod naw mlyoedd mewn swydd. Pa beth ydyw ei hanes? Pa beth ydyw y ffrwyth ? Yn ariano!, dyma ydyw .-Gwario diu cint a haner o filiynau ar y rhyfel yn Ne Affrica, a chodi ugain miliwn yn flynyddol ar dreuliau y Llywodraeth. Pa beth sydd genym am y symiau enfawr hyn ? Atebed y sefyl!fa yn Ne Affrica am y draul yno; a'r beichiau lletbol, a'r anrhefu gw-aradwyddus yn agos pob adran am y draul gartref. A pha beth ydyw hanes deddfwriaethol y Weinyddiaeth? Sicrhau deddf i dalu haner trethoedd lleol am- aethyddiaeth, yr hyn a olyga elw y tirfeddianwr deddf i orfodi treth am Addys? Enwadol; a deddf i ddyogelu buddianau y Fasnach Fedd. wol. Gwaddoli tirfeddianwyr gwaddoli cler- igwyr a gwaddoli darllawyr. Oni ysgubir y fath Weinyddiaeth o'r ffordd am byth, fe haedda gwerin y wlad gael ei gosod dracbefn dan draed y gorthrymwr creulawn. Yr ydys yn coelio pethau gwell am y bob), ac y ceir gweled pan ddaw yr Etholiad, eu bod yn benderfynol o ymlid yn llwyr apharhaol y-fath Weinyddiaeth edlychaidd, aneffeithiol, a threulfawr o'r ffordd yn hollol, gan osod yn ei lie ddynion a ofalant am gyfiawnder cyffredinol, ac nid ffafraeth deuluaidd a dosbarthiadol. Synir at hirymaros y bobl yn ngwyneb camwri mor fawr. Cyfarfod y D iffyg Teimiie cryn ddyddordeb a chywreinrwydd i geisio gwy- bod pa gynllun a gymer Canghellydd y Trysorlys i I gyfarfod a'r Diffyg. Mynegodd Mr Robson, un o brif ddynion y dyfodol yn y Blaid Rydd- frydig, dros fis yn ol fod cytundeb dirgelaidd rhwng Mr Balfour a Mr Chamberlain i osod toll o bump y cant ar imports-y defnyddiau a ddygir i borthladdoedd ein gwlad o wledydd tramor, er mwyn cyfarfod a'r diffyg yn y Gyll- ideb. Tarawyd y wiad a syndod pan wnaeth Mr Robson y mynegiad. Ei anghredu oedd y cam cyntaf. Yna dechreuwyd amheu ae ofni. Dywededd Mr Robson fod ganddo ef awdurdod uchet dros yr hyn a hysbysodd. Yn raddol, cryfhaodd ydybiaeth fod y peth yn wir. Dad- leuid fod y eyollun yn ddyfais ystrywgar i gyfuno amcanion y ddau ddyn. Amean y Prifweinidog ydyw yr hyn a eilw efe yn At- daliad-dal y llawddryll yn wyneb gwledydd tramor, gan ddyweyd, oni chaniatewch ffordd rydd i'n nwyddau ni, tollir yr eiddoeh chwithau yma. Trefn y Diflyndollwr ydyw tolli ar unwaith a diamodol. Dywedir fod y cynllun o dolii trwy gyfrwng y Gyllideb yn cyfuno y ddau mewn rhan, ac heb ddeddfu yn union- gyrchol ar y mater. Y fath yw y gred. iniaeth fod y eyd-ddealidwriaeth yn bod a hyny yn nghylchoedd Toriaeth, fel y gor- foledda y Caethfasnachwyr, ae yr ofoa y Rhyddfasnachwyr yn ddirfawr. Parodd y grediniaeth i rai anfon at y Canghellydd i ofyn a oedd gwir yn y peth, a'r atebiad oedd nad oedd efe yn myned i ddatguddio eyfrinach y Gyllideb cyn yr amssr. Barnai rhai fod yr atebiad hwn yn eadarnhau y dybiaeth yn hyt- rach na pheidio. Dadleuir y buasai y Canghell- ydd yn ei wadu yn hollol pe na buasai sail i'r hysbysiad. Os yw yn wir, ac os y cynygir yr hyn a awgrymir yn y Gyllideb, gorphenir y gorchwyl o orehuddio y Prifweinidog a. gwarad- wydd. Yn wir, bydd ei waradwydi yn eithr- adol yn hanes gwleidyddwyr. Ar ol mynegi mor bendaut dro ar ol tro na chynygir yn y Senedd hon i wneyd dim byd tebyg i osod toll ar,, imports i'r wlad hon, byddai y ddyfais awgrymedig yn fraiyehiad o'r fath mwyaf cywityddus, nid yn unig o'i gefnogwyr proffes- edig, ond o'r holl wlad. Ond er mor erchyll yr ymddengys y syniad, eto tuedda llawer i gredu fod y peth, nid yn unig yn bosibl, eithr yn debygol. Onid yw hyn yn ddifrifolp Pa beth sydd ya cyfrif am y ffaith fod dynion yn barod i gredu y fath beth am ddyn yn safle y Prif- weinidog? Dim ond hanes y dyn. Ei ym- ddygiad gwyrgam o ddechreuad yr helynt hyd yn awr sydd yn cyfiawnhiu y farn am dano. Os profa amser fod yr hyn a awgrymir yn wir, dylai y byraf ei olwg a'i edmygwr mwyaf cib- ddall weled mor llwyr ydyw gorthrechy Diffyn- dollwr ar y Prifweinidog. Cyfarfyddiad y Senedd. Dysgwylie y gelwir y Sen- edd at ei gwaith yn we,idol gynar yn Chwefror, yn benaf, fel y tybir, i dalu sylw i achos y llu sydd allan o waith yn Llundain a manau ereill. Pa beth a wna, neu a ddichon ei wneuthur, yn wyneb y sefyllfa syd-i ddirgelwch mawr. Fod y sefyllfa yn druenus a pheryglus sydd berffaith wir, ond pa feddyginiaeth a gyn- ygir ydyw yr anhawsder poenus. Wedi y delo y Senedd yn nghyd, ceir gweled pa mor awydd- us ydyw y Weinyddiaeth i ym lrin a'r mater hwn yo gystal a deddfwriaeth addawedig. Yn ol yr arwyddion presenol, Mesur i atal Estron- iaid fydd y prif waith. Sonir am Ad drefniad y Seddau, ond amheuir dilysrwydd yr amcan, er i'r Prifweinidog yr wythnos ddiweddaf hys- bysu un o'i gefnogwyr fod y ddau fater yn cael sylw difrifjlaf y Cyfrin-gynghor. Bernir mai Mesur Estroniaid gaiff y flaenoriaeth. Tybir mai hwn a fydd cri penaf yr etholiad. Os felly, profa fod yr arweiawyr yn ddall iawn i'r hyn a geisia y wlad. A chaniatau fod grym yn y cri am y mesur o gwbl, Llundain yn unig a effeithir ganddo. Nid yw y wlad yu gofalu fawr am y mster. Heblaw hyny, twyllodrus hollol ydyw y cri. Nid dyfodiad estroniaid o wledydd tramor sydd yn peri y cyfyngder a deimlir yn bresenol. Prin saith mil yn y flwyddyn sydd yn dyfod yma. Fel cri Toriaidd yn fynych, sham hollol ydyw hwu. Ymddengys fod ffydd cefnogwyr Diffyndolliaeth mor wan yn yr achos ar hyn o bryd, fel mai ail beth ydyw yn eu golwg fel cri etholiadol. Pwnc yr Estron sydd yn bob peth gan Mr Lawson yn Mile End, ond Masnaoh Rydd ydyw cri penaf Mr Straus, ei wrth- ymgeisydd. Y mae sedd arall yn wag. Bu farw Mr Digby, yr aelod dros North Dorset, yn ddiweldar, ac yindrechir adfeddianu y sedd hon. 0 1885 hyd 1895 eiddo y Rhyddfrydwvr ydoedd. Yn yr oruest ddiweddaf, 540 oedd mwyafrif y diweddar aelod, ac nid yw hwn yn ormod i'w droi yu lleiafrif y dyddiau hyn. Bydd Stalybridge, Mile End, a North Dorset, a phob un yn sedd Doriaidd, wedi rhoddi eu dedfryd ar y Weinyddiaeth a'i gwaith cyn diwedd y mis cyntaf yn y flwyddyn newydd. Dichon y bydd eu dedfryd yn elfen gref, os nad y brif un, yn yr hyn a benderfyna amser dadgorfforiad y Senedd. Prin y tybir y bydd yn hir ar ol cyf- lwyniad y Gyllideb, os deil hyd hyny. Os felly, bernir na sonir llawer am Ad-drefniad y Seddau yn y tymnor nesaf. Y mae y mater hwnw yn rhy fawr a pheryglus i'w drafod gan Senedd a G-weinyddiaethsyddar dranc. Dyogelach i'r holl wlad, yn gystal ag i Ryddfrydiaeth, ydyw iddo gael ei benderfynu gan Weinyddiaeth fyddo yn ddigonol i'r gorchwyl.

Y DIWYGIAD.

-----------'---_-----==-=…