Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
9 erthygl ar y dudalen hon
ODDIWRTH CIAVYDWENFRO AT Y…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ODDIWRTH CIAVYDWENFRO AT Y PARCH W. THOMAS, WIIITLAND. Can Ymholiadol pan oedd efe yn yr Hospital yn Aberiawe. PA fodd mae fy mrawd, y Parch Thomas- Hoff ftigail Ty-gwyn-ar-y-Taf'! Cael gwybod a fyddai'n gymwynas I un a fu yna yr haf A ydyw e'n well ac yn gryl'ach Ar ol y drafodaeth aeth drwy Yn nhref Abertawe dan feddyg Awyddai ei wella o'i glwy' ? Fy mrawd sydd yn ongraifft ardderchog 0 un gwir ofalus o hyd, o fawr ymddiriedaeth ei Arglwydd Mown gwas ar ei braidd yn y byd Fe dreuliodd ei amser a'i dalent Dros haner can' mlynedd yn llwyr Er lIes a, diwylliallt encidiau, I 0 foreu ei oes hyd yr hwyr. Mae ffrwyth ac effei thiau- ei laf tit, Yn amlwg trwy'r cylchoedd i gyd Nid gwas fu'n esgeulus yw Thomas, Hi waith äi'n feunyddiol a'i fryd Yn fawr daeth y gorlan oedd fechan, A chryf ddaeth yr achos yn wir Llwyddianus fel Jacob y patriarcl 1 — Ei ddefaid wnacnt lenwi y tir. Y brawd, trwy ei oes fu inor ffyddloti, Can dreulio ei north yn y gwaith, Yr Arglwydd ni fydd yn anghofus Ohono a'i ofal mor faith Caed llawer o gysur i'w feddwl, 11 Mai meistr rhagorol yw Duw, Aï lygad sydd ar y ffyddloniaid Tra yma 'n yr anial yn byw. Awst 21ain, 1906. OLWYDWENFRO.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
„ GWYNFRYN, AMANFORD -Cynaliwyd cyf- arfod blynyddol yr eglwys hon Sabbath a Llun, Mawrth 24ain a'r 25am, pryd y pregethwyd gan y Parchn J. J. Williams, Pentre, a J. Miles, Aber- ystwyth. Cafwyd cynulleidfaoedd mawrion a chasgliadau rhagorol. Y mae y Gwynfryn yn gapel hardd mewn dylfryn prydferth, a'r eglwys o dan weinidogaeth y Parch E. J. Rosser Evans yn dra Ilwyddianus. TABERN ACL, PONTYCYMEK. Cynaliodd yr eglwys hon ei chyfarfod pregethu blynyddol ar y dyddiau Sul a Llun, Mawrth iofed a'r iieg, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn Peter Price, B.A., Dowlais, ac E. Richards, Tonypandy. Cydweith- iodd y pregethau grymus oedfaon lanllyd, cynulleid- faoedd anarferol fawrion, a chasgliadau arddercbog, yn nghyd a'r Eneiniad ainlwg oddiwrth y Sanctaidd Hwnw, i wneyd yr wyl hon eto yn un a hir gofir yma. SEION, RHOSGOCH, MON.—Y Parchedigion O. L. Roberts, a J. O. Williams (Pedrog), Lerpwl, oeddynt bregethwyr etholedig yr eglwys uchod i gynal ei chyfarfod pregethu diweddaf, ar yr ach- lysur o ligoriad y ty capel a'r festri newydd hardd a ehyfleus sydd wedi eu hadeilwdu yma. Caed preg- ethau ardderchog, a chynulleidfaoedd da, ac ystyried gerwinder yr hin Y mae gan yr eglwys fechan hon galon i weithio. Ychydig dros i6eg mlynedd yn ol, nid oedd yma ond capel bychan hen ffasiwu a di- addurn, a thy bychan gwael o dan yr un to. Ond wele gapel newydd, hardd, wedi talu am dano, a thy a festri newydd eto wedi dechreu talu am danynt. Bu yma gymeriadau ardderch,)g yn byw. Y maent hwy wedi eu symud i well Ile i weithio, ac y mae y gweithwyr presenol sydd yma yn credu mewn anrhydeddu coftadwriaeth y tadau, yn ogystal a gwneyd eu dyledswydd eu hunain, i harddu lie cysegr Duw. CA.PEL-Y-GLYN, GLYN-NEDD. Cynaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfodydd haner-blynyddol Mawrth 3ydd a'r 4ydd, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn R. Rees, Alltwen, a Penar Griffiths, Pentre Estyll. Afraid canmol, digon yw dweyd fod Duw a'r gweision yn gwneyd y cyfarfodydd yn hyf- ryd a bendithiol.-Glyiz.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
-9- DywEi) adroddi y meddyg ooddyn gofalu am iochyd Mr Evan Koberts, y Diwygiwr ieuanc, ei fod yo gofyn gofal a thytierwch neillduol; y cymer belli amser eto cyn y bydd yu abl i ddechreu ar ei waith yu nibelinels, a'i fod yn ystod ei afiechyd diweddar, wedi bod ar fi 11 cael tarawiad o'r p-Arlys. Nid yw y caethiwed hwn yn peri mwy o bryderi neb nag i'r gwr ieuanc ei hunan.
-"-__-_-GOFYNIADAU AR Y WERS.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
GOFYNIADAU AR Y WERS. 1. Rhoddwch hanes Jacob yn nhy Laban. 2. Paham y penderfynodd i ddycbwelyd i Becrseba ? 3. Beth oedd ei amcan wrth ddanfon ccn- adau at ei frawd Esau ? 4. Pa effaith a gafodd adroddiad y cenadau areifeddwl? A). 5. Pa barotoadau a wnaeth i gyfarlod a 1 frawd ? 6. Pa both a wnaetli Jacob yn ei drallod a 1 ofn? Rhoddwch grynodeb o'i weddi ? 7. Pwy oedd yr augel a ymddangosodd iddo wrth ryd Jabboc? Pa fodd yr ymdrechodd a'r angel ? 8. Paham y gofynodd yr angel am ei enw ? Both oedd ateb J acob ? 9. Pa enw newydd a gafodcl ? Beth oedd ystyr yr enw newydd ?
B DRY C H.i
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
B DRY C H. EDRYCH ar y cwmwl gwyn, Sy'n brynio glas y net, A gweli rhyw feddylgar fryn 0 fewn ei galon ef. Nis medr dim ond meddwl hyfj Wel'd bryniau mewn cymylau Mae meddwl mawr yn ddigon cryf I wel'd tu hwnt i ffurfiau. Mae'r hwn sy'n meddwl yn y byd Yn gallu gwel'd yn ddyblyg Gall wel'd y ffurf gweledig mud, A gwcl'el yr anweledig. Edrych, gyfaill, ar y ser, Yn nghanol nos o Fedi, A gweli i gartrefle Ner, Sydd heibio'r ser yn gwynu. Edrych ar oleuni'r wawr Yn agor dorau'r dwyrain, Agweli y dwyfoldcb mawr Sy'n gwisgor muriau mirain. Edrych hefydar y tlawd Sy'n myn'd i Fynydd Scion A chotia di fod ef yn frawd I fyrddiwn o angylion. Mae llawer modd i edrych, frawd, Mewn byd sydd mor dwyllodrus Mae Dnw yn Dad i'r un tylawd, Fel i Rosynau'r Ynys. m Caerdydd. REES REES (Teifi)
ATIvBlAD Y PARCH W. THOMAS.*
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ATIvBlAD Y PARCH W. THOMAS.* EICH can ymholradol dderbyniais Pan oeddwn yn hynod o wael, Mewn gwely yn nhref Abertawe, Heb nemawr o gysur i'w gael; Ond dysgwyl y meddyg a'i frodyr 1 agor cl wyf arall ar frys— Dan gloroform unwaith yn rhagor, Achosodd hyn ddolur a chwys. Ond wedi i mi ddarllen eicli liolion Yn nghylch fy sefyllfa a'm lie, A clianfod eich dwys ddymuniadau, 'N ddiau dan ddylanwad y Ne', Ymnerthais a chodais fy nghalon, Cryfhaodcl fy hyder, gwir yw G-wocldiaufy mrodyr atebir Gan Dduw—y caf wella a byw. Ymleda gwir glod Dr Griffiths Yn gyflym ar edyn y ffaith I mi gael gwellhad mor effeithiol, Ar ol cael fy mhoeni mor faith Ei fedr yn ngwaith y llawfeddyg, Yn gynil ac ysgafn ei law Cwnaeth waith y bydd siarad am dano Gan ganmol-y blwyddi a ddaw. Diolchwn i Dduw am l'eddygon DeaJJus a modms eu gwaith. Ar gyrff eLL hadfer i iechyd, Wrth hyny nieliisayit y daith Ond Duw ddylem ganmol am fendi th Ar fcddyginiaethau y byd, Er symud y pocnao a'r gwcndid, A lloni y bywyd i gyd. Miwyf 'nawr wcdi gwella 'n I'hyfecldol A i- ol bod yn hynod o wan Oherwydd y driniaetli feddygol- Adferiad gwyd ysbryd i'r lan. 'Nol cyrhaedd fy nghartref goranwyl, Yn gyflym cynyddodd fy nerth, Dan driniaeth garedig fy mhriod Heh rwgnach-serchogl'wydd sydd werth. Bwriadaf yn fuan bregethu, Gweddio, a chanu cerdd Duw 'N gyhoeddus yn nghwmni'r frawdoliaetli Gredasant yn Nghrist er cael byw. Nid hir byddaf yma yn gweithio, Hyn ydyw tystiolacth pob Her; Ond pcry'm gwasanaeth fel Cristion 'N ddidcrfyn yn ngwinllan y net. Diolchaf i'r prydydd Cl wyd wenfro Am gan ymholiadol mor dda Sylweddol i gyd yw'r penillion, Cysuro y elwyfus a wna. Hyderaf cawn gwrdd yn y nefoedd, Os na chyfarfyddwn yr haf, Ar ddclw ein Ceidwad bendigaid, Mown cwmni xirddasol heb glaf. W. THOMAS. WhitJand, Tachwedd24ain, 1906.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MAE y Pareli E. Koberts, Brymbo, wedi ei ddcwis yn unfrydol am dyrahor anil], yn Gadeirydd, Cynghor Sirol Dinbych.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
tibu I Ah 3. q Kil Pure Delicioir.s 8 < -=":=-==- n_rr A A CA DA Mae y cri am Lafurwyr cyffredin yn uwch nag erioed. Cyfleusderau ardderchog i ddynion a merched iach. Y drefedigaeth agosaf a'r fwyaf o eiddo Prydain. 160 Acer yn Rhad Mynwch eich Tyddyn eich hun; dim rhent; Cartrefi hapus; Hins.. awdd iachus; 0 dan yr hen Faner; cludiad rhad; Teithio rhad a chyflym, Gwaith i'w gael Ar ffermydd i ddynion profiadol neu amhrofiadol, Morwynion, Navvies, Certwyr a phob gweithiwr ewyllysgar. Am Hysbysrwydd llawn, mapiau. painpitledi, a cbyt'iti-wyddiadau, Ymof'ytier-J. BRUCB WALKER, Assistant Superintendent Canadian Emigration, 11-12, Charing Cross, London, S.W., neu a H. M. MURRAY, 81. Queen Street, Exeter. wmmmsi nmwwwmmmmmmammmmm
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
COLTSFOOT LUNG ELIXIR Is a great remedy for Coughs, Colds, Bronchitis, &c. It is most effective. Suits children aud adults. sold at all Chemists. Manufactured only by MORGAN W. JAMES, M.P.S., Chemist, Llanelly, S, W.