Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Family Notices

Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu

GENI, PRIODI, A MARW MARWOLAETHAU. WALTBIRS.-Blin genym gofnodi marwolaeth y brawd anwyl Daniel Walters, Pontyberem, Llanelli. (ID a fawr hoffid gan bawb a'i adwaenai oedd, a pha fwyaf agos y byddem yn d'od ato, uwch o hyd yr oedd ein syniad yn myned ohono. Dywedwn yn ddibetrus fod gan ei fywyd dystaw a diniwed ddyianwad manr yn y cylch yr oedd yn byw. Anaml y cafodd neb gystudd trymach, ond dyoddefodd y cyfan yn dawel a dirwgnach. Aeth i ysbyty Abertawe dydd Sadwrn cyn y Nadolig er mwyn cael iachad, ac fe aeth dan operation, ond nid i un pwrpas, gwaethyg- odd bob dydd, a bu yr awdurdodau mor garedig i'w briod hoff fel ag i ganiatau iddi i'w gael gartref, ac yn mheu tuag wytbnos ar ol hyny, sef, nos Fercher, Cbwefror 27ain. ebedudd ei ysbryd at Dduw. Y Sadwrn canlynol daeth tyrfa luosog yn nghyd i hebrwng ei weddiHiou marwol i'r fynweut. Gwas- anaethwyd yu yr atigladd gan y Parchn Ben Morris, ei weinidog; T W Morgan, Crwbin <. Taliesin Williams (B), Pontyberem. Bydded yw holl berth- ynasau gael cysur a dyddanwch yn eu dydd blin, II chofied ei weddw garedig mae Barnwr y weddw a Thad yr amddifad yw Duw yn ei breswylfa sanct- aidd. Bydded i'r plant ddilyn camrau y tad, a. chofied yr Arglwydd am ei frawd sydd yn weinidog yn Miutagonia bell yr hwn sydd eto heb gaol y newydd blin -A clod. Bsie. Y chwaer anwyl, Mrs Alice Bertha Rees, gweddw Mr Ditrid Bees, Llanboidy, a merch Mr a Mrs Griffith John, Gladstone-terrHce, ger Whitland, ar y 9fed o Fawrth, ar ol bod yn gwaelu am rai mis- oedd, gan adael un plentyn bach yn amddifad yr hwn sydd yn rhy ieuanc i sylweddoli ei golled. Yr oedd Mrs Reee yn ddynes hawddgar, grefyddol, yn aelod ffyddlon o eglwys y Tabernacl, ac yn ymdrechgar athrawes o'r sgol Sul pawb yn hoff iawn ohoni. Chwith yw meddwl ei bod wedi ein gadael yn yr oedran oynar o 26 mlwydd oed. Oladdwyd ei marwol ran yn mynwent Soar y dydd Mawith canlynol. Gwasanaethwyd yn yr augladd gan y Parchn D E Williams, Henllan, a J Davies, Bethania. Boed nodded y Nef yn cysgodi dros yr amddifad bach, y rhieni, y brodyr, a'r chwaer, a nerth gaffont i ym- dawelu o dan law y Tad Nefol, a chwrdd gaffont oil gartref yn nhy ein Tad pan ddaw eii taith yma i'r terfyn W.S. THOMAS. Mawrth 19eg, yn 63 mlwydd oed, yr hen frawd didwyll, ffyddlon, a charedig, Mr John Thomas, Llwynon, Whitlnnd, gan adael ar ei ol weddw garedig a naw o blant siriol, wyth o ba rai oedd yn breseuol yn yr angladd. Mae un ferch yn byw yn America. Y dydd Sadwrn canlynol cladd wyd ei gorff yn mynwent Soar, pryd y dygwyd y gwasanaeth cr^fyddol yn mlaen gan y Parch W Thomas, Llanboidy. Bu yr ymadawedig yn fiyddlon iawn ir cyfaifodydd tra y parhaodd ei nerth a mynych y teimlasom ei bod yn foddion g.as i ni ei wrandawar ei liniau wrth orseda gras yn siarad a i Dad Nefol. Y r oedd yn aelod Ifyddlon yn nosbarth eich gohebydd yn yr Ysgol Sul, lie y gwe'ir ac y teimlir colled o'i golli. Boed i'r teulu oil gaei dydd- anwch yr Efengyl yn eu dydd blin, a sylweddoli fod Tad yr amddifaid a Barnwr y weddw eto yn fyw, ac y eint eu parotoi ar gyfer y wlad dde, I wydd hono lie mae Kenym seiliau cryflon i gredu fod yr uchod wedi myned iddi.-W. S. WALTERS.- Sabbath, Mawrth lOfed, Thomas Walters, gynt Wernlas, Penderyn, yu 61 mlwydd oed, wedi dyoddef chwe' mis o gystudd caled a blin y dyfr- glwyf. Bu yr ymitdawedig yu wrandawr cyson yn Soar am dros ddeugaiu mlynedd, ond yn adeg y Diwygiad ddecbreu 190ft y daeth yn wneuthurwr y Gair, pryd y derbyniwyd ef a bagad ereHl i gymun- deb yr eglwys gan y diweddar B*rch T Edmunds. Bu o'r adeg hyny hyd ei farwolaeth yn ffyddlou i'r moddion tra yu alluog, a dywedai yn ei ddyddiau olaf ei fod yn cael yr lesu yn gyfaili ffyddlon iddo, ac efe oedd blaenffrwyth y Diwygiad i fyued adref o Soar. Y dydd Mercher canlynol daeth torf luosog i dalu y gymwynas olaf i'w weddillion, Dygwyd ei gorff i'r cape!, lie y pregethodd y Parch E Wern Williams, Hirwauu, odalar Salm xxxiv. 6, ar ol hyny aed i fynweut Eglwys y Plwyf, lie y gweinyddwyd gan y Parch Lt Jenkins, periglor. Gadawodd weddw oedranua mewn hiraeth ar ei ol, dyddaned yr Ar- glwydd hi—Gwilyrn Blaencynon.

Advertising

PONTYBODCI N.

Advertising