Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

YR YSGOL SABBATHOL

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

YR YSGOL SABBATHOL Y WERS RYNGWLADWRIAETHOL. (International Lesson.) GAN Y PARCH D. OLIVER, D.D., TREFFYNON. EBRILL 21ain. Gwerthiad Joseph gan ei frodyr.—Genesis xxxvii. 5-28. Y TESTYN EURAIDD.—' Canys lie mae cenfigen ac ymryson, yno y mae terfysg, a phob gweith- redddrwg.' -Iago iii. 16. RHAGARWEINIOL. YN penod xxxiii. yr ydym yn cael hanes cyfarfyddiad heddychol y ddau frawd, Jacob ac Esau. Ond ni buont yn hir gyda eu gilydd, a diau mai hyn ydoedd ddoethaf. Er eu bod Wedi cymodi a maddeu i'w gilydd, eto yr oedd yr hyder hwnw y naill yn y Uall ag sydd yn sicrhau heddwch gwastadol wedi ei golli. byma un o ganlyniadau pechod. Symudodd Jacob tua'r gorllewin, a daeth i Succoth, lie yr arosodd am ychydig amser. Oddiyno, wedi croesi yr Iorddonen, aeth rhag ei flaen yn llwyddianus i ganol Gwlad yr Addewid, a gwersyllodd o flaen dinas Sichem; ac, fel Abraham, adeiladodd yno allor i'r Arglwydd. Yn Sichem cawn iddo gyfarfod a phrofedig- aeth lem, yr hon a ddygodd arno ofid dwys ac ofn, a phenderfynodd ymadael. Wrth orch- ymyn yr Arglwydd aeth i Bethel, a chyflawn- odd ei addewid yr hon a wnaethai pan yn ffoadur o dy ei dad. Yn ystod ei arosiad yn Bethel bu farw Deborah. 0 Bethel, cawn iddo symud i Ephrath, yr hen enw ar Bethlehem, a thra ar y daith hon, cyfarfyddodd ag un o brof edigaethau llymaf ei oes. Bu farw Rahel ar enedigaeth mab, yr hwn a fynai hi ei alw Ben-oni, mab fy ngalar, ond ei dad a'i henwodd ef Benjamin, mab y ddeheulaw. Wedi adeiladu colofn ar fan beddrod ei anwyl wraig, symud- odd i Mamre, o flaen Hebron, lie yr oedd Isaac ei dad yn byw. Bu farw Isaac yn hen, ac yn gyflawn 0 ddyddiau, sef can' mlynedd a phed- "War ugain mlynedd, a'i feibion Esau a J acob Y a'i claddasant ef yn hen feddrod eu tadau,. ^ymerodd yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn y Wers le yn mhen rhyw 10 mlynedd ar ol i Jacob ddychwelyd i Ganaan, pan oedd Joseph tua 17 mlwydd oed. Y mae hanes Joseph, y ^weddaf o'r patrieirch, wedi ei roddi yn fanwl lawn, ac y mae yn llawn dyddordeb. Awgryma rai o'r gwersi mwyaf buddiol, a dangosa mewn j*iodd neillduol ofal rhagluniaeth Duw am Ei bobl. Dygir ef ger ein bron yn y Wers hon fel 40ff blentyn ei dad—yn wrthrych cenfigen a Calais ei frodyr, ac yn cael ei werthu i'r Aifft. ESBONIADOL. Adnod 5. 'A Joseph a freuddwydiodd fUddwyd, ac a'i mynegodd i'w frodyr a hwy *1 casasant* ef eto yn ychwaneg.' A Joseph a 'J^uddwydiodd freuddwyd. Cawn ei freudd- wydion yn adnodau 6-11. Daw ei natur unplyg r golwg yn y ffaith iddo adrodd ei freuddwyd- OQ. y mae yn debygol nad oedd ganddo atQcan i ychwanegu digofaint ei frodyr. Pa un a ^vriaeth yn ddoeth dan yr amgylchiadau sydd „n«ieus. Deallodd ei frodyr y breuddwydion .el yn cyfeiriojat ryw uchafiaeth oedd Joseph j |ael arnynt hwy. Efallai eu bod yn tybied llaw yr Arglwydd yn y breuddwydion, 0 |ai%niad, teimlent nid yn unig fod eu tad yn psod arbenigrwydd ar Joseph, ond fod Duw am ei anrhydeddu ac oblegid hyn casas- ef eto yn ychwaneg. Q.^nod 6. — 'Ac efe a ddywedodd wrthynt, ^randewch, atolwg, y breuddwyd hwn a ^Qddwydiais i.' Ac efe a ddywedodd wrthynt, ^randewch Gwell fuasai iddo beidio siarad ^Qiaint am ei ragorfreintiau a'i ragolygon, yr oedd yn ieuanc a dibrofiad. 0e^°d 7. — Ac wele, rhw.ymo ysgubau yr ys^yw ni yn nghanol y maes ac wele, fy ei<fh a gyfododd> ac a safodd hefyd ac wele ym ^s§ubau chwi a safasant o amgylch, ac a 3/ Sptnasant i'm hysgub i.' Ac wele, rhwymo fou r 11 l'r oeddym ni. Y mae yn ymddangos §yst iC0b yn amaetliu y tij-" fel ei dad Isaac, yn yn h, ciladw anifeiliaid, a byddai ei feibion bre.lfi iVyrao ysSabau yn y meusydd. Yn y ac v* Wyd Swelai J oseph ei ysgub yn sefyll, yn v UtDau ei 1:'rodyr yn sefyll o amgylch, ac i w ysSub ef- Deallwyd y breudd- b/0fl tel yn awgrymu y buasai yn rhaid i'r uyr dalu gwarogaeth i Joseph. Adnod 8.—' A'i frodyr a ddywedasant wrtho, Ai gan deyrnasu y teyrnesi arnom ni ? ai gan arglwyddiaethu yr arglwyddiaethi arnom ni ? A hwy a chwanegasant eto ei gashau ef, oblegid ei freuddwydion, ac oblegid ei eiriau.' Ali frodyr a ddywedasant wrtho, Ai gan deyrnasu y teyrnesi arnom iti ? Ni fynai y brodyr gymodi a'r syniad o uchafiaeth Joseph arnynt hwy, ac y mae awgrymu hyn yn cynhyrfu eu cas- ineb yn fwy. Adnod 9.-l Hefyd efe a freuddwydiodd eto freuddwyd arall, ac a'i mynegodd i'w frodyr, ac a ddywedodd, Wele, breuddwydiais freuddwyd eto; ac wele, yr haul, a'r lleuad, a'r un seren ar ddeg, yn ymgrymu i mi.' Hefyd efe a freuddwydiodd eto freuddwyd arall. Ychwan- egir breuddwyd arall i'w gadarnhau, er gwaethaf gelyniaeth ei frodyr. Yr haul. Ei dad. A'r lleuad. Ei fam. Neu hwyrach fod y cyfeiriad at Bilhah llawforwyn Rahel, yr hon a ofalai am Joseph a Benjamin ar ol marwol- aeth eu mam. Un seren ar ddeg. Ei frodyr. Yr oedd yr ail freuddwyd yn cadarnhau y cyntaf. Adnod 10.—' Ac efe a'i mynegodd i'w dad, ac i'w frodyr. A'i dad a feiodd arno, ac a ddy- wedodd wrtho. Pa freuddwyd yw hwn a freuddwydiaist ti ? Ai gan ddyfod y deuwn ni, mi, a'th fam, a'th frodyr, i ymgrymu i lawr iti?' Ae efe a'i mynegodd i'w dad. Yr oedd yn dal perthynas a'i dad. A "i dad a feindd arno. Nid oedd y breuddwyd yn foddhaus i deimlad Jacob, a gwyddai y buasai yn fwy annymunol gan ei feibion. Trwy feio, hwyr- ach ei fod yn gobeithio lliniaru ychydig ar eu casineb. Pa fi-ettddivyd yw hwn. Er mor afresymol yr edrychai i Jacob, daeth i ben yn llythyrenol. Adnod 11.—' A'i frodyr a genfigenasant wrtho' ef; ond ei dad a ddaliodd ar y peth.' A'i frodyr a genfigenasant ivrtho ef. Dyma oedd y dylanwad ar y brodyr. Ond ei dad a ddaliodd ar y peth. Gwyddai ef beth oedd cael gweledigaethau a breuddwydion yn Bethel, Mahanaim, a Penuel. Adnod 12.—' A'i frodyr a aethant i fugeilia praidd eu tad, yn Sichem A'i frodyr a aeth- ant i fugeilia. Gan fod Jacob ar y pryd yn nyffryn Hebron; yr oedd Sichem tua 60 milldir o Hebron. Yr oedd Jacob wedi prynu tir yn Sichem (xxxiii. 19), ac yno yr anfonai y praidd ar adegau neillduol Adnod 13.—'Ac Israel a ddywedodd wrth Joseph, Onid yw dy frodyr yn bugeilio yn Sichem ? Tyred, a mi a'th anfonaf atynt. Yntau a ddywedodd, Wele Ii.' Mi a'th anfonaf atynt. Nid ydyw yn petruso dim i ufuddhau i orchymyn ei dad, ond dywed ar unwaith,' Wele ti.' Gwyddai yn ddiau am gasineb ei frodyr, ond yr oedd wedi dysgu ufuddhau i'w dad. Adnod 14.—' A dywedodd wrtho, Dos weith- ian, edrych pa lwyddiant sydd i'th frodyr, a pha lwyddiant sydd i'r praidd a dwg eilchwyl air i mi. Felly efe a'i hanfonodd ef o ddyffrjm Hebron ac efe a ddaeth i Sichem.' Edrych pa kuyddiant sydd i'th frodyr. Y mae yn debygol nad oedd wedi clywed dim oddiwrthynt er's wythnosau, ac yr oedd hyny yn ei wneyd yn bryderus am danynt. Adnod 15.—'A chyfarfu gwr ag ef ac wele efe yn crwydro yn y maes: a'r gwr a ymofynodd ag ef, gan ddywedyd, Pa beth yr wyt ti yn ei geisio ?' A chyfarfu gwr ag ef. Nis gwyddom pwy oedd y gwr hwn, ond yr oedd yn ddyn caredig, ac yn cydymdeimlo a'r llanc unig yn crwydro yn y maes. Adnod 16.—' Yntau a ddywedocld, Ceisio fy mrodyr yr ydwyf fi mynega, atolwg, i mi, pa le y maent hwy yn bugeilio ?' Ceisio fy mrodyr yr ydwyj fl. Nid oedd dim dichell yn ei galon, ond yr oedd yn ffyddlawn yn ufuddhau i orchymyn ei dad. Adnod 17.—'A'r gwr a ddywedodd, Hwy a aethant oddiyma oblegid mi a'u clywais hwy yn dywedyd, Awn i Dothan. A Joseph a aeth ar ol ei frodyr, ac a'u cafodd hwynt yn Dothan.' Awn i Dothan. Cafodd hysbysrwydd fod ei frodyr wedi myned i Dothan, lie yn agos i fynydd Gilboa, i'r gogledd-ddwyrain o Samaria. Yma y tarawyd y Syriaid a dallineb yn ol gair Eliseus. Aeth Joseph ar eu hoi yno. Adnod 18.-l Hwythau a'u canfuant ef 0 bell; a chyn ei ddynesu ef atynt, hwy a gydfwriad- asant yn ei erbyn ef, i'w ladd ef.' Hwythau a'i canfuant ef o bell. Pan welsant ef, cy- nhyrfwyd eu digofaint ato, a phenderfynasant ddial arno.. Teimlent ei fod yn eu llaw. Adnod 19.—' A dywedasant wrth eu gilydd, Wele y breuddwydiwr yn dyfod.' Wele y breuddwydiivr yn dyfod.' Ei freudwydion oedd yn eu poeni. Adnod 20.-7-' Deuwch gan hyny yn awr, a lladdwn ef, a thatlwn ef yn un o'r pydewau a dywedwn, Bwystfil drwg a'i bwytaodd ef yna y cawn weled. beth a ddaw o'i freuddwydion ef. Lladdwn ef. Penderfynasant ei ladd a. thwyllo eu tad. Gwnaethant hyn trwy gyd- ymgynghoriad. Adnod 21.—' A Reuben a glybu, ac a'i hach- ubodd ef o'u llaw hwynt ac a ddywedodd, Na laddwn ef.' A Reuben a glybu. Yr oedd ef yn fwy tyner-galon na'r lleill, ac yr oedd yn anfoddlawn ei ladd. Adnod 22.—' Reuben a ddywedodd hefyd wrthynt, Na thywelltwch waed bwriwch ef i'r pydew hwn sydd yn yr anialwch, ac nac estynwch law arno fel yr achubai ef o'u llaw hwynt, i'w ddwyn eilwaith at ei dad Bwriwch ef i'r pydew. Yr oedd ei amcan yn dda. Yr oedd am achub ei frawd o law ei frodyr. Adnod 23.—' A bu, pan ddaeth Joseph at ei frodyr, iddynt ddiosg ei siaced oddi am Joseph, sef y siaced fraith ydoedd am dano ef.' Pan ddaeth Joseph at ei frodyr. Cymerasant ei siaced oddi am dano, gyda'r amcan a nodir yn adnodau 31, 32. Adnod 24.— A chymerasant ef, a thaflasant i bydew: a'r pydew oedd wag heb ddwfr ynddo.' A thaflasant i bydew.oedd wag. Neu y pydew, sef y pydew a nododd Reuben. Yr oedd yn arferiad gwneyd pydewau yn yr anial- weh i ddal dwfr gwlaw, a phan yn weigion defnyddid hwy yn garchardai yn ami. Gwel Jer. xxxviii. 6; Zech. ix. 11. Hwyrach mai eu hamcan ydoedd ei adael i farw yno o newyn. Adnod 25.—' A hwy a eisteddasant i fwyta bwyd ac a ddyrchafasant eu llygaid, ac a edrychasant, ac wele fintai o Ismaeliaid yn dyfod o Gilead, yn myned i waered i'r Aifft, a'u camelod yn dwyn llysiau, a balm, a myrr.' A hwy a eisteddasant i fivyta. Y mae y ffaith eu bod yn gallu eistedd i fwyta yn ymyl y pydew, yn swn llefain eu brawd am drugaredd, yn dangos eu creulondeb. Daeth yr adgof am ei lefain i beri gofid mawr iddynt ar ol hyn. Gwel pen. xlii. 21. Wele fintai o Ismaeliaid. Yn adnod 28 dywedir mai masnachwyr o Midian oeddynt. Gelwid hwy Ismaeliaid oblegid eu gwaedoliaeth, a thrigent yn Midian Gilead, yr hon a orweddai ar y ffordd o'r Mor Coch i Syria, oedd orsaf He y cynullai y march- nadwyr i gyfnewid cynyrchion y Gorllewin am bethau y Dwyrain. Yr oedd Gilead yn nodedig am ei balm (Jer. viii. 22). Adnod 26.—'A dywedodd Judah wrth ei frodyr, Pa leshad a fydd os lladdwn ein brawd, a chelu ei waed ef?' Nid oedd Judah yn cyd- weled, &c. Pedwerydd mab Jacob oedd Judah. Pa leshad a fydd os lladdwn ein brawd, &c. Y mae yn apelio at eu buddiant personol. Gwyddai am y ffordd oreu i ddylanwadu arnynt. Adnod 27.—' Deuwcli, a gwerthwn ef i'r Ismaeliaid, ac na fydded ein llaw ni arno ef oblegid ein brawd ni a'n cnawd ydyw efe. A'i frodyr a gytunasant.' Deuivelt, a gwerthwn ef, &c. Cynygia ei werthu i'r Ismaeliaid. Cyr- haeddai hyny yr amcan oedd ganddynt mewn golwg yr un mor effeithiol. Yna apelia at eu teimladau, Oblegid ein brawd ni a'n cnawd ni ydyw efe.' Llwyddodd yn ei amcan: 'A'i frodyr a gytunasant.' Adnod 28.—' A phan ddaeth y marclmadwyr o Midian heibio, y tynasant ac y cyfodasant Joseph i fyny o'r pydew, ac a werthasant Joseph i'r Ismaeliaid er ^gain darn o arian hwythau a ddygasant -Joseph i'r Aifft.' A plum ddaeth y marchnadwyr, &c. Nis gellir pender- fynu gwerth yr arian, gan na nodir pwysau y darnau. Os mai siclau oeddynt, ni chawsant ond rhyw 3p am dano, sef dwy ran o dair o bris caethwas. GWERSI. 1. Joseph yn cael ei gashau gan ei frodyr. 1. Cashaent ef am fod eu tad yn ei garu. 2. Cashaent ef oherwydd natur ei freudd- wydion. 3. Cashaent ef am ei fod yn adrodd ei freudd- wydion.