Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

NODION. --_.----_-

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

lud haul dydd yr argyhoeddiadau dyfn- ion. Teimlwii wrtli ddarllen rhai o ddat- gauiadau Mr Campbell yn y newydd- iaduron fod llawer ohonynt yn gwrthdaro yn erbyn rhai o'm syniadau cryfaf a'm hargyhoeddiadau dwysaf; ond teimlwn hefyd nas gallwn amddiffyn fy marn fy hun heb yn gyntaf glywed Mr Campbell yn egluro ei safbwynt, lieu fy hunan ddarllen ei lyfr addawedig ar y mater. Erbyn hyn yr wyf wedi cael y ddwy fraint, a theimlaf bellach yn hollol rydd i ddatgan fy argyhoeddiad yr un mor gryf, er nad mor alluog, ag y gwna Mr Campbell. A chyda llaw, dymunwn wiieyd liyny gyda mwy o hynawsedd am ei syniadau ef, pan yn anghydweled a hwy, nac y gwna efe yn ami yn ei lyfr, ac weithiau ar y llwyfan, am eiddo ei wrthwynebwyr. Arwydd o wendid yw galw barn onest gwrthwyneb- ydd yn nonsense a gwrthuni' croes i gysondeb moesol a f synwyr eyffredin.' Mae dyweyd yn gynar yn ei lyfr fod y Duw a briodola efe i'r uniongred yn spite- ful a silly' yn fwy o rwystr nag o help i ddadl deg ac ymehwil am y gwir, Ond mae'n bryd myned at ei anerchiad i weinidogion, a phregethwyr, a myfyrwyr yn Nghaerdydd y LInn, Mawrth yr 17eg. Cafodd dderbyniad croesawgar dros ben, a chasglwn oddiwrth swn ac ardymheredd y rhan ieuengaf yn arbenig o'r cynulliad, os oedd yno bias neu ochraetli blaenllaw o gwbl, ei fod yn hollol o blaid Mr Camp- bell. O'r hyn lleiaf, gydag arwyddion o absenoldeb beirniadaeth wrthwynebol yh hytracli nag fel a rail, y derbyniwyd bron yr oil a ddywedai. Nid oedd ond dau neu dri o bcthau y teimlem wrthwynebiad i'w ffordd o gyfeirio atynt yn yr anerchiad. Vr oedd swn contempt yn ei wrthodiad o'r Cwymp; a dywedodd nad oedd neb gwerth ei haleu heddyw a gredai mewn tragywyddol gosb. Oddigerth hyn, nid oedd dim yn null ei anerchiad y gellid beio arno. Cydsyniwn yn hollol a'r geiriau crylion a ddywedodd am y pellder gor- modol sydd rhwng ein credoim a'n syn- iadau crefyddol a'u bywyd eyffredin— ein bod yn cael ein llywodraethu gan ddel- irydau ac egwyddorion gwahanol ar ch\vè' diwrnod yr wytlmos i'r hyn a ga yr lioll sylw ar y Sabbatli, ac fod crefydd, mewn eanlyniad, wedi myned yn unreal i lawer, a pheri iddynt yniddyeithrio O'M haddol- dai. Ar y chwe' diwrnod, meddyliwti, a gweithiwn, a chyfeiriwn ein bywyd fel pe bai y byd hwn a'i waith a'i ddyledswyddau yn un go lew, yn deilvvug o'n liviii goreu, a bywyd yuddo ar y cyfan yn werth ei fyw. Ond pan ddeuwn at ein gilydd ar y Sabbath 1 adcloli, gwnawn ein goreu i drin a beio'r byd a'i bethau i gyd, i ganu am y nefoedd, a chymeryd arnom ein bod yn ymawyddu afil fyned iddi; ond pan ddaw'r adeg i hyny gyineryd lie, hynod mor anmharod ydym i adael y byd. Rhaid i mi addef fy Illod wecli teimlo yn ofidus ryfeddol lawer SWaith i glywed torf fawr o bobl ieuainc |.ach, lawen, gysurus, yn caiiu yn gwyn- anus y sham hwnw o emyn, mor belled ag Hiaent hwy yn y cwestiwn :— Beth sydd imi yn y byd Ond gorthrymder niawr o hyd.' ^'rtb basio, ca.niata.er i mi ddyweyd fod yin ft au emynau yn ddifrifol o feius ar y mater hwn anhawdd cael cymaint ag trnyn ynddynt nag ydyw yn troi rhywle cyn ei ddiwcdd i gymydogaeth y glyn a'r byd arall. Mae eisieu mwy o ddifrifwch a bywyd l'ii gwasauaeth crefyddol—mwy o reality, nid yn yr ystyro o nestrwydd, canys mae'r pwlpud a'r Eglwys mor onest ag y bu erioed, ond yn yr ystyr o dd'od a'r cyfan i arweddu mwy ar gymeriad, a bywyd, a gofynion pobl heddyw, gyda'r anican o'u codi, a'u helpu, a'u glanhau yn ysbrydol a chymdeithasol. Dyma un o resymau Mr Campbell dros hawlio ail-fynegiad neu gymhwysiad ne- wydd o athrawiaethau'r Efengyl i gyfar- t,Y fod ag angenion newydd yr oes yn feddyliol a chymdeithasol. Cydsyniaf a hyn hefyd, mor belled ag y bo'r mynegiad newydd yn cynwys ffeithiau hanesiol yr Efengyl. Nid yr athrawiaeth am yr lawn sydd bwysicaf, eithr yr lawn ei hun. Nid yr esboniad ar vr Iesu goruwchnaturiol drwy Hi enedig- aetli wyrthiol o'r Fonvyn Fair sydd yn cyfrif, ond y ffaith 11 fod yn oruwch- naturiol yn ol Ei gymeriad a phrofiad yr Eglwys oliono. Os gellir cael gwell system i gylymu yn nghyd, ac i gario yn well, ac egluro yn llwyracli, y ffeithiau fel y ceir hwy yn yr hanes na'r cyfundrefnau pres- enol, croesawir hi gan bawb yn ddiwahan- iaeth. Ond rhaid iddi gynwys y newydd- ion da,' ac nid can llawer ohonynt allan er mwyu cysondeb, a phryclferthwch, a symlrwydd y system. Mewn geiriau ereill, os oes modd ffurfio gwell eyfrwng duwin- yddol na'r un, neu y rhai, presenol i dd'od a'r Iesu personol i gyffyrddiad a'r byd— oblegid Efe, wedi'r cyfan, sydd yn enill a chadw dyftion, ac nid damcauiaeth am d-allo-nid oes Gristion cywir ar wyneb y ddaear na thai y warogaetli fwyaf diolch- gar i Mr Campbell am dd'od o liyd iddo. Hyd yn hyn, gan hyny, yr wyf mewn perffaith gydgordiad a'r pregethwr hyglod. Pan y dechreua, fodd bynag, ar ei eglur- had a'i fynegiad newydd o ffeithiau Crist- ionogaeth, buan yr wyf yn d'od i wrth- darawiad ag ef, os yn ei ddeall yn iawn. Ni wnaf heddyw ond yn 1111ig gyfeirio at yr hyn glywais ganddo. yn Nghaerdydd ond gwelaf fod ei lyfr yn myned yn mhell- ach i'r un cyfeiriad hyd yn nod na'i anerchiad, er yn hollol gysou ag ef. Dywedodd yn onest ei fod yn sylfaenu ei dduwiuyddiaeth ar ei athroniaeth, ac inai unoliaeth delfrydol pobpeth, neu ddef- frydiaeth unrhywiol (monistic idealism) ydyw ei gredo athronyddol. Mewn geiriau syml, gwirionedd mawr y system hono yw mai ymwybyddiaeth ysl)rydol ydyw yr unig beth sydd yn bodoli yn wirion- eclelol-yr unig reality. Rhywfodd neu gilydd, mae mater yn gynwysedig yn y meddwl, neu yn fynegiad oliolio. Ni fedd fodolaetli ar wahan i feddwl. Ac felly mae pob peth y bydysawd i gyd, gan gynwys dyn, yn fynegiad o ymwybydd- iaeth neu feddwl mawr, a hwnw yw Duw. Can hyny, trigiant y Duwdod yn mhob- beth yw yr egwyddor sydd i egluro Crist- ionogaeth i gyd. Dyma athrawiaeth y Mewn-fodaeth Dwyfol (Divine Imman- ence). Er mwyn gwneyd cyfundrefn res- ymegol ac eglurhaol o Gristionogaeth, rhaid eysoni pobpeth sydd ynddi a'r egwyddor lion ac os bydd rhyvvbeth a dybir yn ffeithiau yn gwrthod ymgysoni a hon, wel, gwaethaf yn y byd i'r ffeithiau. 't Rhaid, costied a gostio, gael cyfundrefn syml a apelia at ddeall yr oes. Wrth gwrs, mae pawb yn cydnabod fod Duw yn niliob peth ond a ydyw ynddynt yn ystyr Mr Campbell sydd gwestiwn arall. Modd bynag, gofynais dri chwestiwn iddo er mwyn gweled beth a olygai. Atebodd ddau ohonynt, a dechreuodd ar y trydydd, end aeth oddiwrtho heb gyffwrdd a'i bwynt. Gwrthodai gydnabod dim am y Duw mawr sydd tu allan i'r hwn sydd yn trigiaiiu, ac yn mynegu ei hun yn y cread, ac yn arbenig yn Iesu. Felly gofynais, A yw y Duw Anfeidrol yn meddu ar Berson- oliaeth ac os felly, ai nid y Ifordd oreu i synio am ei fewn-fodaeth yw yn y wedd o ddylanwad ysbrydol ? Fy amcan oedd ceisio awgrymu fod mewp-fodaeth syl- weddol yn bosibl, heb fod liolio yn gwrtli- ddyweyd ei hun wrth greu personau ereill. Os yw Duw yn fod personol,' a dyna'r llinell a gymer Duwinyddiaeth 11 h auiddiffynol (Apologetics), mae yn an- mhosibl i mi ag arall fod yn feddianol ar ei ddwyfoldeb personol EI. Atebodd Mr Campbell nad oedd yn gywir i feddwl am Dduw fel bod personol, am fod personol- iaeth yn golygu meidroldeb, ac mai Uwch- bersoiiol (Supra-personal) fyddai y term goreu. Pe cawswn ateb, buaswn yn gofyn paham y gwrthodai feddwl am y Duw Uwch-fodol (Transcendent), tra yn gallu meddwl am yr un uwch-bersonol ? Beth yw'r gwahaniaeth rhyngddynt ? Hefyd, ai nid yw yr Uwch-bersonol yn cynwys y Personol ? Os mai cariad ydyw Duw, rhaid Ei fod yn Berson. Ond yr oeddwn wedi haner ddysgwyl yr atebiad, ac wedi gofalu am ofyn cwestiwn arall ar yr un papyr, sef, Beth yw perthynas Duw a rhyddid evvyllys personau" ereill yn ugoleuni yr athrawiaeth o fewn-fodaeth liollol a llytliyrenol ? Osgodd hwn drwy ddyweyd fod y gofyniad hwn eto yn golygu fod Duw yn Dduw personol,' a'i fod wedi aros gyda hwnw. Credaf iddo gamgymeryd fy ligofyuiad, neu i mi ei ofyn yn drwsgl. Olid fy amcan oedd dangos fod Duw yn rhwym o gyfyngu rhyw gymaint irtio ,I Hun wrth roddi rhyddid ewyllys i ereill, ac felly mai Personol yw y term goreu am dano. Gwelaf erbyn hyn nad yw Mr Campbell yn caniatau rhyddid ewyllys, ac yn hyn mae yn gysou. Fy nhrydydd gofyniad oedd. Beth oedd eisteddle awdurdod llleWll crefydd ? Diolehodd am v cwestiwn, ac atebodd ef ar unwaith drwy ddyweyd mai o fewn y dyn ei hun y mae. Nid yw'r Beibl i gyfrif, ond fel y mae yn apelio at ein cydwybod, a'u deall, a'n profiad crefyddol. Y11 wir, mae Mr Campbell yn addef yn rhydd nad yw yn seilio ei dduwiuyddiaeth ar Gredo, na Beibl, nac Eglwys. Mae'r oil yn sylfaen- edig ar Fewn-fodaeth Ddwyfol, Mae ei gyfrol yn ategu hyn i gyd. Newidia yr egwyddor hon yn llwyr a hollol y syniad eyffredin am Berson Mab Duw, am Bechod, am yr lawn, am yr Ysgrythyr, a phobpeth, ac, yn fy uiryd i, mae'r ffeithiau eu hunain yn newid yn ogystal a'r athrawiaeth. Nid Iesu'r Testament Newydd, nac lawn neu Gymod y Testa- ment Newydd, na Phechod y Beibl, geir yn nghyfundrefn Mr Campbell, ond y pethau hyn oil yn ngoleu Hegeliaeth. Waeth beth ddywed, Uudodiaeth gy- medrol yw ei safle. Profaf hyn eto. H.