Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

. AT EIN HOLL GEFNOGWYR

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AT EIN HOLL GEFNOGWYR -» ANWYL GYFEILLION,—Wrth eich A cyfarch ar ddechreu blwyddyn arall, diolchwn yn gynes i chwi am barhad o'ch cefnogaeth werthfawr yn ystod y flwyddyn ddiweddaf.. Teimlwn y dylai ein diolchgar- weh i ChWI fod yn fwy y tro hwn oblegid eich ffyddlondeb mawr i ni yn y cyfnewidiad pwysig yr ydym yn myned drwyddo. Drwy eich cydweithrediad chwi, ac yradrechion egniol mewn ffyrdd ereill, mae rhif ein der- bynwyr wedi cynyddu yn ddirfawr; ac os gwrandewir yr apel daer a anfonwyd allan yr wythnos ddiweddaf, ni thry yr anturiaeth allan yn siomedig. Bwriadwn i'r TYST, o ran ei fFurf a'i gynwys, ddilyn yr un llinellau ag mae wedi gymeryd ar hyd y blynyddoedd. Fel yr ydym wedi gwneyd er's misoedd bellacb, rhoddwn dudalen bob wythnos i Ysgrifau Arbenig gan ysgrifenwyr o fri. Ysgrifena H.' • T Nodion fel o'r blaen, ac ni raid eu canmol wrth neb ohonoch. Parha yr hen law i ysgrifenu Y Golofn Wleidyddol, ac ni ddianga ddim o bwys yn y byd gwleid- 6 yddol na rydd i ni ffrwy th ei farn addfed arno. Parha Dr Oliver i esbonio Y Wers Ryngwladwriaethol fel y mae wedi gwneyd er's blynyddoedd lawer bellach, ac nid oes achos pryderu na bydd yn arweinydd dyogel. Ceir Y Newyddiadur eto yn gyson, ond trefnir i'r ysgrifenydd wylio camrau'r Diwygiad yn benaf ar hyn o bryd. Daw Y Winllan hefyd yn ei thro. Parha PEDROG i ofala am Y Golofn Farddonol, a theimlwn fod y Golofn hon yn eithaf dyogel yn ei ddwylaw profiadol ef. Ysgrifena ein Gohebwyr ffyddlon o Dde a Gogledd, fel cynt, gan roi i ni hanes pob peth o bwys a ddygwydda yn ein heglwysi. Gyda diolchgarwch pur am bob cymhorth yn y gorpheiiol, a dymuniad taer am barhad ohono yn y dyfodol, Y gorphwysaf, Yr eiddoch fyth, JOHN THOMAS, Golygydd. Rhagfyr 24ain, 1904. | AT EIN GOHEBWYR. Meion Llaw —Y Golofn Farddonol--Abergwynfi—Cyf- arfod Ymadawol y Parch J. Oldfield Davies-Gair ar ran y Pagan—Llythyr oddiwrth y Parch W. Hopkyn Rees, China—Oyfarfodydd, &c. r.r Dymunir ar ein Gohebwyr i anfon eu Oynyrchion yn uniongyrchol i'r Swyddfa a'r Farddoniaeth i'r Parch J. 0, Williams (Pedrog), 30, Stanley-street, Fairfield, Liverpool.

Y DIWEDDAR BARCH R. THOMAS,…

IGALWADAU. !.