Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
-----------. TEIMLAD DYCHRYNLLYD!
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TEIMLAD DYCHRYNLLYD! BI HYMLID GAN OFNAU DYEITHRIOI. GWAN, NERFUS, AC YN CAEL E1 DIRBOENI GAN DDIFFVG TREULXAD. GENKTH YN CAEL EI GWELLA 0 HIR- DDYODDEFAINT TRWY MOTHER SEIGEL'S SYRUP.' A ydych wedifciel eich poeni erioed gan y dych- ryn o ymlid fod rhywbeth dychrynllyd ar ddygwydd, o drychmeb ofnadwy anhysbys oedd yn myned i'ch dirwasgu chwi? Dyna y teimlad oedd yn pwyso ar Miss Martha. Bannister, 4, Arden Cottages West Malwern, ac oedd yn gwneyd ei bywyd yn un tru- enus Yr oedd yn cael ei achosi trwy nerfau dry! iedig, a gweithrediadau afreolaidd y galon, yr hwn oedd i'w briodoli i ddiffyg treuliad. Mewn myneg- iad dyddiedig Ionawr 8fed, 1907, dywed Miss Bannister I Collais bob chwant at fvvyd, a chefais fy hun yn fuan mor wan, fel nas gallwn weithio. Byddwn yn cael cur yn fy mhen yn wastad, a phenysgafnder yn ami, ac yn cael fy mlino gan wynt a phoenau yn y cylla. Aeth fy nerfau mor wael, fel mai o'r braidd y gallwn fod yn llonydd. Nis gallaf ddesgrifio pa fodd y byddwn yn teimlo weithiau yr oedd yn debyg fel pe buasai pethau dychrynllyd i gymeryd lie, ac arferwn daflu fy hun ar yr esmwythfainc. gan wylo yn ddiymadferth O mam, mam Yn ami, ar- ferwn fyaed i gyflwr o haner llesmair, ac o'r braidd y gwyddwn lie yr oeddwn i. Ni wnaeth dim unrhyw ddatoni i mi, ac yr oeddwn mor wan, fel yr oeddwn yn ddiallu. Ymddangosai yr holl fywyd fel yn myned allan o honof. Ar ol i'r meddyg fethu y c sfodd fy mam 'Mother Seigel's Syrup' i mi, a dynar peth cyntaf i wneyd dim daioni i mi. Rhoddodd derfyn ar y gwynt a'r car yn y pen, a tliawelodd fy nerfau; daeth fy chwant at ymborth yn 01 ac yn fuan yr oeddwn yn hollol iach drachefn.' MeddyHwch y fath ddyoddefaint fuasai Miss Bannister yn ei ochel pe cymerasai hi Mother Seigel's Syrup ar y dechreu. Llawn sylweddohvch hyn, ac ni bydd i chwi esgeuluso arwyddion cyntaf diffyg treuliad, neu 'bitiousiiesi, Itra yr oedd y fath feddyginiaeth wrth law. Cynwysa y Botel 2s 6c dair gwaith cymaint a'r un is ilc.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MAE yr Arddangosfa. Genadol ynLlanelli yn parhau i dynu torfeydd mawrion yn ddyddiol, Dydd Gwener gweinyddwyd yn y gweithrediadau agoriadol gan Mr W. Llewelyn Williams, A.S., yr hwn a rodd- odd araeth ar y Genadaeth Dramor. Talodd air o glod i Genadaeth y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig ar Fryniau Khassia.
NODION O'R MAERDY.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
NODION O'R MAERDY. AI arwolaethau.- Y mae genym y gorchwyl pruddaidd yr wythnos hon o gofnodi dwy farwol- aeth sydd wedi cymeryd lie y dyddiau diweddaf yn Maerdy, a'r ddau yn pertliyn i Siloa. Y gyntaf oedd y ddiweddar Mrs Hannah Evans, 84 J ames- street, sef priod hawddgar a hoff y brawd David Evans, yr hon a fu farw dydd Mawrth, Chwefror 26ain, wedi* bod yn dihoeni am beth amser. Claddwyd hi y dydd Sadwrn canlynol yn Nghladdfa Gyhoeddus y lie, pan y gweinydd- wyd gan ei gweinidog, y Parch J. H. Evans. Cafodd angladd anrhydeddus a lluosog. Yr oedd y trancedig wedi bod yn aelod dichlynaidd a ffyddlon yn Siloa am flynyddau meithion ac' yn sicr, gwelir ei heisieu yn y cyfarfodydd gweddi a'r cyfeillachau crefyddol, ac yn nghyfarfodydd merched y lie, ac yn neilldnol yn yr Ysgol Sab- bathol, oblegid yr oedd ganddi ddosbartli lluosog oldan ei gofal, pa rai yr oedd hi wedi en casglu at eu gilydd, sef rhai anllythyrenog, i'w dysgu i ddarllen ond ei lie nid edwyn ddim ohoni hi mwy. Cysured yr Arglwydd y priod galarus a'r plant amddifaid yn eu galar ar ol maiii dyner, ofalus, a duwiol, mi gredwn a bydded iddynt rodio y llwybr ag y rhodiodd hi arno, fel y bydd iddynt gael cwrdd eto ar fryniau y gwynfyd, lie 11a bydd neb yn afiach nac yn marw byth. Heddwch i'w llwch hyd foreu'r codi.—Y nesaf ydyw marwolaeth a chladdedigaeth yr hen frawd Mr Thomas Connoll, 95 James-street, Maerdy, yr hwn a fn farw dydd Gwener, Mawrtli laf, yn 67 mlwydd oed. Nid oedd wedi gweithio dim er's rhai blynyddau bellach, er ei fod yn gallu myned oddeutu hyd yn ddiweddar, pan y cyfyngwyd ef i'w dy ac i'w wely. Ar y dydd a nodwyd, ehedodd ei ysbryd at yr Hwn a'i gwnaeth a'r dydd Mercher canlynol, daeth torf luosog o bobl, sef ceraint, cyfeillion, a pherth- ynasau, i hebrwng ei weddillion marwol i gladdfa gyhoeddus y lie, pan y gweinyddwyd ar yr am- gylchiad pruddaidd gan ei weinidog. Yr oedd yr hen dad ymadawedig wedi bod yn aelod ac yn ddiacon yn eglwys Siloa am rai blynyddau. Yr oedd wedi ei gadael yn lied ddiweddar cyn ymuno a chrefydd ond pan ddaeth, ym- daflodd i'r gwaith gydag egni, nes yr oedd wedi dyfod yn aelod ac yn ddiacon defnyddiol cyhyd y y ag y parhaodd ei nerth. Nid yn fuan yr anghof- iwn ei gynghorion dwys a'i weddïau taer, ac yn neillduol ei ddagrau, wrth ddyweyd gair yn ami. Nid yn ami y gwelir dyn o'i oedran ef yn dyfod at grefydd ac yn dyfod mor ddefnycldiol ag y bu ef. Gwelir ei le yn wag yn nghoruel y sedd fawr. Cysured Duw y weddw oedranus, a'r plant, a'r wyrion sydd ar ol yn eu galar a bydded iddynt gael harddu ffydd crefydd fel y gwnaeth yntau, a chael eto ail-gwrdd ar fryniau y gwynfyd, heb byth ymadael mwy. Heddwch i'w lwcll. MAEKDYFAB.
-_._--____-- ----------.--------_n_.____--NODION…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
_n_ NODION 0 LUNDAIN. (Jyngerdd King's Cross.-Mae cyngerdd blyn- yddol King's Cross wedi myned heibio. a gobeithio tod elw da wedi deilliaw oddiwrtbo. Daeth tyrfa yn nghyd i glywed Mr David Richards, yr organydd, a chwareuodd ddarn ar y dechreu yn ardderchog. Cymerwyd rhan hefyd gan Madame Eleanor Jones, Miss Lewis, Mr Spencer Thomas, Mr Lewis, a Mr Morgan. ('adeiriwyd gan Mr Timothy Davies, A.S yr hwn a ddywedodd ychydig eiriau rhagorol yn Gymraeg, ac a anogodd y bobl ieuainc i ddi- wyllio y dalent oedd ganddynt.—Cynaliodd y Gymdeithas Ddiwylliadol ei chyfarfod olaf nos Sadwrn. Rhoddwyd gwledd i'r corff M'r meddwl yn rhad. a dewiswyd swyddogion am y tymhor dyfodol Ymweliad a Beddau y Cewri yn Mynwcnt Bun- City~road.—Darn o dir yw yr uchod oedd gan Eglwys Loegr tu allan i'r ddinas tuag at gladdu. Yn y flwyddyn 1315 y cafwyd y darn o'r tir sydd o'i amgylch, ond a gymcrwyd drosodd gan y Gorff-or- 3.eth yn y bymthegfed ganrif am yr ardreth o bunt y nw-yddyn. Yn 1553 fe'i cymerwyd ef am 90 o nynyddoedd am y swm o 39P 135 4c-,dyna oedd y brydles; yn 1650, cafwyd ef yn rhad am ddeng mlynedd-adeg ymweliad y pla mawr a Llundain, pan yr oedd y trigolion yn marw wrth y miloedd, a dim digon o le yn mynwentydd y ddinas. Cleddid rhwng deg a deuddeg mil yn wythnosol yn y gladdfa hon pan oedd y pla yn ei fan waethaf. Y maen hynaf sydd yma yw eiddo Deborah WtArr, a gladd- wyd yn 1623; claddwyd y diweddaf yn 1852. Y cyfan a gladdwyd yma yw 124,000. Y tebygol- rwydd yw fod canoedd wedi eu claddu heb hanes am danynt o gwbl ganoedd o flynydaoedd yn ol. Gan fod dynion wedi esgeuluso gwneyd yr amodau gofynol bob pedair blynedd ar ddeg, y mae y cyfan wedi myned yn eiddo awdurdodau Eglwys Loegr, yn nghyda'r tir sydd ger llaw. Ar fy Haw chwith y mae bedd y gwr enwog John Bunyan, awdwr Taith y Pererin,' yr hwn a garcharwyd am ddeu- ddeg mlynedd yn Bedford am bregethu Gair Duw i'r bobl, a dal yr Efengyl yn ei symlrwydd a baner Calfaria i'r miloedd oedd yn sychedig ac yn newynu am fara'r bywyd a'r dyfroedd sydd yn disychedu yr enaid anfarwol, a hyny heb gymhorth esgob, cardinal, na phab rhyngddo ef a'i Dduw. Pan yn sefyll yn ymyl ei fedd, daeth i fy meddwl famt o ddaioni a wnaeth yn ei oes dros ei Waredwr. Nid oes neb a wyr ond yr Hwn sydd yn gwybod pob peth y mae ei lyfr \n nesaf at y Beibl. Bydd ei enw yn anwyl ar bob aelwyd am oesoedd i ddyfod. Islaw i fedd Bunyan y mae beddgist John Gill, yr esboniwr mawr a'r ysgolor gwych, yr hwn a fu yn pregeth'u am haner can' mlynedd, ac yn dal yn gadarn yn y ffydd. Cafodd ei eni yn Kettering yn 1697, a bu farw yn 1777. Hefyd daethum ar draws llu o feddau o'r Cromweliaid—perthynasau i'r dyn mawr Oliver Cromwell, yr hwn a fynodd ryddid i'r deyrnas, ac a ddarniodd gaethiwed haiarnaidd y Babaeth. Ger llaw y mae bedd Susannah Wesley, mam yr enwog John Wesley Yr oedd yn fam i bedwar-ar-bymtheg o blari t, a chafodd y fraint o fagu un o ddyuion mwyaf dysglaer ei oes, yr hwn a roddodd fodolaeth i'r achos Wesleyaidd. Hefyd, wele fedd Vavasor Powell, un o feibion Gwalia Wen, a anwyd yn 1617. Derbyniodd ei addysg yn Mhrifysgol Rhydychain Yr oedd yn bregethwr cadarn ac am bregethu y Gair cafodd bum' mlynadd o garchar yn Southsea, pump yn Nghastell Caerdydd. ac un flynedd yn Fleet-street, Llundain, lie y bu farw gelwid ef yn Whitfield Cymru. Gwelais lawer o feddau Cymry, megys William Jenkins John Owen, yr hwn a fu farw yn 1683: Abraham Rees, awdwr yr 'Encyclqp.-edia Daniel Williams, yr hwn a anwyd yn Ngwrecsam, ac a fu yn yr Iwerddon yn pregethu i'r Protestan- iaid. Yr oedd y gwirioneddau a draethai fel halen ar glwyf. Aeth y Babaeth yn ffyrnig yn ei erbyn, a symudodd i Lundain efe oedd olynydd Richard Baxter yn 1691, a bu farw yn 1716. Ar fedd John Conder ceid yr hyn a ganlyn I have sinned, I have trusted, I rest; I repented, I loved, I shall arise, and through the grace of Christ, however unworthy, I shall reign.' Yn Lladin yr ysgrifenwyd yr uchod yn y flwyddyn 1781 Ar yr ochr dde i mi y mae bedd James Hughes, yr esboniwr, sydd a'i enw braidd yn hysbys yn mhob ty trwy Gymru. Ganwyd ef yn Tnchrug Aeron, sir Aberteifi. Darllenais lawer ar ei Esboniad pan yn ninas Emlyn, ond ni feddyliais y buaswn yn sefyll uwch- ben ei fedd. Methais a gwneyd yr englyn allan oedd ar y maen—yr oedd amser wedi gwneyd ei 61 arno. Y mae yn dda genyf am y symudiad sydd yn myned yn miaen yn y dyddiau hyn i roddi cofadail deilwng o'r gwr a fu yn seren yn goleuo i filoedd o feddyliau yn Ngwyllt Walia. Wrth ochr bedd James Hughes yr oedd bedd Hugh Pugh (Telynwr Cymru), mab ieuengaf i Richard Pugh, arweinydd i ben Cadair Idris, a'r llinellau hyn ar ei faen ;— Talent fel t(Ilynydd,iiiodd enwog, Meddianodd yn blentyn Mae'r bysedd hoywedd er hyn, Ffraeth ranau heb fftwyth ronyn. Tra ryfedd fod gwedd Hugh gain-yn gorwedd Dan gareg yn Llundain E' fydd mwy yn ei fedd, Er cur, delynwr cywrain. Ei hoft waith ganwaith--oedd gweini Diliau o r delyn i'n lloni Ond yn awr, er ei fawr fri, Mewn tawel fedd mae'n tewi. Gwelais hefyd feddau llawer, ond amser a gofod a balla i mi ddyweyd gair am danynt. Y mae hou yn cynwys llwch miloedd o ddewrion cedyrn a fu yn ymladd dros ryddid barn a chydwybod. safasant garcharau, ddyoddefasant bob gwawd-a dirmyg er mwyn crefydd. Buont yn arcdig cwysau dy fnion wedi eu selio a gwaed calon o dan ededigaeth a gormes y Bwystfil Rhufeinig, er mwyn y cenedl- aethau oedd yn dyfod. Bu rnwg y tanau a gyneu- wyd i losgi cyrff y rhai anwyl nad oedd y ddttear yn deilwng ohonynt yn duo yr wybren fel cymylau duon. Dangosent eu bod yn Ymneillduwyr o gyd- wybod mewn gair a gweithred Y mae eu llwch yn gysegredig, a'u henwau yn perarogli yn Lloegr a Chymru fel blodau persawrus yn nghanol mis Mai. Wele ni yn yr oes hon yn mwynh >u y rhyddid y buont hwy yn ymladd hyd at waed am dano. Gwelir yn y dyddiau hyn bod ein rhyddid yn cael ei ormesu gan reffynau Uchel-Eglwysyddiaeth, y Bab- aeth, a Thy yr Arglwyddi. Anwyl gydwladwyr, deuwn allan gyda'n gilydd mewn nerth yn erbyn y cryf arfog ofergoelus sydd am gymeryd meddiant o'r hen wlad sydd wedi rhoddi ei dewrion mewn beddau d an eu cleisiau duon. Daliwn faner wen rhyddid i'r lan mynwn gael buddugoliaeth. Cyn terfynu, nis gallaf lai na chofio am fynwentydd Cymru, lie y gorwedd llu mawr a fu yn llefaru ac yn ysgrifenu dros eu gwlad, megys Tom Ellis, Henry Richard, John Evans (Eglwysbach), Thomas Gee, Williams (Castellnewydd), John Thomas ac Owen Thomas (Lerpwl), y Llanbrynmariaid, Saunders (Abertawe), Herber Evans, Tanymarian, a llu mawr y gallem eu henwi pe bai lie. Na wawr- ied y dydd byth mwyach yn ein gwlad pan y bydd Uchel-Eglwysyddiaeth a Phabyddiaeth yn teyrnasu yn ein gwlad anwyl. Teimlaf yn ofidus i feddwl fod lie gan y Babaeth ger llaw Aberteifi-y dref Ile gwelais gyntaf oleu dydd. Y mae edrych yn ol ar hanes du y Babaeth yn ddigon i godi gwaed i wyneb pob dyn ystyriol; cochwyd ein gwlad ag afonydd o waed y diniwed llosgwyd miloedd mewn liyrnig- I rwydd a chwerthiniad dirmygus, a thybid trwy yr oil 0 -r creulonderau hyn i roddi terfyn ar Brotestan- iaeth. Ond druain ohonynt! buasai yr un peth iddynt i rwymo yr haul wrth y Wyddfa, a'r llenad dlos wrth y Freni Fawr, a rhoddi y cefnforoedd i orwedd yn sir Aberteifi, ag iddynt rwymo Protestan- iueth; y mae yn ormod o'r dydd bellach, a cheir gweled hyny hefyd yr. hwyr neu yn hwyrach. GREGORY KEAN.
._-------__-----_._-LERPWL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
eu cymanfa flynyddol eleni, fel arfer, yn nglrapel Great George-street, dan arweiniad Mr Harry Evans, F.R.C.O., Llywyddwyd y cyfarfod gan y Parch G. J. Williams, Vittoria-street a gwas- anaethwyd wrth yr organ gan Mr Emlyn Davies, Rhos. Gwnaeth pawb eu gwaith yn ardderchog, ac yr ydoedd y gymanfa drwyddi, yn ol tystiol- aeth pawb, yn un o'r rhai mwyaf llwyddianus a gafwyd erioed. Ap LLKIFIATX