Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

CYFUNDEB BRYCHEINIOG. -

CYFUNDEB MEIRION.

CYFUNDEB LLEYN AC EIFIONYDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFUNDEB LLEYN AC EIFIONYDD. Cynaliwyd y cyfarfod diweddaf yn Salem, Porth- madog, Llun a Mawrth, y l8fed a'r igeg o fis Mawrth. Cyfarfu y Gynadledd am un prydnawn y dydd cyntaf, o dan lywyddiaeth y Parch H. Williams, B A., Penygroes, y cadeirydd am y flwyddyn. Dech- reuwyd trwy darllen a gweddio gan y Parch Llewelyn Williams, Nefyn. Cafwyd anerchiad byr gan y Cadeirydd, yn diolch am yr anrhydedd oedd y Gynadledd wedi osod arno, trwy ei ddewis i lywyddu y Cynadleddan am y flwyddyn hon. Yna darllenwyd a1 chadarnhawyd cofnodion y cyfarfod :diweddaf. Pasiwyd fod y cyfarfod nesaf i'w gynal yn Hebron, Lleyn, Mehefin 3ydd a'r 4ydd. Fod llythyrau cymeradwyaeth fel pregethwyr rheol- aidd yn cael eu rhoddi i Mri E. J. Griffiths ac Ellis Griffiths, i'w cyflwyno, y naill i Gyfundeb Arfon, a'r llall i Gyfundeb Mon. Wedi darllen llythyr a ddaeth 0 Gyfundeb Meir- ion, a chael peth ymdrafodaeth, gohiriwyd pasio penderfyniad arno hyd y cyfarfod nesaf. Gohiriwyd hefyd adroddiad y Pwyllgor Cenadol hyd gyfarfod Medi. Fod yr Ysgrifenydd o hyn allan i anfon rhaglen argraffedig i bob eglwys o'r hyn a fwriedir ddwyn i sylw y Gynadledd. Derbyniwyd eglwys Nantmor i'r Cyfundeb, Ein bod fel Cynadledd yn hyderu yn fawr y gall yr eglwys newydd yn Nantmor sicrhau yn fuan dir i godi addoldy cyfleus arno a'n bod yn gwneyd cair, taer ary tir-feistr, Mr Priestley, am ddarn o dir at y perwyl, ac yn dymuno arno dderbyn y brodyr can lynol :-Mri Thomas Jones, cyfreithiwr; Evan Owen, Hafodgaregog; a'r Parch W. J. Nicholson, fel dir- prwyaeth oddiwrth y Cyfarfod Chwarterol i osod yr achos o'i flaen. Fod y Gynadledd hon o Annibynwyr Lleyn ac Eifionydd, yn dymuno awgrymu i Bwyllgor y Can- iedyddion,' y priodoldeb o argraffu rhai o d6nau 'Caniedydd yr Ysgol Sul,' neu ddnau ereill a ddichon fod yn meddiant y Pwyllgor, yn y ffurf 0 furleni (wall sheets), at wasanaeth Cyfarfodydd y Plant, Gobeithluoedd, &c., ar gynllan y Blackboard Charts a gyhoeddir gan y Mri Curwen a'i Feibion. Ein bod yn gofyn i'n cynrychiolydd i wneyd a alio i sicr- hau i'r awgrym ystyriaeth ffafriol. Fod copi o'r penderfyniad i'w anfon i Ysgrifenydd y Pwyllgor dros Ogledd Cymru. Gwnaed yn hysbys fod ein cydwladwr y Parch T. Rowlands, cenadwr o Madagascar, ar ymweliad a'r wlad hon ar hyn o bryd, ac y gall rhyw nifer o eglwysi y Cyfundeb hwn gael ei wasanaeth ond go- hebu i'r perwyl hwnw S'r Parch T. Williams, Capel Helyg. Cafwyd anerchiad gwresog gan y Parch Tcwyn Jones, ar ran achos y Gronfa, yr hwn a wrandawyd gan bawb gyda mwynhad. Cynygiwyd ac eiliwyd ein bod yn diolch iddo am ei ymweliad a ni Mynegwyd mai y Parch Keinion Thomas, Fron- heulog, Menai Bridge, ydyw Trysorydd presenol Cronfa yr Ysbytai yn y Sir. Dalied yr eglwysi sylw mar iddo ef y dylid anfon y casgliadau, yn gystal ag mai oddiwrtho ef y ceir tocynau mynediad i'r cyfryw sefydliadau. Cyfeiriodd yr Ysgrifenydd at Daflen Ystadegol y Cyfundeb, oedd newydd ddyfod allan o'r Wasg, gan ddiolch ysgrifenyddion yr eglwysi am eu cymhorth parod yn nglyn a i pharotoi hi. Fod y Gynadledd hon yn credu yn gryf na ddylid defnyddio yr arian a gasglwyd at Gronfa y Cadym gyrch ond i'r amcan y bwriadwyd hwynt, ac na fydd un cynllun yn nghylch y modd i'w defayddio yn foddhaol, heb yn gyntaf i'r Cyfundebau Crefyddol, sydd wedi cyfranu yr arian, gael cyfle i roddi eu barn ar y cyfryw gynllun a gynygir. Gwnaeth y Cadehydd gyfeiriad at bresenoldeb dau o bregethwyr ieuainc, sef Mri J. R. Williams, Eben- ezer, a W. A. Griffiths, Maesydref. Pasiwyd anfon llythyrau cydymdeimlad a Chadben D. Richards, Porthmadog, yn ngwyneb gwaeledd Mr R Williams, Tyddynmawr, Chwilog, marwol- aeth mab y Parchn J. W. Foulkes, Tabor, a Joseph Evans, B A., Chwilog, marwolaeth mam y naill a'r llall; Mr R, Roberts (Llew Glas), Cricieth, marwol- aeth chwaer. Rhoddwyd croesaw i'r Cyfarfod Chwarterol gan eglwys Salem a'i gweinidog, nad oedd modd rhoddi ei well. Yr oedd y darpariaethau yn helaeth, a'r caredigrwydd yn fawr. Diolchwyd yn gynes iddynt. Vaeth cynulliad lluosog i'r Gynadledd. Cyfraniadau yr E:,Iwysi ;63 15 01 Casgliad Salem 3 10 2 Cyfanswm • £ >7 5 2 II Y MODDION CYHOEDDUS. Nos Lun a dydd Mawrth, pregethwyd gan y Parchn Llewelyn Williams, Nefyn T. Williams, Capel Helyg; D. R. Williams, Moeltryfan T. G. Owen, Rhostryfan; R. W. Jones, Cilgwyn E. Jones, Llanbedrog; H. Williams, B.A., Peny- groes a Towyn Jones, Llandebie. Abererch. H. DAVIES, Ysg