Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
7 erthygl ar y dudalen hon
JUBILI DR GRIFFITH JOHN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
JUBILI DR GRIFFITH JOHN. At Olygijcld y Tyst. SYR,—Daeth i'm Haw y boreu hwn archeb am 2s 6c i Drysorfa Jubili Dr Griffith John. Pe cawn y byd ni allwn gileI allan enw na chyfeiriad y rhoddwr. Diolch yn fawr iddo, pwy bynag ydyw. Bydd yn bleser genyf dderbyn pob swm a anfonir i'r amcan teilwng uchod, a gofalaf fod y trysorydd yn eu cael yn ddyogel. Aberystwyth. J. MILFS.
CYMDEITHAS GENADOL LLUNDAIN…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYMDEITHAS GENADOL LLUNDAIN A GWOBR-LYFR Y PLANT, 1907. At1 Olygydd y Tyst. SYR,—Da iawn oedd genyf ddarllen adolygiad ar cz y Ilyfr uchod yn y TYST a r Dysgedydd. a'r ganmol- iaeth a roddid iddo gan y ddau adolygydd. Fel y mae yn hysbys, yr awdwr ydyw y cenadwr poblog- aidd a llwyddianus, y Parch W. Hopkyn Rees. Hwyrach nad oes yr un cenadwr wedi taflu ei hun yn fwy llwyr i wasanaeth y Gymdeithas nag y mae ef wedi wneyd, ac feUy wedi ac yn bod yn llwydd- ianus iawn yn China. Bu Ilawer o siarad. ac ysgrif- enu am gaeJ llyfr Cymraeg i'r plant am gasglu yn lie eyfieithiad o'r Saes >neg yr ydym bellach wedi cael ein dymuniad. Y mae y Gymdeithas felly wedi bod yn garedig iawn i ni, ac fel rheol, y mae car- edigrwydd yn tynu y goreu allan o ddynion. A wna yr boll eglwysi ymreig eleni gyfranu llawer iawn yn fwy nag erioed fel ad-daliad i'r Gymdeithas am ei charedigrwydd yn camatau i ni yr hyn y d; mun- em am dano ? Yr unig beth sydd eisieu ar bob eglwys ydyw yfed yn helaethach o ysbryd y Gwar- cdwr. sef y Cenadwr cyntaf; fe fyddai y gvvaith wed'yn yn bleser a hyfrydwch. Nid oes dim yn rhoddi bywyd mewn eglwys fel ysbryd Cenadol- ysbryd y Gwaredwr ydyw hwnw-a gwyn fyd yr eglwysi sydd yn feddianol arno. Y mae lie i ofni nad ydyw yr achos Cenadol yn cael fawr iawn o sylw mewn llawer o eglwysi. Pe bai pob eglwys yn arfer y plant i gasglu. a bod yn garedig iddynt a'u cyfarwyddo, fe gesglid felly symiau da, a dysgid y plant i wneyd gwaith ardderchog. Gobeithio y bydd y Gwobr-lyfr eleni yn rhoddi bywyd newydd yn mhob eglwys Gymreig drwy gyfranu yn hael- ionus a Ilawen. Fe ddylai De a Gogledd fod ar eu goteu. Ganwyd y Parch Hopkin Rees yn y De, a Mrs Rees yn y Gogledd; ac erbyn hyn y mae y ferch wedi ymgymeryd a'r un gwaith. Ni ddylai yr un eglwys esgeuluso casglu at y Genadaeth, oblegid dyna amcan mawr pob eglwys ddylai fod cael y byd at y Gwaredwr. Diolch i Dduw am y llwyddiant sydd wedi cymeryd lie eisoes, a chredwn fod llwyddiant mwy i gymeryd lie yn fuan iawn. Y mae Duw yn barod-yr eglwysi sydd ar ol. Pa bryd y daw pob eglwys yn Nghymru i wneyd ei rhan i'r pag"n tlawd ? Gobeithio y bydd y casglad Cenadol o (iymru eleni ganoedd yn fwy nag erioed, a buan y delo yr adeg pan y byddo holl deyrnasoedd y ddaear wedi dyfod yn eiddo i'r Hwn fu farw drostynt Cymer. D. LLOYD.
DARLLEN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DARLLEN. At Olygydd y Tyst. SYR, -Yr ydym yn byw mewn oes ag y inae y cyfleusderau i ddarllen yn ami ac yn lluosog iawn. Ceir digonedd o lyfrau, ac y mae y pi-inder oedd yn nodweddu yr oesau blaenorol wedi diiianu yn llwyr. Heblaw hyn, ceir yn mron yn mhob lie yn ttwr lyfr- gell gyhoeddus yn rhydd i bawb fyddo yn dewis cymeryd mantais ar y cyfleusdra i'w mynychu. Ond er yr holl fanteision, gorfodir ni i deimlo pan yn edrych ar fwyafrif ieuenctyd ein gwlad, yn enwedig ieuenctyd ardaloedd poblog y wlad, fod yna un o'r prif gymhwysderau i ddarllen yn eisieu-archwaeth. Sylwch ar y modd y treulia mwyafrif ieuenctyd yr ardaloedd poblog yma eu horiaii hamddenol. Gor- phenant eu diwrnod gwaith Eir ol hyny gwelir hwy yn ymgasglu yn dyrau ac yn sefyll ar gonglau yr heolydd, gan ddifyru eu hunain mewn gwag-siarad, neu ynte treuliant eu hamser i chwareu pel-droed, neu rywbeth cyffelyb. Ni feddyliodd y bechgyn hyn eu bod wrth wneuthur pethau o'r fath, nid yn unig yn niweidio eu meddyliau, ond eu cyrft hefyd. Yn ytod y dydd gweithiant yn galed a gwahanol ranau o'r corif, a phair yr ymarferiad yma i r gwaed i redeg o'r ymenydd ac er mwyn cael ymarferiad cyflawn, dylai y corff gael gorphwys er mewn i'r gwaed gael cyfle i fyned fr ymenydd drachefn. Ewch yn awr am dro drwy ystafelloedd Ilyfrgell- oedd y lleoedd poblog yma. Pa ystafell fynychir fwyaf ami ? Pa un yw y lawnaf ?-y reading room ? Nage, ysywaeth. NI welir yn hon ond ambell un yma a thraw ar hyd yr ystafell. Pa un yw y lawnaf, ynte ? 0, y game-room o ddigon. Gofynwch i geidwad y llyfrgell a ydyw y becbgyn sydd yn llanw yr ystafell hon yn darllen ychydig, a daw yr atebiad yn y fan—' Na, nid llawcr. Yma y treuliant hwy eu hamser. Pan wedi cyrhaedd yr ystafell yn mha un y cedwir y Uyfrau, daw y gofyniad i'ch meddwl-Pa lyfrau yw y rhai mwyaf o alw am danynt ? Sylwch, a chewch weled mai y nofelau ydyw y rhai nnvyaf poblogaidd o ddigon. Wel, y mae y dosbarth dreulia ei amser i ddarllen nofelau yn well na'r un dreulia ei amser yn gwbl i chwareu. Nid oes dim i'w ddywedyd yn erbyn darllen nofelau safonol da- gallant fod o fudd i'r darllenwr mewn mwy nag un cyfeiriad ond gwendid y dosbarth hwn ydyw ei fod yn aros gyda'r nofeiau-yn treulio ei holl amser gyda ffug, heb ymestyn yn mlaen at wir ddiwylliant. Dylai y dosbarth hwn ddarllen rhywbeth trymach bob yn ail a'r nofelau, er mwyn casglu gwybodaeth a fydd yn fuddiol iddynt. Ond y mae un dosbarth eto, ni a gredwn, sydd yn treulio eu hamser mewn gwaeth modd na'r ddau tlaenorol-y dosbarth hwnw dreulia ei amser i ddar- llen y papyrau anheilwng hyny wasgerir ar hyd a lied ein gwlad Darllenir y papyrau hyn, nid yn unig gan ddynion ieuainc, ond hcfyd, ysywaeth, gan blant heb adael yr ysgol ddyddiol Canfyddir can- lyniadau andwyol darllen y papyrau hyn weithiau mewn achosion a ddygir ger bron ein llysoedd barn. Faint o blant a dynion ieuainc sydd wedi eu cynhyrfu i ladrata, &c., drwy ddarllen lIenyd diaeth o'r fath hyn Ac nid niweidio y darllenwyr mewn ystyr foesol yn unig a wna y lenyddiaeth-er mai hwn ydyw y niwed mwyaf a phwysicaf—ond niweidia hwynt yn feddyliol hefyd. Cyhoeddir y papyrau hyn mewn iaith fratiog--yn wir, nid ydyw yn deilwng o'r enw iaith—a'r canlyniad yw, fod eu darllenwyr yn myned i siarad yn fratiog, oherwydd caria>yr iaith a ddarllena dyn ddylanwad mawr ar y modd y siarada. Pa hyd y caniateir i bapyrau o'r natur yma gael eu cyboeddi mewn gwlad sydd yn ymffrostio ei bod yn wlad Gristionogol ? A ydyw y gwahanol ddosbarthiadau hyn erioed wedi dychymygu fod diwyllio eu hunain yn ddyled- swydd arnynt, a bod diwylliant yn teth sydd o fewn cyrhaedd, pob un ohonynt ? Gresyn yw gweled dynion ieuainc yn cymeryd gofal i ymarfer eu cyrff yn dda, ac yn gadael eu meddyliau- y rhan hono sydd yn eu gwahaniaethu oddiwrth anifeiliaid y maes—heb eu gwrtaithio a'u diwyllio. Ddynion ieuainc Cymru, pa hyd y gwastreffwch eich amser mewn oferedd ? Mynwch ddiwylliant. Darllenwch y lenyddiaeth oreu, buraf-y mae o fewn eich gafael a'r neb a ddarlleno, ystyried. M. M.
CYMDEITHAS DDARBODOL GWEINIDOGION…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYMDEITHAS DDARBODOL GWEINIDOG- ION ANNIBYNOL CYMRU. At Olygydd y l'yst. SYR,—A gaf fi erfyn am ofod fechan o'r TYST i alw sylw arbenig gweinidogion ieuainc ein Henwad at y Gymdeithas werthfawr uchod ? Sefydlwyd hi yn y flwyddyn 1884 i'r amcan o wneyd ychydig ddarpariaeth ar gyfer cystudd, henaint. a marwol- aeth ac er hyny y mae hi wedi bod o gynorthwy dirfawr 1 nifer fawr o'i haelodau mewn amgylchiadau trallodus iawn—llawer ohonynt erbyn hyn sydd wedi eu symud at y mwyafrif yr ochr draw. Blin iawn genym orfod cwyno nad ydyw y Gymdeithas yn derbyn y gefnogaeth a ddysgwylid gan ein gweinid- ogion ieuainc y blynyddoedd hyn. Beth a all fod yr achos o hyny nis gwyddon. Y mae sefyllfa ananol y Gwmdeithas mewn cyflwr rhagorol—ei sawd yn werth o leiaf 3,6oop. A gaf fi apelio yn daer at fy mrodyr ieuainc yn y weinidogaeth i roddi yr ystyriaeth ddwysaf i hawliau y Gymdeithas arnynt hwy yn bersonol, a'u cymliell 1 ymuno a hi yn ddioed, a hyny er mwyn eu hunain a'u teuluoedd ? Y mae llawer wedi bod yn datgan eu gofid wrthyf o dro i dro am na buasent wedi ymuno a hi tra yn yr oedran priodol i wneyd hyny. Bydd yn bleser genyf anfon copi o'r rheolau i unrhyw frawd fyddo yn awyddus am ymuno a. hi, a rhoddi iddynt bob cyfarwyddyd a allaf. Dylai enw pob ymgeisydd fod yn llaw yr ysgrifenydd erbyn Mehefin 15 fed y fan bellaf, gyda thystysgrif feddygol, atebion llawn i r gofyniadau ar tudalen 4 o'r rheolau, yn nghydag enwau dau weinidog fydd yn eymeradwyo yr ymgeisydd. Ni bydd cisieu anfon dim anan hyd ar ol y Cyfarfod Blynyddol a gyndir yn Nghastellnedd adeg yr Unpeb, canys yn hwnw y derbynir aelodau newyddion. Y mae y Gymdeithas yn addaw 12s yr wythnos mewn ahechyd am y flwyddyn gyntaf, 9S yr wythnos am yr ail flwyddyn, a 6s yr wythnos y drydedd flwyddyn, ac i barhau Ar yr achlysur o farwolaeth aelod, telir yn ol swllt ar gyfer pob aelod ohoni ac ar ymdde, :.Iiad un o'r weinidogaeth yn 65 mlwydd oed, derbynia yn ol 6s yr wythnos tra byddo byw. Pa. gymdeithas arall a wna hyn ? Yr eiddoch yn ffyddlawn, Caernarfon. L. WILLIAMS, Ysg.
UNDEB PONTYPRIDD A'R RHONDDA.…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
UNDEB PONTYPRIDD A'R RHONDDA. Cynaliwyd y cyfarfod diweddaf yn Saron. Ynys- hir, M awrth 5ed, dan lywyddiaeth y cadeirydd, y Parch J T. Davies, Cymer. Dechreuwyd trwy weddi gan y Parch J. Evans, Pontygwaith. I. Darllenwyd a chadainhawyd cofnodion y cyf- arfod diweddaf. 2. Pendeifynwyd fod y cyfarfod ncsaf i'w gynal yn Gosen, Clydach Vale, 3 Y Parch T. G Jenkyn, Llwynypia, i ddarllen papyr ar Ddylanwad Personoliaeth iiiewn Crefydd,' a'r Parch Dyfnallt Owen i bregethu yn yr hwyr. 4. Derbyniwyd y Parch J. Lewis, M.A., gwein- idog yr Annibynwyr Seisonig yn y Ton, yn aelod o'r Undeb, a da oedd gan bawb ei weled yn bresenol. 5. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r Parch J. James, B.A., Ton, yn ei afiechyd, gan ddymuno iddo adferiad llwyr a buan. Yna galwodd y cadeirydd ar y Parch D. Gwenffrwd Evans, Gelli, i ddarllen papyr, ar y Dduwinydd- iaeth Newydd.' Cawsom bapyr rhagorol gan Mr Evans, er fod y rybudd gafodd yn fyr. Diolchwyd yn gynes iddo am ei bapyr, ac am ei barodrwydd i gydsynio yn herwydd mcthiant Mr James, Ton, gadw ei addewid, gan Mr Millward, cyfreithiwr, Pentrc, ac eiliwyd gan y Parch G. Penrith Thomas. Oymerwyd rhan yn mhellach gan y Parchn R. Hughes B.D., Tylorstown; J. Lewis, M A Ton E. C Davies Ynyshir Mr Nicholas, Blaenrhondda; a'r Cadeirydd. Terfynwyd trwy weddi gan Mr Millward. Cafwyd derbyniad caredig iawn gan y frawdol- iaeth yn yr Ynyshir, a diolchwyd yn gynes iddynt am eu caredigrwydd. J. ELIAS THOMAS.
AFIECHYDON Y CROEN A'U GWELLHAD.…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AFIECHYDON Y CROEN A'U GWELLHAD. n'ri Nid oes cisieu dyweyd wrth y rhai sydd yn dyoddef oddiwrth afiechydon ymgrafol y croen pa mor ofnadwy helbulus ydynt a pha mor dra anhawdd y mae eu hiachau. Hyny ydyw, anhawdd os na ddefnyddir y feddyginiaeth iawn. Y mae meddyginiaeth I drwyadi ddyogel, a sicr atynt, fel y prawf yr adroddiad hwn:- Ytt agvs i chive* blynedd ar ol iachad ei merch, dywed Mrs L. Handley 16, Common-lane, Factory- lane, Doncaster Nid yw fy merch fechan byth wedi cael un arwydd o'r crugd,rddigd er pan yr iuchawyd hi rai blynyddau yn ol gan Eli Doan. Y mae, yn wir, yn ddarpariaeth ardderchog, ac yr wyf bob'amser yn rhoddi iddi y ganmohaeth uchaf pan y gofynir i mi yn ei chylch.' Y canlynol yw yr adroddind yn yr hwn y dywed Mrs Handley am achos ei merch :— Dyoddefodd fy merch fechan am amser maith oddiwrth grugdarddiad llyfrithol ar ei gwyneb, ei breichiau, a. i choesau, yr hon oedd raid fod yn boenus a chyffrous iawn, oherwydd yr oedd y plen- tyn bron bob amser yn rhwbio y lleoedd hyny, y rhai a waedent ac a ymledent Ar ol darllen am Eli Doan, anfonais am beth ohorto i wneyd prawf arno, ac y mae yn bleser genyf ddyweyd iddo roddi esmwythad buan i fy merch. Yn mhen tua mis yr oedd pob arwydd o r anhwyl- deb wedi myn'd. Yr wyf yn ddiolchgar iawn am y gwellhad ardderchog a effeithiwyd gan Eli Doan, a bydd i mi yn sicr o'i gymeradwyo- (Arwyddwyd) Louiza Hardley.' N id oes raid i chwi barhau i ddyoddef oddiwrth arteithiau y piles, neu y shingles, neu eczema, na doluriau ymgrafol y croen, ond i chwi yn unig i ddefnyddio Eli Doan. Treiwch ef drosoch eich hunain ni chyst hyny ddim ond stamp ceiniog i chwi; anfonwch eich enw a'ch oyfeiriad i ni (gwel isod), a bydd i ni anfon i chwi sampl rhad. Mae Eli Doan yn ddau swllt a naw ceiniog y potaid (chwe' potaid, tn swllt ar ddeg a naw ceiniog). Gan yr holl fferyllwyr a'r ystorfeydd, neu yn rhydd trwy y post, ar dderbyniad y pris, yn uniongyrchol oddiwrth Foster McClellan Co.. 8, Wells-street. Oxford-street, London, W. Nac anghofiweh ddefnyddio yr enw liawn-Eli Doan. Byddwch yn sicr i fynu yr un math 0 eli ag a gafe odd Mrs Handley.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TORODD tan allan mewn ystafell wely yn Edwins- ford, preswylfod Syr James Drummond, nos Sul diweddaf, ond llwyddodd y gweithwyr i'w osod allan cyn gwneyd niwed mawr.