Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
GOGLEDD CEREDIGION.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GOGLEDD CEREDIGION. Bi,cnant.-Bydd yn chwith gan lawer ddeall fod y pregethwr nielus, y duwinydd craffus, a'r esboniwr medrus o Bronant yn ei fedd er yr wythnos o'r blaen. Yr ocdd Dr D. Rees yn adnabyddus i gylch eang o gyfeillion, a llawen oedd gan bawb ei weled yn wastad a derbynid ef i'r tai yr arferai ym weled a hwynt a breichiau agored. Bu yn pregethu am oes faith, a daliodd i wnayd hyny bron i'r diwedd. Rhyw ddwy flynedd|yn ol, collodd ei olwg, yr hyn a'i hanalluogodd ef i deithio > n mhell oddicartref fel yr arferai wneyd. Ond yn ei eglwys gartref, daliodd i bregethu i'r diwedd, a bu farw tra wrth y gwaith o ddarparu pregeth ar gyfer y Nadolig. Brodor o Gapel Drindod oedd y gwr parchedig hwn. Dechreu- odd bregethu gyda'r Methodistiaid tua'r flwyddyn 1847, ac ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidog- aeth yn y flwyddyn 1868. Gwnaeth lawer o ddaioni yn ei ddydd trwy gynghori, pregethu, a darlithio. Yr oedd yn awdwr amryw lyfrau, un o ba rai ydyw ei Esboniad ar Lyfr y Pregethwr, ac mae yn dra nodweddiadol ohono. Hynodid ef gan bertrwydd ymadrodd a pharodrwydd atebiad, gan ei fod yn feddianol ar gryn lawer o wit a humour. Perthynai iddo lawer o nodweddion, pa rai a'i gwnelai yn gymoriad ar ei ben ei hun, fel nad oedd ond un Dr Rees, Bronant Cysegrodd ei amser, ei alluoedd, a'i feddian u i'r Arglwydd ac er yn meddu rhyw fath o falchder diniwed, eto nid oedd yn ceisio yr eiddo ei hun, ond yr eiddo Duw. Yr oedd dydd ei arwyl yn ddangoseg o'r anwyldeb a deimlid tuag ato, canys daeth y wlad oddiamgylch yn llu i'w osod yn ei fedd. Aberystwyth.—Gofidus genym orfod cofnodi mar- wolaeth a chladdedigaeth Cadben W. Jones, Daren, un o ffyddloniaid yr achos Annibynol yn Aber ystwyth. Yr oedd yr ymadawedig yn adnabyddus lawn yn Ngogledd Ceredigion. Edrychid arno fel cymeriad nodedig, ac edmygid ef yn fawr ar gyfrif ei weitligarwch, ei ffyddlondeb, a chref- yddolder ei ysbryd. Byddai ei law a'i galon yn agored yn wasted i gynorthwyo pob achos teilwng gyda'r parodrwydd mwyaf, a hyny yn liollol dystaw a dirodres, heb eisieu ei weled na'i ganmol. Enillodd iddo ei hnn radd dda' o barch a dylanwad trwy 1 wasanaetbu swydd diacon yn dda' am dymbor maith, ao hefyd fel trysorydd ffyddlon yr Undeb Dirwestol yn y cylch hwn a bu ei fywyd pur, ei gynghorion doeth, ei brofiad addfed, a'i gyfraniadau haelionus, o werth a-chy- northwy anmhrisiadwy i'r eglwysi y bu efe yn golofn mor gref ynddynt am gynifer o flynyddoedd. Cafodd oes faith, a threuliodd hi yn anrhydeddus a defnyddiol, felyr edrychid arno yn wastad fel un o ragorolion y ddaear. Yr oedd ei uniondeb a'i onestrwydd yn arnlwg yn ei holl gysylltiadau. Ni wnai gam &'i gyd-ddyn. Gwyddai pawb a'i had- Waenai y gallent ymddiried ynddo. Buasai yn Well ganddo ddrygu ei hun yn ei amgylchiadau bydol na gwyro y graddau lleiaf oddiwrth union- deb er mantais iddo ei hun. Ni wyrai farn mewn nnrhyw amgylchiad, yn y byd nac yn yr eglwys, er boddio dyn. Yr oedd raewn ymddygiad bob amser yn dyweyd fel Elihu, 'Ni dderbyniaf yn awr wyneb neb. Ni wenieithiaf wrth ddyn.' D jn un wyneb oodd Cadben Jones. Yr oedd ei galon yn ei wyn- ebpryd, a'i wefusau yn llefaru yn unig yr hyn a gredai ac a deimlai, ac yr oedd pawb yn gwybod hyny. Rhoddid trwydded iddo ef i dd. weyd llawer o bethau na chaniateid i neb arall i'w dyweyd, oblegid ni ddychymygai ddichell, am nad oedd dim or cyfryw yn ei ysbryd. Yr oedd ei burdeb, ei nniondeb, a'i galon agored yn canmol eu hun wrth bob eydwybod. Arferem edrych ar y teulu bob amser fel e.graitIt hapus iawn o deulti crefyddol a dedwydd. Yr oedd Cadben Jones, a'i briod hawddgar sydd wedi b!aenu, fel Zecharias ac Eliza. beth, ill dau yn gyfia" n ger bron Duw, nc yu rhodio yn holl orchymynion a deddfau yr Arglwydd yn ddiargyhoedd,' a cliawsant yr hyfrydwoh o weled eu plant yn rhodio yn eu llwybrau, ao yn dilyn eu nesiamplau, a pha rai y mae y cydymdeimlad lUwyaf yn eu trallod a'a profedigaeth. Cafodd gladdedigaeth anrhydeddus. Gweinyddwyd ar yr
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
— ^41 SVHVARCH ER&C^I H pLDEN RETURNS! I REG1 STE^gj3=^ J j|p MJllml IlIilllrl'¡;í:t,¡;iIIJM."II!JI¡!I !II"!il -rp1!ml Darlun 0 Pecyn Wns. ARCHER'S GOLDEN RETURN i i ITER W YDI) MYGLYS PIB.
Y PARCH J. VINSON STEPHENS,…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y PARCH J. VINSON STEPHENS, PITTSTON, AMERICA Ya ddiweddar enillodd Mr Stephens Gadair arall. Cadtiii- Eisteddfod Lmstord ydoedd hOD, a'r testyo oedd 'Lowell.' S'aradai y bei niad yn uchel iawn am y cyfansoddiad, a cb^deiriwyd y bardd gyda rbwysi{ mawr. Dr Cynonfardd Edwards oedd yn arwain yn Jnefod y caleirio, a chyneswyd y setemon' gtn anerchiadau barddonol t mllyd.
PO N TY B.0 D C I N.I -I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PO N TY B.0 D C I N. I Cyfarfod Cystadleuol. Cynaliwyd cyfarfod cyatadleuol llwyddianus yn y lie hwn y 26ain o'r mis divreddaf. Mae hwn yn hen sefydiiad, ac yn un pobiogaidd, yn myned yn fwy felly bob blwyddyn. Yr oedd y He yn orlawn y tro hwn, a llawer yn gorfod troi yn ot o ddiffyg lie. Parhaodd rhai i sefyll od liallan am y tair awr y bu'r cyfarfod ar fyn'd. Cndeiriwyd yn fedrus gan Mr J. Williams, Afondale, Caergwrle, ac o firm Mri Idris & Co., Llundain, a gwnaeth ei waith er boddlonrwydd cyffreclinol, yn enwedig i'r pwyli^or oedd yn gyfrifol am lwyddiant arianol y cyfarfod. Arweiniwyd ar y llwyfan gan Mr D. Jones, Hartsheath Gardens. Olor- ianwyd y gwahanol gystadleuwyr gan y Mri E. Jones (Asaph Collen), Ffestiniog; J. Connah, Llanfynydd; Parch J. Conway Davies, Coed- llai. Enillwyd y prif wobrwyon gan Gor Bethel, Coedllai, arweinydd Mr E. Davies. Parti o'r lie, arweinydd Mr Joseph Williams. Mr Daniel Jones, Brymbo Miss Trevor, Coedllai; Miss Sarah Evans, a Miss Salie:Bellis. Adrodd- iadau:—Miss Williams, Lianarwon, a Miss Lizze Hughes, Coedllai. Diolchwyd yn gynes i'r brawd ieuanc, Thomas Francis Williams, am roddi benthyg ei piano yn rhad, ao i'r oil oedd- ynt wedi cynorthwyo i wneyd y cyfarfod yn llwyddiant. GOHEBYDD.
NODION.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
NODION. Bu farw y brawd ffydd- Y Parch R. Ion a hoff, Thomas, Pen- Thomas, Pen- rhiweeibr, ddyid Nadolig, rhiweeibr. yn y 50fed flwyddyn o'i oedran. Chwith g e n y m feddwl ei fod wedi gadael y fuchedd hon, canys ni bu siriolach, mwynach, na chared- ieach brawd nag ef yn rhengoedd gweinidog- ion Cymru. Ymladdodd yn ddewr yn erbyn afiechyd am amryw flynyddoedd, ac ni welsom ef erioed wedi colli ei obaith na'i wen. Pan byddai peswch blin y fronwst yn ei ddryllio a'i ysgwyd, deuai gair digrif yn ami rhwng y pesychiadau; ac inor gynted ag y byddai y pwl drosodd, byddai mor llawen a'r gog. Bu fwy nag unwaith wedi ei gloi i'w wely a'i ystafell am amser hir, ac ofnid fod y diwedd heb fod yn mhell, ond rhywfodd neu gilydd, deuai dros ei glefyd yn rhyfedd, ac ymaflai drachefn yn ngwaith y weinidogaeth. Yr oedd er's tro yn ymddangos yn curio ac yn gwanychu, ond daliodd i bregethu drwy'r cwbl. A phregethwr cynes, byw, a phoblog- aidd oedd ein cyfaill. Pan yn iach, yr oedd ei lais melodaidd, tegwch ei wedd, swyn ei berson, a'i bregeth dyncr, efengylaidd, yn cyfuno i'w wneyd yn anwylyn cynulleidfa- oedd. Cafodd lawer oedfa a hir gofir-un o ba rai oedd yr un a gafodd yn Nghaerdydd, o flaen Herber, flynyddau lawer yn ol. Ni bu yn fyr, ychwaith, o wasanaethu ei gylch fel dinesydd. Bu yn un 0 Warcheidwaid Pontypridd am ddeuddeg mlynedd, ac yr oedd yn gadeirydd un 0 bwyllgorau'r Bwrdd pan fa farw. Yr oedd yn ddwfn iawn yn serch ei bobl gartref; ac er idlo gael cynyg fwy nag unwaith i fyned i leoedd ereill, arosodd yn Penrhiwceibr trwy ei holl oes weinidogaethol. Yno yr urddwyd efvo Goleg y Bala yn 1882, ac yno bu farw yn 1904. Nawdd y Nef fo dros ei weddw a'i feibion, un o ba rai sydd a'i wyneb ar y wein- idogaeth. MAE yn anhawdd deall a Y Saeson a'r chysoni agwedd y Saes >n Diwyyiad. tuag at y Diwygiad yn Nghymiu. Mae un o'r gweinidogion amlycaf yn Lloegr wedi bod i lawr yn ceisio dal y tan, ac wedi dyweyd pethau cyraeralwjol iawn a:n yr holl fudiad mewn papyr a chynafllledd. Hiraethant am weled yr Adfywiad yn d'od drosodd i Loegr, a dywedir fod Llundain yn addfed iddo. Ac eto, dywedant na thai o gwbl yn ei nodwedd- ion prcsenol i bobl ac eghvysi Lloegr. Rhaid i'r ysbryd newid ei drefn with groesi y clawdd. Aeth y Parch Thomas Law, Ysgrifenydd Cynghor Cenediaethol yr Eglwysi Rhyddion, mor bell a dyweyd wrth Evan Roberts am ofalu peidio d'od i Lundain, nac i Loegr 0 gwbl. Yn wir, aeth y brawd hwn mor hyf a'i gynghori i beidio myned i Gaerdydd. Ni welsorn amlycach engraifFc o holl-ddigon- oldeb y Sais er's llawer dydd. Beth \vyr Mr Law am Gaerdydd? A belli ddywed yn wyneb y ffaith rod y Diwygiad wedi d'od i Gaerdydd, ac nad oes neb yn cael mwy 0 fendith drwyddo na'r Saeson, or mai mewn capeli Cymreig y cynelir y cyrddau ? Mae ugeiniLu lawei, o Saeson colledig wedi en harbed eisoes yn Nghaer- dydd. Dylai Mr Law ymbwyllo cyu tori llwybr i Mr Evan Roberts, rac i Ysbryd Duw. A thra yn son am Gaerdydd, gadawer i ni grybwyll dyrysbwnc arall. Mae'r bobl yn tyru i'r capeli Cymreig, ac yn gorfodi i'r cyrddau gael eu cynal yn Saesoneg. Ac eto nid yw gweinidogion Seisonig y dref, gydag ychydig eithriadan, yn d'od yn agos iddynt. Daw gweinidogion Seisoi.ig o Gernyw, Wilts, Llundain, a'r Alban i gyrddau Caerd^dd i brofi o'r Diwygiad, ond nid yw yn werth gan y brodyr Seisonig sydd yn byw yn y dref dd'od allan i'w weled o gwbl! Ac i wneyd y peth yn fwy anhyall fyth, cyhoeddant gyfl es 0 gyrddau yr wythuos hon i ofyii am i'r Diwyg- iad dd'od i Gaerdydl Mae'r Diwygiad yn Nghaerdydd eisoes, ac eisoes wedi gwneyd gwaith anhygoel, a'i iaith, gan mwyaf, yn Seisonig eithr y mae'r Sais am gael ei ffurf ei hun arno cyn y croesawa ef. Ni synem weled yr Ysbryd yn eu gomedd, neu ynte yn d'od at) nt yn Ei ffordd Ei Hun, ac nid yw bono na Chymreig na Seisonig. DVWEDASOM o'r blaeo mai Y Daily News.' un o'r pethau sydd yn ein syou fwyaf, yn ngln a'r ad- roddiadau geir or Diwygiad yn y Wasg Seis- onig, yw tlodi a theneuwch truenus adrodd- iadau'r Daily News. 0 holl bapyrau Llun- dain, efe yw y mwyaf plentyiaidd a di-sut. Amcana weithiau at y cyffrous, a gwna ei hun yn destyn tosturi pawb ystyriol drwy hyny. With geisio d'od o hyd i rywbeth na cheir ef yn y papyrau ereill, a yn chwerthin- llyd. Er engraifft, yr wythnos ddiweddaf adroddodd yn llawn ystofi a gafodd ei oheb- ydd gan weinidog adnabyddus yn Rhondda Fach. Yr oedd yn syn genym fod y gwein- idog hwnw wedi ei hystyried yn ddyledswydd arno i adrodd y fath 'stori wrth ohebydd papyr newydd, o:id yr oedd yti fwy syn genym fod y I ew)ddiadm hwnw wedi ei hargraffu o gwbl. Hanes gweledigaethau Evan Roberts ydoedd. Maent yn dair-ar- ddeg mown i-hif--saith ohouynt ) n cael eu lleoli yn y lieuad. Mae'r olaf o'r gyfres yn
GOGLEDD CEREDIGION.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
achlysur gan y Parchn Job Miles (ei weinidog), a T. A. Penry. Gwelsom y Parchn G. Parry, Llan- badarn, a J. Llewellyn, Borth, yn Aberystwyth cyn cychwyn, ond nis gwyddom pwy oedd yn bresenol yn mynwent Salem, Coedgruffydd, lie y gosodwyd ei weddillion i orwedd, gan nad oeddem wedi gallu cyrhaedd hyd yno. Na phalled i'n heglwysi wyr o gyffelyb feddwl, ysbryd, a buchedd ag oedd ef.