Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
7 erthygl ar y dudalen hon
MARWOLAETH Y PARCH MEIRION…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MARWOLAETH Y PARCH MEIRION DAVIES, GYNT BLAENYCOED. Bu Mr Davies farw yn ei gartref, Bryn- aml wg, Penybont, Trelech, boreu ddydd Mawrth, Ebrill fed. Claddwyd ef dydd Gwener, y 12fed, yn Mynweot Capel Peny- bont. Ceir hanes yr aDgladd yn ein rhif) n nesaf. 1
NODION 0 LUNDAIN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
NODION 0 LUNDAIN. Cafwyd tywydd braf dyddiati y Groglith a'r Pasg eleni-yr haul yn gwresogi, y glaswellt Yn blaendarddu, coed y maes yn dechreu anfon allan eu dail, a chor y wig ya tafl. Li allan eu tnawl ar y cangeuau, y trigolion wrth y mil- oedd yn llawenhau, a'r plant bach yn dawnsio dan wres yr haul, fel wyn bach Cymru yn prancio ar y ddol. Diolch am wanwyn gwyrdd- las. Cynaliodd y Methodistiaid eu cymanfa breg- ethu fel arfer. Daeth lluaws mawr o blant Gwalia i wrando cenadon Duw yn traethu yr Hen, hen Hanes sydd yn dal yn newydd i blant y codwm, ac a ddeil hyd nes bydd y ddaear wedi ei gwneyd fel gardd yr Arglwydd. Annibynwyr Cymreig y ddinas a gynaliasant eu cymanfa ganu fel arfer o dan arweiniad Mr D. W. Lewis, Brynaman. Dechreuwyd am.dri y prydnawn. Cymerwyd y gadair gan Mr Davies o'r Boro'. Ni siaradodd lawer, ond yr nedd pob gair i bwrpas. Cafwyd unawdau ac adroddiadau eleni gan y plant, yr hyn oedd yn Welliant mawr ar yr hen arferiad. Canwyd y pnau canlynol o Ganiedydd yr Ysgol Stil. Da o hyd yw Duw,'4 Lleisiau plant,' Duw a'n gwtiaeth,l I Fendigedig lesu, Yr Oen difai,' a'r anthem, 'Felly carodd Duw y byd.' Cafwyd canu gwir dda. Gorphenwyd trwy weddi gan y Cadeirydd. Dechreuwyd cyfarfod yr hwyr am 6 o'r gloch. Cymerwyd y gadair gan Mr ■Uavid Thomas, y diacon hynaf yn Croes-y- orenin. Y mae yn Llundain er's yn agos i haner can' mlynedd, ac yn ffyddion lawn gyda ^hrefydd ei dadau. Un o Maenygroes, sir Aberteifi, yw ef. Canwyd y tonau canlynol:— Hampton,' 4 Burford,' 'Lenox,' Amman' (morgan), 'Devetia,' 4 Gwalia,' I WerD,' 'Elvey' (corgan), Rhoslan,' Maesyfed ac Ebenezer JDr Parry),4 Yr hyfryd wlad,' dwy anthem— r-Dysg i mi Dy lwybrau,' a 4 Duw a ddaeth o *e»nan' (Ambrose Lloyd). Cafwyd canu ben- aigedig—yr oedd yn wledd o'r fath oreu, ac yn enwedig y ddwy anthem; aethpwyd trwy Ambrose Lloyd ddwy waith; yr oedd yn gyda nerth, a'r gwahanol leisiau yn ^yfod i fewn gyda mawredd, a'r organydd Syda'i daranau yn gwneyd y lie yn fawl i'r Duw a ddaeth o Teman.' Yn sicr, yr oedd 4011 yn un o'r cymanfaoedd goreu a gawsom s blynyddau. Siaradodd Mr Owen, Barret's 'j!^ove, a Mr Machreth Roes. Mr David Richards a cliwareuai yn y ddau gyfarfod. Nid eisieu dyweyd dim am dano ef fel chwar- U\vr-~y niae yn bencampwr. Terfynwyd trwy ^€sddi gan Mr Machreth Rees. Nid oedd y apel yn agos ddigon o faint eleni i gynwys y s>n 1 Trueni nas galiai Cymry y ddinas hon M,el ystafell fawr i gynal cyf'arfodydd fel cYtnanfaoedd canu, eisteddfodau, a chyngerdd- n.i f 1^obeitlliwn y cawn ystafell yn perthyn i Grv cenedl cyn hir. Y mae dros gan' mil o y^y yn Llundain. Pe bai pawb yn taflu cv tuag at gael ystafell, ni fuasem yn hir ™ ei chael. v Lun y Pasg, cynaliwyd eisteddfod yn catell eglwyg Dewi Sant. Beirniad, Mr Ofiriri ^av^es- Cadeirydd, Mr Hopkins. Yr bron yn Gymraeg i gyd. Mae Mr dvw m Gymro i'r earn, a iai7i? ar y dechrcu ei fod am ei chynal yn iaitl JV- ^en w.la^* Da iawn mae gormod o'r taia yn ein cyngerddau a'n heisteddfodau gan bobl sydd yn medru Cymraeg cystal a Saesoneg. Mae Mr Richards yn llawn bywyd. Hir oes iddo ef a'i deulu i fod yn allu yn llaw Duw yn y ddinas i ddwyn pechaduriaid at y Gwaredwr. Hyn yw dymuniad GREGORY KEAN.
YR UN MAES LLAFUR.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
YR UN MAES LLAFUR. GOFYNIADAU. 1 SAMUEL—PENODAU V., VI. (1) Beth a wyddoch am yr enwau canlynol :— Philistiaid, Dagon, Asdodiaid, DllW Israel, Ec- roniaid, Aifftiaid, Pharaoh, Josua, Bethsem- esiaid, Leflaid, Ebenezer, Asdod, Gath, Ecron, Bethsemes, Gazah, Ascalon, Abel neu Aben, Ciriath-jearim. (2) Eglurwch ystyr y geiriau a'r brawdd- egau hyn:—Arch Duw, cledr ei ddwylaw, trothwy, Arglwyddi y Philistiaid, dinystr an- geuol, gvvaedd y ddinas, saith o fisoedd, offeir- iaid a dewiniaid, offrwm dros gai-awedd, pump o ffolenau aur, pump o lygod aur, difwyno y tir, ysgatfydd, caledwch eich calonau, men newydd, iau, buwch filth, tlysau aur, cist, ffordd uniawn, poetti-offrymau, ebyrth, maen mawr Abel, dengwr a thriugain a deng mil a deugain o wyr. (B) Gan bwy, neu o dan ba amgylchiadau, y llefarwyd y geiriau hyn ?— (i.) Am hyny ni sathr offeiriaid Dagon ar drothwy Dagon hyd y dydd hwn. (ii.) Canys caled yw ei law arnotn. (iii.) Trom iawn oedd llaw Duw yno. (iv.) A gwaedd y ddinas a ddyrchafodd i'r nefoedd. (v.) Beth a wnawn ni i arch yr Arglwydd. (vi.) A rhoddwch ogoniant i Deluw Israel. (vii.) A phaham y caledwch chwi eich calonau ? (viii.) Aberthasant ebyrth' i'r Arglwydd y dydd- hwnw. (ix.) Yr hwn sydd hyd y dydd hwn yn maes Josua. (x.) Pwy a ddichon sefyll yn wyneb yr Arglwydd Dduw sanctaidd Hwn ? (4) Ysgrifenwch tua deuddeg llinell ar bob un o'r hanesion hyn:— (i.) Cwymp Dagon. (i i.) Cosb dina,soedd y Philistiaid. (iii.) Anfoniad yr arch yn ei hoi. (iv.) Yr arch yn Bethsemes. 1 SAMUEL—PENOD VII. (1) Beth a wyddoch am yr enwau can- lynol? -Abinadab, Eleazar, Samuel, Astaroth, Philistiaid, Baalim, Israel, Amoriaid, Ciriath- jearim, Mispah, Bethcar, Sen, Ebenezer, Gath, Ecron, Bethel, Gilgal, Ramah. (2) Eglurwch ystyr y geiriau a'r brawdd- egau hyn Ugain mlynedd, duwiau dyeithr, paratowcli eich calon, ymprydiasant, llaeth- oen, poethoffrwm, dychwelfa, allor. (3) Gan bwy, neu o dan ba amgylchiadau, y llefarwyd y geiriau hyn?- (i.) A holl dy Israel a alarasant ar ol yr Arglwydd. (ii.) Bwriwch ymaitli y duwiau dyeithr o'ch mysg. (iii.) Mi a weddiaf drosoch chwi at yr Arglwydd. (iv.) Pechasom yn erbyn yr Arglwydd. (v.) Yr Arglwydd a daranodd a tharanau mawr yn erbyn y Philistiaid. (vi.) Hyd yma y cynorthwyodd yr Arglwydd nyni. (vii.) Yno yr adeiladodd efe allor i'r Ar- glwydd. (4) Ysgrifenwch tua deuddeg llinell ar bob un o'r hanesion hyn: — (i.) Yr arch yn nhy Abinadab. (ii.) Edifeirwch Israel yn Mispah. (iii.) Darostwng y Philistiaid yn Ebenezer. t,
PENYBONTFAWR, SIR DREFALDWYN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PENYBONTFAWR, SIR DREFALDWYN. Eisteddfod.Dydd Llun y Pasg, cynaliodd yr Annibynwyr eu heisteddfod flynyddol yn y capel, yr hwn sydd wedi ei eangu yn ddiw- eddar. Cafwyd hin ddymunol, a mwy o lwyddiant nag erioed. Arweinydd y ddau gyfarfod ydoedd y Parch R. Deiniol Jones, Llanrhaiadr, tra y clorianai Mr O. Parry Owen, Llangynog, yr adroddiadau, a Mr J. Treflan Jonos, L.T.S.C., o Bethesda, y gerdd- oriaeth. Wele rai o'r prif fuddugwyr :Y brif gystadleuaeth gorawl, dau gor, goreu, Penybont. Corau Meibion, pedwar cor, goreu, Elim. Corau Plant, dau gor, goreu, Penybont. Pedwarawd, pedwar parti, goreu, Mr Bryan a'i barti, Llanfyllin. Deuawd, pedwar parti, goreu, Mr Bryan a'i barti. Darllen tdn,-ped- war parti, goreu, Mr Bryan a'i barti. Unawd Soprano, goreu, Miss Ellis, Llanfyllin. Unawd Baritone, goreu, Mr Ambrose Evans, o Golcg Bala-Bangor. Unawd Tenor, goreu., Mr J. Hughes a Mr R. Jones. Cyfansoddi ton, wyth yn ymgeisio, goreu, Miss Williams, Llanfyllin. Prif adroddiad, goreu, Miss Evans, East View. BRYTHON.
JERUSALEM, PEMBRE. --
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
JERUSALEM, PEMBRE. Cyngerdd.—Cynaliwyd cyngerdd mawreddog yn y capel uchod nos Fawrth, y 26ain o fis Mawrth. Yr oedd y capel eang, fel arfer, yn orlawn. Aeth pawb oedd yn cymeryd rhan ynddo drwy eu gwaith yn ardderchog, gyda chymeradwyaeth achel y dorf. Y darn y tro hwn oedd Drozak's 'Stabat Mater.' Rhifai y cor 180, a'r oll o gynulloidfa Jerusalem. Ar- weiniwyd gyda deheurwydd a medrusrwydd gan Mr Frank King, A.C. Yr artistes oeddynt— Soprano, Madame Ellen Verrinder, A.R.A.M. Contralto, Miss May Peters, A.RA.M.; Tenor, Mr Trevor Evans Bass, Mr J. Burry Morse, un o blant yr eglwys uchod. Gwnaeth pob un o'r rhai uchod eu gwaith yn rhagorol. Ni fa yr organydd, Mr W. T. Roberts, yn ol i neb yn ei waith gyda'r organ; tynai ohoni seiniau perorus mewn perffaithgydgord a'r gerddor- iaeth. Rhaid dyweyd i'r orchestra, dan arweiniad Mr Hulley, Abertawe, wneyd enw iddynt eu hunain drwy eu peroriaeth swynol. Er ein cydymdrech a'r eglwysi ereill gyda'r Arddangosfa Genadol yn Llanelli, ni bu ein hymdrech gyda'r gyngerdd ddimyn llai. Trodd y naill a'r liall yn Jlwyddiaht perffaith. Yr Ysgol tiul.—Cynaliodd Ysgol Sabbathol y capel uchod ei chyfarfod chwarterol drwy'r dydd y Sul diweddaf. Caed gwledd o foreu hyd hwyr mewn adroddiadau, caniadau, dadl- euon, ac ymddyddanion. Caed prawf fod llafur mawr wedi blaenori y cyfarfod. Ewch rhagoch mewn perffeithrwydd.
CYFARFODYDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYFARFODYDD. GRAIGFECHAN, HUTHYN —Nos Iau a dydd Gwener y Groglith, cynaliwyd cyfarfodydd pregethu blynyddol yr eglwys uchod, pryd y gwrtsanaethwyd gan y Parchn T. Griffith, Ftestiniog, a D. Lloyd Morgan, Pontardulais. Yr oedd yr iien Hanes mor newydd ag erioed, a r brodyr yn traddodi r genad- wri gyda nerth. TABOR, BRYNCA WS.-Cynaliodd yr eglwys uchod ei gwyl Bregethu Haner-blynyddol, Sul a nos Lun, Ebrill 7fed a'r 8fed, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch Peter Price, B.A., Dowlais. Gweinid- ogaeth rymus, gwrandawiad astud, a chanu hwyliog. Vr oedd yn amiwg fod bendith ar bob peth yn y cyrddau.-D. Jones, GILGAL AC UTICA, MAENTWROG.—Cyn- aliodd y ddwy eglwys uchod eu cyfarfod blynyddol y Pasg, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn O. R. Owen, Park-road, Lerpwl; Proft J. M. Davies, M.A., Bangor; a S. E. Gealey, o Athrofa Caer- fyrddin. Cafwyd oedfaon grymus.—G. BRONLLWYN, PENTYRCH.—Cynaliwyd cyf- arfod haner-blynyddol yr eglwys uchod Mawrth 24ain, pryd y pregethwyd gan y Parch D. Rhagfyr Jones, Treorci. Cafwyd pregethau grymus. Ar osed eu dylanwad yn hir yn y cyich TABERNACL, TREALA.W.-Y Sul a'r LIun Ebrill 7fed a'r 8fed, bu y Parchn Rhagfyr Jones, Treorci, ac Edward Jones, M A B.D., Dowlais, yn cyoal cyfarfodydd pregethu yn y lie uchod Mae Mr Jones y gweinidog, wedi aduewyddu ei north yn fawr, a'r eglwys yn gwelladan ei ofal.-X. Y Z. BETHEL, MYNYDD, LLANELLI.-Cynaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfod blynyddol y Sa.bb.th Ebrill 7fed, pryd y pregethwyd unwaith yu Gym- raeg a dwywaith yn Saesoneg, gan y Parch T. Rees, Sirhowi. CARMEL, ARERLLECHAU. Cynaliodd yr eglwys uchod ei chyfWfodydd haner blynyddol ar y Sul a nos Lun, Ebrill 7fed a r 8fed. Pregethwyd ar y Sul gan y Parch T Eli Evans, Llaufair, Cered igion, a nos Lun gan Mr Evans, a'r Parch Rowland Hughes, Tylorstown. Cafwyd pregethau grymus ac efleithiol iawn, o ddechreu'r wyl hyd ei diwedd. Ysg,-zj?ny dd.
NODION.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
byny yw, gwrthwyneba'r athrawon y mesur am na bai yn fesur addysg cymharol gyflawn, ae yn cyfarfod a phob diffyg a bai o'u saf- bwynt hwynt. Nid yw'r mesur yn honi bod yn ddim ond un i ddileu un camwri, a g*yr yr ysgolfeistri yn dda nad yw o un dyben i gynyg ail fesur addysg ar hyn 0 bryd. Yr wyf yn gyfaill hollol i'r ysgolfeistri, ac wedi bod yn y grefft fy hun, ond protestiafyn erbyn yr anhegwch hwn o'u heiddynfc. H. *•■■■■■■■■■■■■■■■■■■■■■■■■■■■■■■■&