Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
ABERCRAVE.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ABERCRAVE. Y Gymanfa Gaitit.Fel arfer, cynaliwyd yr uchod gan eglwysi Ty'nycoed a Bethle- hem, Gwener y Groglith. Yr arweinydd eleni, fel y llynedd, oedd Mr J. Phillips, Y.H., Aberafon. Cafwyd cynulliadau da a Chymanfa dra llwyddiauus. Yr oedd y plant yn well nag erioed. Cyfeiliwyd gan Mr D. D. Jones.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
W HIT LAND.—Penderfynodd eglwysi y Taber- nacl a Bethel ddoe (Sul, Ebrill 7fed), i anfon galwad gynes ac unfrydol i Mr Gwilym Higgs, B.A., o Goleg Aberhonddu, i ddyfod yn gyd- weinidog a'r Parch W. Thomas yn yr eglwysi uchod. Hyderwn yr ateba Mr Higgs yr alwad yn gadarnhaol, ac y bydd bendith Preswylydd y Berth ar yr undeb.— W. S.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Teeuliodd S.vr Henry Campbell Bancerman wyliau y Prfsg yu Cannes. Dysgwylir ef yn ol Lundain beddyw (dydd Merclier). Mawr hyderir ei fod wedi cael adgyfnerthiad i'w iechyd.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TREI?FYNON. Nos Ian, a dydd Gwener y Groglith, cynaliodd eglwys Heol-y capel ei chyfarfod pregethu blynyddol. Hi elienadon dewisedig eleni oeddynt y Parchn D. Stanley Jones, Caernarfon, ac R. Rees, Alltwen. Caf- wyd cynulleidfaoedd Iluosog, a phregethau grymus. J. T. W. BAGILLT. Cynaliodd eglwys Salem ei chyfarfod pregethu blynyddol ar y Sul a Mim y Pasg, pryd y gweinyddwyd ynddynt gan y Parchn T. Ogwen Griffiths, Rhyl, ac R. Williams, Crewe. Caed cyfarfodydd da iawn o'r dechreu i'r diwedd.—W. M. J. DREFNEWYDD, PORTHCAWIv. Cynal- iwyd gwyl flynyddol yr eglwys uchod Mawrth 24ain a'r 25ain. Pregethwyd ar yr achlysur gan y Parchn J. Llewelyn, Dyffryn Rhys Price, Porthcawl; a Morley Davies, Maesteg. Cafwyd cynulliadau rhagorol, a dylanwadau nerthol.—Glanmor. SEION, RHYMNI. Eleni, yn herwydd fod ein capel o dan adgyweiriad, gorfu i ni bwyso ar bobl garedig y Wesleyaid am le i gynal ein cyfarfodydd Gwyl y Pasg. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn W. Parri Hughes, B.A., Dolgellau, a W. D. Thomas, Brynaman.—M RHOSYMEDRE. Mae yr eglwys uchod wedi adnewyddu ei chapel, a chynaliodd yr eglwys ei chyfarfodydd agoriadol Sul a I/lun y Pasg, yn nghyda rhai nosweithiau dilynol. Gwasanaethwyd gan y Parchn O. R. Owen, Lerpwl; J. Hughes, Tanygrisiau a Mafonwy Da vies. Solfach, fel dyeithriaid, yn nghyda rhai o weinidogion mwyaf poblogaidd y cylch. Cafwyd cyfarfodydd da, ac y mae'r capel a'r organ newydd yn harddweh i'r ardal, ac yn glod i'r eglwys.—Cyfaill' EBENEZER, GORSEINON. Pregethwyd i gynulliadau lluosog iawn yn nghyfarfodydd Ebenezer eleni gan y Parchn W. James, Aber- tawe, a Hugh Hughes (W), Ystalyfera. GOAVERTON.—Pregethwyd yn nghyfarfod- ydd y Tabernacl i gynulleidfaoedd lluosog gan y Parchn J. E Jones, Cilfynydd, a D. Lloyd Morgan, Pontardulais. Bendith y Nef fyddo ar yr had da.
POB OCHR I'R HEOL., __■rtfi
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
hwn; ac y mae'n gorfod cymeryd pobpeth for granted yn ei ffordd ei hun cyn y gall sefyll moment. Un peth sydd yn dda genym yw hyn fod cyflwr presenol y Dduwinyddiaeth Newydd yn un mor anaddfed a gwyllt, fel nad oes fawr perygl iddi ddal namyn am ychydig fisoedd. O'n rhan ein hunain, credwn fod Yn mron bob gweinidog effro a meddylgar yn y deyrnas yn teimlo fod angen ad-drefou crya dipyn ar ein duwinyddiaeth, a'i dodi fwy in tine a phethau goreu yr oes, a chydnabod gol- euni y Gwyddonydd, &c.; ond nid yr ad- drefniad hwn a esbjnir gan Mr Williams yw'r un foddia neb ohonom. -? 0){. (3) Wele'r Dysgedydd am Ebrill. Mae un 0 bregethaa Emrys yn arwain. Syndod fel y cyfnewidia arddull bregethwrol gwlad mewn tymhor byr Ychydig iawn o weinid- ogion Cymru fuasai heddyw yn gallu cerdded y llwybr hwn o eiddo Mr Ambrose, on o brif bregethwyr ei gyfnod. Mae'r dull 0 feddwl, ac 0 ddyweyd y meddwl, wedi newid cryn lawer. Ond da yw'r bregeth. Pery y Parch J. Lewis Williams i wneyd yn y Dysgedydd yr hyn wnaed ganddo mewm misolyn arall am Fawrth-ymdrin a. Duwdod yr Iesu ond y mae'r ymdriniaeth yn eangach yma, ac yn fwy eu phwyslais ar un agwedd i gwestiwn mawr yr Ymgnawdoliad. Pregeth neu lith rhagorol yw. Un o'n meddylwyr mwyaf fresh a sweet yw Mr Evans, Aberdyfi. Mae ei bregeth yn y rhifyn hwn yn bur felus a thyner. I Ffyddloniaid Abercrwy yn ddy- ddorol ac yn bictiwr deheuig o gymeriadau gwledig. 'Hywel Llwyd' o'r un math gan Penrith. Mae ysgrifau ac adolygiadau manwl yma hefyd gan Mr Williams, Waunwen, ac 0. L., a'r Golygydd, heblaw y materion sefydlog. (4) Dadorchuddiwyd yn Nghaerdydd yr wythnos ddiweddaf Gerflun er cof am hen bysgotwr tlawd a losgwyd wrth yr ystanc yn y ddinas rhyw dri chan' mlynedd a haner yn ol-dyn o'r enw Rawlins White. Dim ond tri o ferthyron Protestanaidd a losgwyd yn ein gwlad ni yn nghyfnod yr erlid mawr yn oes Mari Waedlyd, a chofier, er eu clod, mai tri Sais oeddynt. Un yn Hwlffordd- William Nicholl; y Hall yn nhref Caer- fyrddin—yr Esgob Ferrar; a'r trydydd yn Nghaerdydd—Rawlins White. Pwy wyr ein dyled i'r cedyrn hyn ? Nid meini ar furiau eglwysi a chapelau ddylai fod i'r rhaifhyn; ond cof-golofnau mawrion uchel, y gwelid hwy 0 r bell. Well done, Caerdydd, eto (5) Mae rhifyn arall o'r Nationalist wedi d'od allan, ac nid oes ynddo yn mron 0 glawr. i giawr ond ymosod ar rywrai. Y mae y TYST yn d'od i mewn am gyfran o'r gurfa, a hyny am i ni alw sylw ato dro yn ol, yn ddiau, a dyweyd ein barn yn blaen am y Nationalist; oblegid dyfynu o'r gulofa hon y mae critig y urisolyn hwn, gan briodoli ein nodi adau ni i Mr Thomas, Merthyr, Golygydd gofalus y TYST. Deil ar ei gyfle i ddyweyd fod Mr Thomas yn pwffio y Genad Hedd-y cylch- grawn a olyga efe a'r Parch Jacob Jones. pruan o'r Nationalist!—dylai fedrn gwahau- laethu rhwng nodiadau Pob Ochr i'r Heol' ac ysgrifau Mr Thomas, yn enwedig ag Yntau-y critig-yn un mor Ilygadgraff ac fallffaeledig, ac yn gallu dyweyd ei farn mor ddiamwys am bawb. Beth sydd gan Olygydd y Nationalist yn erbyu cyhoeddi ei enw ? Bron na ddywedwn Daai anmhosibl yw iddo ymguddio mor llwyr ag y myn, ac y mae ei berthynas a rhai ysgrifau yn y rhifyn hwn yn rhy glir i neb fod yn y niwl rhyw lawer yn hwy yn ei gylcb. Ffiaidd 0 ddrwgdybus yw ei gyfeiriadau at Mr 0. M. Edwards, wnaeth fwy i addysg Cymru na'r Golygydd hwn, er cymaint ei honiadau 0 achlysur i achlysur ac y mae rhai darnau hwnt ac yma yn taro yn isel iawn. (6) Mor hardd yw gwel'd ein cenedl yn treulio ei dyddiau gwyl yn y cysegr Oddeutu y Pasg gellid gweled canoedd 0 Gymry ieuainc, canol oed, a hen yn tyrn i dy yr Arglwydd. Wrth eu gweled yn gadael pob tuedd i grwydro a gwibio 0 fan i fan o'r neilldu, ac yn rhoi'r dydd i gyd i fwynhad yr Efengyl, meddyliem yn onest a diolchgar nad oedd genedl arall dan y nef 0 bosibl fuasai yn trenlio ei gwylddyddiau yr un fath. Fyn y Sais ddim aberthu ei ryddid ar ddydd gwyl i gapel nac eglwys. Hwyrach yr aethai i mass yn y boreu bach ond am roddi oriau v dydd i gyd i ganu emynau a gwrando yr Efengyl—dim perygl. Ond rywfodd y mae'r Cymro yn edrych yn mlaen at y Groglith a'r Pasg, a'r Llungwyn a'r Nadolig, i wneyd Sabbathau extra ohonynt. Tuedd hynod yw hon, ac un fendigaid iawn. 0! na ladder hi, ond meithriner hon yn ofalus; dyna un o'r prif arwyddion fod gan Dduw afael ar ein cenedl fach hoff. Gwlad na byddai eisieu dim ond to arni i'w gwneyd yn deml ys- blenydd yw Cymru hyd yma. (7) Mewn Cynadledd Ddirwestol a gynal- iwyd yn un o drefi sir Gaerfyrddin yn ddiw- eddar, cymerodd dadl go ddyddorol le. Yr oedd trefnwyr y Gynadledd wedi tynu allan nifer o benderfyniadau i'w pasio a'i hanfoo i'r Seneddwyr. Yn eu mysg yr oedd un penderfyniad mawr, cryf, yn galw ar y Weinyddiaeth i ddwyn i'r Senedd eleni fesur yn delio a'r holl ddiwygiadau dirwestol geisir gan arweinwyr y wlad; ond gorphenai y penderfyniad drwy ddyweyd—'fod yr holl ddiwygiadau hyn i beidio cael eu rhwystro gan unrhyw gynygiad am Re<>laeth Gwmnïol (Company Control, or disinterested manage- ment).' Yr oedd nifer fach yn y Gynadledd yn credn yn syniad Whitaker, ac am fabwys- iadu adroddiad Peel, a myned i mewn am y Company Control; a chododd gweinidog ieuanc ar ei draed i ofyn i'r Gynadledd symud y frawddeg oedd yn y penderfyniad yn anelu at y Whitaker Scheme,' gan ddymuno i'r holl Gynadledd bleidleisio dros y penderfyn- iad yn ei ffurf ddiwygiedig. Aeth yn ddadleu brwd a dyddorol iawn; ond adran Cynghrair y Deyrnas Gyfunol gariodd. Nid oedd ryfedd, er yn hollol deg, oblegid yr oedd tri 0 gynrychiolwyr swydiogol yr Alliance yn trefnu ar ei chyfer, neu ynte yn cymeryd rhan yn y Gynadledd. Yn awr, onid gwell fyddai peidio rhoi tramgwydd i'r llu mawr 0 weinidogion ac arweinwyr cyhoeddus sydd yn y wlad 0 blaid y mudiad arall ? Peidio son am y naill gynllun na'r llall-y Prohibition na'r Company Control-fyddai oreu, yn hytrach na dyeithrio gweithwyr dirwestol. O'n rhan ni, nid ydym yn credu fod dis- interested management yn bosibl; eto i gyd, ni charem roi tramgwydd mewn Cynadledd gyhoeddus i gefnogwyr y cynllun hwnw. Cynadledd ragorol gafwyd yn sir Gaer. (8) Mae genym bentwr o Adroddiadau Eglwysig—Seion, Caerau Horeb, Llwyd- coed Nazareth, Pontlotyn; Bethel, Ffest- iniog; Adroddiad Cymdeithas Genadol Gartrefol Mon, &c. Cawn sylwi ar yr oil yn ein nesaf. (9) Derbyniasom lythyr hefyd o China oddiwrth y cyfaill ymroddgar, y Parch Hopkyn Rees. Mae wedi ail-ymaflild yn ei waith, ac yn dechreu ymgolli unwaith eto yn mawredd y Ilafur sydd i genadwr yn China bell. Yr oedd yn eira mawr pan gyrhaedd- odd Mr Rees a'r teulu yn ol i China; a methasant fyn'd ran o'r daith mewn llong oherwydd fod yr afon wedi rhewi. Cawsant dderbyniad :breninol yn mron gan Gristion- ogion a phaganiaid China baneri allan, canu mawr, gosgordd filwrol i'w harwain, &c. A da oedd bod adref erbyn y Nadolig. Nadolig yn nhir Sinim