Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

PLANT Y DIWYGIAD-PA LE MAENT…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PLANT Y DIWYGIAD-PA LE MAENT ? At Olygydd y Tyst. SYR,-Yn.y nodion o dan y penawd 'Pob Ochr i'r Heol,' am Mawrth 27ain, ceir y geiriau a gan- lyn:—' Y mae mwyafrif mawr dychweledigion y Diwygiad wedi oeri a chilio yn ol.' Wrth oeri a chilio yn ol,' y golygir yn syml gwrthgilio,' oblegid fel rheswm dros leihad yn yr Aelodaeth y ceir y frawddeg. A ydyw hyn yn wir ? Credaf nad yw. Y mae mwyafrif mawr' yn golygu mwy na haner cant y cant. ond dengys y ffugyrau a ganlyn fod un Cyfundeb yn Nghymru lie nad yw y gwrthgilwyr yn rhifo ugain y cant, sef Cyfundeb Lleyn ac Eifionydd. Yr oeddwn yn dysgwyl yn bryderus am yr Ystadegaeth eleni, a daeth allan ychydig yn llai na phythefnos yn ol. Cyfartaledd cynydd yr aelo au yn y Cyfundeb hwn am y deng mlynedd cyn 1904 (blwyddyn y Diwyg- iad), oedd 53 cyfartaledd y cynydd am 1904 a 1905 oedd 294 (588 am y ddwy flynedd), neu gyfartaledd o 241 yn fwy na'r deng mlynedd blaenorol; felly, dyma blant y Diwygiad yn 482 mewn dwy flynedd. Ychydig, os dim cynydd, allesid ddysgwyl yn 1906, gan fod cryman y Diwygiad wedi medi pob tywysen addfed ar y maes. Pa le, felly, y safwn ar ddiwedd 1906? Dengys yr Ystadegau leihad o II3 O'r rhai yna bu farw 22, yn gadael gweddill o 91, Caniataer fod y symud- iadau o'r Cyfundeb, yn gyfartal a'r symudiadau i'r Cyfundeb, a bydd raid i ni dd'od i'r casgliad fod y 91 o leihad yn yr aelodau, i'w esbonio trwy wrthgil- iadau plant y Diwygiad. Ond rhifa plant y Diw- ygiad 482, felly erys 391 yn yr eglwysi-mewn cyfrif, o leiaf A ellir dweyd yr un peth am gyfundebau ereill nis gwn ceir gwel d yn Nghastellnedd, pan ddaw ys- tadegau yr Undeb allan. Dichon y bydd rhywun mor garedig a n hanrhegu fig ystadegaeth rhyw Gyf undeb arall yn y cyfamser. Yr wyf yn ysgrifenu hyn er mwyn cywirdeb yn unig, ac nid mewn ysbryd ymgecraeth Teimlaf mai anffawd ydyw gwneyd gosodiadau ysgubol, heb fod y seiliau yn hollol safadwy. Dichon fod gan ysgrif- enydd y paragraph dan sylw sail i'w osodiad os oes, dangqsed hyny; dengys y ffugyrau a roddir uchod fy sail i dros ei amheu. Yr eiddoch yn bur, Borthygest. W, Ross HUGHES.

AT OLYGYDD Y TYST.

-.---__-----------EGLWYS ANNIBYNOL…

Advertising

MARWOLAETH Y PARCH JAMES JONES,…

LLANWRTYD.

----UNDEB YSGOLION CANOLBARTH…

Advertising

YR YSGOL SABBATHOL

-.---__-----------EGLWYS ANNIBYNOL…