Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
MARWOLAETH A CHLADDEDIG-AETH…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MARWOLAETH A CHLADDEDIG- AETH Y PARCH JAMES JONES, CARMEL, FOCHRIW. Tarawyd ardal y Fochriw a'r cylch yn gyffredinol a syndod mawr gan y newydd galarus am farwolaeth y gwr da uchod, yr hyn gymerodd le, fel yr hys- byswyd yn y rhifyn diweddaf o'r TYST, yn gynar boreu ddydd Iau, Ebrill 4ydd, yn yr oedran cynarol o 42 mlwydd. Gwyddid fod Mr Jones yn cwyno er's ychydig fisoedd, ond nid oedd neb wedi meddwl fod y diwedd mor agos Tair wythnos a dau ddiwrnod cyn ei farw yr unwyd ef mewn priodas â Miss Edith Cole (ysgolfeistres)—merch ieuanc rin- weddol a da o'r lie hwn ond daeth angeu, megys lleidr yn y nos, a chipiodd ef o fynwes ei briod, ac o ganol ei weithgarwch a'i ddefnyddioldeb yn yr egJwys y buefe yn llafurio am dros 21 o flynyddau gyda graddau mawr o lwyddiant. Gwr anwyl oedd efe gan ei eglwys a'r ardal a phawb a'i h, dwaenki. Daeth i'r Fochriw yn fachgen ieuanc o Goleg Caerfyrddin, ac urddwyd ef yn weinidog yn Carmel cyn ei fod yn llawn 21 oed ac ni bu gweinidog erioed yn ffyddlonach i'w ddyledswyddau gweinidog- aethol nag ef. Yr oedd yn gymeriad unplyg, gonest, cydwybodol, a diymhongar. Yr oedd iddo air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun.' Chwith meddwl na welir ef mwy, ac na cheir ei gynideithas ddyddan ac adeiLdol ef mwy yr ochr hyn. Ond y mae efe, er wedi marw, yn llefaru eto. Bydd byw yn hir yn mywydau aelodau ei eglwys, a bydd yr adgofion melus am ei bregethau cryfion aC efengylaidd, a'i gymeriad glan a gloew, yn ysbryd- iaeth ac yn symbyliad i'r eglwys i fyn'd rhagddi at berffeithrwydd. Pan ddeallodd yr eglwys fod ei hanwyl weinidog i gael ei gladdu yn ei gartref genedigol-Saron, Llangeler, ger Llandysul—penderfynasant gael cyf arfod coflFadwriaethol yn Ngharmel y noson cyn gladdu, sef nos Lun, Ebrill 8fed. a chafwyd cyfarfoo dwys, toddedig, a gafaelgar iawn. Llywyddwyd y cyfarfod gan y Parch J. R. Salmon, Pontlotyf- Darllenwyd rhanau pwrpasol o Air Duw gan Y Parch D. Overton, Dinas a gweddiwyd yn afaelgaf iawn gan y Parch P. W. Hough, Coed-duon. V03 siaradwyd gan y llywydd, y Parch J. R Salmon Pontlotyn, a chan y Parchn T. Hughes, Brito" Ferry; H. A. Davies, Cwmaman Owen Jon: Mountain Ash Jacob Jones, Merthyr; J Hughes, Pe ywern; Isaac Roderick (M. Fochriw L. P. Davies (B), Fochriw ac Peregrine B.D., Rhymni. Dygent i gyd dysti0' aeth uchel i gymeriad yr ymadawedig. DfweddvTy1 drwy weddi gan y Parch W. Tibbot, Cadoxtof1- Gwelwyd yn bresenol, heblaw y rhai uchod, Y Parchn Ffrwdwen Lewis, Trelewis J. Tudor, B.Aj' Aberdar J. B. Llewellyn, MynyddislwynD *L' Evans, Bargoed T. W. Jones, Abercynon R* V Williams, Merthyr E. Walter Thomas, Cefn R.' Phillips, Merthyr; W. Morgan, Graig i )' Gwerllwyn Jones, Aberedw ac L. T. Jones, lie Tredegar. Hefyd gwelwyd yn bresenol y lleyg canlyno tri John Lewis, Hengoed; D. Jones, Pontlotyn; D. Jones, Pantywaun; D. A; Jones, Siloh, Aberdar W. R. Beddoe, Pontlotyj1' Evan L. Thomas, Aberbargoed David, organy" Ebenezer, Tonypandy Evans, Tonypandy; Williams, Penydaren; John P Evans ac Edw»r Jenkins, Deri; Gerald McArthui, Pengam Tho Harris, Gilfach John L. Jones, Pengam a Jones, Fleur-de-lis. Dichon fod ereill, yn weinidogio11 IJeygvvyr, na chawsom eu henwau. Maddeued ) cyfryw i ni, os wedi eu gadael allan. Derbyniodd y teulu ar eglwys lythyrau o gydyll" deimlad, yn ogystal a datgan eu gofid o fethu bOd yn bresenol yu y cyfarfod nos Lun, oddiwrth Parchn John Thomas, Merthyr; D. Silyn Eva[] Aberdar T. Thomas, Godreaman T. B. Street, Somerset; J. C. Lloyd, Ynysybwl H. Jenkins, Aberaman; E. Richards, Tonypandy; S. Rees, B.A., Llandysul D. Jeremy Jo""I". Mountain Ash Proff. T. Rees, M.A., Aberhonddt^ D. Emrys James, Dowlais; H. Howells, YnysboetP^ J D. Jones, Abercanaid; T. Rees, Sirhowi Davies, Llwydcoed; J. Jenkins, Nelson; 143trI Edwards (B), Bargoed J. Sulgwyn Davies. Ab«r dar E.IWernJWilliams,^Hirwaun W. B. Richa^ Trecynon J 0. Rees, Aberdar; Pethian Davi^ Treherbert J. Grawys Jones, Trecynon; VV. Davies, Ferry side J. Bowen Davies, Abercwmho|' W. V. Edwards, Llangeler; T. J. Morris, Abertei"' T. H. Jenkins, Nantymoel; R. W. Davies, tyswg; W. Evans, Merthyr; Peter Price, r! Dowlais; T.J.Jones, M.A., rector Gelligaer; Penrith Thomas, Ferndale J. H Thomas, Go"r aman Jacob Thomas, Cefn S. Williams, teg; H. Eynon Lewis, Bryncethin; E. O^6. } Evans, Bedlinog J. W. Price, Troedyrhiw; Tert'j Phillips, Caerdydd D. D. Joseph, Casnewydd > I Hughes, Blaengarw E. J. Lloyd, Llandudoch, p, E. Jones, Sciwen D. G. Evans, Gelli; E. •T°s1eL, Scetty; LI. S. Davies, Trewilliam; 'JenJ?\e, Llwynypia; J. L. Roderick, B A. (B), F. W. a J. Nicholas, Tonypandy; J. Jones, M A., n, Rhydychain; D. H. Williams, M A. Barry5 n ( M. Davies, Cwmbach D. E. Walters, M.A., Merthyr; I. Thomas, Quakers' Yard Dr » -Ji; Jones, Caerau Mr a Mrs Thomas, Bazaar, Pe° Mr a Mrs Jones, M.A., Barry; Mri J. E J°V Llanbedr; T. Millwurd, Pentre; T. Ed*^1. Quakers' Yard; G. Davies Abertawe; y, j Morgan, Nelson; S. Sandbrook, Merthyr; Owen, Cefn; J. C. Jones, Whitlarid 1, Phillips, Ferndale; J. Griffiths, Abercynon; t Evans, Aberdar J. Jones, FelindreJ, Morgan, B Sc., Tredegar Freedman, Dowlilis (}, Harris, Caerdydd; T. Hwrris, Ystrad; T- Thomas, Bedlinog; J. Cole. Treorci; F. T Merthyr L. A. Williams, Bargoed W. C. Be Gelligaer; T. Roberts, Fochriw; E- Bargoed; Mrs Williams a'r teulu, Bourneia<pQ$ Misses Humphreys a Maddy, Girls' School, Jj. lotyn Mrs M. Richards, Wenallt, Aberdar; Morris, Pontlotyn; M. E. Jenkins, RhuthY" e5, Evans, Dowlais; M. Lloyd, Bedlinog; A- Hawen Hall; L. J. Morgan, Pontlotyn Mri Jones, B.A., Merthyr a J. Lloyd, Penydarei1' £ 'f Pasiwyd penderfyniadau o fai' teulu gan yr eglwysi canlynol, nos Sul, Ebrill 7f —Moriah, Bedlinog; Nazareth, Pontlotyj Charmel, Fochriw. Hefyd, Llun, Ebrill gyfarfod agoriadol ysgol newydd Drei>eV I
Y GOLOFN WLEIDYDDOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
weinidog yn ei le yn y Ty dranoeth i gvf- arfyddiad y Senedd, ac yn ymddangos yn ei iechyd arferol Treuliodd y rhan fwyaf o'r gwyliau yn mwynhau lletygarwch Arglwydd Rendel yn ei balasdy clyd a phrydferth mewn cwr o Ffrainc. Nid dyma y tro cyntaf i Arglwydd Rendel letya Prif- weinidog o dan y gronglwyd hono. Bn Mr Gladstone droion yno yn m wynhau y tywydd hafaidll y golygfeydd prydferth, a'r seibiant adgyfnertliol sydd yn hanfodol i weithiwr caled. Mynych y gwelwyd y ddau yn rhodiana fraich yn rnraich, a'r naill yn siarad yn ddidor, a'r Hall yn gog- wyddo ei glust i wrando fel na ehollai yr un gair a leferid. Siaradwr digyffelyb oedd Mr Gladstone. Braidd nad oedd yn ormesol felly-yil ymddangos fellyo leiaf. Ond nid oedd neb o'i wrandawyr yn teimlo gorth- rwm, eithr yn hytrach, ymhyfrydent gael en cludo ar gefn ffrydlif o hyawdledd nad oedd yn eiddo i neb arall ar y pryd. Yr oedd ei wybodaeth mor gyffredinol a manwl, fel pan leferid gair yn nghylch un- rhyw fater, ymaflai yn y gair mewn mynyd, ac ymaith ag ef fel dyn wedi cael ysglyfaeth lawer. Synai, swynai, a braidd nad ychwanegir, syfrdanai ei wrandawyr lie bynag y byddai-pa nn ai yn y Senedd, yn y nenadd, ar y flordd, neu yn y ty-ar y pryd. Gorfodir Arglwydd Rendel i dreulio rhan fawr o bob blvvyddyn mewn liinsawdd dynerach a sychach na'r eiddom ni. Colled i'r wlad hon ydyw hyny. Dyn rhagorol ydyw efe, Rhyddfrydwr i'r earn, ac uwchraddol mewn gwybodaeth, diw- ylliant, a barn. UN o briffesurau y Senedd- Mesur y dymbor eleni ydyw yr hwtl Fyddhi. syddyn ymdrin a'r Fyddin ac, wrth gwrs, y mae yn ngofal Mr Haldane, Ysgrifenydd Rhyfel. Un o bynciau mwyaf cynil, anhawdd, a pheryglus i'w drafod ydyw sefyllfa y Fyddin. Yr oedd galw mawr am ddiwyg- iad ynddi er's blynyddoedd. Ond nid oedd neb yn meddu y gwroldeb a'r medr di- gonol i ymgymeryd a'r gorchwyl o lwyr chwilio yr achos, ac yna ei lwyr ad-drefnu 301 ol yr angen. Un o sefydliadau pydraf y Wladwriaeth ydyw y Fyddin. Ni olygir y milwyr eyffredin wrth hyn eithr Swyddfa Rhyfel. Hysbys i bawb ydoedd y drwg, ond pa le yr oedd y dyn a fedrai lanhau yr ystabl ? Gwnaed ami i gynyg o bryd i bryd, ond methiant oedd pob ymgais. Deallwyd yn bur fuan mai nid Ysgrif- enydd Rhyfel ar y pryd oedd tad y drwg. Gwelwyd mai nid yn Swyddfa Rhyfel yr oedd yr awdurdod, ond mewn enw yn unig. Nid pell o'r gwir fyddai dyweyd fod llywodraeth y Fyddin yn llaw nifer o bende- figesau ymyrgar ac uchelgeisiol, y rhai a chwenychent y swyddi y safle, a'r tal i'w gwyr, neu i'w brodyr, neu i'w meibion, neu i'w cariadon ac nid oedd yr un Ysgrifen- ydd Rhyfel, o ba liw gwleidyddol bynag y dygwyddai fod, yn meddu y gwroldeb digonol i ymaflyd yn mwng y llew yn ei ffau. Am gryn amser yr oedd y ffaith fod un o'r Teulu Breninol yn Faeslywydd y Fyddin yn rhwystr cryf ar ffordd y diwyg iwr. Yr oedd y diffygion a'r peryglon yn wybyddus i rai er's blynyddoedd. Ond yn amser rhyfel De Affrica y dynoethwyd y drwg yn ei erchylldra penaf. Nid oedd na dyn, nac anifail, nac arf braidd yn gyfaddas i'r gofynion. Diau fod bywydau canoedd, os nad miloedd, wedi eu colli oherwydd y diffyg yn Swyddfa Rhyfel. Cafwyd Dir- prwyaeth Seneddol i wneyd ymchwiliad i'r achos ac er fod y datguddiadau yn fraw- ychus, eto ni fynegwyd mor haner. Pan ddaeth y Weinyddiaeth newydd i awdur- dod, gosodwyd Mr Haldane yn Ysgrifenydd Rhyfel. Bargyfreithiwr ydyw efe, ao ar ryw olwg gellid meddwl mai swyddfa y cyfreithiwr fuasai y lie diweddaf i geisio dyn i ad-drefnu y fyddin. Ond y mae'r ffeithiau yn dechreu profi ei fod y dyn iawn. Y mae ei gynllun eisoes yn darparu arbediad mawr mewn dynion ac arian Un ymgais i'w gynllun ydyw gwneyd i ffwrdd a rhai adranau, a chreu rhai gwahanol yn eu lie. Mawr ganmolw3Td y mesur gan bawb oddieithr adran o aelodau Llafur, y rhai a welant yn y mesur duedd i feithrin ysbryd milwrol. Erbyn hyn y mae ereill yn ei gondemnio am nad yw yn myned yn ddigon pell i sicrhau gorfodaeth i bob dyn fod yn filwr. Dysgwylir y caiff y mesur ei gario yn ddyogel drwy y Ty Cyffredin heb ei newid yn fawr, er ymgais y Toriaid, drwy help adranau ereill, i'w ladd. Frl y mae yr amser yn Baich y prysuro o'u gafael, daw yn Weinyddiaeth. atnlycach i'r golwg fod baich y Weinyddiaeth yn myned yn drymach o ddydd i ddydd. Dechreuiri son eisoes am eisteddiad hyd- refol. Ymddengys yn anmhosibl cario yn agos nifer y mesurau addawedig heb hyny. Y mae Mesur y Fyddin yn un a gymer gryn amser cyn ei orphen, ac y mae y Gyllideb yn yr ymyl. Yn ol pob arwydd, bydd gan Mr Asquith Gyllideb eleni fydd yn chwyldroad. Dysgwylir yn hyderus y gwna rywbeth efFeithiol i ysgafnhau beich- iau y rhai a elwir y dosbarth canol. Bydd ganddo swm mawr mewn llaw, ond ni bydd digon i gyfarfod a phob gofyn. Tybir y bydd yn sicr o gychwyn trysorfa i gael Blwydd-dal Henaint; ond ofer ydyw meddwl y bydd y drysorfa yn llawer tllwy na chydnabyddiaeth o'r angen am (irysorfa o'r fath. Gellir bod yn dra sicr yr Ylll- leddir yn ffyrnig ar bob adran o'r mesnr. Un o brif amcanion yr Wrthblaid fydd atal gwaith, a thrwy hyny geisio drygu y Weinyddiaeth yn ngoiwg y wlad. Ofnir mai gobaith gwan sydd am y Mesur Trwyddedol, ac amryw o fesurau pwysig ereill a addawyd ar ddechreu y tyinhor. Y mae Mesur Tyddynod Bychain Ysgot- land o flaen y Senedd, a bernir y bydd yn faes brwydr i'r mesur cyffelyb y rhaid ei gael i Loegr a Chymru. Y mae y mesur hwn eisoes wedi cyffroi cynddaredd y tir- feddianwyr Toriaidd, ac o bosibl mai yn nglyn a hwn y dechreuir y frwydr fawr rhwng y ddau Dy Seneddol. Sonia rhai fod tri mesur i'r Iwerddon-Mesur yn delio a thenantaid a drowyd allan o'u tyddynod, Mesur Ymreolaeth, a Mesur Prifysgol. Os oes bwriad i golli amser ar y tri yma, bydd yn bryd i'r Weinyddiaeth drefnu ei thy. canys marw fydd. Ond yr ydys yn coelio pethau gwell. Digon posibl mai y frwydr a Thy yr Arglwyddi fydd gwaith mawr y Sesiwn bresenol. Pe cyfyngid yr ymdrech i hwn, a llwyddo i'w gario, byddai y Sesiwn y gyfoethocaf a gafwyd er's blyn yddoedd lawer, er heb basio yr un mesur arall. Dylid cadw mewn cof anhawsderau y Weinyddiaeth-anhawsderau amlwg a chuddiedig. Caffed amynedd ei pherffaith waith.