Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. -0- PWYSIG! Dymunir ar ein Gohebwyr a'r Beirdd i ddal sylw ar y Cyfarwyddiadau canlynol mewn perthynas a'u cyn I yrchion. Mae danfon Barddon- iaeth i'r Swyddfa yn lie eu danfon i Pedrog, a chyfeirio Gohebiaethau i breswylfod y Golygydd yn lie i'r Swyddfa, yn peri dyryswch ac anghyfleusdra mawr. I. I aufon eu Gohebiaethau yn uuioiigyrchol i'r Swyddfa, gyda'u henwau priodol a'u cyf- eiriadau. 2. Rhaid danfon Barddoniaeth yu union- gyrchol i Olygydd y Farddoniaeth-y Parch. J (). Williams (Pcdrog), 30, Stanley-street, Fair- field, Liverpool. 3. Ni ellir sicrhau cyhoeddiad unrhyw oheb- iaeth yn y Rhifyn dyfodol os 11a chyrhaedda y Swyddfa y boreu Gwener blaenorol. AT EIN GOHEBWYR. Y Parch J. Beynon Davies, Castelltiedd.-Derbyn- iasom oddiwrth Mr Davies lythyr cryf yn cwyno fod rhywrai wedi ailgodi chwedl ei fod ef wedi uno a'r Eglwys Sefydledig, neu wneyd cais am hyny. Yr oeddym ninau wedi clywed y chwedl; a da genym, ar ei awdurdod ef, fynegi y ffaith yn y TYST mai cwbl anwireddus ydyw. Biau yr atalia hyny ledaeniod pellach ohoni. MewnLlam—Jerusalem, Pem bre-Cwm wysg-Vym- anfaoedd Canu Merthyr-Brynteg a'r Cylch—Cymer a'r Cylch Gwynfryr., Amanford-Penybontfawr-- Llandeilo, Penfro-Ffaldybrenin-Gofyniadau ar Yr Un Maes Llafur-Cyfarfodydd Uhwarterol Mynwy a Dinbych a Fflint-Beirniadaeth ar Farddoniaeth Cym- anfa Ganu Dowlais-Aberdar a'r Cylcb-Nodion o Lundain—Arholiad Undeb Ysgoliou Sabbathol Anni- bynwyr Cylch Dyffryn Towy-Whitland, &c.
Y DIWEDDAR BARCH JAMES .JONES,…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y DIWEDDAR BARCH JAMES JONES, FOCHRIW. ER nad oedd Mr JONES yn adnabyddus i'r 011 o'n Henwad, cynyrchodd y newydd am ei farwolaeth deimlad 0 ofid dwys yn meddyl- iau tyrfa luosog. Yn Morganwg boblog yr oedd yn adnabyddus iawn, ac yn ei Gyfun- deb-Cyfundeb Gogleddol Morganwg-yr oedd iddo barch diddadl. Yr eglwys yn y Fochriw oedd ei unig faes fel gweinidog, a bu yn llafurus yno am ddwy flynedd ar hugain. Rhaid fod ynddo gy- mhwysderau i'r gwaith, cyn y gallasai ddal am gyfood mor faith yn yr un cylch, a pharhan i lwyddo o hyd. Ac felly yr oedd. Nodweddid ef gan bwyll, sefydlogrwydd, ac ymroad a'i gwnai yn ddyn gwerthfawr i ardal ac i eglwys. Ni frysiai gyda dim, ac ni cherid ef ymaith gan bob awel. Llywyddai gyda medrusrwydd, a llywodraethai gyda hawsder. Carai ei bobl yn fawr, a gwyliai drostynt gyda ffyddlondeb a dyfalwch. Carent hwythau yntau, ac ni warafanent ddim er ei gysur. Perthynas hapas nodedig fa yr un rhyngddo ef a'r eglwys dan ei ofal. Bu yn 'weinidog da i IESU GRIST' am y tymhor a ganiatawyd iddo, yn gosod o Baen y bobl Sabbath ar ol Sabbath o'r pethau a roddai yr YSBUYD GLAN iddo. Pregethai yn gryf a da bob amser, gan iawn gyfranu gair y gwirionedd.' Talai sylw i ieuencfcyd a phlant ei gynulleidfa, ac ymdrechai bob amser eu harwain a'u haddysgu. Cafodd yr eglwys yn y Fochriw rodd werthfawr yn ein hanwyl frawd, a phery ei pharch i'w goffadwriaeth am amser maith. Yn ddiweddar, yr oedd, ar gais Pwyllgor Blaensymudol y Cyfundeb, wedi addaw gofalu am yr eglwys newydd a gychwynwyd yn Gilfach, a cha hithau golled fawr yn ei farwolaeth. Talai sylw i symudiadau enwadol, a phrofai ei fod yn Annibynwr selog, er nad yn gul. Mynychai yn rheolaidd Gyfarfodydd Chwart- erol yn nghyda gwahanol bwyllgorau y Cyfundeb y perthynai iddo. Pregethodd yn fynych yn ngtyn a'r cyfarfodydd hyny, a llanwodd am un flwyddyn Gadair y Cyf- undeb. Nis gallai ei frodyr yn y weinidog- aeth 0 fewn y cylch, y rhai a'i hadwaenent orea o bawb, osod anrhydedd mwy arno na'i anrhvdeddu a'r Gadair hono. Nf cbyfyngai ei Jafur i'w Enwad ychwaifcb, eithr cymerai ddyddordeb byw yn nyrchafiad ei ardal a'i genedl. Parod ydoedd i gymeryd ei ran o'r gwaith bob amser, ac ni wnai ei fod yn anhawdd un gwahaniaeth iddo. Cyn i Ddeddf Addysg 1902 ddiddymu y Byrddau Ysgol, bu yn aelod am flynyddau o Fwrdd ei gylch ef, a gweithiodd yn ddewr a da. Rhoddodd lawer o'i amser at y gwaith, a chyflawnodd ef yn llwyddianus. Meddai farn glir, a dewrder i'w chario allan. Dan y ddeddf newydd yr oedd wedi ei wneyd yn Gadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr Lleol yn Gelligaer; a phrawf hyny fod ei barch a'i ddylanwad yn myned ar gynydd o flwyddyn i flwyddyn. Bu farw yn nghanol ei ddyddian a'i ddefnyddioldeb, a phawb yn edrych yn mlaen at flynyddoedd o wasanaeth addfetach ac effeithiolach oddiwrtho. Nid oedd unrhyw amser yn gryf iawn, a'r tri mis diweddaf yr oedd wedi bod yn achwyngar. Taened yr AEGLWYDD ei amddiffyn tyuer dros ei weddw ieuanc, ei berthynasau, a'i eglwysi.
Y DIWEDDAR ANWYL MR THOMAS…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y DIWEDDAR ANWYL MR THOMAS THOMAS TV NYWERN.2 FEL I Thomas, Ty'nywern,' y rhaid i ni gael son am dano, er ei fod er's amryw flynyddau wedi symud i fyw i Aberdar at ei ferch a'i fab-yn-nghyfraith, y Parch J. Grawys Jones. Fel' Thomas, Ty'nywern,' yr adnabuasom ef gyntaf ddeng mlynedd ar hugain yn ol pan ar ymweliad a hen eglwys y Groeswen. Caw- som y fraint y pryd hwnw o letya dan ei gronglwyd, a gadawodd argraff annileadwy ar ein meddw]. Y mae rhai dynion y gellir eu hanghofio. Nid yw amryw gyfarfyddiadau a hwynt yn ddigon i roi iddynt le arosol yn y cof. Y mae ereill nas gellir eu hanghofio ar ol bod yn eu cwmni unwaith, oblegid argraffant rywbeth ar y cof nas gellir ei ddi- leu. Perthyn i'r dosbarth olaf yr oedd Thomas, Ty'nywern. Rhoddai ei hunan mor hael a rhwydd i rywan, a chymerai gymaint o ddyddordeb yn ei gysur a'i Iwydd fel yr oedd yn anmhosibl ei anghofio. Dyn anwyl nodedig oedd efe, heddychol ei ysbryd, a charedig ei natur. Nid yr hyn a elwir weithiau yn ddyn bach neis,' am ei fod yn rhy ysgafn i fod yn fawr, yn rhy fas i fod yn ddifrifol, ac yn rhy wan i geryddn yr hyn sydd anheilwng. Nage, nid hwnw, ond yn hytrach un yn gallu cyfuno tynerweh natur gariadlawn a. rhioweddati ereill a'u gwnaent yn gefnogydd selog i'r da, ac yn wrthwyneb- ydd gwrol i'r drwg. Parai ei garedigrwydd iddo gymeryd dyddordeb diatal yn mhawb o'i gylch, a gwobrwyid ef gan eu hanwyldeb hwythan. Ni wyddom am ddyn a gerid yn fwy gan y rhai a'u hadnabyddent. Yr oedd yn Ymneillduwr 0 argyhoeddiad, a gwnaeth lawer i ddal parch a dylanwad Ymneillduaeth i fyny yn y cylch ac yn Y wlad. Yr oedd hefyd yn Annibynwr cryf, a pharhaodd felly byd y diwedd. Fel aelod a swyddog 0 eglwys y Groeswen, bu ei wasan- aeth yn fawr am lawer 0 flynyddau. Carai yr achos yno ac yn Nantgarw, a'r gweinidogioll, a chariad angherddol, a gwae y neb a ysgyd- wai ei dafod neu ei fin yn en herbyn. Dilynai gynulliadau ei Enwad yn y sir, a rhoddodd wasanaeth gwerthfawr fel trysor- ydd ei chymanfa flynyddol am dymhor maitb. Dilynai yr Undeb, ac nid oedd neb y gwerfch- fawrogid ei bresenoldeb yn fwy. Gwasanaeth ewyllvsgar, selog, ac effeithiol, oedd yr un a roddai efe bob amser. Mewn Addysg cymerai ddyddordeb byw iawn, a bu am ddeng:mlynedd ar hugain yn Ysgrifenydd Bwrdd Ysgol Eglwysilan. Yr oedd ei nerth wedi ei ddarostwng gryn dipyn y blynyddoedd diweddaf, fel na chafodd fan- tais i wneyd llawer gyda'r frwydr fawr yn erbyn Deddf Balfour, ond teimlai yn gryf er hyny. Y mae lleygwyr fel efe wedi bod yn gryf' der mawr i Ymneillduaeth ein gwlad, ac nlS gallwn lai na gofidio a galaru yn wyneb eO symudiad. Da genym er hyny fod y plant yn codi yn He'r tadau, ac fod to o leygwyf ieuainc yn codi yn awr yn ein mysg na fydd: ant yn 01 mewn gwasanaeth i'r rhai sydd wedi blaenu. Heddwch i lwch y dyn anwyl hwo yn hen Fynwent enwog y Groeswen. .4aw. 1, im=
POB OCHR I'R HEOL., __■rtfi
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
POB OCHR I'R HEOL. ■rtfi (1) Gwelsom dablet o farmor tlws wedi ei ddodi i fyny ar fur capel y TabernacI, IIir waun, yn ddiweddar, er cof am y gweinidog ieuanc da a dorwyd i lawr yn mis Mai, 1906; -y Parch T. Edmunds. Fel rheol, y mae eglwysi yn gwneyd hyn a, gweinidogion Ilaf- urus a chydwybodol fu yn eu mysg; ac arfer- iad brydferth yw. Pwy wyr y dylanwad y mae gwel'd maen coffa dyn da yn gael, a d'o<j dro ar ol tro wyneb yn wyneb a'r golofn sy<^ yn ei goffhau 1 Heriwn y dyn annuwiola^1 gerdded drwy fynwent lie mae gwyr mawr, nea heibio i gof-feini gweinidogion ymrodd' gar a adwaenai efe, heb deimlo rhyw iaS17 ddylanwad go iach. Hyn fyddai'r ddysgybl' aeth oreu i lawer o bobl ieuainc ein cenedl ea hanfon ar daith heibio cof-golofoatilt cedyrn. # (2) Mae y Parch Rhondda William^)> ° Bradford, wedi cyhoeddi yn llyfr swllt ei dd" hongliad o'r Dduwinyddiaeth Newydd/^ 'An Exposition.' Cyflwynir y llyfr '*■ 1 gyfaill, y Parch R. J. Campbell, fel teyrDge 0 barch am ei saflad dewr 0 blaid rhyddid Y d ) myd y meddwl crefyddol.' Eithaf da; 015 I dy wedwn yn ddifloesgni ei fod yn llyfr Pe rhydd acamrwd y tu hwnt. Anmhosibl d* lien penod ynddo heb dd'od ar dra#s J dywediadau mwyaf hyflon a diystyriaet Hawdd yw galw'r Beibl yn Jewish legendsu galw hen athrawiaethan crefyddol yn dog0l 0 lies. A dyweyd nas gallai Duw wneyd dy ø gwbl heb iddo yr un pryd wneyd pecbod y bosibl. A honi nad oes yr un well-info^J person yn ctedu yn y Cwymp fel y dysgjr fr gan yr eglwysi. Pentwr 0 haeriadau yW Mr Rhondda Williams, yn diystyru yr derfynau, ac yn dirmygn casgliadafl tØ i dduwinyddion y byd. A ii i fod y n dOYt" -anmhosibl taro ar ddim mwy felly na'r