Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

ARDDANGOSFA GENADOL LLANELLI.

ANGENRHEIDIAU TEULU AIDD-…

MARWOLAETH MR T. THOMAS, DIWEDDAR…

LLANDEILO.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLANDEILO. Yn etholiad y Cynghor Trefol, Mawrth 25am, cymerwyd Ilawer iawn o ddyddordeb. Yr oedd wyth o ymgeiswyr, ac o'r pump a etholwyd, safai Mr J. Stephens, London House, ar ben y rhestr. Rhoddwyd hefyd le anrhydeddus i Mr Claud Davies, cyf- reithiwr, mab y Parch W. Davies. Hyfryd yw gweled dynion fel hyn yn cymeryd dyddordeb mewn gwaith cyhoeddus. Fel y canlyn y gorphenodd Mr J. Stephens ei gyfarchiad i'r etholwyr wrth gydnabod ei etholiad:— Mae'r frwydr wedi troi, Y Cwrw wedi ffoi; Yr etholwyr wedi rhoi I hwn-y Cooper's Boy "— Fwyafrif mawr." Hir oes i'r ddau i wasanaethu y dref a'r cylch.

ABERTILERI.