Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

------LLUNDAIN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLUNDAIN. Llundain yw Jerusalem y ddaear yn ein dydd- iau ni. Dyma brifddinas ein gwlad. Gwilym y Gorchfygwr, tua wyth gan' mlynedd yn ol, a adeiladodd y Twr Gwyn, ac a ganiataodd y Siarter gyntaf i Gorphoraeth Llundain. Edrych- wch yn ol tua mil o flynyddoedd, wed'yn ceid gweled yd yn tyfu ar y Corn-hill, pan y daeth Rhufeiniaid i'n gwlad ni 55 mlynedd cyn Crist. Dywedir mai hwy a adeiladodd y mur o'i ham- gylch, a drefnasant y pyrth, ac a gyfodasant y caeran. Ei hen enw cyntefig yw Caerludd. Mae dwy linell o waith lago Trichrug yn dangos mai dyna oedd ei hen henw :— Yn Nghaerludd, yn brudd fy inron, Dan filoedd o ofalon.' Dywedir mai bythynod wedi eu plethu a, gwiail yn nghymydogaeth lie mae y Twr Gwyn yn awr oedd dechreuad y ddinas fawr bresenol. Hi yw y dref hynaf y ceir cofnodiod am dani yn Mhryd- ain Fawr. I gael rhyw syniad am ei maintioli presenol, byddai yn rhaid cerdded 10 milldir bob dydd am naw mlynedd i fyned dros Lundain i gyd. Mae yn cynwys tua dau cant o blwyfydd deu- gain mil o heolydd tua miliwn o dai; ac yn gorchuddio dros chwech-ugain o filldiroedd ysgwar. Mae poblogaeth Llundain tua chwe' miliwn. Mae yn o fwy o Babyddion nag sydd yn Rhufain, o Iuddewon nag sydd yn Nghanaan, o Ysgotiaid nag sydd yn Aberdeen, ac o Gymry nag sydd yn Nghaerdydd. Mae ei chyfoeth a'i masnach hi yn aruthrol. Gwerthwyd darn o dir yn Llundain flynyddau yn ol am ddwy filiwn o bunau yr acer. Beth am werth ei masnachdai mawrion, ei banciau cyf- oethog, a'i phalasau teg ? Ei gorsafau mawrion hi a'i dociau sydd yn wyth mewn nifer. Bu adeg pan nad oedd ond un bont yn croesi ei hafon hi ond mae yno lawer pont heddyw, a rhai ohonynt wedi costio tua miliwn o bunau. Ceir rhyw syniad am gyfoeth a masnach y lie mawr hwn pan ystyriom beth yw swm yr ym- borth a'r seigiau a dreulir gan y preswylyddion mewn ystod blwyddyn o amser. Defnyddir dwy filiwn o chwarteri o wenith; bwyteir pedwar can' mil o ychain cant a deg ar hugain o filoedd o loi pasgedig dau cant a haner o filoedd o foch. At hyny, fe fwyteir dwy filiwn o ddefaid, wyth miliwn o adar, a phedwar can' miliwn o bysgod ac o leiaf, yfir dau can' miliwn o chwartiau o dd'iodydd meddwol bob blwyddyn. Llosgir naw miliwn o dunelli o lo yn unig yma mewn deu- ddeng mis Gwasanaethir ar y trigolion gan bum' mil o feddygon dadleuir eu hachosion gan wyth mil o gyfreithwyr a gwylir drostynt gan ddwy fil ar bymtheg o heddgeidwaid. Mae yn Llundain tua chan' mil o dlodion yn derbyn cymhorth o'r plwyf a saith-ugain mil o ladron Mae yma bedwar ugain mil o'r menywod glan heb synwyr ar hyd heolydd y ddinas fawr. Clywais y Parch P. B. Meyer yn dyweyd iddo ef lwyddo, drwy gynorthwy y Free Church Council, i gael oddeutu chwe' chant o'r tai drwg hyn i lawr yn nghymydogaeth ei gapel sydd yn Westminster Bridge. Mae deuddeng mil 6 dafarndai yn Llundain, 50 o chwareudai, a 100 o ysbytai. Mae oddeutu 6,000 yn Llundain o'i phreswylwyr yn cysgu aUan bob nos, heb le i roddi eu penau i lawr, ond o dan y pontydd, ar riniogau y tai, ac yn y parciau. Pan y gwnaeth y Parch Mr Mearns ei ym- chwilia d, ac y cyhoeddodd ei bamphlet 7 he- Bitter Cry of the Outcast London,' cafwyd fod 50,000 o deuluoedd yn byw mewn single rooms- tad, mam, a chwech o blant; y tad, druan, weithiau yn y frech wen, a'r fam mewn gwewyr dirboenus cyn dyfod yn famaeth,' mewn lie mor ddifrifol. Gwnaeth Mr Stead wasanaeth mawr i gym- deithas, a bu yn ddyogelwch mawr i enethod ieuainc diniwed oedd yn myned o'r wlad i'r Brif- ddinas i wasanaethu,"pan y cyhoeddodd ef yn y Pall Mall Gazette am y fasnach mewn mor- wynion. Gwylient hwy yn ngorsafoedd y reil- ffyrdd ar eu dyfodiad i'r ddinas, a chymerent hwy ymaith heb yn wybod i neb byth, os gellant. Pan wnaeth Mr Stead y datguddiad, bu cynhwrf ofnadwy yn y ddinas. Cyfarfyddodd can' mil o bobl 01-eu Llundain yn Hyde Park i ddatgan yn gyhoeddus eu teimladau digofus yn erbyn y fath fasnach ofnadwy. Dywedir fod y merched oil yn eu gynau duon ar y pryd. Pasiwyd y Criminal Law Amendment Act yn fuan ar ol hyn drwy y Senedd. Priodol iawn y canodd Daniel Ddu o Geredig- on ar y mater hwn :— Trom y.galon tra 'rwy'n gwylied Rhag i neb o Gymru'm gweled, Er rhoi hanes i'm rhieni Wnai i'w calon dirion dori, Sef i'm parch fyn'd yn ysglyfaeth Gan fab Suddas, Ar fro diras oer fradwriaetii Lie mae ffordd i dwyllo merched, Nad all mwyndra Rhywiog Walia eu rhagweled. Yma'r ydwyf wedi 'mrwydo Yn mhwll anfri, 'mhell o henfro Cyuiru wiwdeg, mewn camrodiad Ddoe yn ol ni ddaw er galwad. Pe'n fy mherchen, rho'wn ar enyd Olud India Am ollyngfa o'm hyll ingfyd, A chael bod yr hyn a fuais Mewn gwlad liawddgar Oreu daear a adewais.' Mae rhai o bobl dda Llundain wedi bod yn siarad droion am gael Neuadd Gymreig deilwng i'r Cymry yn y ddinas. Dywedir fod tua thri- ugain mil (60,000) o Gymry yn Llundain. Byddai hono yn gartref i enethod digartref ar eu dyfod- iad i Lundain, ac i ereill ohonynt fyddo yn dygwydd bod heb le. Gallai y gwahanol enwadau Cymreig uno a'u gilydd i gyrhaedd yr amcan teilwng hwn. Mae yn syndod meddwl am y fath reol a threfn sydd yn y ddinas fawr. Meddylier am y fath nifer a chwe' miliwn yn agos o drigolion yn byw gydalu gilydd. Beth sydd yn cadw trefn ar y fath dorf rhag iddi hi fyned yn Aceldama ? Ai y police force ? Ai y milwyr sydd at alwad yr awdurdodau pan y myner ? Ai y Senedd ? Nage. Os yr Arglwydd ni cheidw y ddinas, yn ofer y gwylia y ceidwaid.' Mae yr adnod hon mor wir am Lundain ag ydoedd hi am Jerusalem gynt. Cristionogaeth yw yr halen sydd yn ei chadw hi rhag llygru Llundain yw yr oreu am ei pharch i'r Sabbath o holl ddinasoedd y byd heddyw. Mae hyn yn glod iddi. Pinacl adeilad i addoli Duw ynddo yw yr uchaf e ben yn y ddinas heddyw, a hwnw yw Mynachlog St. Paul. Y Metropolitan Tabernacle yw y capel mwyaf fedd y Bedyddwyr yn y byd heddyw. Dyma lie y bu y seraffaidd y Parch C. H, Spurgeon yn pregethu am yn agos i ddeugain mlynedd, ac yn ei gadw yn llawn at y drysau wrth bregethu dim amgen nag Iesu Grist,a jHwnw wedi Ei groes- hoelio, yn ddigonol Waredwr i'r penaf o bechad- uriaid. O'r chw' miliwn o drigolion sydd yn Llundain, mae pedair miliwn ohonynt nad ydynt yn myned i gapel nac eglwys. Mae yma dros ddwy fil o

Advertising

UNDEB CYNULLEIDFAOL SEIS-IONIG…

-WHITLAND.

------LLUNDAIN.