Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

CONVENTION KESWICK.

LLYFRGELL GYMREIG COLEG PRIFYSGOL…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYFRGELL GYMREIG COLEG PRIFYSGOL GOGLEDD CYMRU, BANGOR. TCHWANEGIADATX PWYSIG. Yn ystod tymhor presenol y Coleg, gwnaeth Llyfrgell Gymreig y Coleg gynydd hynod o foddhaol. DerbyniWyd nifer lluosog o roddion gwerthfawr, yn cynwys amryw Jyfrau Cymraeg prinion iawn. Cyfoethogwyd y llyfrgell yn fawr drwy rodd haelionus o holl lyfrau Cymraeg y diweddar Mr W. Cadwaladr Davies gan ei weddw enwog, Mrs Mary Davies. Yn ychwan- egol at y rhoddion hyn, hysbysodd y Llyfrgell- ydd iCymreig, Mr T. Shankland, y pwyllgor diweddaf ei fod wedi dewis a phrynu nifer mawr o lyfrau o lyfrgelloedd tri o lenorion Cymreig fuont feirw yn ddiweddar, sef yr Hybarch Archdderwydd Hwfa Mon; y Parch T. Dennis Jones, Llanllechid; a Mr R. J. Humphreys, Bangor. O'r llyfrgelloedd hyn sicrhawyd i'r Coleg nifer dda o argraffiadau cyntaf prinion ao an- hawdd eu cael o weithiau y beirdd Cymreig; casgliad o weithiau ar ddaearyddiaeth ac hanesiaeth leol; a chasgliad pur gyflawn o bob math ar lyfrau yn dal perthynas a. phlwyfi Bangor, Llandegai, a Llanliechid. Yn ystod y flwyddyn, y mae Mr Shankland wedi bod wrthi'n ddygn yn cyflawni, mor bell ag y gallai, restri'r prif gyfnodolion a gweithrediadau'r gwahanol gymdeithasau dysgedig sy'n ymdrin ar Gymru. Ceir yn y Llyfrgell Gymreig yn awr gopiau cyflawn, neu yn ymyl bod yn gyflawn, o'r Archaeological Cambrensis,' 4 Mongomeryshire Transactions,' Bye-Gones relating to W. ales,' Y Cymmrodorion Tran- sactions,' 'Record Series,' a'r Cymmrodor,' 'Revue Celtique,' 'Zeitschrift fiir Celtische Philologie,' 'Cambrian Register,' 'Cambro- Briton,' Cambrian Quarterly Magazine, Seren Gomer 1814-5, Seren Gomer 1818-1906, y Gwyliedydd, y Dysgedydd, y Gwladgarwr, yr Adolygydd, y Beirniad, y Traethodydd, &c. Yn ystod y flwyddyn sicrhawyd amryw o bethau prinion a.dyddorol iawn. Yn eu plith gellir enwi fel engreiff'tiau yr ychydig a gan- lyn :—' Copi bron a bod yn gyflawn o I Gweled- igaethau y Bardd Cwsc,' 1703-argraffiad cyntaf llyfr anfarwol Ellis Wynne copi per- fiaith o Eglurhaad o Gatechism Byrraf y Gymanfaprintiedig yn Nhrefhedyn gan Isaac Carter, 1719—hwn ydoedd y llyfr cyntaf a argraffwyd yn Nghymru; 'Maddeuant i'r Edifeiriol'—printietig yn JSTghaerfyrddin gan Isaac Carter, 1725-6—hwn oedd y llyfr cyntaf ddaeth o wasg Carter wedi iddo symud o Gastellnewydd Emlyn i Gaerfyrddin; yr ar- graffiad cyntaf a'r ail o 'Hanes y Byd a'r Amseroedd,' gwaith Simon Thomas, Henffordd —daeth yr argraffiad cyntaf allan o wasg Sion Rhydderch yn 1718—ni chofnodir hwn yn Llyfryddiaeth y Cymry,' a'r ail o wasg Sion Batty, Llundain, yn 1721; Testament ein Harglwydd Iesu Grist, wedi ei gyfansoddi yn Benillion Cymreig/ 1653—gwaith Rice Jones, Llanfair yn Nghaer Einion; 4 Prif Fanau Crefydd Gristionogol,' 1658-cyfieithia.d o waith Ussher, gan Rowland Fychan, Caergai, &c. Cynwysa'r Llyfrgell Gymreig yn awr gasgliad ardderchog o'r prif lyfrau sydd yn ymdrin ar Gymru-ei hanes, ei hiaith, a'i llenyddiaeth. Gyda pharhad rboddion haelionus y cyhoedd, a'r gefnogaeth frwdfrydig a rydd Cynghor y Coleg iddi, bydd y Llyfrgell Gymreig mewn byr amser yn drysorfa anmhrisiadwy o bethau Cymreig i ymchwilwyr yn mhob cangen o wybodaeth yn dwyn perthynas a Chymru.

CYMANFA GANU ANNIBYNWYR, CWMGARW.…

BEULAH, BRYCHEINIOG.